Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Gofal Plant

Framework:
Gofal Plant
Lefel:
2/3

Nod y fframwaith hwn yw darparu cymhwysedd galwedigaethol a datblygu gwybodaeth a sgiliau pobl sy'n gweithio gyda phlant ifanc (a'u teuluoedd) mewn lleoliadau neu wasanaethau (yn y blynyddoedd cynnar yn bennaf) sy'n canolbwyntio ar ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.

Hefyd, mae'n bosibl y bydd y fframwaith hwn yn addas ar gyfer rhai gweithwyr cymorth gofal iechyd yn y blynyddoedd cynnar, yn enwedig pobl sy'n gweithio mewn Lleoliadau Dechrau'n Deg. Mae'n addas ar gyfer pobl sy'n awyddus i weithio yn sector y blynyddoedd cynnar neu'r sector gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant, neu'r sector iechyd plant yn y blynyddoedd cynnar, ac mae'n darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer gweithwyr sydd eisoes yn cael eu cyflogi yn y sector.

Mae'r lleoliadau sy'n darparu gofal plant yn amrywio ac nid oes modd rhestru pob un ohonynt, ond mae'r canlynol yn enghreifftiau: 

• Gofal dydd

• Crèches

• Cartrefi gwarchodwyr plant

• Ysgolion estynedig

• Lleoliadau cyn-ysgol/ cylchoedd chwarae/ Cylchoedd Meithrin

• Gofal sylfaenol

• Gwasanaethau yn y gymuned gan gynnwys Canolfannau Gofal Plant Integredig

• Rhaglenni Dechrau’n Deg

Mae teitlau swyddi'n amrywio o gyflogwr i gyflogwr, ond ar Lefel 2 byddwch yn gweithio dan oruchwyliaeth mewn rolau fel gweithiwr/ymarferydd cynorthwyydd meithrin neu ymarferydd cynorthwyol cylch chwarae neu gynorthwyydd cylch.

Lefel 3 – byddwch yn gweithio yn annibynnol, yn cynllunio ac yn trefnu eich gwaith a/neu'n goruchwylio eraill.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - Lefel 2

Addas ar gyfer swyddi Cynorthwyydd Meithrin, Cynorthwyydd Cylch, Cynorthwyydd Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol, Cynorthwyydd Cylch Chwarae, Cynorthwyydd Crèche a Chynorthwyydd Cymorth Iechyd y Blynyddoedd Cynnar.

Prentisiaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - Lefel 3

Addas ar gyfer swyddi Rheolwr, Ymarferydd Meithrin, Uwch Ymarferydd Meithrin/

Arweinydd Ystafell, Gwarchodwr Plant, Ymarferydd Canolfan Integredig i Blant, Arweinydd/Ymarferydd Crèche a Gweithwyr Cymorth Iechyd y Blynyddoedd Cynnar

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 2: 12 mis

Lefel 3: 18 mis

Llwybrau dilyniant

Lefel 2: Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Rhagor o hyfforddiant a datblygiad
  • Symud i rannau eraill o'r sector, er enghraifft, efallai y bydd gweithwyr sy'n arbenigo mewn gweithio gyda phlant bach eisiau cynyddu eu gwybodaeth a'u sgiliau o weithio gyda babanod, neu weithio gyda phlant sydd â nam ar y synhwyrau neu anableddau.
  • Ar ôl derbyn hyfforddiant a dysgu ychwanegol, gall gweithwyr symud i swyddi gynorthwyydd cymorth dysgu neu addysgu

(lefel 3) neu swyddi gwaith chwarae ar lefelau 2 neu 3.

Lefel 3: Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Cyflogaeth
  • Rhagor o hyfforddiant a datblygiad
  • Addysg bellach ac addysg uwch
  • Graddau sylfaen y Blynyddoedd Cynnar a graddau (EYPS)

Cymwysterau

Lefel 2: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 2

Nid oes unrhyw amodau mynediad dysgu ffurfiol ar gyfer y fframwaith hwn. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi fod â diddordeb ac ymrwymiad i weithio gyda phlant (yn enwedig plant ifanc) a bod yn addas i wneud hynny.

Rhaid i ddarpar brentisiaid gael gwiriad DBS (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) manylach. Mae cyflogwyr ym maes gofal plant yn cwblhau gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a gall rhai troseddau wneud darpar brentisiaid yn anghymwys i’r gwaith hwn gan eu hatal yn awtomatig rhag cwblhau'r fframwaith. Felly, dylech drafod unrhyw faterion perthnasol gyda'ch cyflogwr cyn ymrestru. Un o’r gofynion rheoliadau diogelu yw hwn.

Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol.

Lefel 3

Nid oes unrhyw amodau mynediad dysgu ffurfiol ar gyfer y fframwaith hwn. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi fod â diddordeb ac ymrwymiad i weithio gyda phlant (yn enwedig plant ifanc) a bod yn addas i wneud hynny.

Rhaid i ddarpar brentisiaid gael gwiriad DBS (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) manylach. Mae cyflogwyr ym maes gofal plant yn cwblhau gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a gall rhai troseddau wneud darpar brentisiaid yn anghymwys i’r gwaith hwn gan eu hatal yn awtomatig rhag cwblhau'r fframwaith. Felly, dylech drafod unrhyw faterion perthnasol gyda'ch cyflogwr cyn ymrestru. Un o’r gofynion rheoliadau diogelu yw hwn.

Lefel 3: Er nad oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol ar gyfer y fframwaith hwn, dylid nodi bod y cymhwyster integredig o fewn y fframwaith hwn yn gofyn am gasglu tystiolaeth o weithgareddau gwaith gwirioneddol, ac felly mae'n rhaid i bobl sy'n ymgymryd â chymwysterau lefel 3 gwblhau tasgau sy'n bodloni'r disgrifyddion lefel 3 er mwyn cwblhau'r cymhwyster.

Er mwyn cwblhau'r unedau gorfodol, rhaid i brentisiaid fod yn gweithio gyda phlant o dan 8 oed.

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

24 Tachwedd 2021