Mae Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Cerbydau, Cludiant a Logisteg a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
DYDDIAD CYHOEDDI: 14/08/2014 Fframwaith Rhif. FR02866
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
43 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Lefel 2 Gweithrediadau Logisteg – Gweithiwr Logisteg.
44 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Lefel 3 Gweithrediadau Logisteg – Arweinydd Tîm/Goruchwyliwr Adran Gweithrediadau Logisteg.
Gofynion mynediad
Lefel 2: Gweithrediadau Logisteg-Gweithiwr Logisteg/Gweithiwr Cymorth Logisteg
Mae cyflogwyr yn ceisio denu ymgeiswyr sydd â diddordeb brwd mewn gweithio mewn busnes Cludiant a Warysau yn y Sector Logisteg. Rhaid iddynt fod yn barod i weithio shifftiau fel rhan o dîm a gallu cadw amser yn dda. Mae gan gyflogwyr ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sydd â sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh sylfaenol y bydd y Brentisiaeth/Brentisiaeth Sylfaen hon yn adeiladu arnynt.
Bydd ymgeiswyr i'r Brentisiaeth Sylfaen/Brentisiaeth hon yn amrywio o ran oedran a phrofiad. Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddod o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- Gwaith neu brofiad gwaith
- Hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud
- Unrhyw un o Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol Ehangach Cymru
- Prentisiaeth Sylfaen y Swyddfa Draffig
- Prentisiaeth Sylfaen Warysau a Storio
- Prentisiaeth Sylfaen Gyrru Cerbydau Nwyddau
- Prentisiaeth Sylfaen Gweithrediadau Masnachu a Logisteg Rhyngwladol
- Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y Cymhwyster Prif Ddysgu Busnes Manwerthu sydd â chynnwys logisteg
- Cymhwyster/Cymwysterau galwedigaethol neu academaidd
Asesiad Cychwynnol
Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiadau cychwynnol i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael cyfle teg i ddangos eu gallu ac i deilwra rhaglenni i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.
Lefel 3: Gweithrediadau Logisteg - Gweithrediadau Logisteg - Arweinydd Tîm/Goruchwyliwr Adran
Dim byd yn ychwanegol at yr amodau mynediad ar gyfer y llwybr Lefel 2.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Gweithrediadau Logisteg – Gweithiwr Logisteg
Lefel 2: Gweithrediadau Logisteg – Gweithiwr Logisteg Cymwysterau
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau un o'r cymwysterau cyfun isod.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Gweithrediadau Logisteg – Gweithiwr Logisteg | 96 | 276 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
20 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth. Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Lefel 2 Gweithrediadau Logisteg – Gweithiwr Logisteg yw 372.
|
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Gweithrediadau Logisteg - Arweinydd Tîm/Goruchwyliwr Adran
Lefel 3: Gweithrediadau Logisteg - Arweinydd Tîm/Goruchwyliwr Adran Cymwysterau
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau un o'r cymwysterau cyfun isod.
Lefel 3 Tystysgrif mewn Gweithrediadau Logisteg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0296/2 501/2376/2 | 21 | 210 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Gweithrediadau Logisteg - Arweinydd Tîm/Goruchwyliwr Adran | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Gweithrediadau Logisteg - Arweinydd Tîm/Goruchwyliwr Adran | 110 | 283 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
21 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth.
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Lefel 3 Gweithrediadau Logisteg – Gweithiwr Logisteg yw 393.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Dilyniant
Dilyniant i'r Brentisiaeth Lefel 2:
Gall hyn fod o ystod eang o lwybrau, gan gynnwys:
- gwaith neu brofiad gwaith
- hyfforddiant (heb ei achredu)
- unrhyw un o Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol Ehangach Cymru
- Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys unrhyw un o'r Cymwysterau Prif Ddysgu (14-19), yn enwedig Busnes Manwerthu sydd â chynnwys logisteg
- cymhwyster/cymwysterau galwedigaethol neu academaidd
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 2:
Prentisiaethau mewn unrhyw un o'r canlynol:
- Prentisiaeth y Swyddfa Draffig
- Prentisiaeth Gweithrediadau Logisteg
- Prentisiaeth Gyrru Cerbydau Nwyddau
- Prentisiaeth Warysau a Storio
I mewn i swydd fel Aelod o Dîm y Swyddfa Draffig, Prif Yrrwr, Uwch-weithiwr Warws neu gyda datblygiad a hyfforddiant pellach e.e. rhaglen ddatblygu fewnol/allanol (DPP) wedi'i hachredu/heb ei hachredu i'r swyddi canlynol:
- Rheolwr Warws
- Rheolwr Cludiant
Ar ôl hyfforddiant a datblygiad pellach i'r rhai sy'n dewis gwneud hynny:
- Gradd sylfaen mewn logisteg, cynllunio cludiant, gweithrediadau logisteg a gweinyddu.
