- Framework:
- Peirianneg Sifil
- Lefel:
- 2/3
Mae gan y diwydiant adeiladu raglen Brentisiaeth draddodiadol sy'n cwmpasu'r galwedigaethau Peirianneg Sifil.
Bydd y fframwaith hwn yn helpu i ddenu, cadw a datblygu talent mewn galwedigaethau Peirianneg Sifil amrywiol ar lefel Sylfaen (Lefel 2) a Phrentisiaeth (lefel 3) mewn Peirianneg Sifil Adeiladu, ac yn darparu cyfle i gamu ymlaen i lefel oruchwylio a rheoli.
Mewn rhai meysydd galwedigaethol, byddai disgwyl i brentisiaid weithio ar uchder ac yn yr awyr agored ym mhob tywydd. Hefyd, gellid disgwyl iddynt deithio i safleoedd, neu mewn rhai achosion aros mewn llety wrth weithio oddi cartref.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Peirianneg Sifil Adeiladu - Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Gweithiwr Adeiladu.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Gweithiwr Estyllod.
Llwybr 3: Addas ar gyfer swydd Gweithiwr Cynnal a Chadw Priffyrdd.
Llwybr 4: Addas ar gyfer swydd Peiriannydd Offer
Llwybr 5: Addas ar gyfer swydd Gweithredydd Offer
Llwybr 9: Addas ar gyfer swydd Trwsio Dur
Peirianneg Sifil Adeiladu - Lefel 3
Addas ar gyfer swydd Peiriannydd Offer.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12-18 mis
Lefel 3 : 30 mis
Llwybrau dilyniant
Mae'r llwybrau'n cynnwys cyflogaeth a Phrentisiaeth (Lefel 3) (lle bo'n berthnasol) a chyfleoedd i gamu ymlaen i feysydd goruchwylio gwaith galwedigaethol, rheoli neu gymorth technegol.
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma NVQ Lefel 2/Diploma Lefel 2/Diploma BTEC Lefel 2/Tystysgrif Lefel 2 yn y llwybr o'ch dewis.
Lefel 3: Diploma NVQ Lefel 3/Diploma Lefel 3 mewn Peiriannau Adeiladu neu Gynnal a Chadw Peiriannau.
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefels 2 a'r 3
Mae sawl ffordd wahanol o ddechrau prentisiaeth mewn peirianneg sifil adeiladu, er enghraifft:
• wedi gweithio ym maes adeiladu o'r blaen e.e. fel labrwr
• Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y cymhwyster Prif Ddysgu mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig ar lefel Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
• Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru neu unrhyw un o'r Sgiliau Allweddol ehangach
• NVQ Lefel 1 mewn galwedigaeth adeiladu
• Safon Uwch a TGAU
• profiad gwaith ac agwedd gadarnhaol
• Dysgu Cyn Prentisiaeth
• Rhaglen Recriwtiaid Newydd
Gweld llwybr llawn