Skip to main content

Pathway

Ffasiwn a Thecstilau

Mae’r UK Fashion & Textile Association (UKFT) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Creadigol, Dylunio a'r Cyfryngau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.g.

Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

65 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 mewn Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau).

56 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 mewn Ffasiwn a Thecstilau (Cynhyrchion wedi'u Gwnïo).

92 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 mewn Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau).

96 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 mewn Ffasiwn a Thecstilau (Dillad).

100 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 mewn Ffasiwn a Thecstilau (Teilwra).

108 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 mewn Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau Technegol).

108 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 mewn Ffasiwn a Thecstilau (Datblygu a Chyrchu Cynnyrch).

Nodau ac amcanion y Llwybr hwn:

  • gwella'r canfyddiad o'r sector ymhlith pobl ifanc a rhieni;
  • helpu cyflogwyr yn y sector i fynd i'r afael â gweithlu sy'n heneiddio;
  • darparu llwybr mynediad ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol;
  • caniatáu i gyflogwyr ychwanegu gwerth at eu sefydliadau drwy ddod â staff newydd i mewn i ddefnyddio technegau a thechnolegau sy'n bodoli eisoes;
  • darparu ffrwd o weithwyr sydd â'r sgiliau gweithgynhyrchu sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol;
  • darparu'r sgiliau meddal a thechnegol trosglwyddadwy sydd eu hangen ar newydd-ddyfodiaid;
  • darparu llwybrau hyblyg i amrywiaeth eang o swyddi yn y diwydiant, ac i hyfforddiant ac addysg lefel uwch.
  • cefnogi a hyrwyddo gyrfaoedd a chyfleoedd hirdymor
  • hyrwyddo a chynyddu'r gofynion sgiliau penodol h.y. cydnabod sgiliau lefel penodol/arbenigol y diwydiant. 

Hyd yr hyfforddiant

Bydd disgwyl i'r prentis gwblhau ei hyfforddiant o fewn amserlen resymol ac ymarferol, yn gyson â gofynion y Llwybr. Gan fod pob Cynllun Hyfforddi wedi'i ddylunio'n unigol i fodloni gofynion penodol, bydd yr amser a gymerir yn amrywio a bydd hefyd yn dibynnu ar gynnydd a gallu'r unigolyn. Yr amser cyfartalog a ragwelir ar gyfer cwblhau lefel Llwybr yw:

  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 - 12 mis;
  • Prentisiaeth Lefel 3 - 24 mis;
  • Prentisiaeth Uwch Lefel 4 - 24 mis.

Mae'r amserlenni hyn wedi'u nodi dim ond ar gyfer rhoi syniad o’r hyd a byddant yn dibynnu ar amgylchiadau penodol unigolion, megis dysgu blaenorol neu brofiad sylweddol. Pan fydd y prentis yn gallu dangos ystod lawn o wybodaeth am y sgiliau gofynnol, cymwyseddau seiliedig ar waith a dealltwriaeth o'r wybodaeth sylfaenol hanfodol ac wedi ennill y cymwysterau priodol, ystyrir ei fod ef/hi wedi cwblhau'r Llwybr Prentisiaeth yn llwyddiannus ar y lefel ddynodedig.

Cyrhaeddiad blaenorol

Pan fydd prentis yn ymuno â chytundeb Prentisiaeth ar ôl ennill cymhwyster/cymwysterau galwedigaethol perthnasol, neu ran ohonynt, yn flaenorol, mae angen cydnabod y dysgu blaenorol hwn drwy ddefnyddio dull trosglwyddo credydau ar gyfer cyflawniadau neu drwy gofnodi eithriadau ar gyfer dysgu ardystiedig.

Ar gyfer prentisiaid sydd eisoes wedi ennill y cymwysterau galwedigaethol perthnasol, mae'n rhaid eu bod wedi cael tystysgrif o fewn dwy flynedd i wneud cais am y dystysgrif Prentisiaeth.

Profiad blaenorol

Pan fydd prentis yn ymuno â chytundeb Prentisiaeth gyda phrofiad blaenorol sy'n gysylltiedig â gwaith, mae angen cydnabod y dysgu blaenorol hwn. I gyfrif tuag at ardystiad Prentisiaeth, rhaid cofnodi profiad blaenorol gan ddefnyddio gweithdrefnau Cydnabod Dysgu Blaenorol y Sefydliad Dyfarnu priodol a gall yr oriau a gofnodir gyfrif wedyn tuag at yr oriau gwaith sydd eu hangen i gwblhau'r Brentisiaeth.

Ar gyfer prentisiaid sydd â phrofiad blaenorol sy'n gysylltiedig â gwaith heb dystysgrif, mae'n rhaid bod y dysgu yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith wedi'i wneud o fewn y ddwy flynedd cyn gwneud cais am y Dystysgrif Brentisiaeth neu mae'n rhaid bod prentisiaid wedi'u cyflogi yn y rôl berthnasol yn y diwydiant am ddwy flynedd.

Oherwydd newidiadau cyflym i dechnoleg o fewn y diwydiannau ffasiwn a thecstilau, mae'n hanfodol bod hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith sy’n cael ei gyfrif tuag at y Llwybr hwn yn gyfredol neu'n gallu cael ei ddiweddaru'n gyflym, a dylai'r defnydd o asesiadau cychwynnol nodi'n glir unrhyw ofynion hyfforddi ychwanegol.

Gall prentisiaid sy'n dechrau hyfforddi o dan gytundeb Prentisiaeth newydd gyda chyflogwr newydd ddod â llawer o brofiad blaenorol gyda nhw. Anogir darparwyr hyfforddiant i nodi rhaglenni hyfforddiant ychwanegol yn y gwaith sy'n addasu'r dysgu i'r gweithle newydd.

Gall rhaglenni addasu gynnwys dewis uned(au) ychwanegol priodol o gymwysterau sy'n gysylltiedig â'r sector, neu unedau perthnasol a gydnabyddir fel Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd [QALL] drwy gorff a gydnabyddir gan FfCChC; neu ddilyn Sgiliau Hanfodol ar lefel uwch na'r hyn a nodir yn y Llwybr/lefel, gan gynnwys un neu fwy o Sgiliau Allweddol Ehangach neu gymwysterau/unedau eraill sy'n seiliedig ar gymhwysedd ac sy'n berthnasol i'r gweithle.

Entry requirements

Yr amod mynediad sylfaenol yw gallu'r ymgeisydd i ffynnu a chyrraedd ei botensial o fewn y Llwybr Prentisiaeth a'r lefelau Ffasiwn a Thecstilau. Anogir cyflogwyr i gymryd rhan yn y camau recriwtio a dethol i sicrhau eu bod yn dod i adnabod y prentisiaid cyn eu cyflogi. Bydd arddangos dysgu blaenorol perthnasol, trosglwyddadwy yn rhan bwysig o broses dewis prentis unrhyw gyflogwr.

Croesewir ymgeiswyr prentisiaeth o amrywiaeth o gefndiroedd amrywiol a rhagwelir y byddant wedi cael gwahanol brofiadau, wedi cyflawni amrywiaeth o bethau gwahanol a/neu y bydd ganddynt wahanol gymwysterau. Gall ymgeiswyr heb gymwysterau blaenorol ddangos y sgiliau a'r wybodaeth flaenorol y maent wedi'u datblygu o ganlyniad i gyflogaeth berthnasol neu weithgareddau gwirfoddol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gyfnod cymhwyso penodol wedi'i bennu fel amod mynediad.

Rhaid i newydd-ddyfodiaid yn y sector Ffasiwn a Thecstilau fod â dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o wahanol dechnolegau, ochr yn ochr â gwybodaeth gyffredinol a sgiliau 'meddal', gan gynnwys y gallu i weithio mewn ffordd effeithlon ac mewn timau.

Mae cyflogwyr yn chwilio am unigolion sy'n barod i weithio ac:

  • sy'n ymdrechu i fod yn gynhyrchiol yn eu rôl;
  • sydd ag ymagwedd gadarnhaol at waith;
  • sydd â sgiliau cyfathrebu cryf; ac
  • sydd â dealltwriaeth dda o gyfleoedd uwchsgilio/dilyniant yn eu proffesiwn dewisol (os/pan fo angen).

Mae llwyddiant gyrfa yn y sector ffasiwn a thecstilau yn gofyn am angerdd cryf dros y maes pwnc. Bydd ymgeiswyr sy'n dymuno dilyn y Llwybr hwn wedi dangos y canlynol i'r darparwr/cyflogwr:

  • tystiolaeth o brofiad blaenorol sy'n berthnasol i'w maes astudio arfaethedig; NEU
  • y gallu i astudio ar Lefel 2, 3 neu 4 fel y bo'n briodol; NEU
  • cymorth y cytunwyd arno gan gyflogwr neu fentor gydag arddangosiad o ymrwymiad yr ymgeisydd i ddysgu (drwy ddangos tystiolaeth o ddilyniant hyd yma neu ddarparu cynllun hyfforddi y cytunwyd arno)

Mae'r mathau hyn o dystiolaeth yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr a fydd am gael dealltwriaeth o dalent a dawn y prentis. Mae'n bwysig bod asesiadau cychwynnol yn cael eu defnyddio mewn ffordd effeithiol i ddenu a chadw prentisiaid sydd wedi ymrwymo i weithio yn y sector ffasiwn a thecstilau ond efallai nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol.

Profiad blaenorol ar gyfer mynediad

Nid oes unrhyw ofynion cymwysterau penodol ar gyfer mynediad at y Llwybr Ffasiwn a Thecstilau (Cymru), ond mae enghreifftiau o gymwysterau a allai fod yn sail ddefnyddiol wedi'u nodi. I gael rhagor o fanylion am y cymwysterau hyn, gweler yr adran dilyniant ar gyfer y Llwybr priodol.

Gall dysgu blaenorol heb ei achredu sy'n gysylltiedig â'r diwydiant ffasiwn a thecstilau ddarparu llwybrau dilyniant defnyddiol i mewn i’r Llwybr gan y bydd yn dangos diddordeb yn y maes e.e. cyflogaeth wirfoddol neu ddi-dâl mewn rôl ffasiwn a thecstilau, a hyfforddiant perthnasol mewn meysydd fel dylunio, costio neu greu cynnyrch sy'n gysylltiedig â ffasiwn a thecstilau.

Mae'n bwysig bod darparwyr hyfforddiant yn nodi cyn gynted â phosibl a oes gan ymgeiswyr anableddau neu anawsterau penodol a fydd yn eu rhoi o dan anfantais yn y sefyllfa asesu ac yn dewis unedau cymwysterau neu addasiadau priodol a fydd yn caniatáu iddynt ddangos cyrhaeddiad.

