Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Electrodechnegol

Framework:
Electrodechnegol
Lefel:
3

Bwriad y llwybrau hyn yw rhoi cyfle i chi ddatblygu’r cymwyseddau sydd eu hangen i gyflawni rolau a chyfrifoldebau swyddi sy'n gysylltiedig â gosod a/neu gynnal a chadw systemau a chyfarpar electrodechnegol mewn adeiladau, adeileddau a'r amgylchedd.

Bydd gyrfa yn y Diwydiant Electrodechnegol nid yn unig yn gwobrwyo potensial, ond bydd yn cynnig cyfleoedd i wella eich gallu technegol hefyd. Mae angen unigolion o allu priodol ar y diwydiant bob amser, ac yn gyfnewid am hynny mae'n cynnig gyrfa amrywiol a phleserus mewn amgylchedd gwaith heriol.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Diwydiant Electrodechnegol - Lefel 3

Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Gosodiadau Trydanol

Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Cynnal a Chadw Trydanol

Mwy o wybodaeth

Hyd

42 mis

Llwybrau dilyniant

Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth (Lefel 3) mewn Gosodiadau Trydanol yn llwyddiannus, bydd gennych chi'r sgiliau, y wybodaeth a'r cymwysterau i wneud y canlynol:

  • Cofrestru ar gyfer Cynllun Ardystio perthnasol y diwydiant
  • Camu ymlaen i gymwysterau Lefel 4/5 perthnasol e.e. Gradd Rheoli Technoleg a Phrosiectau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu Radd Sylfaen mewn Peirianneg
  • Camu ymlaen i Brentisiaethau Lefel 6 sy'n gysylltiedig â'r maes hwn megis Rheoli Technoleg a Phrosiectau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
  • Camu ymlaen i hyfforddiant pellach i wneud swyddi fel Technegydd, Dylunydd System, Amcangyfrifwr, Rheolwr Prosiect, Goruchwylydd/Rheolwr Safle/Gweithdy, Peiriannydd Siartredig, Peiriannydd Gwerthiant neu Reolwr Masnachol.

Cymwysterau

  Diploma NVQ Lefel 3 yn y llwybr o'ch dewis. 

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 3

Er nad oes unrhyw ofynion mynediad sylfaenol neu ofynion profiad blaenorol yn gyffredinol, mae'r rhaglen yn debygol o fod yn addas ar gyfer yr unigolion canlynol:

  • Unigolion sydd â dawn ar gyfer pynciau technegol a/neu waith ymarferol. Unigolion sydd â diddordeb mewn technoleg
  • Unigolion sy'n gallu dangos y gallu i ddatrys problemau ymarferol.

Gall meini prawf dethol eraill gynnwys:

  • Cymhelliant i lwyddo
  • Parodrwydd i ddysgu a defnyddio'r hyn a ddysgir yn y gweithle/swydd
  • Brwdfrydedd ac agwedd at waith
  • Y gallu i ddangos bod ganddynt y potensial i gyflawni'r cymwysterau sy'n rhan o'r fframweithiau Prentisiaeth (Lefel 3)
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl
  • Bod yn rhifog ac yn llythrennog
  • Gallu gweld lliwiau'n dda er mwyn adnabod gwifrau a chydrannau â chod lliw
  • Y gallu i weithio ar uchder neu mewn mannau cyfyng
  • Parodrwydd i weithio yn yr awyr agored. Parodrwydd i weithio oriau anghymdeithasol
  • Parodrwydd i gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) pan fo angen.

Dyma enghreifftiau o gymwysterau ffurfiol a allai awgrymu bod gan ymgeisydd y potensial i gamu ymlaen i'r brentisiaeth:

  • Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru
  • Cwblhau 'Llwybr at Brentisiaeth' ym maes Peirianneg
  • Cwblhau un o fframweithiau Sylfaen (Lefel 2) yn llwyddiannus yn y sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
  • Cymhwyster TGAU gradd A-C ym mhob un o'r canlynol:- pwnc cyfathrebu, mathemateg a naill ai pwnc gwyddoniaeth neu bwnc technegol
  • Cymwysterau GNVQ Lefel 2 mewn pynciau galwedigaethol/technegol perthnasol
  • Cymhwyster Safon Uwch 2 'Mynediad at Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu'.
Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

26 Tachwedd 2021