Skip to main content

Llwybr

Gyrru Trên

Mae Grŵp Llywio Gyrwyr Trenau TFW/CYC wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gyrrwr Trên sydd wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio yng Nghymru/Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 06/10/2021 ACW Fframwaith Rhif. FR05026

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymhwyster/Cymwysterau
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

108 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 3 - Gyrrwr Trên.

Mae hyn yn cynnwys elfennau gwybodaeth a chymhwysedd cyfun.

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y Llwybr hwn, ond:

Mae ymgeiswyr ar y llwybr hwn yn debygol o fod yn ddysgwyr 20+ oed sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau TGAU/Safon Uwch (neu gyfwerth) neu Fagloriaeth Cymru ac, mewn rhai achosion, cymwysterau galwedigaethol perthnasol. 

Efallai y bydd gan ymgeiswyr eraill brofiad o weithio yn y sector a'u bod bellach yn ceisio cymhwyso drwy ymgymryd â rhaglen brentisiaeth. Byddai diddordeb yn cael ei ddangos i'r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael profiad gwaith blaenorol neu gyflogaeth yn y sector rheilffyrdd/trafnidiaeth neu sy'n awyddus i newid gyrfa.

Yn ogystal:

  • Bydd angen i ddysgwyr fod ar gynllun hyfforddi ffurfiol gyda chwmni gwasanaeth rheilffordd.
  • Oherwydd natur y rôl, rhaid i ymgeiswyr fodloni safonau meddygol iechyd corfforol; mae'r rhain wedi'u nodi yn y Train Driving Licences and Certificates Regulations 2010.
  • Rhaid i ddysgwyr fod â'r potensial a'r cyfle i gyflawni'r meini prawf asesu a nodir yn yr unedau cymwysterau a bod â thystiolaeth o'r gweithle.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Gyrrwr Trên

Lefel 3: Gyrrwr Trên Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymwysterau cyfun isod

Lefel 3 Diploma mewn Gyrru Trên
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
EAL C00/4312/6 90 895 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Gyrrwr Trên Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Gyrrwr Trên 344 490
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Llwybr gydag isafswm a chyfanswm oriau dysgu = 1,075

Cymhwyster cyfun = 834 GLH/90 credyd

Sgiliau Hanfodol Cymru (60 awr x 3) = 180 awr/18 credyd

Hyd y llwybr, o leiaf 12 mis 

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

  • Bydd angen i ddysgwyr fod ar gynllun hyfforddi ffurfiol neu'n cael eu cyflogi fel gyrrwr trên
  • Oherwydd natur y rôl, rhaid i ymgeiswyr fodloni safonau meddygol iechyd corfforol; mae'r rhain wedi'u nodi yn y Train Driving Licences and Certificates Regulations 2010.
  • Rhaid i ddysgwyr fod â'r potensial a'r cyfle i gyflawni'r meini prawf asesu a nodir yn yr unedau cymwysterau a bod â thystiolaeth o'r gweithle.

Rolau swydd

Rôl SwyddDyletswyddau a Chyfrifoldebau

 

Paratoi, gyrru a gwaredu unedau tyniant yn ddiogel ac yn effeithlon o fewn y safonau, y rheolau a'r cyfarwyddiadau a osodwyd.

 

Cyflawni'r lefel uchaf o effeithlonrwydd perfformiad, cadw amser a chyfforddusrwydd teithio i gwsmeriaid.

 

  • Paratoi ar gyfer mynd ar ddyletswydd
  • Cyfathrebu'n effeithiol
  • Paratoi trenau i fod ar waith a’u rhoi ar waith
  • Ymateb i ddiffygion mewn trenau
  • Ymateb i sefyllfaoedd y tu allan i'r cwrs
  • Darparu gwasanaethau cwsmeriaid effeithiol
  • Cadw at reoliadau diogelwch bob amser yn unol â safonau Iechyd a Diogelwch a gofynion y diwydiant
  • Cadw cofnodion effeithiol
  • Dangos proffesiynoldeb bob amser
  • Cynnal safonau hyfforddi proffesiynol 

Dilyniant

Gall dysgwyr a chyflogwyr ystyried y cyfleoedd dilyniant canlynol:

  • Addysgwr Gyrwyr
  • Hyfforddwr Gyrwyr
  • Rheolwr
  • Uwch-reolwr

Dilyniant o’r Brentisiaeth:

Ar ôl cwblhau'r Llwybr, gallai prentisiaid geisio dilyniant mewnol i Addysgwr Gyrwyr, Hyfforddwr Gyrwyr, Rheolwr ac Uwch-reolwr.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Taflen ffeithiau rheilffyrdd yr Adran Drafnidiaeth: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1049929/rail-factsheet-2021.pdf

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir y dylai pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y llwybr hwn yn cael eu cyflawni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

Atodiad 1 Lefel 3: (Diploma mewn Gyrru Trên)

Cymhwyster integredig ar Lefel 3, sy'n cyfuno elfennau cymhwysedd a gwybodaeth dechnegol lle caiff pob elfen ei hasesu ar wahân a lle mae o leiaf bedwar ar bymtheg o gredydau’n perthyn i bob elfen.

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, mae'n ofynnol i ddysgwyr gwblhau'r holl unedau; mae gan y diploma hwn 834 o oriau dysgu dan arweiniad (GLH) a Chyfanswm Amser Cymhwyso (TQT) 895 awr (Mae hwn yn amser tybiannol sy'n ofynnol gan y dysgwr i gwblhau'r cymhwyster). 

Unedau Gorfodol: Rhaid cwblhau pob uned:

Cod EAL

Teitl yr Uned

 

GLH  

 

TD3-02

Paratoi'n bersonol ar gyfer mynd ar ddyletswydd

 

14

 

TD3-03

Cyfathrebu'n effeithiol

 

217

 

TD3-04

Paratoi trenau i’w rhoi ar waith

 

70

 

TD3-05

Rhoi trenau ar waith

 

372

 

TD3-06

Ymateb i ddiffygion mewn trenau

 

56

 

TD3-07

Ymateb i sefyllfaoedd y tu allan i'r cwrs

 

77

 

TD3-08

Darparu gwasanaethau cwsmeriaid effeithiol

 

28

 

(Noder yn unig: nid oes uned: TD3-01 yn y cymhwyster hwn


Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021