Mae prosesau'n bodoli i sicrhau nad yw ymgeiswyr sydd â gwybodaeth, cymwysterau a phrofiad blaenorol o dan anfantais oherwydd eu bod yn gorfod ailadrodd eu dysgu. Bydd darparwyr hyfforddiant a sefydliadau dyfarnu yn gallu rhoi cyngor ar y rheolau presennol ar gyfer achredu dysgu blaenorol a chydnabod profiad blaenorol.

Os yw un o’r cymwysterau gwybodaeth a restrir yn y Llwybr eisoes gan ymgeiswyr (ar y lefel briodol) cyn dechrau ar eu Prentisiaeth, nid oes rhaid iddynt ail-wneud y cymhwyster, ar yr amod eu bod wedi cyflawni hyn o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf cyn dechrau'r Brentisiaeth.

Os yw ymgeiswyr eisoes wedi ennill un o'r cymwysterau galwedigaethol cyn dechrau'r Brentisiaeth, nid oes rhaid iddynt ail-wneud y cymhwyster, ar yr amod ei fod wedi'i gyflawni o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf cyn dechrau'r Brentisiaeth. Mae'r cyfyngiadau hyn wedi'u cymhwyso oherwydd bod technoleg yn symud yn gyflym o fewn y sector.

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau)

Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau) Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 2 Tystysgrif mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tecstilau
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
SEG Awards C00/4634/2 610/1052/2 27 270 Gwybodaeth Saesneg yn unig
Lefel 2 Tystysgrif mewn Cynhyrchu Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
SEG Awards C00/4634/5 610/1053/4 21 210 Cyfun Saesneg yn unig

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymwysterau cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau) Lefel Minimum Credit Value
Communication 1 6
Application of number 1 6
Digital literacy 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau) 190 396
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Yn y gwaith

1/ Cymhwyster cymhwysedd - 180 awr

Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tecstilau - - 27 Credyd (180GLH).

2/ Gweithgarwch heb ei achredu* – 14 awr

I ffwrdd o'r gwaith

1/ Cymhwyster gwybodaeth – 180 awr

Tystysgrif Lefel 2 mewn Cynhyrchu Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau (Llwybr Tecstilau) - Cymhwyster Gwybodaeth - 20 Credyd (180GLH).

2/ Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru x 3 - 180 awr

3/ Gweithgarwch heb ei achredu* 36 awr

*Diffiniad o weithgarwch heb ei achredu

Gweithgarwch sydd wedi'i ddyrannu o fewn y Llwybr nad yw'n seiliedig ar gymwysterau ac a fydd yn gwella profiad y prentis. Cyfanswm yr oriau a ddyrennir yw 50 awr am bob 12 mis ac mae'r gweithgareddau'n cynnwys:

Yn y gwaith - Adolygiadau cynnydd gyda'r cyflogwr/goruchwyliwr neu fentor yn y gweithle.

I ffwrdd o'r gwaith - Sylw perthnasol i CHC/Sefydlu; - Gweithgareddau cyfoethogi; - Adolygiadau cynnydd, sesiynau mentora gydag asesydd/tiwtor, gweithgareddau gofal bugeiliol.

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 12 mis yw 590 awr.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau (Cynhyrchion Wedi’u Gwnïo)

Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau (Cynhyrchion Wedi’u Gwnïo) Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 2 Tystysgrif mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion a Wnïwyd
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
SEG Awards C00/4634/2 610/1052/2 18 180 Gwybodaeth Saesneg yn unig
Lefel 2 Tystysgrif mewn Cynhyrchu Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
SEG Awards C00/4634/5 610/1053/4 21 210 Cyfun Saesneg yn unig

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymwysterau cyfun

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau (Cynhyrchion Wedi’u Gwnïo) Lefel Minimum Credit Value
Communication 1 6
Application of number 1 6
Digital literacy 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau (Cynhyrchion Wedi’u Gwnïo) 124 396
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Yn y gwaith

1/ Cymhwyster cymhwysedd - 110 awr

Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion a Wnïwyd - Cymhwyster Cymhwysedd - 18 Credyd (110GLH)

2/ Gweithgarwch heb ei achredu* – 14 awr

I ffwrdd o'r gwaith

1/ Cymhwyster gwybodaeth – 180 awr

Tystysgrif Lefel 2 mewn Cynhyrchu Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau (Llwybr Dillad) - Cymhwyster Gwybodaeth - 20 Credyd (180GLH).

2/ Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru x 3 - 180 awr

3/ Gweithgarwch heb ei achredu* 36 awr

*Diffiniad o weithgarwch heb ei achredu

Gweithgarwch sydd wedi'i ddyrannu o fewn y Llwybr nad yw'n seiliedig ar gymwysterau ac a fydd yn gwella profiad y prentis. Cyfanswm yr oriau a ddyrennir yw 50 awr am bob 12 mis ac mae'r gweithgareddau'n cynnwys:

Yn y gwaith - Adolygiadau cynnydd gyda'r cyflogwr/goruchwyliwr neu fentor yn y gweithle.

I ffwrdd o'r gwaith - Sylw perthnasol i CHC/Sefydlu; - Gweithgareddau cyfoethogi; - Adolygiadau cynnydd, sesiynau mentora gydag asesydd/tiwtor, gweithgareddau gofal bugeiliol.

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 12 mis yw 520 awr.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau)

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau) Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 3 Diploma NVQ mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tecstilau
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
SEG Awards C00/0301/5 37 370 Gwybodaeth Saesneg yn unig
Lefel 3 Diploma mewn Dylunio a Gweithgynhyrchu Tecstilau
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
SEG Awards C00/0301/4 37 370 Cyfun Saesneg yn Unig

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymwysterau cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau) Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau) 248 532
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Yn y gwaith

1/ Cymhwyster cymhwysedd - 220 awr

Diploma NVQ Lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tecstilau - 37 Credyd (220GLH)

2/ Gweithgarwch heb ei achredu* 28 awr

I ffwrdd o'r gwaith

1/ Cymhwyster gwybodaeth – 180 awr

Diploma Lefel 3 mewn Dylunio a Gweithgynhyrchu Tecstilau - 37 Credyd (280GLH)

2/ Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru x 3 - 180 awr

3/ Gweithgarwch heb ei achredu* 72 awr

*Diffiniad o weithgarwch heb ei achredu

Gweithgarwch sydd wedi'i ddyrannu o fewn y Llwybr nad yw'n seiliedig ar gymwysterau ac a fydd yn gwella profiad y prentis. Cyfanswm yr oriau a ddyrennir yw 50 awr am bob 12 mis ac mae'r gweithgareddau'n cynnwys:

Yn y gwaith - Adolygiadau cynnydd gyda'r cyflogwr/goruchwyliwr neu fentor yn y gweithle.

I ffwrdd o'r gwaith - Sylw perthnasol i CHC/Sefydlu; - Gweithgareddau cyfoethogi; - Adolygiadau cynnydd, sesiynau mentora gydag asesydd/tiwtor, gweithgareddau gofal bugeiliol.

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 24 mis yw 780 awr.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Dillad)

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Dillad) Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod

Lefel 3 Tystysgrif mewn Technoleg Gweithgynhyrchu Dillad
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
SEG Awards C00/0122/9 500/5454/5 33 330 Gwybodaeth Saesneg yn unig
Lefel 3 Diploma mewn Cynhyrchu Dillad, Esgidiau neu Ledr
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
SEG Awards C00/0233/4 501/0088/9 45 450 Cyfun Saesneg yn unig

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymwysterau cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Dillad) Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Dillad) 228 522
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Yn y gwaith

1/ Cymhwyster cymhwysedd - 220 awr

Tystysgrif Lefel 3 mewn Technoleg Gweithgynhyrchu Dillad - 33 Credyd (200GLH)

2/ Gweithgarwch heb ei achredu* 28 awr

I ffwrdd o'r gwaith

1/ Cymhwyster gwybodaeth – 270 awr

Diploma Lefel 3 mewn Cynhyrchu Dillad, Esgidiau neu Ledr (Llwybr Dillad) - 45 Credyd (270GLH)

2/ Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru x 3 - 180 awr

3/ Gweithgarwch heb ei achredu* 72 awr

Diffiniad o weithgarwch heb ei achredu

*Gweithgarwch sydd wedi'i ddyrannu o fewn y Llwybr nad yw'n seiliedig ar gymwysterau ac a fydd yn gwella profiad y prentis. Cyfanswm yr oriau a ddyrennir yw 50 awr am bob 12 mis ac mae'r gweithgareddau'n cynnwys:

Yn y gwaith - Adolygiadau cynnydd gyda'r cyflogwr/goruchwyliwr neu fentor yn y gweithle.

I ffwrdd o'r gwaith - Sylw perthnasol i CHC/Sefydlu; - Gweithgareddau cyfoethogi; - Adolygiadau cynnydd, sesiynau mentora gydag asesydd/tiwtor, gweithgareddau gofal bugeiliol.

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 24 mis yw 750 awr.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Teilwra)

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Teilwra) Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod. .

Lefel 3 Diploma mewn Torri a Theilwra Pwrpasol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
SEG Awards C00/0233/3 500/8986/9 37 370 Gwybodaeth Saesneg yn unig
Lefel 3 Diploma mewn Cynhyrchu Dillad, Esgidiau neu Ledr
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
SEG Awards C00/0233/4 501/0088/9 45 450 Cyfun Saesneg yn unig

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymwysterau cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Teilwra) Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Teilwra) 208 522
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Yn y gwaith

1/ Cymhwyster cymhwysedd - 180 awr

Diploma Lefel 3 mewn Torri a Theilwra Pwrpasol - 37 Credyd (180GLH)

2/ Gweithgarwch heb ei achredu* 28 awr

I ffwrdd o'r gwaith

1/ Cymhwyster gwybodaeth – 270 awr

Diploma Lefel 3 mewn Cynhyrchu Dillad, Esgidiau neu Ledr (Llwybr Teilwra) - 45 Credyd (270GLH)

2/ Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru x 3 - 180 awr

3/ Gweithgarwch heb ei achredu* 72 awr

*Diffiniad o weithgarwch heb ei achredu

Gweithgarwch sydd wedi'i ddyrannu o fewn y Llwybr nad yw'n seiliedig ar gymwysterau ac a fydd yn gwella profiad y prentis. Cyfanswm yr oriau a ddyrennir yw 50 awr am bob 12 mis ac mae'r gweithgareddau'n cynnwys:

Yn y gwaith - Adolygiadau cynnydd gyda'r cyflogwr/goruchwyliwr neu fentor yn y gweithle.

