Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Arbenigwr Adeiladu

Framework:
Arbenigwr Adeiladu
Lefel:
2/3

Mae angen amrywiaeth o sgiliau a galluoedd gwahanol ar gyfer y diwydiant adeiladu.

O waith plymio i osod brics, a chynllunio trefi i reoli prosiectau, mae cwblhau prentisiaeth adeiladu yn darparu'r sgiliau ymarferol angenrheidiol i chi weithio yn y sector ymarferol hwn.

Mae adeiladu yn ymwneud â gwaith cynllunio, adeiladu ac atgyweirio'r amgylchedd adeiledig. Mae'r diwydiant adeiladu yn cynnwys amrywiaeth eang o grefftau arbenigol, sy'n ymwneud yn bennaf â gweithio mewn adeiladau masnachol, diwydiannol a phreswyl. Mae'r rhan fwyaf o waith adeiladu yn ymwneud â gwaith atgyweirio a gwaith adnewyddu bach, ond mae'n gallu cynnwys gwaith mawr i seilwaith.

Mae sawl math o yrfa ar gael ym maes adeiladu. Mae swyddi ar gael ym meysydd adeiladu, gosod brics, plymio, gwaith coed, tirfesur a rheoli safleoedd. Yn aml, bydd prosiect adeiladu yn cynnwys y crefftau gwahanol hyn.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Arbenigedd Adeiladu - Lefel 2

Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Sgaffaldiwr, Simneiwr a Pheiriannydd Dargludydd Mellt

Llwybr 2:  Addas ar gyfer swydd Töwr Ffelt

Llwybr 3:  Addas ar gyfer swyddi Gosod Llenni ar Doeon a Chladin ar Furiau

Llwybr 4:  Addas ar gyfer swyddi Teilsiwr Muriau a Lloriau  

Llwybr 5:  Addas ar gyfer swyddi Ffitiwr Ceginau/Ystafelloedd Ymolchi

Llwybr 6:  Addas ar gyfer swydd Gosodwr Lloriau

Llwybr 7:  Addas ar gyfer swyddi fel Gosodwr Muriau Mewnol, Gwaith Sefydlu/Rhannu Toeon a Gosodwr Lloriau Mynediad

Llwybr 8:  Addas ar gyfer swydd gwaith Asffalt Mastig

Llwybr 9:  Addas ar gyfer swyddi Plastrwr Gorchuddio a Phlastrwr Ffibrog

Llwybr 10: Addas ar gyfer swyddi Töwr a Theilsiwr Toeau

Llwybr 11: Addas ar gyfer swydd Saer Maen Banc

Llwybr 12: Addas ar gyfer swydd gosod deunydd inswleiddio a thrin adeiladau

Llwybr 13: Addas ar gyfer swydd gosodwr deunydd inswleiddio thermol

 

Arbenigedd Adeiladu - Lefel 3

Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Plastrwr a Phlastrwr Ffibrog

Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Töwr a Theilsiwr Toeau

Llwybr 3: Addas ar gyfer swydd Saer Maen Banc

Llwybr 4: Addas ar gyfer swyddi Teilsiwr Muriau a Lloriau  

Llwybr 5: Addas ar gyfer swyddi Saer Maen, Briciwr, Peintiwr ac Addurnwr, Teilsiwr Mur a Llawr, Plastrwr, Saer Mainc, Töwr Llechi a Theilsiwr

Llwybr 6: Addas ar gyfer swydd gwaith Asffalt Mastig

Llwybr 7: Addas ar gyfer swydd Peiriannydd Deunydd Inswleiddio Thermol

 

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 2: 12-18 mis

Lefel 3: 30 mis

 

Llwybrau dilyniant

Lefel 2: NVQ Lefel 3 yn y llwybr sy'n cael ei ddewis, cyflogaeth. Yn dilyn profiad gwaith, mae cyfleoedd ar gael i gamu ymlaen i feysydd goruchwylio gwaith galwedigaethol, rheoli neu gymorth technegol.

Lefel 3: Diploma NVQ Lefel 6 yn y llwybr sy'n cael ei ddewis, Addysg Bellach neu Addysg Uwch fel HNC/HND/Gradd Sylfaen, Cyflogaeth. 

Cymwysterau

Lefel 2: Diploma/Diploma estynedig/Tystysgrif NVQ/Diploma BTEC Edexcel yn y llwybr sy'n cael ei ddewis

Lefel 3: Diploma/Diploma Edexcel/Diploma NVQ/Diploma NOCN yn y llwybr sy'n cael ei ddewis.

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 2

Mae sawl ffordd wahanol o ddechrau prentisiaeth mewn Arbenigedd Adeiladu, er enghraifft:

• wedi gweithio ym maes adeiladu o'r blaen e.e. fel labrwr

• Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y cymhwyster Prif Ddysgu mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig ar lefel Sylfaen, Canolradd ac Uwch.

• Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru neu unrhyw un o'r Sgiliau Allweddol ehangach

• NVQ Lefel 1 mewn galwedigaeth adeiladu

• Safon Uwch a TGAU

• profiad gwaith ac agwedd gadarnhaol

• Dysgu Cyn Prentisiaeth

• Rhaglen Recriwtiaid Newydd

Lefel 2:  Dim gofynion mynediad ychwanegol.  

Lefel 3

Mae sawl ffordd wahanol o ddechrau prentisiaeth mewn Arbenigedd Adeiladu, er enghraifft:

• wedi gweithio ym maes adeiladu o'r blaen e.e. fel labrwr

• Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y cymhwyster Prif Ddysgu mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig ar lefel Sylfaen, Canolradd ac Uwch.

• Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru neu unrhyw un o'r Sgiliau Allweddol ehangach

• NVQ Lefel 1 mewn galwedigaeth adeiladu

• Safon Uwch a TGAU

• profiad gwaith ac agwedd gadarnhaol

• Dysgu Cyn Prentisiaeth

• Rhaglen Recriwtiaid Newydd

Lefel 3: Dim gofynion mynediad ychwanegol. 

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

26 Tachwedd 2021