- Framework:
- Rheoli Adeiladu
- Lefel:
- 4/5/6
Mae Prentisiaethau Uwch yn rhaglenni seiliedig ar waith cenedlaethol sy'n seiliedig ar angen cyflogwyr. Maen nhw’n galluogi unigolion mewn cyflogaeth i ddatblygu'r wybodaeth dechnegol a'r cymhwysedd i gyflawni swydd ddiffiniedig.
Bydd y Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli Adeiladu ar Lefelau 4, 5 a 6 yn darparu cyfle i gamu ymlaen ar gyfer technegwyr, gweithwyr proffesiynol a rheolwyr uwch mewn amrywiaeth o yrfaoedd ym maes adeiladu a'r amgylchedd adeiledig.
Er mwyn cwblhau Prentisiaeth Adeiladu mae'n rhaid i chi fod wedi'ch cyflogi yn ystod y brentisiaeth, wedi dangos cymhwysedd yn yr ystod benodedig o sgiliau galwedigaethol a bod â statws cyflogedig wrth gwblhau’r brentisiaeth.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Goruchwylio Safle Adeiladu Lefel 4
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Rheolwr Safle, Rheolwr Prosiect a
Pheiriannydd Safle.
Rheoli Adeiladu – Lefel 5
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Technegydd Adeiladu a Thirfesur, Technegydd Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu a Thechnegydd Peirianneg Sifil.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Rheolwr Safle a Thechnegydd Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
Rheoli Safle Adeiladu - Lefel 6
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Rheoli Safle.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 4: 24 mis
Lefel 5: 36 mis
Lefel 6: 24 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 4
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- NVQ Lefel 5 mewn Rheoli Safle Adeiladu
- Diploma NVQ Lefel 6 mewn Gweithrediadau Contractio Adeiladu
- Diploma NVQ Lefel 6 mewn Rheoli Safle Adeiladu
Lefel 5:
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Diploma NVQ Lefel 6 mewn Gweithrediadau Contractio Adeiladu
- Diploma NVQ Lefel 6 mewn Rheoli Safle Adeiladu
- BSc (Anrh) mewn Rheoli a Thechnoleg Adeiladu
Lefel 6:
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyfleoedd i ymgymryd â gradd mewn Rheoli Adeiladu neu Beirianneg Sifil a fyddai'n arwain at swyddi Rheolwr Prosiect, Rheolwr Contractau a Chyfarwyddwr Adeiladu yn y pen draw
Cymwysterau
Lefel 4: Diploma NVQ mewn Goruchwylio Safleoedd Adeiladu
Lefel 5: Diploma NVQ Edexcel mewn Rheoli Adeiladu yn y llwybr o'ch dewis
Lefel 6: Diploma NVQ mewn Rheoli Safle Adeiladu
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 4
Mae’n rhaid i chi fod â lefel addas o ffitrwydd corfforol i gyflawni agweddau ar y swydd (e.e. gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd a gweithio ar uchder neu o dan y ddaear) ar gyfer pob lefel o'r brentisiaeth hon.
Lefel 4: Rhaid i chi ennill cymhwyster Lefel 3 fel y nodwyd yn y gofynion mynediad a ganiateir ar gyfer pob llwybr, neu fod â phrofiad blaenorol priodol o weithio yn y sectorau a nodwyd ac o leiaf ddwy flynedd o brofiad o weithio ar safle.
Nid yw'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr iau (cyn 18+).
Mae angen i chi fod â statws cyflogedig a gweithio mewn capasiti goruchwylio yn y diwydiant er mwyn bodloni gofynion y llwybr hwn.
Lefel 5
Lefel 5: Mae angen i chi fod â statws cyflogedig a gweithio mewn capasiti goruchwylio yn y diwydiant er mwyn bodloni gofynion y llwybr hwn.
Lefel 6
Lefel 6: Mae angen i chi fod â statws cyflogedig a gweithio mewn capasiti goruchwylio yn y diwydiant er mwyn bodloni gofynion y llwybr hwn.
Mae'r Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli Adeiladu - Lefel 6 wedi'i chynllunio'n benodol i ddarparu'r cyfle i gamu ymlaen o lefel 5, fel y Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli Gweithrediadau Adeiladu, yn ogystal â chymwysterau lefel 5 perthnasol eraill hyd at radd Anrhydedd seiliedig ar waith gyda chydnabyddiaeth broffesiynol.
Hefyd, mae'r rhaglenni wedi'u cynllunio i ddarparu'r llwybrau arbenigol ym maes Rheoli Safleoedd Adeiladu.
Gweld llwybr llawn