I ffwrdd o'r gwaith - Sylw perthnasol i CHC/Sefydlu; - Gweithgareddau cyfoethogi; - Adolygiadau cynnydd, sesiynau mentora gydag asesydd/tiwtor, gweithgareddau gofal bugeiliol.

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 24 mis yw 730 awr.

 

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau Technegol)

Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau Technegol) Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 4 Diploma mewn Tecstilau Technegol a Gwisgoedd
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
SEG Awards C00/0615/6 601/1784/9 90 900 Cymhwysedd Saesneg yn unig

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau Technegol) Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau Technegol) 235 495
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Yn y gwaith

1/ Elfen cymhwysedd y cymhwyster (215GLH)

Diploma Lefel 4 mewn Tecstilau Technegol a Gwisgoedd– (Llwybr Tecstilau Technegol) - 90 Credyd (215 GLH isafswm cyfartaledd cymhwysedd).

Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno cymwysterau ond gallai oriau amrywio o ddysgwr i ddysgwr, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;

2/ Gweithgarwch heb ei achredu* – 20 awr.

I ffwrdd o'r gwaith

1/ Elfen gwybodaeth y cymhwyster (285GLH)

Diploma Lefel 4 mewn Tecstilau Technegol a Gwisgoedd – (Llwybr Tecstilau Technegol) 90 Credyd (285 GLH isafswm cyfartaledd gwybodaeth).

Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno cymwysterau ond gallai oriau amrywio o ddysgwr i ddysgwr, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir.

2/ Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru x 3 - 180 awr

3/ Gweithgarwch heb ei achredu* 30 awr.

*Diffiniad o weithgarwch heb ei achredu

Gweithgarwch sydd wedi'i ddyrannu o fewn y Llwybr nad yw'n seiliedig ar gymwysterau ac a fydd yn gwella profiad y prentis. Cyfanswm yr oriau a ddyrennir yw 25 awr am bob 12 mis ac mae'r gweithgareddau'n cynnwys:

Yn y gwaith - Adolygiadau cynnydd gyda'r cyflogwr/goruchwyliwr neu fentor yn y gweithle.

I ffwrdd o'r gwaith - Sylw perthnasol i CHC/Sefydlu; - Gweithgareddau cyfoethogi; - Adolygiadau cynnydd, sesiynau mentora gydag asesydd/tiwtor, gweithgareddau gofal bugeiliol.

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 24 mis yw 730 awr.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau (Datblygu a Chyrchu Cynnyrch)

Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau (Datblygu a Chyrchu Cynnyrch) Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 4 Diploma mewn Tecstilau Technegol a Gwisgoedd
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
SEG Awards C00/0615/6 601/1784/9 90 900 Cymhwysedd Saesneg yn unig

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau (Datblygu a Chyrchu Cynnyrch) Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau (Datblygu a Chyrchu Cynnyrch) 275 495
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Yn y gwaith

1/ Elfen cymhwysedd y cymhwyster - 255 awr

Diploma Lefel 4 mewn Tecstilau Technegol a Gwisgoedd (Llwybr a gymeradwywyd ar gyfer Datblygu a Chyrchu Cynnyrch) – 90 Credyd (255 GLH isafswm cyfartaledd cymhwysedd).

Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno cymwysterau ond gallai oriau amrywio o ddysgwr i ddysgwr, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;

2/ Gweithgarwch heb ei achredu* – 20 awr.

I ffwrdd o'r gwaith

1/ Elfen gwybodaeth y cymhwyster (285GLH)

Diploma Lefel 4 mewn Tecstilau Technegol a Gwisgoedd (Llwybr a gymeradwywyd ar gyfer Datblygu a Chyrchu Cynnyrch) – 90 Credyd (285 GLH isafswm cyfartaledd gwybodaeth).

Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno cymwysterau ond gallai oriau amrywio o ddysgwr i ddysgwr, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir.

2/ Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru x 3 - 180 awr

*3/ Gweithgarwch heb ei achredu* – 30 awr.

Diffiniad o weithgarwch heb ei achredu

Gweithgarwch sydd wedi'i ddyrannu o fewn y Llwybr nad yw'n seiliedig ar gymwysterau ac a fydd yn gwella profiad y prentis. Cyfanswm yr oriau a ddyrennir yw 25 awr am bob 12 mis ac mae'r gweithgareddau'n cynnwys:

Yn y gwaith - Adolygiadau cynnydd gyda'r cyflogwr/goruchwyliwr neu fentor yn y gweithle.

I ffwrdd o'r gwaith - Sylw perthnasol i CHC/Sefydlu; - Gweithgareddau cyfoethogi; - Adolygiadau cynnydd, sesiynau mentora gydag asesydd/tiwtor, gweithgareddau gofal bugeiliol.

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 24 mis yw 770 awr.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Amherthnasol

Job roles

Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau)

Teitl y Swydd

Rôl Swydd

Gweithiwr Tecstilau

 

Mae Gweithwyr Tecstilau yn ymgymryd â llawer o dasgau gwahanol wrth gynhyrchu deunyddiau tecstilau. Fel arfer, gallai hyn gynnwys galwedigaethau fel cardio, nyddu, troelli, ystofi, gwehyddu a rolau eraill ar y lefel hon o weithgynhyrchu tecstilau (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr).

 

Mae llawer o beiriannau tecstilau bellach wedi'u hawtomeiddio, felly agwedd allweddol ar waith gweithiwr tecstilau yw cynnal y cyflenwad o ffabrig a deunyddiau i beiriannau a sicrhau bod y prosesau'n rhedeg yn esmwyth.

Arolygydd Rheoli Ansawdd

Mae Arolygydd Rheoli Ansawdd yn gyfrifol am wirio ansawdd cynhyrchion o fewn rhediad cynhyrchu, gan wneud gwiriadau yn aml ar amrywiaeth o gamau drwy'r broses.

Cysylltwr

Mae Cysylltwr yn cysodi dillad wedi'u gwau o safon uchel, gan ddefnyddio naill ai beiriant cysylltu pwynt i bwynt neu ar hap i greu cynhyrchion gwau neu hosanwaith.

Gweuwr

Gweithwyr gwau neu Weuwyr sy'n gyfrifol am weithio'r peiriannau sy'n troi edafedd naturiol neu artiffisial yn ffabrigau neu ddillad. Mae llawer o wahanol fathau o beiriannau gwau y gellir eu gweithredu â llaw neu drwy ddefnyddio system gyfrifiadurol.

Profwr Cynnyrch

Mae'n bwysig bod pob cynnyrch a weithgynhyrchir yn bodloni safonau Prydeinig ac Ewropeaidd ac yn addas i'r diben. Felly, rhaid eu profi'n drylwyr drwy gydol y broses weithgynhyrchu. Cyfrifoldeb Profwr Cynnyrch yw hyn.

Peiriannydd Cynnal a Chadw Tecstilau

Yn gyfrifol am gynnal a chadw rheolaidd ar beiriannau tecstilau arbenigol.

Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau (Cynhyrchion wedi'u Gwnïo)

Teitl y Swydd

Rôl swydd

Torrwr Brethyn

Mae Torwyr Brethyn yn gosod ac yn torri deunyddiau i ffurfio cydrannau ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion wedi'u gwnïo, gan fynd i'r afael â gweithrediadau â llaw, peirianyddol a gyda chymorth cyfrifiadur.

Gwniadwyr Peiriant

Mae Gwniadwyr Peiriant yn pwytho rhannau o ddeunydd gyda'i gilydd i wneud amrywiaeth o gynhyrchion ffabrig, yn amrywio o ddillad, llenni a deunyddiau a'r tu mewn i gynhyrchion diwydiannol.

Seliwr Tâp

Mae Selwyr Tâp yn paratoi peiriannau ac offer i selio cynhyrchion gan ddefnyddio peiriant selio tâp a reolir â llaw i gynhyrchu naill ai dillad neu eitemau cysylltiedig.

Gwasgwr Llaw

Mae Gwasgwyr Llaw yn paratoi'r deunydd ar gyfer gwasgu, yn gwasgu dillad â llaw gan ddefnyddio haearn sych, haearn stêm a dulliau gwasgu gwactod.

Arolygydd Rheoli Ansawdd

Mae Arolygydd Rheoli Ansawdd yn gyfrifol am wirio ansawdd cynhyrchion o fewn rhediad cynhyrchu, gan wneud gwiriadau yn aml ar amrywiaeth o gamau drwy'r broses.

Gwasgwr Dillad

Mae Gwasgwyr Dillad yn defnyddio gweisg siswrn, byrddau smwddio proffesiynol a ffurfyddion i siapio dillad a thynnu crychau. Maent fel arfer yn gweithio i weithgynhyrchwyr dillad neu gwmnïau sychlanhau.

Peiriannydd Cynnal a Chadw Gwnïo

 

Yn gyfrifol am gynnal a chadw rheolaidd o beiriannau arbenigol ar gyfer cynhyrchion wedi'u gwnïo.

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau)

Teitl y Swydd

Rôl Swydd

Technegydd Llifo Tecstilau

Mae Technegwyr Llifo Tecstilau yn cymysgu ac yn cymhwyso'r llifynnau sy'n lliwio ffeibrau, edafedd a ffabrigau naturiol a synthetig. Gallant hefyd fod yn rhan o waith argraffu, cannu, diddosi a chymhwyso gorffeniadau eraill i decstilau. Yn aml, mae'r broses o lifo yn cael ei rheoli gan gyfrifiadur.

Technolegydd Tecstilau

Mae gan Dechnolegwyr Tecstilau ddiddordeb yng nghyfansoddiad gwyddonol ffeibrau, edafedd a deunyddiau. Gallant weithio ym maes peirianneg cynhyrchu, rheoli, cyrchu neu reoli ansawdd. Efallai y byddant hefyd yn gyfrifol am ddatrys problemau gweithgynhyrchu a chynhyrchu.

Technolegydd Tecstilau Dadansoddol

Technolegwyr Tecstilau Dadansoddol sy'n gyfrifol am ddatrys problemau sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu tecstilau. Mae angen technolegwyr o'r math hwn mewn llawer o wahanol feysydd o decstilau technegol, er enghraifft, yn y diwydiannau meddygol, modurol neu ddillad perfformiad.