Dilyniant i'r Brentisiaeth Lefel 3:
Gall hyn fod o ystod eang o lwybrau, gan gynnwys:
- gwaith neu brofiad gwaith
- hyfforddiant (heb ei achredu)
- Prentisiaeth Sylfaen Gweithrediadau Logisteg
- Prentisiaeth Sylfaen y Swyddfa Draffig
- Prentisiaeth Sylfaen Warysau a Storio
- Prentisiaeth Sylfaen Gyrru Cerbydau Nwyddau
- Prentisiaeth Sylfaen Gweithrediadau Masnachu a Logisteg Rhyngwladol
- unrhyw un o Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol Ehangach Cymru
- Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y Cymhwyster Prif Ddysgu Busnes Manwerthu sydd â chynnwys logisteg
- cymhwyster/cymwysterau galwedigaethol neu academaidd
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3:
Prentisiaethau mewn unrhyw un o'r canlynol:
- Prentisiaeth Uwch Rheoli Prynu a Chyflenwi
I mewn i swydd fel Arweinydd Tîm Gweithrediadau Warysau neu gyda datblygiad a hyfforddiant pellach e.e. rhaglen ddatblygu fewnol/allanol (DPP) wedi'i hachredu/heb ei hachredu i'r swyddi canlynol:
- Rheolwr Warws
- Arbenigwr Cludiant sy'n gyfrifol am bob agwedd ar ddosbarthu a chludo nwyddau
Ar ôl hyfforddiant a datblygiad pellach i'r rhai sy'n dewis gwneud hynny:
- Gradd sylfaen mewn logisteg, cynllunio cludiant, gweithrediadau logisteg a gweinyddu.
- Rhaglenni Addysg Uwch megis Rheoli Logisteg a’r Gadwyn Gyflenwi, Busnes a Rheoli
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Dynion gwyn yn bennaf sydd yng ngweithlu'r Diwydiant Logisteg ac, er gwaethaf cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw menywod, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl ag anhawster dysgu neu anabledd yn cael eu denu i'r diwydiant ac wrth i’r gweithlu cyfredol heneiddio, mae angen mwy o bobl i lenwi ystod o rolau logisteg.
Fodd bynnag, mae'r Diwydiant Warysau yn denu mwy o fenywod gan fod cyfleoedd ar gyfer gwaith rhan-amser a gweithio shifft hyblyg.
Mae ymwybyddiaeth o Logisteg fel proffesiwn yn cael ei chodi drwy Gymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru mewn Busnes Manwerthu, sydd â chynnwys logisteg, a thrwy daflenni hyrwyddo wedi'u hanelu at bobl ifanc 14 – 19 oed mewn ysgolion. Mae'r taflenni hyn yn cynnwys "Getting more girls into Logistics and Retail" a fydd yn helpu i hyrwyddo'r amrywiaeth o swyddi mewn logisteg.
Mae mentrau eraill sy'n ceisio denu ymgeiswyr o boblogaeth amrywiol a ddatblygwyd gan Skills for Logistics yn cynnwys:
- Gwefan gyrfaoedd Delivering your Future sy'n dangos rolau nad ydynt yn stereoteipiau www.deliveringyourfuture.co.uk
- Made in China - adnodd addysgu am ddim i gefnogi Mathemateg a Menter mewn ysgolion gan ddefnyddio taith chwaraewr MP3 o Tsieina i'r DU. http://www.madeinchinaresources.co.uk/
Ystyrir bod prentisiaethau yn ffordd hanfodol o annog a hwyluso mwy o amrywiaeth o unigolion i mewn i’r Sector Logisteg ac mae cynlluniau gweithredu ar waith i gynyddu nifer y Prentisiaethau o leiaf 10% bob blwyddyn. Mae'r camau i gynyddu’r nifer o bobl sy’n dod i mewn i’r sector a chynyddu amrywiaeth yn y gweithlu Logisteg yn cynnwys:
- Amodau mynediad hyblyg ar gyfer y llwybr hwn i ddenu ystod eang o ymgeiswyr Ymgorffori canllawiau ar asesiad cychwynnol i sicrhau nad yw'r llwybr yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr i'r llwybr hwn.
