Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Tirfesur (Cymru)

Framework:
Tirfesur (Cymru)
Lefel:
3

Mae 2,500 o Syrfewyr Siartredig yn cael eu cyflogi yng Nghymru ac mae canran sylweddol o’r rhain yn cael eu cyflogi yn y sector preifat. Byddai hyn yn cynnwys cwmnïau tirfesur, ymgynhoriaethau eiddo arbenigol, cwmnïau adeiladu tai, datblygwyr eiddo, ymgynghorwyr peirianneg sifil ac adeiladu, manwerthwyr, banciau, sefydliadau yswiriant a chyfleustodau.

Mae cyfleoedd hefyd yn y sector cyhoeddus sy’n cynnwys awdurdodau lleol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, prifysgolion, addaswyr colledion, cymdeithasau tai ac ymddiriedolaethau ysbytai.

Mae tirfesur yn cynnig ystod amrywiol o rolau ac mae’r brentisiaeth hon yn cynnwys Gneud Srolwg o Adeiladau, Ymarfer Cyffredinol, Cynnal a Chadw, Prisio a Gwasanaeth Mesur Meintiau.

Mae’r brentisiaeth hon yn cynnig llwybr mynediad ar Lefel 3 i’r proffesiwn ac yn canolbwyntio ar Wneud Arolwg o Eiddo, gan gwmpasu’r disgyblaethau Gwneud Arolwg o Adeiladau, Prisi Eiddo a Chynnal a Chadw, Ymarfer Cyffredinol a Gwasanaeth Mesur Meintiau.

 

 

Opsiynau a lefelau llwybrau

Tirfesur - Lefel 3

Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Technegydd Mesur Meintiau, Technegydd Syrfëwr Adeiladau, Technegydd Syrfëwr Ymarfer Cyffredinol, Technegydd Syrfëwr Cynnal a Chadw a Thechnegydd Syrfëwr Prisio.

 

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 3: 18-24 mis

 

Llwybrau dilyniant

 

Mae’r llwybrau’n cynnwys:

  • Cyflogaeth
  • Diploma Lefel 6 mewn Tirfesur, Eiddo a Chynnal a Chadw
  • Graddau HNC a Sylfaen mewn Gwneud Arolwg o Adeiladau, Rheoli Ystadau/ Eiddo/ Gwneud Arolwg o Eiddo Preswyl/Adeiladu
  • Aelodaeth o sefydliadau proffesiynol

 

Cymwysterau

Lefel 3: Diploma NVQ mewn Tirfesur, Eiddo a Chynnal a Chadw

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 3

Mae cyflogwyr yn ceisio denu ymgeiswyr o bob math o gefndiroedd a phrofiad, ac efallai y bydd rhai wedi cael profiad - gyda neu heb dâl - yn y sector.

Mae rhai o’r llwybrau i’r brentisiaeth Tirfesur fel a ganlyn:

  • Cyflawni Safonau Uwch Bagloriaeth Cymru Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
  • TGAU
  • Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) mewn Adeiladu neu faes cysylltiedig

Bydd disgwyl i chi feddu ar sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol fel sail i’r brentisiaeth a byddwch yn barod i weithio fel rhan o dîm a chyfathrebu ag ystod eang o weithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â’r sector.

Bydd angen i chi weithio yn yr awyr agored ac ar safleoedd adeiladu mewn rhai rolau tirfesur, ac efallai y bydd angen gweithio ar uchder.

Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol.  

 

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

22 Tachwedd 2022