Technegydd Gwau

Technegwyr Gwau sy'n gweithredu'r peiriannau sy'n gwau'r edafedd yn ffabrig neu ddillad yn ystod y broses gynhyrchu. Maent yn sicrhau bod y broses gynhyrchu yn digwydd heb drafferthion ac maent yn gyfrifol am waith cynnal a chadw sylfaenol ar y peiriannau.

Goruchwyliwr Ansawdd

Mae'r Goruchwyliwr Ansawdd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl weithdrefnau ansawdd yn cael eu dilyn drwy gydol y broses gynhyrchu.

Technolegydd Lliw Tecstilau

Cyflogir Technolegwyr Lliw Tecstilau gan weithgynhyrchwyr mawr ffeibrau, gwlân, edafedd a thecstilau i wneud lliwyddion (llifynnau a phigmentau) ar gyfer eu cynhyrchion.

Dylunydd Tecstilau

Mae Dylunwyr Tecstilau yn creu dyluniadau a phatrymau ffabrig ar gyfer deunyddiau wedi'u gwehyddu, eu gwau a'u hargraffu, y gellir eu defnyddio ar gyfer dillad a deunyddiau tu mewn. Mae'r dyluniadau hyn fel arfer yn cynnwys patrymau ailadroddus.

Technegydd Peiriannau Tecstilau

Technegwyr Peiriannau Tecstilau sy'n gyfrifol am ddiweddaru a chynnal a chadw'r holl beiriannau ac offer a ddefnyddir mewn ffatrïoedd tecstilau. Gallant ddewis arbenigo mewn un maes penodol, megis paratoi ffeibrau, nyddu, troi, gwehyddu, gwau neu broses orffen.

Arweinydd/Goruchwyliwr Tîm

Angen gwybodaeth helaeth am brosesau cynhyrchu i gynhyrchu cynhyrchion Tecstilau. Byddant hefyd yn gyfrifol am berfformiad tîm o ddydd i ddydd.

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Dillad) 

Teitl y Swydd

Rôl Swydd

Gwniedydd

Mae gwniedydd yn cynhyrchu dillad wedi'u gwneud i fesur, megis ffrogiau, sgertiau a throwsusau ar gyfer eu cwsmeriaid. Gallant redeg busnesau bach, annibynnol sy'n arbenigo mewn math penodol o ddillad, megis ffrogiau priodas.

Torrwr Patrymau Wedi’u Gwneud i Fesur (â Llaw/CAD)

Yr un cyfrifoldebau â Thorrwr Patrymau ond yn gweithio ar gynhyrchion pwrpasol (wedi'u gwneud i fesur).

Technolegydd Cynnyrch

Mae'r alwedigaeth hon i'w chael mewn gweithgynhyrchwyr cynnyrch wedi'u gwnïo, gweithgynhyrchwyr, esgidiau, brandiau a manwerthwyr. Gallant fod yn rhan o'r gwaith o gynhyrchu ystod ac amrywiaeth eang o gynhyrchion, o ddillad a ffasiwn i nwyddau lledr, esgidiau, llenni a deunyddiau, tecstilau morol a meddygol.

Torrwr Patrymau (â Llaw/CAD)

Gall torrwr patrymau sy'n gweithio yn y diwydiant dillad a thecstilau gael ei gyflogi gan fusnes mawr, canolig, bach neu ficro, gan gynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion o ddillad ac eitemau ffasiwn i nwyddau lledr, llenni a deunyddiau, tecstilau morol a meddygol. 

Peiriannydd Samplau

Mae Peirianwyr Samplau yn rhan allweddol o'r tîm dylunio dillad. Maent yn gweithio'n agos gyda dylunwyr, technolegwyr dillad a thorwyr patrymau i greu'r sampl cyntaf o ddyluniad dilledyn.

Graddiwr Patrymau (â Llaw/CAD)

Mae Graddiwr Patrymau yn cymryd patrwm sydd wedi'i wneud gan Dorrwr Patrymau ac yn cynhyrchu fersiynau wedi'u graddio i fyny ac i lawr i alluogi gweithgynhyrchwyr i atgynhyrchu'r un cynnyrch mewn gwahanol feintiau.

Gwneuthurwr Dillad

Diben cyffredinol yr alwedigaeth yw creu dillad - dod â'r dyluniad yn fyw, gan ddilyn manylebau a safonau ansawdd. Gallant weithio ar gynhyrchion untro i gwsmeriaid penodol neu samplau o ddillad i'w hailadrodd.

Arweinydd/Goruchwyliwr Tîm

Angen gwybodaeth helaeth am brosesau cynhyrchu i gynhyrchu cynhyrchion wedi'u gwnïo. Byddant hefyd yn gyfrifol am berfformiad tîm o ddydd i ddydd.

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Teilwra)

Teitl y Swydd

Rôl Swydd

Teiliwr

Mae teiliwr yn arbenigo mewn gwneud cotiau a siacedi, neu drowsusau, sgertiau a gwasgodau. Bydd y teiliwr yn defnyddio dulliau traddodiadol o deilwra a bydd yn gallu derbyn dillad ar ffurf pentwr o rannau wedi'u torri a'u trimio gan y torrwr a rhoi'r holl rannau cydrannol at ei gilydd yn fedrus, gan greu dillad o'r safon uchaf.

Torrwr

Mae torrwr yn gallu mesur y person, dadansoddi ffurfiadau (neu amrywiadau) cwsmeriaid penodol a thorri patrwm i ffitio gofyniad cwsmer unigol. Byddant yn cysylltu â'r cwsmer er mwyn cael dealltwriaeth o anghenion cwsmeriaid penodol. Mae'r holl wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i greu patrwm unigol i’r cwsmer - yna, bydd y torrwr yn gweithio'n agos gyda'r teiliwr i greu'r dilledyn pwrpasol unigol hwn. 

Gwneuthurwr Dillad

Mae Gwneuthurwyr Dillad yn cefnogi teilwriaid i gynhyrchu dillad wedi'u teilwra. Gallant weithio fel rhan o dîm neu'n uniongyrchol gyda'r teiliwr, gan gynhyrchu rhan o ddilledyn a gaiff ei roi at ei gilydd yn ddiweddarach gan y teiliwr, cynhyrchu dillad sampl neu gyflawni gweithrediadau gosod sylfaenol.

Gwerthwr Technegol Teilwra

Mae rôl Gwerthwr Technegol yn cyfuno sgiliau Teiliwr, gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeunydd a dylunio a'r gallu i werthu i gwsmeriaid.

Arweinydd/Goruchwyliwr Tîm

Angen gwybodaeth helaeth am brosesau cynhyrchu i gynhyrchu cynhyrchion Teilwra. Byddant hefyd yn gyfrifol am berfformiad tîm o ddydd i ddydd.

Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau Technegol)

Teitl y Swydd

Rôl Swydd

Technolegydd Ffabrig

Yn gyfrifol am ddadansoddi, gwerthuso a dehongli profion i fireinio ffabrigau ar gyfer eu defnydd arfaethedig, gan gadw at safonau ansawdd.

Technolegydd Ffibrau

Yn gyfrifol am ddadansoddi, gwerthuso a phrofi i fireinio deunyddiau ar gyfer eu defnydd arfaethedig, gan gadw at safonau ansawdd.

Uwch Dechnolegydd

Yn gyfrifol am ddatblygu, cymhwyso a mesur deunyddiau i sicrhau eu bod yn cyflawni eu diben. Cadw at safonau ansawdd ac adrodd ar ganfyddiadau.

Dylunydd Technegol Tecstilau

Yn gyfrifol am ddylunio ac optimeiddio deunyddiau/cynhyrchion i gyd-fynd â'r fanyleb.

Uwch Dechnolegydd Profi

Yn gyfrifol am raddnodi a chynnal a chadw peiriannau, gan roi gweithdrefnau ar waith ar gyfer cynnal profion, prosesu/dadansoddi data a chadw at y safonau presennol. Goruchwylio'r gwaith o ysgrifennu adroddiadau, derbyn adborth gan gwsmeriaid a chofnodi diffyg cydymffurfiaeth.

Technolegydd Datblygu Cynnyrch Tecstilau

Yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gyflwyno technolegau newydd ar gyfer gwella nodweddion cynnyrch.

Dadansoddwr Cymorth Tecstilau

Yn gyfrifol am ddadansoddi / gwerthuso, dehongli profion a mireinio ffabrigau ar gyfer eu defnydd arfaethedig, gan gadw at safonau ansawdd. Cefnogi rôl y Technolegwyr.

Ymchwilydd Tecstilau Technegol

Yn gyfrifol am oruchwylio agweddau gwyddonol ar ymchwil mewn perthynas â datblygu cynnyrch a phrosesau newydd, yn enwedig cydgysylltu prosiectau/tasgau ymchwil a phrofi, dehongli canlyniadau, sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl safonau ansawdd perthnasol.

Rheolwr Ansawdd Tecstilau

Yn gyfrifol am sicrhau dogfennaeth gywir, cywirdeb adroddiadau labordy, defnyddio safonau cyfredol ac achrediad.

Rheolwr Technegol (Cynhyrchu)

Yn gyfrifol am gydgysylltu prosesau gweithgynhyrchu ffasiwn a thecstilau penodol ac amserlennu i fodloni gofynion cynhyrchu, gan optimeiddio effeithlonrwydd a chadw at safonau ansawdd.

Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau (Datblygu a Chyrchu Cynnyrch)

Teitl y Swydd

Rôl Swydd

Rheolwr Datblygu Cynnyrch Newydd

Yn gyfrifol am oruchwylio datblygiad cynnyrch neu ystod o gynhyrchion, gan arbenigo mewn datblygu a chynllunio. Ei rôl yw mynd â chynhyrchion ffasiwn a thecstilau yr holl ffordd o'r cysyniad i fasnacheiddio mewn ymateb i alw'r farchnad.

Peiriannydd Prosesau

Yn gyfrifol am gynllunio, rheoli a chwblhau prosiectau ar draws y busnes yn gyffredinol. Gweithio gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid ffasiwn a thecstilau i ddatblygu cwmpas a diffiniad prosiectau. Nodi gofynion adnoddau, anghenion hyfforddi a'r hyn y gellir ei gyflawni ar gyfer prosiectau.

Rheolwr Caffael (Nwyddau Dillad a Thecstilau)

Yn gyfrifol am gyrchu a phrynu nwyddau neu wasanaethau i'r cwmni yn unol â'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer pob adran. Mae prynu deunyddiau crai ar gyfer nwyddau dillad a thecstilau ar sail tendr yn rhan allweddol o gyfrifoldeb y rheolwr caffael.

