Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Adeiladu - Technegol

Framework:
Adeiladu - Technegol
Lefel:
3

Nod y fframwaith hwn yw denu, cadw a datblygu talent mewn amrywiaeth o alwedigaethau Technegol ar gyfer Prentisiaeth (lefel 3) mewn Adeiladu - Technegol, a darparu cyfle i gamu ymlaen i lefel oruchwylio a rheoli.

Rhaid i bob ymgeisydd fod â lefel addas o ffitrwydd corfforol i gyflawni agweddau ar y swydd (e.e. gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd a gweithio ar uchder neu o dan y ddaear).

Opsiynau a lefelau llwybrau

Prentisiaeth Dechnegol - Lefel 3

Llwybr 1: Yr Amgylchedd Adeiledig a Dylunio – addas ar gyfer swydd Technegydd Dylunio Adeiladu
Llwybr 2: Gweithrediadau Contractio Adeiladu – addas ar gyfer swydd Technegydd Safle
Llwybr 3: Goruchwylio Safleoedd Adeiladu (wedi symud i Lefel 4)
Llwybr 4: Peirianneg Sifil ar gyfer Technegwyr - addas ar gyfer swydd Technegydd Peirianyddol  
Llwybr 5: Goruchwylio Gwaith Galwedigaethol – addas ar gyfer swydd Goruchwylydd gwaith

Gwaith Llwybr 6: Rheoli Gwaith Adeiladu – addas ar gyfer swydd Technegydd Rheoli Adeiladu

Llwybr 7: Dadansoddi Data Geomateg - addas ar gyfer swydd Dadansoddwr Data Geomateg
Llwybr 8: Cynllunio Trefol - addas ar gyfer swydd Swyddog Cymorth Technegol Cynllunio Trefol

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 3: 24 mis

Llwybrau dilyniant

Bydd amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gael, gan gynnwys Adeiladu, Peirianneg Sifil a galwedigaethau Arbenigol.

Ar ôl cael profiad gwaith yn y maes galwedigaethol dewisol bydd modd camu ymlaen i:

• Diploma NVQ Lefel 4 mewn Goruchwylio Safleoedd Adeiladu

• Diploma NVQ Lefel 6 mewn Gweithrediadau Contractio Adeiladu

• Diploma NVQ Lefel 6 mewn Rheoli Safleoedd Adeiladu

Neu

HNC/HND

• Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

• Peirianneg Sifil

• Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu

• Adeiladu

• Rheoli Adeiladu

Gradd Sylfaen

• Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

• Peirianneg Sifil

• Rheoli Adeiladu

• Cadwraeth ac Adfer

• Syrfëwr Meintiau

• Pensaernïaeth/Dylunio

• Technoleg Bensaernïol

• Tirfesur Adeiladau

• Rheoli Adeiladu

 

 

Cymwysterau

Diploma NVQ Lefel 3 yn y llwybr o'ch dewis

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 3

Mae sawl ffordd wahanol o gael mynediad i'r brentisiaeth hon, er enghraifft:

  • Rhaid i ymgeiswyr fod â statws cyflogedig ar ddechrau ac ar ddiwedd diwedd y brentisiaeth
  • Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y cymhwyster Prif Ddysgu mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig ar lefel Sylfaen, Canolradd ac Uwch
  • Safon Uwch a TGAU
  • Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru neu unrhyw un o'r Sgiliau Allweddol ehangach
  • Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2)
  • Prentisiaeth (Lefel 3)
  • Diploma Sgiliau Modern ar gyfer Technegwyr neu Reolwyr
Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

26 Tachwedd 2021