- Framework:
- Systemau Gwresogi ac Awyru
- Lefel:
- 2/3
Mae peirianwyr gwresogi ac awyru yn gosod ac yn gwasanaethu systemau gwresogi ac awyru mewn adeiladau mawr fel ffatrïoedd, ysgolion ac ysbytai.
Fel peiriannydd bydd angen i chi allu:
- gweithio ar uchder ac mewn mannau cyfyng
- gweithio ar eich pen eich hun neu heb fawr o oruchwyliaeth
- meithrin cydberthnasau a chyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl
- darllen lluniadau adeiladau a pheirianneg
- deall gwifrau rheoli gwres a diagramau cylched/ gallu gweld lliwiau'n dda er mwyn adnabod gwifrau a chydrannau wedi'u codio
- dewis deunyddiau a chyfarpar
- archwilio a phrofi gosodiadau
- canfod ac atgyweirio namau
- ysgrifennu adroddiadau
- bod yn barod i ddysgu gyrru os nad oes gennych drwydded yrru eisoes gan y bydd angen i chi yrru i safle cwsmeriaid ar gyfer llawer o'r gwaith.
Bydd gyrfa yn y Diwydiant Gwresogi ac Awyru nid yn unig yn gwobrwyo potensial, ond bydd yn cynnig cyfleoedd i wella eich gallu technegol hefyd.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Systemau Gwresogi ac Awyru - Lefel 2
Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Gosodwr Systemau Gwresogi ac Awyru
Llwybr 3: Addas ar gyfer swydd Gweithiwr Gwasanaethau a Chynnal a Chadw Systemau Gwresogi ac Awyru
Systemau Gwresogi ac Awyru - Lefel 3
Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Weldiwr Gwresogi ac Awyru a Pheiriannydd Gwresogi ac Awyru
Llwybr 3: Addas ar gyfer swydd Peiriannydd Gwasanaethu a Chynnal a Chadw Systemau Gwresogi ac Awyru
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 24 mis
Lefel 3: 24 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cofrestru ar gyfer Cynllun Ardystio priodol
- Rhaglenni dysgu ac asesu sy'n arwain at gymwysterau Lefel 3 perthnasol a/neu Brentisiaeth (Lefel 3)
- Rhagor o hyfforddiant i wneud swyddi fel Technegydd, Amcangyfrifwr Dylunio, Rheolwr Prosiect, Goruchwylydd/Rheolwr Safle/Gweithdy, Peiriannydd Siartredig, Peiriannydd Gwerthiant neu Reolwr Masnachol.
Lefel 3
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- cofrestru ar gyfer Cynllun Ardystio perthnasol y diwydiant
- cymwysterau Lefel 4/5 perthnasol e.e. Gradd Rheoli Technoleg a Phrosiectau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu Radd Sylfaen mewn Peirianneg
- Prentisiaethau Lefel 6 sy'n gysylltiedig â'r maes hwn fel Rheoli Technoleg a Phrosiectau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
Rhagor o hyfforddiant er mwyn camu ymlaen i swyddi fel Technegydd, Amcangyfrifwr Dylunio, Rheolwr Prosiect, Goruchwylydd/Rheolwr Safle/Gweithdy, Peiriannydd Siartredig, Peiriannydd Gwerthiant neu Reolwr Masnachol.
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma NVQ yn y llwybr sy'n cael ei ddewis
Lefel 3: Diploma NVQ yn y llwybr sy'n cael ei ddewis
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Er nad oes unrhyw ofynion mynediad neu brofiad blaenorol sylfaenol wedi'u pennu yn genedlaethol yn gyffredinol, gellir defnyddio'r enghreifftiau canlynol o gymwysterau ffurfiol fel arwydd o'r potensial i gamu ymlaen i'r brentisiaeth:
Lefel 2:
- Diploma Sylfaen Bagloriaeth Cymru
- Cwblhau 'Llwybr at Brentisiaeth' ym maes Plymio
- Cymhwyster TGAU gradd A-D ym mhob un o'r canlynol:- pwnc cyfathrebu, mathemateg a naill ai pwnc gwyddoniaeth neu bwnc technegol
- Cymwysterau GNVQ Lefel 1 mewn pynciau galwedigaethol/technegol perthnasol
- Cymhwyster 'Mynediad at Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu' Lefel 1.
Lefel 3
Er nad oes unrhyw ofynion mynediad neu brofiad blaenorol sylfaenol wedi'u pennu yn genedlaethol yn gyffredinol, gellir defnyddio'r enghreifftiau canlynol o gymwysterau ffurfiol fel arwydd o'r potensial i gamu ymlaen i'r brentisiaeth:
- Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru
- Cwblhau 'Llwybr at Brentisiaeth' ym maes Plymio
- Cymhwyster TGAU gradd A-C ym mhob un o'r canlynol:- pwnc cyfathrebu, mathemateg a naill ai pwnc gwyddoniaeth neu bwnc technegol
- Cymwysterau GNVQ Lefel 2 mewn pynciau galwedigaethol/technegol perthnasol
- Cymhwyster 'Mynediad at Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu' Lefel 2.
Fel arfer, byddai'r Diwydiant Gwresogi ac Awyru yn disgwyl bod mynediad i Lefel 3 ar gyfer unigolion sydd eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) mewn Gosod Systemau Piblinellau Gwresogi ac Awyru Diwydiannol a Masnachol, neu ar gyfer unigolion sydd â phrofiad a gwybodaeth gyfwerth.
Gweld llwybr llawn