Rheolwr Gwerthiant (Nwyddau Dillad a Thecstilau)

Yn gyfrifol am ddatblygu a pherfformiad yr holl weithgareddau gwerthu mewn segment marchnad penodedig. Mae’n cyfarwyddo tîm gwerthu ac yn darparu arweinyddiaeth er mwyn cyflawni'r proffidioldeb a'r twf mwyaf posibl. Sefydlu cynlluniau a strategaethau i ehangu'r sylfaen cwsmeriaid.

Rheolwr Logisteg (Nwyddau Gorffenedig Tecstilau)

Yn gyfrifol am gynllunio a rheoli'r gwaith o symud nwyddau tecstilau gorffenedig mewn cadwyn gyflenwi, gan gysylltu â chyflenwyr deunyddiau crai, gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr a defnyddwyr.

Rheolwr Ymchwil a Datblygu (Nwyddau Dillad a Thecstilau)

Yn gyfrifol am oruchwylio pob agwedd ar ymchwil mewn perthynas â chynnyrch ffasiwn a thecstilau newydd a datblygu prosesau.

Rheolwr Marchnata (Nwyddau Dillad a Thecstilau)

Yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal strategaethau marchnata ar gyfer y sector ffasiwn a thecstilau. Gwerthuso ymchwil cwsmeriaid, amodau'r farchnad ffasiwn a thecstilau a data cystadleuwyr a gweithredu newidiadau i'r cynllun marchnata yn ôl yr angen.

Rheolwr Ansawdd

Yn gyfrifol am oruchwylio pob agwedd ar ansawdd, a mynd i'r afael â gwelliant parhaus o ran ansawdd. Yn gyfrifol am gysylltu â chleientiaid a staff i gael adborth ac ymateb iddo a chofnodi diffyg cydymffurfiaeth.

Prynwr Ffasiwn

Yn gyfrifol am greu a chynllunio casgliadau gan ddefnyddio rhagfynegiadau dylunio a'r adran ddylunio ganolog. Mae'r casgliadau'n cael eu ffitio â thechnoleg dillad, mae ffabrigau’n cael eu cyrchu, mae prisiau'n cael eu trafod ac mae danfoniadau'n cael eu cydgysylltu â rolau masnachu.

Gwerthwr Ffasiwn

Yn gyfrifol am adolygu gwerthiannau hanesyddol, data gwerthiant cyfredol, dosbarthiadau siopau a thrafod â chyflenwyr. Rheoli cyllidebau ariannol a gosod lefelau elw a phrynu niferoedd gyda'r prynwr ffasiwn er mwyn cynllunio cyflwyno casgliadau ffasiwn newydd a chynnal rhagolygon gwerthiant ar gyfer casgliadau.

Progression

Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau

Anogir cymwysterau galwedigaethol ar Lefel 3 ar gyfer dilyniant, yn enwedig y rhai sy'n ymgorffori datblygu sgiliau pellach sy'n gysylltiedig â ffasiwn a thecstilau. 

Gall dilyniant o'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Ffasiwn a Thecstilau gynnwys:

  • cymwysterau Bagloriaeth Cymru;
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Ffasiwn a Thecstilau;
  • Cymwysterau galwedigaethol gweithgynhyrchu Lefel 3 sy'n gysylltiedig â'r sector sydd ar gael ar gronfa ddata Cymwysterau Cymru;
  • Dyfarniadau SEG Awards Diploma NVQ Lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tecstilau*;
  • Dyfarniadau SEG Awards Diploma Lefel 3 mewn Dylunio a Gweithgynhyrchu Tecstilau *;
  • Dyfarniadau SEG Awards Diploma Lefel 3 mewn Cynhyrchu Dillad, Esgidiau neu Ledr *;
  • Dyfarniadau SEG Awards Tystysgrif Lefel 3 mewn Technoleg Gweithgynhyrchu Dillad (NVQ) *;
  • Dyfarniadau SEG Awards Dyfarniad Lefel 3 mewn Ffasiwn a Thecstilau *;
  • Dyfarniadau SEG Awards Tystysgrif Lefel 3 mewn Ffasiwn a Thecstilau *;
  • Dyfarniadau SEG Awards Diploma Lefel 3 mewn Torri a Theilwra Pwrpasol*.

*Ar ddiwedd 2018, lansiodd UKFT yr Industry Recognition Programme (IRP), sy'n sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol yn gymwys ac yn angenrheidiol. Mae angen cyfeirio sylweddol i gynorthwyo pobl ifanc, cyflogwyr, rhieni a darparwyr hyfforddiant i lywio'r ystod o gyrsiau sydd ar gael, yn enwedig y rhai sy'n mynd i'r afael â'r bylchau sgiliau presennol o fewn ffasiwn a thecstilau.

Anogir cymwysterau galwedigaethol ar lefel 3 ar gyfer dilyniant, yn enwedig y rhai sy'n ymgorffori datblygu sgiliau sy'n gysylltiedig â thecstilau.

Gall dysgu blaenorol heb ei achredu sy'n gysylltiedig â'r diwydiant ffasiwn a thecstilau ddarparu llwybrau dilyniant defnyddiol i'r Llwybr gan y bydd yn dangos diddordeb yn y maes e.e. cyflogaeth wirfoddol neu ddi-dâl mewn rôl ffasiwn a thecstilau, a hyfforddiant perthnasol mewn meysydd megis dylunio, costio neu greu cynnyrch sy'n gysylltiedig â ffasiwn a thecstilau.

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau

Anogir cymwysterau galwedigaethol ar Lefel 4 ac uwch ar gyfer dilyniant, yn enwedig y rhai sy'n ymgorffori datblygu sgiliau pellach sy'n gysylltiedig â ffasiwn a thecstilau. 

Gall dilyniant o'r Brentisiaeth mewn Ffasiwn a Thecstilau gynnwys:

  • cymwysterau Bagloriaeth Cymru;
  • Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau Technegol)
  • Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Ffasiwn a Thecstilau (Datblygu a Chyrchu Cynnyrch)
  • Cymwysterau galwedigaethol gweithgynhyrchu lefel 4 ac uwch sy'n gysylltiedig â'r sector sydd ar gael ar gronfa ddata Cymwysterau Cymru;
  • Dyfarniadau SEG Awards Diploma Lefel 4 mewn Tecstilau Technegol a Gwisgoedd*.

*Ar ddiwedd 2018, lansiodd UKFT yr Industry Recognition Programme (IRP) sy'n sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol yn gymwys ac yn angenrheidiol. Mae angen cyfeirio sylweddol i gynorthwyo pobl ifanc, cyflogwyr, rhieni a darparwyr hyfforddiant i lywio'r ystod o gyrsiau sydd ar gael, yn enwedig y rhai sy'n mynd i'r afael â'r bylchau sgiliau presennol o fewn ffasiwn a thecstilau.

Bydd y prentis hefyd yn gallu symud ymlaen i gyflogaeth, hunangyflogaeth neu i weithgarwch sy’n gofyn am lefel uwch o sgiliau o fewn y diwydiant.

Dysgu pellach sy'n seiliedig ar waith

  • Hyfforddiant penodol i'r sector gan Gymdeithasau Masnach a Chyrff Proffesiynol perthnasol.

Dilyniant Addysg Uwch

Dylid mynegi dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Ffasiwn a Thecstilau i raglenni dysgu Lefel 4 perthnasol. Gall prentisiaid symud ymlaen i lefelau uwch neu broffesiynol megis Graddau Sylfaen, Diplomâu/Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Graddau BA Anrhydedd a chyrsiau proffesiynol cysylltiedig. Gallai enghreifftiau o ddilyniant fod yn y meysydd canlynol:

  • Teilwra Pwrpasol;
  • Dylunio Dillad;
  • Peirianneg Dillad;
  • Tecstilau ar gyfer y tu mewn;
  • Dylunio Ffasiwn;
  • Rheoli Dylunio Ffasiwn;
  • Teilwra Dylunio Ffasiwn
  • Dylunio Dillad Gweu Ffasiwn;
  • Dylunio Tecstilau Ffasiwn;
  • Dylunio Tecstilau;
  • Technolegau Cynnyrch Tecstilau.

Dylid archwilio a chefnogi trefniadau dilyniant i Addysg Uwch, yn rhai ffurfiol ac anffurfiol, gan y bydd hyn yn helpu i gryfhau partneriaethau lleol a chefnogi cyfleoedd dilyniant drwy'r ystod o ddarpariaeth alwedigaethol ac academaidd.

I gael manylion am gyrsiau Addysg Uwch mewn pynciau sy'n gysylltiedig â thecstilau, ewch i wefan UCAS www.ucas.ac.uk

I gael gwybodaeth ehangach am gyflogaeth a hyfforddiant Ffasiwn a Thecstilau, ewch i www.ukft.org/ neu e-bostiwch apprenticeships@ukft.org

Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau

Tecstilau Technegol

Mae'r Llwybr hwn yn ceisio darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y sector mewn marchnadoedd technegol, cynhyrchu tecstilau technegol a thecstilau sy'n cael eu creu yn benodol ar gyfer eu perfformiad yn hytrach na'u hymddangosiad esthetig.

Mae'r diwydiannau a'r gweithgareddau hynny sy'n dibynnu ar nanodechnoleg, electroneg neu ddatblygiadau arloesol eraill yn cynnwys cynhyrchu dillad diogelwch ar gyfer y gwasanaethau brys, datblygu cynhyrchion a dillad ar gyfer gwasanaethau meddygol sy'n amrywio o sblintiau meddygol a rhwymynnau i offer llawfeddygol, ac yn cynnwys ffeibr carbon ar gyfer fframiau awyrennau.

Bydd y prentis yn gallu symud ymlaen i gyflogaeth, hunangyflogaeth neu weithgarwch sy’n gofyn am lefel uwch o sgiliau yn y diwydiant.

Dysgu pellach sy'n seiliedig ar waith

  • Hyfforddiant penodol i'r sector gan Gymdeithasau Masnach a Chyrff Proffesiynol perthnasol.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) o fewn y rôl swydd

Gallai enghreifftiau o ddatblygu gyrfa i swyddi lefel uwch o'r Llwybr hwn gynnwys:

  • Pennaeth Arloesi;
  • Prif Swyddog Arloesi;
  • Gwyddonydd Prosiect;
  • Cyfarwyddwr Technegol.