- Cysylltiadau â'r Ganolfan Byd Gwaith, gan hyrwyddo logisteg fel llwybr gyrfa.
- Hyrwyddo cynnwys logisteg yn y cwricwlwm drwy'r Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILTUK).
- Datblygu rhaglen mynediad at gyflogaeth wedi'i hanelu at grwpiau anodd eu cyrraedd. Codi proffil Logisteg mewn digwyddiadau gyrfaoedd.
Mae Skills for Logistics yn disgwyl i ddarparwyr a chyflogwyr gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r sector a dyrchafiad o fewn y sector
Bydd Skills for Logistics yn monitro'r nifer sy'n penderfynu dilyn pob Prentisiaeth, ac yn eu cyflawni, ac yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau i ddilyn prentisiaethau a'u cyflawni fel rhan o'n Strategaeth Cymwysterau Sector.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Fodd bynnag, mae'n ofynnol cynnal CHC.
Rhaid i bob Prentis Sylfaen dderbyn hyfforddiant sefydlu i'r gweithle ac i'r rhaglen Brentisiaeth. Bydd CHC yn cael ei gynnwys drwy Ddyfarniad FfCCh ar wahân o'r enw Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr yn y Diwydiant Logisteg, a fydd yn sicrhau bod y Prentis yn gwybod ac yn deall pob un o'r naw canlyniad cenedlaethol ar gyfer CHC fel a ganlyn:
- Yr ystod o hawliau a chyfrifoldebau statudol cyflogwyr a gweithwyr o dan gyfraith cyflogaeth a’r ffaith y gall deddfwriaeth arall effeithio ar hawliau cyflogaeth hefyd. Dylai hyn gynnwys hawliau a chyfrifoldebau'r prentis o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, deddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol arall ac iechyd a diogelwch, ynghyd â dyletswyddau cyflogwyr.
- Gweithdrefnau a dogfennau sy'n cydnabod ac yn diogelu ei berthynas â'i gyflogwr, gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth fel rhan o'r brentisiaeth
- Yr ystod o ffynonellau a gwybodaeth a chyngor sydd ar gael iddo ar ei hawliau a'i gyfrifoldebau cyflogaeth, gan gynnwys Mynediad i Waith a Chymorth Dysgu Ychwanegol
- Y cyfraniad mae ei alwedigaeth yn ei wneud yn ei sefydliad ac yn y diwydiant.
- Yn meddu ar farn wybodus am y mathau o lwybrau gyrfa sy'n agored iddo.
- Y mathau o gyrff cynrychiadol a deall eu perthnasedd i'r diwydiant a'r sefydliad a'r prif rolau a chyfrifoldebau.
- Ble a sut i gael gwybodaeth a chyngor am ei ddiwydiant, ei alwedigaeth, ei hyfforddiant a'i yrfa.
- Gallu disgrifio a gweithio o fewn egwyddorion a chodau ymarfer eu sefydliad.
- Gallu cydnabod a llunio barn ar faterion sy'n peri pryder i'r cyhoedd sy'n effeithio ar ei sefydliad a'r diwydiant.
Rhaid cyflwyno tystysgrif cyflawniad y Dyfarniad CHC i Skills for Logistics wrth wneud cais am y dystysgrif cwblhau Prentisiaeth.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant/Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 2: Gweithrediadau Logisteg – Gweithiwr Logisteg
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r Dystysgrif mewn Gweithrediadau Logisteg ar Lefel 2 yn gymhwyster cyfun sy'n ymgorffori cymhwysedd a gwybodaeth, sy'n cael eu hasesu ar wahân.
RHAID i ddarparwyr sicrhau bod Prentisiaid yn cyflawni o leiaf 10 credyd cymhwysedd ac o leiaf 10 credyd gwybodaeth wrth ddewis unedau er mwyn bodloni gofynion SASW. Mae'r llwybr hwn yn dod i gyfanswm o 43 credyd sy'n cynnwys cymhwysedd, gwybodaeth, y cymhwyster CHC a thri Sgil Hanfodol Cymru, sef Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TGCh.
