Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Gosod Brics

Framework:
Gosod Brics
Lefel:
3

Cynlluniwyd y Brentisiaeth hon i roi cyfle i unigolion ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni gosod brics mewn adeiladau masnachol, diwydiannol a phreswyl gan gynnwys yr holl ddyletswyddau perthnasol.

Gweithio ar safle adeiladu, yn unol â manylebau a roddir, gan nodi strwythurau adeiladu sylfaenol a chymhleth gan gynnwys adeiladu waliau gyda brics a blociau, gosod draeniau domestig, gosod a gorffen arwynebau concrit a rendrad.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Lefel 3 Gosod Brics

Supports the role of a Bricklayer

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 3: 18-42 mis

Llwybrau dilyniant

  • Wneud cais am gerdyn Crefft Uwch CSCS trwy CSCS yn www.cscs.uk.com/
  • Datblygu ar Brentisiaeth Lefel Uwch Berthnasol 
  • Datblygu yn ei yrfa gyda hyfforddiant pellach ar gyfer swydd megis, Goruchwyliwr/Rheolwr Safle / Gweithdy ayb

Cymwysterau

Adeiladu (Lefel 3) - Gosod Brics

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Level 3

Mae’r brentisiaeth hon yn addas i ddysgwyr sy’n :

  • 16 oed ac yn hŷn sy’n gweithio yn y grefft ar hyn o bryd ac sydd un ai:
  •  Wedi cyflawni y Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu
  • Gyda Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 neu 3 yn y grefft y mae'r brentisiaeth i'w dilyn ynddi neu
  • Gyda 3 blynedd neu fwy o gyflogaeth ddilys yn y grefft y mae'r brentisiaeth i'w chyflawni ynddi .

ac un neu fwy o'r canlynol :

  • Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
  • Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
  • Diploma Lefel 2 neu 3 yn y Grefft Adeiladu y mae’r brentisiaeth i’w dilyn ynddi.
  • Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar Lefel 1.
  • TGAU gradd A*-D yn unrhyw ddau o’r canlynol: - pwnc cyfathrebu, mathemateg, ac un ai gwyddoniaeth neu bwnc technegol
  • Gradd A*- D yn TGAU Amgylchedd Adeiledig CBAC.
  • Lefel 2 Teilyngdod  Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 mewn Dylunio'r Amgylchedd Adeiledig.
  • A/AS Amgylchedd Adeiledig, GCE CBAC.
  • Teilyngdod, Pearson BTEC Lefel 1/Lefel 2 Dyfarniad Technegol mewn Adeiladu a’r Amgylched Adeiledig
Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

20 Chwefror 2023