Dilyniant Addysg Uwch

Dylid mynegi dilyniant o'r Llwybr Prentisiaeth Uwch Ffasiwn a Thecstilau i raglenni dysgu lefel Uwch perthnasol. Gall prentisiaid uwch symud ymlaen i lefelau uwch neu broffesiynol megis Graddau Sylfaen, Diplomâu/Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Graddau BA Anrhydedd a chyrsiau proffesiynol cysylltiedig. Gallai enghreifftiau o ddilyniant fod yn y meysydd canlynol:

  • Deunyddiau Uwch;
  • Deunyddiau Uwch a Dillad Perfformiad;
  • Sgiliau Uwch ar gyfer Deunyddiau Uwch;
  • Technoleg Ffasiwn;
  • Dylunio Dillad Perfformiad Chwaraeon;
  • Peirianneg Deunyddiau;
  • Technoleg Tecstilau.

Datblygu a Chyrchu Cynnyrch

Un o'r strategaethau a fabwysiadwyd gan gwmnïau yw rhoi pwyslais ar 'ddatblygu cynnyrch arloesol a chyrchu cytbwys', lle mae elfen graidd o'r broses weithgynhyrchu yn aros yn y DU ac elfennau eraill yn cael eu rhoi ar gontract allanol i wledydd sy'n datblygu sydd â manteision pris cystadleuol oherwydd costau llafur cymharol isel.

Mae'r ffactorau cyfunol hyn yn golygu bod strategaethau cyrchu cytbwys llwyddiannus yn gofyn am sgiliau dylunio creadigol a chraffter masnachol, wedi'u hategu gan arferion cynhyrchu hyblyg ac effeithlon, cyfathrebu a marchnata effeithiol o fewn y gadwyn gyflenwi a gweithrediadau logisteg effeithlon.

Bydd y prentis yn gallu symud ymlaen i gyflogaeth, hunangyflogaeth neu weithgarwch sy’n gofyn am lefel uwch o sgiliau yn y diwydiant.

Dysgu pellach sy'n seiliedig ar waith

  • Hyfforddiant penodol i'r sector gan Gymdeithasau Masnach a Chyrff Proffesiynol perthnasol.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) o fewn y rôl swydd

Gallai enghreifftiau o ddatblygu gyrfa i swyddi lefel uwch o'r Llwybr hwn gynnwys:

 Dylunydd Llawrydd;

  • Cyfarwyddwr Marchnata;
  • Pennaeth Arloesi;
  • Prif Swyddog Arloesi;
  • Cyfarwyddwr Technegol.

Dilyniant Addysg Uwch

Dylid mynegi dilyniant o'r Llwybr hwn i raglenni dysgu lefel Uwch perthnasol. Gall prentisiaid uwch symud ymlaen i lefelau uwch neu broffesiynol megis Graddau Sylfaen, Diplomâu/Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Graddau BA Anrhydedd a chyrsiau proffesiynol cysylltiedig. Gallai enghreifftiau o ddilyniant fod yn y meysydd canlynol:

  • Technoleg Tecstilau;
  • Deunyddiau Uwch;
  • Dylunio Dillad Perfformiad Chwaraeon;
  • Deunyddiau Uwch a Dillad Perfformiad;
  • Technoleg Ffasiwn;
  • Peirianneg Deunyddiau;
  • Sgiliau Uwch ar gyfer Deunyddiau Uwch.

Dylid archwilio a chefnogi trefniadau dilyniant i Addysg Uwch, yn rhai ffurfiol ac anffurfiol, gan y bydd hyn yn helpu i gryfhau partneriaethau lleol a chefnogi cyfleoedd dilyniant drwy'r ystod o ddarpariaeth alwedigaethol ac academaidd. I gael manylion am gyrsiau Addysg Uwch mewn pynciau sy'n gysylltiedig â ffasiwn a thecstilau, ewch i wefan UCAS www.ucas.ac.uk

I gael gwybodaeth ehangach am gyflogaeth a hyfforddiant Ffasiwn a Thecstilau, ewch i www.ukft.org/ neu e-bostiwch apprenticeships@ukft.org

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Mae diwydiant ffasiwn a thecstilau'r DU yn parhau i fynd drwy broses o newid radical sy'n cael ei sbarduno gan y ffaith bod cynhyrchu wedi mynd yn broses fyd-eang, y ffaith bod chwaeth defnyddwyr yn newid yn gyflym a mwy o ffocws ar gynhyrchion gwerth uchel.

Mae llawer o gwmnïau ffasiwn a thecstilau Cymreig yn cynhyrchu mwy o gynhyrchion wedi'u gwnïo yng Nghymru ac yn cynhyrchu nwyddau o safon uchel ar gyfer marchnadoedd arbenigol, ac mae angen staff aml-fedrus arnynt sy'n gallu cynhyrchu'r nwyddau hyn, gan fodloni safonau ansawdd a'r galw am y cynhyrchion.

Mae'r ffigurau diweddaraf o ran Gwybodaeth am y Farchnad Lafur ynghylch ffigurau diwydiant yng Nghymru fel a ganlyn:

 

Tabl 1: Amcangyfrif o nifer y gweithwyr yn ôl diwydiant (Cymru), 2019

 

Diwydiant

Cymru

13: Gweithgynhyrchu tecstilau

1,750

14: Gweithgynhyrchu dillad

175

20.60: Gweithgynhyrchu ffeibrau artiffisial

0

46.16: Asiantau sy'n ymwneud â gwerthu tecstilau, dillad, ffwr, esgidiau a nwyddau lledr

350

46.41: Cyfanwerthu tecstilau

300

46.42: Cyfanwerthu dillad ac esgidiau

2,000

47.51: Manwerthu tecstilau mewn siopau arbenigol

500

47.53: Manwerthu carpedi, rygiau, gorchuddion wal a llawr mewn siopau arbenigol

900

47.71: Manwerthu dillad mewn siopau arbenigol

12,000

Ffynhonnell: ONS, BRES, 2019

 

Tabl 2: Nifer y mentrau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW a/neu'r cynllun Talu wrth Ennill yn ôl diwydiant (Cymru), Mawrth 2020

 

Cymru

13: Cyfanswm gweithgynhyrchu tecstilau

175

14: Cyfanswm gweithgynhyrchu dillad

60

4616: Asiantau sy'n ymwneud â gwerthu tecstilau; dillad; ffwr; esgidiau a nwyddau lledr

35

4641: Cyfanwerthu tecstilau

30

4642: Cyfanwerthu dillad ac esgidiau

95

4751: Manwerthu tecstilau mewn siopau arbenigol

60

4753: Manwerthu carpedi; rygiau; gorchuddion wal a llawr mewn siopau arbenigol

190

4771: Manwerthu dillad mewn siopau arbenigol

400

Ffynhonnell: ONS, Inter-Departmental Business Register (IDBR)

Nod y Llwybr Prentisiaethau hwn yw mynd i'r afael â'r prif fater o weithlu sy'n heneiddio yn y sector, sef mater mae'r sector yn ymwybodol iawn ohono ac mae'n rhoi pwyslais mawr ar ddenu pobl ifanc galluog i'r sector.

Byddai diwydiant Cynhyrchion wedi'u Gwnïo iach, lle mae ffabrigau'n cael eu trosi'n gynhyrchion wedi'u gwnïo, yn cael effaith sylweddol iawn ar wehyddion a nyddwyr Cymru, gan eu galluogi i ychwanegu gwerth a chynyddu gwelededd eu brandiau yn haws.

Mae trefniadau Brexit a thariffau ar nwyddau hefyd yn peri pryder i gyflogwyr ffasiwn a thecstilau Cymru ac mae'r angen i hyfforddi talent yn y wlad hon yn flaenoriaeth uchel gan fod y galw i gynyddu capasiti cynhyrchu ar y tir i ateb y galw am weithgynhyrchu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn hollbwysig.

Ers yr adolygiad blaenorol o'r Llwybr hwn yn 2017, mae'r galw am sgiliau cynhyrchion wedi'u gwnïo wedi cynyddu'n sylweddol.  Un o'r prif ffactorau sy'n sbarduno hyn yw'r angen i frandiau yn y DU ddechrau cynhyrchu cynnyrch oedd yn cael ei gynhyrchu mewn rhannu eraill o’r UE yn flaenorol yn y DU. 

Gan fod cynhyrchion o'r fath bellach yn denu tollau pan gânt eu hail-allforio i'r UE, mae manteision cost sylweddol bellach i weithgynhyrchu yn y DU, ac mae brandiau'n mynd ati ar hyn o bryd i fanteisio ar yr ychydig alluoedd cynhyrchion wedi'u gwnïo domestig sydd ar gael.

Yn hanesyddol, mae recriwtio pobl ifanc i'r diwydiant wedi bod yn frwydr i lawer o gyflogwyr, ac un o'r prif rwystrau i recriwtio yw'r ddelwedd o'r sector ffasiwn a thecstilau i bobl ifanc. Bydd y Llwybr yn helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn gan ei fod yn datgelu sector bywiog sydd â'r cyfleoedd cyfatebol i symud ymlaen i sectorau eraill.

Nod y Llwybr hwn yw:

  • mynd i'r afael â'r mater o weithlu sy'n heneiddio drwy ddenu talent ifanc a darparu llwybr mynediad amgen i gyflogaeth yn y sector;
  • hyrwyddo delwedd gadarnhaol o'r sector ffasiwn a thecstilau.

Nid oes unrhyw amodau mynediad rhagnodedig i'r Llwybr hwn fel nad oes unrhyw rwystrau amhriodol i fynediad yn cael eu creu, gan y byddai hynny’n effeithio'n negyddol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae UKFT yn awyddus iawn i hyrwyddo amrywiaeth ac mae'n ceisio sicrhau arferion da a’u rhannu ar draws y partneriaid cyflawni er mwyn tynnu sylw at enghreifftiau cadarnhaol o ddeunyddiau marchnata a chyfathrebu, a strategaethau a gweithgareddau eraill a ddefnyddir i ddileu'r rhwystrau i fynediad a sicrhau sylfaen dalent fwy amrywiol.

Mae UKFT hefyd yn marchnata ac yn cyfleu'r Llwybr hwn er mwyn sicrhau neges gyson. Mae UKFT yn rhan o amryw o weithgareddau megis:

  • Mentrau hyfforddi wedi'u targedu, a ddefnyddir fel arf allweddol i ddenu talent newydd i’r diwydiant o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol;
  • Defnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Gwybodaeth am y Farchnad Lafur i lywio gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd cywir;
  • Darparu cysylltiadau â darparwyr hyfforddiant sy'n gweithio gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol;
  • Codi ymwybyddiaeth o ddiffyg cynrychiolaeth pobl ag anableddau yng ngweithlu'r diwydiant drwy fonitro tueddiadau cyflogaeth, nodi rhwystrau i hyfforddiant a datblygiad a rhannu'r wybodaeth honno gyda phartneriaid;
  • Cefnogi a chysylltu darparwyr hyfforddiant yn y rhanbarthau i ddarparu prentisiaethau.