Mae'r llwybr hwn yn fwy na'r isafswm o 37 credyd a bennir gan SASW.
Cyfanswm y Credydau ar gyfer y cymhwyster cyfun hwn yw 20, sy'n cynnwys:
Unedau Gorfodol
- Iechyd, Diogelwch a Diogeledd yn y gwaith (1 credyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Datblygu perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Gwneud cyfraniad effeithiol at fusnes yn y sector logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Grŵp Opsiwn B (1 uned o'r grŵp hwn)
- Paratoi'r fan ar gyfer gyrru (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Diogelu'r fan a'r llwyth (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Paratoi'r cerbyd un cymal ar gyfer gyrru (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Diogelu'r cerbyd un cymal a'r llwyth (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Paratoi'r cerbyd cymalog ar gyfer gyrru (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Diogelu'r cerbyd cymalog a'r llwyth (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cael gwybodaeth am gasglu a/neu gludo llwythi (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Grŵp Opsiwn C (1 uned o'r grŵp hwn)
- Dewis nwyddau mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Rhoi nwyddau mewn storfeydd mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Lapio a phecynnu nwyddau mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Grŵp Opsiwn D (1 uned o'r grŵp hwn)
- Nodi mannau casglu neu gludo addas (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Rhyddhau cerbydau ar gyfer tasgau dyddiol (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Monitro symudiadau cerbydau (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Atodiad 2 Lefel 3: Gweithrediadau Logisteg – Arweinydd Tîm/Goruchwyliwr Adran Gweithrediadau Logisteg
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r Dystysgrif mewn Gweithrediadau Logisteg ar Lefel 3 yn gymhwyster cyfun sy'n ymgorffori cymhwysedd a gwybodaeth, sy'n cael eu hasesu ar wahân.
RHAID i ddarparwyr sicrhau bod Prentisiaid yn cyflawni o leiaf 10 credyd cymhwysedd ac o leiaf 10 credyd gwybodaeth wrth ddewis unedau i fodloni gofynion SASW.
Mae'r Llwybr yn dod i gyfanswm o 44 credyd sy'n cynnwys cymhwysedd, gwybodaeth, Dyfarniad CHC a thri Sgil Hanfodol Cymru, sef Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TGCh.
Mae'r Llwybr hwn yn fwy na'r isafswm o 37 credyd a bennir gan SASW.
Cyfanswm y Credydau ar gyfer y cymhwyster cyfun hwn yw 21 credyd, sy'n cynnwys:
Unedau gorfodol
- Iechyd, Diogelwch a Diogeledd yn y gwaith (1 credyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Optimeiddio'r defnydd o adnoddau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Gwneud cyfraniad effeithiol at fusnes yn y sector logisteg (2 gredyd am
- gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Unedau Dewisol Grŵp 1 (o leiaf 3 chredyd o'r grŵp hwn)
- Gwella perfformiad mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am
- wybodaeth)
- Rhoi arweiniad i'ch tîm mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2
- am wybodaeth)
- Dyrannu a gwirio gwaith yn eich tîm mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd
- ac 1 am wybodaeth)
Unedau Dewisol Grŵp 2 (o leiaf 3 chredyd o'r grŵp hwn)
- Cynnal diogelwch a diogeledd nwyddau a deunyddiau peryglus mewn gweithrediadau logisteg
- (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
- Goruchwylio derbyn, storio neu anfon nwyddau (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am
- wybodaeth)
- Lleihau effaith amgylcheddol gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd a 2
- am wybodaeth)
Unedau Dewisol Grŵp 3 (o leiaf 3 chredyd o'r grŵp hwn)
- Trefnu cludo nwyddau gan ddefnyddio sawl dull cludiant (2 gredyd am
- gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Trefnu gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid (2 gredyd am gymhwysedd
- a 2 am wybodaeth)
- Gweithrediadau cludiant ar y ffordd rhyngwladol (3 chredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
Unedau Dewisol Grŵp 4 (o leiaf 3 chredyd o'r grŵp hwn)
- Cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a chymdeithasol mewn gweithrediadau logisteg
- (1 credyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Ymateb i broblemau mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd a 2 am
- wybodaeth)
- Defnyddio technoleg mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth