Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Systemau Oeri ac Aerdymheru

Framework:
Systemau Oeri ac Aerdymheru
Lefel:
2/3

Mae'r fframweithiau galwedigaeth yn y ddogfen hon wedi'u cynllunio i roi cyfle i newydd-ddyfodiaid a'r rhai sydd am gamu ymlaen yn eu gyrfa ddatblygu cymwyseddau sydd eu hangen i gyflawni swyddi a chyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â gosod, cynnal a chadw a chomisiynu systemau oeri ac aerdymheru, gan gynnwys:

Arferion Gorau, Adeiladu Cynaliadwy, Technolegau Amgylcheddol, Gofynion a Newidiadau Technolegol Rheoliadau a gofynion statudol ac anstatudol.

Mae'r rhaglen yn debygol o fod yn addas os oes gennych y priodweddau canlynol:

  • Dawn ar gyfer pynciau technegol a/neu waith ymarferol a diddordeb mewn technoleg
  • Gallu dangos y gallu i ddatrys problemau ymarferol.

Gall meini prawf dethol eraill gynnwys:

  • Cymhelliant i lwyddo
  • Parodrwydd i ddysgu a defnyddio'r hyn a ddysgir yn y gweithle/swydd
  • Brwdfrydedd ac agwedd dda at waith
  • Y gallu i ddangos bod gennych y potensial i ennill y cymwysterau sy'n rhan o'r rhaglenni Sylfaen (Lefel 2) a/neu raglenni Prentisiaeth (Lefel 3)
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl
  • Sgiliau rhifedd a llythrennedd
  • Gallu gweld lliwiau'n dda er mwyn adnabod gwifrau a chydrannau â chod lliw
  • Y gallu i weithio ar uchder neu mewn mannau cyfyng
  • Parodrwydd i weithio yn yr awyr agored
  • Parodrwydd i weithio oriau anghymdeithasol
  • Parodrwydd i gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) pan fydd angen.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Systemau Oeri ac Aerdymheru – Lefel 2

Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Gweithiwr Systemau Oeri.

Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Gweithiwr Systemau Aerdymheru.

Systemau Oeri ac Aerdymheru - Lefel 3

Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Technegydd Gwasanaethu a Chynnal a Chadw Systemau Oeri.

Llwybr 4: Addas ar gyfer swydd Technegydd Gwasanaethu a Chynnal a Chadw Systemau Aerdymheru.

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 2: 24 mis

Lefel 3: 24 mis

Llwybrau dilyniant

Lefel 2 Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Cofrestru ar Gynllun Ardystio priodol
  • Camu ymlaen i raglenni dysgu ac asesu sy'n arwain at gymwysterau Lefel 3 perthnasol a/neu Brentisiaeth 
  • Camu ymlaen i gyflogaeth.

Lefel 3 Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Cofrestru ar gyfer Cynllun Ardystio perthnasol y diwydiant
  • Camu ymlaen i gymwysterau Lefel 4/5 perthnasol e.e. Gradd Rheoli Technoleg a Phrosiectau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu Radd Sylfaen mewn Peirianneg
  • Camu ymlaen i Brentisiaethau Lefel 6 sy'n gysylltiedig â'r maes hwn, fel ym maes Rheoli Technoleg a Phrosiectau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
  • Sefyll Prawf Masnach perthnasol i ddangos cymhwysedd i weithio yng ngwledydd eraill y DU
  • Derbyn rhagor o hyfforddiant er mwyn camu ymlaen i swyddi fel Technegydd, Dylunydd, Amcangyfrifwr, Rheolwr Prosiect, Goruchwylydd/Rheolwr Safle/Gweithdy, Peiriannydd Siartredig, Peiriannydd Gwerthiant neu Reolwr Masnachol.

Cymwysterau

Lefel 2: Diploma NVQ yn y llwybr o’ch dewis 

Lefel 3: Llwybr 2: Tystysgrif NVQ yn y llwybr o’ch dewis

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 2

Lefel 2: Dyma enghreifftiau o gymwysterau ffurfiol y gellir eu defnyddio i ddangos bod gan ymgeisydd y potensial i gamu ymlaen i'r fframwaith Sylfaen (Lefel 2) mewn Systemau Oeri, a'i gwblhau:

  • Diploma Sylfaen Bagloriaeth Cymru
  • Cwblhau 'Llwybr at Brentisiaeth' ym maes Peirianneg
  • Cymhwyster TGAU gradd A-D ym mhob un o'r canlynol:- pwnc cyfathrebu, mathemateg a naill ai pwnc gwyddoniaeth neu bwnc technegol
  • Cymwysterau GNVQ Lefel 1 mewn pynciau galwedigaethol/technegol perthnasol
  • Cymhwyster Safon Uwch 1 'Mynediad at Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu'.

Lefel 3

Lefel 3Fel arfer, byddai'r Diwydiant Systemau Oeri/Aerdymheru yn disgwyl bod mynediad at y fframwaith hwn ar gyfer pobl sydd eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel Ganolradd mewn Systemau Oeri/Aerdymheru, neu ar gyfer unigolion sydd â phrofiad a gwybodaeth sy'n cyfateb i ofynion y rhaglen.  

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

26 Tachwedd 2021