Mae'r Cynllun Iaith Gymraeg yn cael ei gefnogi'n llawn gan UKFT a'r diwydiant yng Nghymru. Fel rhan o'r adolygiad hwn, ymgynghorwyd â chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn y sector ar yr angen i gyfieithu'r Llwybr hwn i'r Gymraeg a chafwyd cefnogaeth ysgubol i wneud hynny.

I gael rhagor o fanylion am ymchwil i gyfansoddiad y sector, ewch i wefan UKFT www.ukft.org

 

 

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir y dylai pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) ddilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllaw Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

 

Atodiad 1- Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau)

Y berthynas rhwng cymwysterau galwedigaethol cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'r cymhwyster Gwybodaeth yn darparu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sylfaenol ar gyfer y cymhwyster Cymhwysedd ac mae'n cwmpasu sawl is-sector ac mae'r unedau gorfodol wedi'u cynllunio i gael eu rhoi yn eu cyd-destun ar gyfer y Llwybr is-sector a ddewiswyd.

Ar gyfer y sector tecstilau, mae dwy uned arall sy'n unigryw i'r Llwybr is-sector hwnnw. O fewn y cymhwyster Gwybodaeth, RHAID i'r unedau a gymeradwywyd ar gyfer y Llwybr Tecstilau gael eu darparu i gefnogi'r cymhwyster Cymhwysedd gan na fydd yr unedau eraill a gymeradwywyd yn gydnaws.

  • Cyflwyniad a Hanes y Diwydiant Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau [D/600/1718];
  • Deall Iechyd a Diogelwch a Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwyr cysylltiedig o fewn y Diwydiant Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau [K/600/1723];
  • Datblygu Cysylltiadau Gwaith o fewn y Diwydiant Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau [T/600/1725];
  • Cynnal Safonau Ansawdd mewn Cynhyrchu Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau [F/600/1727];
  • Deunyddiau a phrosesau a ddefnyddir wrth Weithgynhyrchu Cynhyrchion Tecstilau [M/600/2047];
  • Technegau gweithgynhyrchu tecstilau [T/600/2048].

Mae'r unedau'n seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tecstilau 2009/2010. Bydd unedau pellach yn cael eu datblygu yn y dyfodol, i adlewyrchu anghenion y diwydiant.

Lefel 2: Ffasiwn a Thecstilau (Cynhyrchion wedi'u Gwnïo)

Mae'r cymhwyster Gwybodaeth yn darparu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sylfaenol ar gyfer y cymhwyster Cymhwysedd. Mae'r cymhwyster Gwybodaeth yn cwmpasu sawl is-sector ac mae'r unedau gorfodol wedi'u cynllunio i gael eu rhoi yn eu cyd-destun ar gyfer y Llwybr is-sector a ddewiswyd.

Ar gyfer y sector Cynhyrchion wedi'u Gwnïo, mae tair uned arall sy'n unigryw i'r Llwybr is-sector hwnnw. O fewn y cymhwyster Gwybodaeth, RHAID i'r unedau a gymeradwywyd ar gyfer y Llwybr Dillad gael eu darparu i gefnogi'r cymhwyster Cymhwysedd gan na fydd yr unedau eraill a gymeradwywyd yn gydnaws.

  • Cyflwyniad a Hanes y Diwydiant Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau [D/600/1718];
  • Deall Iechyd a Diogelwch a Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwyr cysylltiedig o fewn y Diwydiant Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau [K/600/1723];
  • Datblygu Cysylltiadau Gwaith o fewn y Diwydiant Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau [T/600/1725];
  • Cynnal Safonau Ansawdd mewn Cynhyrchu Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau [F/600/1727];
  • Technegau Gweithgynhyrchu Dillad - Y Broses Gynhyrchu [J/600/1728];
  • Technegau Gweithgynhyrchu Dillad - Gweithrediadau Gwnïo a Gosod [L/600/1729];
  • Deunyddiau a Ddefnyddir wrth Weithgynhyrchu Dillad [L/600/1732].

Mae'r unedau'n seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithgynhyrchu Cynhyrchion wedi'u Gwnïo 2008/2009 a Thechnoleg Gweithgynhyrchu Dillad 2008. Bydd unedau pellach yn cael eu datblygu yn y dyfodol, i adlewyrchu anghenion y diwydiant.

Lefel 3 Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau)

Mae'r cymhwyster Gwybodaeth yn darparu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sylfaenol ar gyfer y cymhwyster Cymhwysedd.

Mae'r cymhwyster Gwybodaeth yn cwmpasu sawl maes arbenigol ac mae'r unedau gorfodol wedi'u cynllunio i fod naill ai'n drosolwg neu i gael eu rhoi yn eu cyd-destun ar gyfer y maes arbenigol a ddewiswyd.

Mae unedau dewisol pellach lle gellir cymryd unedau arbenigol penodol yn ddibynnol ar rôl swydd yr ymgeisydd ac i gefnogi'r cymhwyster Cymhwysedd.

Unedau dewisol y Llwybr Tecstilau

  • Prosesu ffeibr ac edafedd [H/502/2267];
  • Gwau anwe [M/502/2269];
  • Gwau ystofi a les [H/502/2270];
  • Gwehyddu [K/502/2271];
  • Gweithgynhyrchu ffabrig cul [M/502/2272];
  • Prosesau gweithgynhyrchu carpedi [A/502/2274];
  • Gweithgynhyrchu ffabrig heb ei wehyddu [F/502/2275];
  • Llifo ac argraffu tecstilau [J/502/2276];
  • Gorffen tecstilau [R/502/2278];
  • Dyluniad ffabrig wedi'i wau [Y/502/2279];
  • Dyluniad ffabrig wedi'i wehyddu [R/502/2281];
  • Dylunio a gosod gweuwaith a hosanwaith [Y/502/2282];
  • Profi tecstilau [D/502/2283];
  • Rheoli cysylltiadau gwaith eich hun o fewn cynhyrchu tecstilau [M/502/6399];
  • Arwain timau o fewn technolegau tecstilau [A/502/2291];
  • Cynllunio ar gyfer cynhyrchu tecstilau [F/502/2292];
  • Agweddau ar ddylunio o fewn y diwydiant tecstilau [Y/502/6400];
  • Ymarfer proffesiynol/paratoi ar gyfer cyflogaeth o fewn y diwydiant tecstilau [D/502/6401];
  • Prynu gan gynnwys mewnforio/allforio yn y diwydiant tecstilau [H/502/6402];
  • Rheoli gwybodaeth ar gyfer gweithredu yn y diwydiant tecstilau [K/502/6403].

Mae'r unedau'n seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tecstilau 2010. Bydd unedau pellach yn cael eu datblygu yn y dyfodol, i adlewyrchu anghenion y diwydiant.

Lefel 3 Ffasiwn a Thecstilau (Dillad)

Mae'r cymhwyster Gwybodaeth yn darparu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sylfaenol ar gyfer y cymhwyster Cymhwysedd. Mae'r cymhwyster Gwybodaeth yn cwmpasu sawl is-sector ac mae tair o'r unedau gorfodol wedi'u cynllunio i gael eu rhoi yn eu cyd-destun ar gyfer y Llwybr is-sector a ddewiswyd.

Ar gyfer y sector cynhyrchion wedi'u gwnïo, mae tair uned arall sy'n unigryw i'r Llwybr is-sector hwnnw. O fewn y cymhwyster Gwybodaeth, RHAID i'r unedau a gymeradwywyd ar gyfer y Llwybr Cynhyrchion wedi'u Gwnïo gael eu darparu i gefnogi'r cymhwyster Cymhwysedd gan na fydd yr unedau eraill a gymeradwywyd yn gydnaws.

Unedau Gorfodol

  • Rheoli hawliau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch a chyflogaeth o fewn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [J/601/7833];
  • Rheoli safonau ansawdd o fewn cynhyrchu dillad, esgidiau neu ledr [Y/601/7836];
  • Rheoli cysylltiadau gwaith eich hunain o fewn cynhyrchu dillad, esgidiau neu ledr [H/601/7838];
  • Technegau gweithgynhyrchu o fewn cynhyrchu dillad [M/601/7843];
  • Deunyddiau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu dillad [D/601/7854].

Unedau Dewisol (1 uned i'w chymryd)

  • Rheoli cynhyrchu yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [Y/601/7853];
  • Agweddau ar ddylunio yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [K/601/7856];
  • Ymarfer proffesiynol/paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [M/601/7857];
  • Rheoli cysylltiadau cwsmeriaid yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [T/601/7858];
  • Prynu (mewnforio/allforio) yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [A/601/7859];
  • Rheoli goruchwylio – arweinyddiaeth tîm yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [M/601/7860];
  • Rheoli gwybodaeth ar gyfer gweithredu yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [T/601/7861].

Mae'r unedau'n seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Technoleg Gweithgynhyrchu Dillad 2008/2010. Bydd unedau pellach yn cael eu datblygu yn y dyfodol, i adlewyrchu anghenion y diwydiant.

Lefel 3: Ffasiwn a Thecstilau (Teilwra)

Mae'r cymhwyster Gwybodaeth yn darparu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sylfaenol ar gyfer Diploma Lefel 3 mewn Torri a Theilwra Pwrpasol (NVQ) (500/8986/9), sef y cymhwyster Cymhwysedd.

Mae'r cymhwyster Gwybodaeth yn cwmpasu sawl is-sector ac mae tair o'r unedau gorfodol wedi'u cynllunio i gael eu rhoi yn eu cyd-destun ar gyfer y Llwybr is-sector a ddewiswyd. Ar gyfer y sector teilwra, mae tair uned arall sy'n unigryw i'r Llwybr is-sector hwnnw. O fewn y cymhwyster Gwybodaeth, RHAID i'r unedau a gymeradwywyd ar gyfer y Llwybr Teilwra gael eu darparu i gefnogi'r cymhwyster Cymhwysedd gan na fydd yr unedau eraill a gymeradwywyd yn gydnaws.

