- Framework:
- Gwaith chwarae
- Lefel:
- 2/3
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Chwarae wedi'i bwriadu'n bennaf ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed sydd am ddechrau gyrfa yn y sector gwaith chwarae. Fodd bynnag, fe allai fod yn addas hefyd i unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y sector ac sy'n awyddus i ennill cymwysterau a sgiliau, neu i sefydliadau sydd eisoes yn ymwneud â'r sector sy'n awyddus i ddatblygu ac uwchsgilio eu staff i ddarparu gwasanaeth o safon i blant a phobl ifanc.
Fel gweithiwr chwarae cynorthwyol / cynorthwyydd canolfan chwarae byddwch yn gweithio o dan oruchwyliaeth y prif weithiwr chwarae, gan helpu i drefnu a hwyluso cyfleoedd gwaith chwarae.
Mae'r Brentisiaeth mewn Gwaith Chwarae wedi'i chynllunio ar gyfer unigolion sy'n awyddus i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau er mwyn cael gwaith, neu ar gyfer unigolion sydd eisoes yn cael eu cyflogi mewn lleoliad gwaith chwarae sydd am gamu ymlaen yn eu gyrfa.
Fel Gweithiwr Chwarae/Uwch Weithiwr Chwarae byddwch yn gyfrifol am oruchwylio'r tîm yn y lleoliad gwaith chwarae, gan sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'n cael eu dilyn, a bod amrywiaeth o gyfleoedd chwarae'n cael eu darparu.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Gwaith Chwarae - Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Gweithiwr Chwarae Cynorthwyol/Cynorthwyydd Canolfan Chwarae
Gwaith Chwarae - Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Gweithiwr Chwarae/Uwch Weithiwr Chwarae |
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12 mis
Lefel 3: 18 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2: Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae.
Lefel 3: Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Ymgymryd â swydd rheolwr cynorthwyol neu reolwr mewn lleoliad chwarae a bod yn gyfrifol am staff cymwysedig.
- Camu ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau Addysg Bellach neu Addysg Uwch i astudio pynciau sy'n berthnasol i'r sector.
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma mewn Gwaith Chwarae (NVQ)
Lefel 3: Diploma mewn Gwaith Chwarae (NVQ)
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Dylech fod ag agwedd gadarnhaol, ysgogol a'r gallu i weithredu'n hyderus fel aelod o dîm neu ar eich pen eich hun, ynghyd â'r parodrwydd i weithio shifftiau a theithio rhwng safleoedd. Dylech fod yn barod i gael gwiriad gan yr heddlu os oes angen hynny oherwydd eich lleoliad cyflogaeth.
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Lefel 3
Dylech fod ag agwedd gadarnhaol, ysgogol a'r gallu i weithredu'n hyderus fel aelod o dîm neu ar eich pen eich hun, ynghyd â'r parodrwydd i weithio shifftiau a theithio rhwng safleoedd. Dylech fod yn barod i gael gwiriad gan yr heddlu os oes angen hynny oherwydd eich lleoliad cyflogaeth.
Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Gweld llwybr llawn