Unedau Gorfodol

  • Rheoli hawliau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch a chyflogaeth o fewn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [J/601/7833];
  • Rheoli safonau ansawdd o fewn cynhyrchu dillad, esgidiau neu ledr [Y/601/7836];
  • Rheoli cysylltiadau gwaith eich hun ym maes cynhyrchu dillad, esgidiau neu ledr [H/601/7838];
  • Cynhyrchu dillad – dillad wedi'u teilwra [A/601/7862];
  • Torri dillad - dillad wedi'u teilwra [F/601/7863].

Unedau Dewisol (1 uned i'w chymryd)

  • Rheoli cynhyrchu yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [Y/601/7853];
  • Agweddau ar ddylunio yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [K/601/7856];
  • Ymarfer proffesiynol/paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [M/601/7857];
  • Rheoli cysylltiadau cwsmeriaid yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [T/601/7858];
  • Prynu (mewnforio/allforio) yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [A/601/7859];
  • Rheoli goruchwylio – arweinyddiaeth tîm yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [M/601/7860];
  • Rheoli gwybodaeth ar gyfer gweithredu yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr [T/601/7861].

Mae'r unedau'n seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Torri a Theilwra Pwrpasol 2007 a Thechnoleg Gweithgynhyrchu Dillad 2010. Bydd unedau pellach yn cael eu datblygu yn y dyfodol, i adlewyrchu anghenion y diwydiant.

Atodiad 2 - Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau (Tecstilau Technegol)

Y berthynas rhwng yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster galwedigaethol.

Tecstilau Technegol

Dyfarniadau SEG Awards Diploma Lefel 4 mewn Tecstilau Technegol a Gwisgoedd (C00/0615/6) - Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflawni o leiaf 90 credyd (isafswm o GLH 500) o’r unedau a restrir isod ar gyfer y Llwybr Tecstilau Technegol a gymeradwywyd.

Unedau gorfodol (Grŵp A) – 25 Credyd (160GLH):

  • Rheoli Hawliau a Chyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch a Chyflogaeth yn y diwydiant Tecstilau (H/502/6299);
  • Ffeibrau a Thecstilau Technegol (T/505/6892);
  • Technoleg Tecstilau Cyffredinol (R/502/2264).

Mae'r unedau gorfodol yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tecstilau (2010) a Thecstilau Technegol (2012).

Unedau dewisol (Grŵp B) - 48 Credyd (240GLH):

  • Ymwrthedd Tân a Gwres mewn Cymwysiadau Tecstilau (A/504/2668);
  • Ymwrthedd Staenau mewn Taeniadau Tecstilau (F/504/2669);
  • Ymwrthedd Uwchfioled mewn Taeniadau Tecstilau (T/504/2670);
  • Gwydnwch Ffabrig a Chryfder Cynhyrchion Tecstilau (A/504/2671);
  • Taeniadau Gwrthficrobaidd ar gyfer Cynhyrchion Tecstilau (F/504/2672);
  • Y Gallu i Anadlu mewn Cynhyrchion Tecstilau (J/504/2673);
  • Tecstilau Gwrth-Statig a Dargludol (L/504/2674);
  • Tecstilau Bioddiraddiadwy (R/504/2675).

Mae'r unedau uchod yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Tecstilau Technegol (2012).

Unedau dewisol (Grŵp C) - 17 Credyd (100GLH):

  • Rheoli safonau ansawdd – cynhyrchu tecstilau (D/502/2266);
  • Rheoli cysylltiadau eich hun o fewn cynhyrchu tecstilau (M/502/6399);
  • Agweddau ar ddylunio yn y diwydiant tecstilau (Y/502/6400);
  • Ymarfer proffesiynol/paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant tecstilau (D/502/6401);
  • Rheoli gwybodaeth ar gyfer gweithredu yn y diwydiant tecstilau (K/502/6403);
  • Cynllunio ar gyfer cynhyrchu tecstilau (F/502/2292);
  • Rheoli cysylltiadau cwsmeriaid yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr
  • (T/601/7858).

Mae'r unedau uchod yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tecstilau (2010), Technoleg Gweithgynhyrchu Dillad (2010) ac Esgidiau a Nwyddau Lledr (2010).

Mae'r cymhwyster cyfunol yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. Bydd y rhaniad rhwng credydau cymhwysedd a gwybodaeth yn amrywio o ddysgwr i ddysgwr, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir. Bydd o leiaf 21 o gredydau gwybodaeth a 4 credyd cymhwysedd yn cael eu cyflawni o ymgymryd â'r unedau gorfodol; bydd y credydau gwybodaeth a chymhwysedd sy'n weddill yn cael eu cyflawni drwy gwblhau'r unedau dewisol.

Bydd gwybodaeth a chymhwysedd yn cael eu hasesu ar wahân o fewn y cymhwyster. Gallai enghreifftiau o asesu gwybodaeth gynnwys gweithgarwch technegol yn yr ystafell ddosbarth, sesiynau gweithdy technegol penodol ac astudio ar blatfformau ar-lein.

Gellid asesu cymhwysedd drwy arsylwi gan ddefnyddio tystion arbenigol yn y gweithle, ar ffurf portffolio o gynhyrchion sy'n cael eu datblygu, darpariaeth un-i-un ar y safle neu ymweliadau asesu yn y gweithle.

Pan fydd prentisiaid wedi cyflawni'r nifer a'r cyfuniad gofynnol o gredydau, byddant yn derbyn eu Diploma ac yn hawlio am eu tystysgrif cwblhau Prentisiaeth Uwch gan yr Awdurdod Ardystio.

Lefel 4: Ffasiwn a Thecstilau (Datblygu a Chyrchu Cynnyrch)

Datblygu a Chyrchu Cynnyrch

Dyfarniadau SEG Awards Diploma Lefel 4 mewn Tecstilau Technegol a Gwisgoedd (C00/0615/6) - Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflawni o leiaf 90 credyd (540 GLH) o unedau a restrir isod ar gyfer y Llwybr Datblygu a Chyrchu Cynnyrch a gymeradwywyd.

Uned orfodol (Grŵp D) - 7 Credyd (40GLH):

  • Rheoli Hawliau a Chyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch a Chyflogaeth yn y diwydiant Tecstilau (H/502/6299).

Mae'r uned orfodol hon yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tecstilau (2010).

Unedau dewisol (Grŵp E) - 52 Credyd (310GLH):

  • Rheoli Portffolio Cynhyrchion Newydd (Y/504/2676);
  • Cynllunio a Rheoli'r Broses o Roi Gwaith ar Gontract Allanol mewn Gweithgynhyrchu (D/504/2677);
  • Costau Rhoi Gwaith ar Gontract Allanol mewn Gweithgynhyrchu (H/504/2678);
  • Sgiliau Cynllunio Marchnata Strategol yn y Diwydiannau Dylunio a Chreadigol (J/501/8387);
  • Cynllunio Busnes ac Amcanestyniadau Ariannol yn y Diwydiannau Dylunio a Chreadigol (L/501/8388);
  • Datblygu Dylunio, Creadigrwydd a Datblygu Busnes (R/501/8389);
  • Arweinyddiaeth a Rheoli Pobl yn y Diwydiannau Dylunio a Chreadigol (J/501/8390);
  • Rheoli Eiddo Deallusol yn y Diwydiannau Dylunio a Chreadigol (L/501/8391);
  • Rheoli Prosiectau Dylunio ar gyfer Ymarferwyr Creadigol (R/501/8392);
  • Cynnal Busnes yn Fyd-eang (Y/501/8393);
  • Cyllid ar gyfer Dylunwyr a Phobl Greadigol (D/501/8394).

O fewn Grŵp Dewisol E, mae'r unedau sy'n canolbwyntio ar weithgynhyrchu yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Cyrchu Cytbwys a Datblygu Cynnyrch Newydd (2010). Pan fo unedau cymwysterau dewisol cyd-destunol ar gyfer y Diwydiannau Creadigol wedi'u seilio ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol eraill, cysylltwyd â'r Cynghorau Sgiliau Sector perthnasol i roi gwybod am y defnydd o'r unedau fel rhan o’r Llwybr hwn.

Unedau dewisol (Grŵp F) - 31 Credyd (190GLH):

  • Rheoli safonau ansawdd wrth gynhyrchu dillad, esgidiau neu ledr (Y/601/7836);
  • Rheoli cysylltiadau gwaith eich hun o fewn cynhyrchu dillad, esgidiau neu ledr (H/601/7838);
  • Ymarfer proffesiynol/paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr (M/601/7857);
  • Rheoli cysylltiadau cwsmeriaid yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr (T/601/7858);
  • Rheoli gwybodaeth ar gyfer gweithredu yn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr (T/601/7861);
  • Agweddau ar ddylunio o fewn y diwydiant dillad, esgidiau neu ledr (K/601/7856);
  • Cynllunio ar gyfer cynhyrchu tecstilau (F/502/2292);
  • Technegau gweithgynhyrchu o fewn cynhyrchu dillad (M/601/7843);
  • Deunyddiau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu dillad (D/601/7854);
  • Ymchwilio i farchnadoedd, deunyddiau a steiliau (R/502/0899).

Mae'r unedau uchod yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion wedi'u Gwnïo (2009), Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Tecstilau (2010), Technoleg Gweithgynhyrchu Dillad (2010) ac Esgidiau a Nwyddau Lledr (2010).

Mae'r cymhwyster cyfunol yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. Bydd isafswm o gredydau gwybodaeth a 4 credyd cymhwysedd yn cael eu cyflawni o ymgymryd â'r uned orfodol; bydd y credydau gwybodaeth a chymhwysedd sy'n weddill yn cael eu cyflawni drwy gwblhau'r unedau dewisol. Bydd y rhaniad rhwng gwybodaeth a chymhwysedd yn amrywio o ddysgwr i ddysgwr, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir.

Bydd gwybodaeth a chymhwysedd yn cael eu hasesu ar wahân o fewn y cymhwyster. Gallai enghreifftiau o asesu gwybodaeth gynnwys gweithgarwch technegol yn yr ystafell ddosbarth, sesiynau gweithdy technegol penodol ac astudio ar blatfformau ar-lein.

Gellid asesu cymhwysedd drwy arsylwi gan ddefnyddio tystion arbenigol yn y gweithle, ar ffurf portffolio o gynhyrchion sy'n cael eu datblygu, darpariaeth un-i-un ar y safle neu ymweliadau asesu yn y gweithle.

Pan fydd prentisiaid wedi cyflawni'r nifer a'r cyfuniad gofynnol o gredydau, byddant yn

derbyn eu Diploma ac yn hawlio am eu tystysgrif cwblhau Prentisiaeth Uwch gan yr Awdurdod Ardystio.


Document revisions

19 Tachwedd 2021