Mae'r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (NSAFD) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Bwyd a Diod a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/08/2023 ACW Fframwaith Rhif. FR05123
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 3 - Llwybr Rheolaeth Dechnegol yn y Diwydiant Bwyd yw 49 credyd (sef cyfanswm yr hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer yr holl elfennau).
Gofynion mynediad
Dyma rai enghreifftiau:
- Llwybrau academaidd (ee TGAU, Bagloriaeth Cymru)
- Drwy gwblhau cymwysterau galwedigaethol
- Cwblhau cyfnod ar leoliad gyda chyflogwr
- Profiad gwaith
- Hyfforddiant
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Rheolaeth Dechnegol y Diwydiant Bwyd
Lefel 3: Rheolaeth Dechnegol y Diwydiant Bwyd Cymwysterau
Mae'n rhaid gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Rheolaeth Dechnegol y Diwydiant Bwyd | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Rheolaeth Dechnegol y Diwydiant Bwyd | 92 | 206 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Argymhellir y dylai gymryd 18 mis o leiaf i gwblhau'r llwybr.
Cyfanswm gwerth credyd isaf y cymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth cyfun: 37 credyd
Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif: 12 credyd
Cyfanswm yr oriau hyfforddi isafswm yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith: 298 o oriau dysgu
- Cymhwysedd = isafswm o 47 awr
- Gwybodaeth = isafswm o 50 awr
- Sgiliau Hanfodol Cymru (gwerth tybiannol 45 awr x 2) = 90 awr
- Gweithgareddau mentora, hyfforddi a chefnogi 66 wythnos x 1 awr/wythnos = 66 awr
- Mentora yn y swydd = 45 awr
Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith = 206 o oriau
- Elfen wybodaeth - Diploma Lefel 3 ar gyfer Hyfedredd wrth Reoli Bwyd = 50 awr
- Sgiliau Hanfodol Cymru a Mentora i Ffwrdd o'r Gwaith = 156 awr
Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith = 92 o oriau hyfforddi
- Elfen gymhwysedd - Diploma Lefel 3 Hyfedredd wrth Reoli Bwyd = 47 awr
- Mentora yn y swydd = 45 awr
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 ODDA Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 ODDA Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol ar wahân i'r gofynion mynediad cyffredinol.
Dilyniant
Dilyniant o'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Bwyd a Diod (Rheolaeth Dechnegol yn y Diwydiant Bwyd):
Dyma rai enghreifftiau:
- I swydd fel rheolwr/goruchwylydd cynhyrchu, rheolwr gweithrediadau, rheolwr cynnal a chadw neu reolwr ansawdd er enghraifft;
- I'r llwybr Prentisiaeth Uwch (lefel 4) mewn Bwy a Diod (Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd);
- I addysg bellach neu uwch;
- Dyrchafiad, ee i rôl uwch, neu i rôl arbenigol ar yr un lefel.
Bydd llawer o opsiynau gyrfa ar gael i'r Prentis ar ôl cwblhau'r llwybr yn llwyddiannus.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut mae mynd ati'n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Dynion yn bennaf sy'n gweithio yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ac maent yn cynrychioli dros ddeuparth (68%) y gweithlu; merched yw 32% o'r gweithlu. Mewn cymhariaeth, mae dosbarthiad rhywiau ar draws pob diwydiant yng Nghymru yn fwy cytbwys, gyda 53% yn ddynion a 47% yn ferched. Rhwng 2006 a 2011, cafwyd cynnydd o 7% yng nghyfran y dynion yn y gweithlu (o 13,000 i 13,800) ond gostyngiad o 4% yng nghyfran merched o'r gweithlu (o 6,900 i 6,600). Mae 36% o weithwyr bwyd a diod Cymru oddi mewn i'r grŵp oedran 45 i 54 oed; mae 8% rhwng 30 a 34 oed; a dim ond 17% sydd rhwng 16 a 29 oed. Mae’r grŵp oedran 16 i 29 oed gryn dipyn yn llai na gwledydd eraill y DU. Mewn cymhariaeth, mae 38% o'r gweithlu bwyd a diod yn y grŵp oedran hwn yng Ngogledd Iwerddon; ynghyd â 26% yn Lloegr a 25% yn yr Alban.
Bydd dros ddeuparth (68%) o’r gweithlu presennol yn gymwys i ymddeol yn yr 20 mlynedd nesaf. Mae’r amcangyfrifir bod 3,500 o wladolion y tu allan i’r DU yn gweithio yn niwydiant bwyd a diod Cymru yn 2011 yn werth ei nodi, sef cynnydd o 86% ers 2006. (Skills Insights and Labour Market Facts about the Food and Drink Manufacturing and Processing industry in Wales 2013-2014, Improve Limited 2013)
Mae’r llwybr hwn yn llwybr pwysig i annog mwy o amrywiaeth o fewn y diwydiant ac mae’r camau canlynol yn cael eu cymryd i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant:
- Monitro data yn barhaus er mwyn canfod unrhyw broblemau ac ymyrryd pan fydd angen
- Hyrwyddo'r diwydiant ymhlith cynulleidfa amrywiol drwy ein gwefan gyrfaoedd Gyrfaoedd Blasus www.tastycareers.org.uk a Llysgenhadon Gyrfaoedd Blasus
- Gweithdai prentisiaeth i godi ymwybyddiaeth ynghylch manteision Prentisiaethau ymhlith cyflogwyr
Mae'n rhaid i'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â darpariaeth prentisiaethau, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant, canolfannau a chyflogwyr, ymrwymo i bolisi cyfle cyfartal, a chael polisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 - Lefel 3: Rheolaeth Dechnegol y Diwydiant Bwyd
600/8545/9/C00/0537/0 - Lefel 3: Diploma Hyfedredd wrth Reoli Bwyd
Rheolau Cyfuno (RhC)
Diploma - Cyfanswm y credydau sydd eu hangen ar gyfer cymhwyster 37+
Cyfanswm Amser y Cymhwyster (CAC) 370 awr
Grŵp A – Unedau Rheoli Bwyd – Gorfodol 30+ credyd
Grŵp B – Unedau Gwybodaeth - Dewisol 3+ credyd
Ystod Oriau Dysgu dan Arweiniad (isafswm/uchafswm) 186 - 334 awr
Asesu
Mae unedau sgiliau galwedigaethol (SG) wedi'u dylunio i asesu'r sgiliau cymhwysol sydd eu hangen ar y dysgwr i arddangos perfformiad cymwys yn y gweithle mewn rôl benodol. Asesir y cymhwyster hwn ar sail portffolio a gyflawnir gan y dysgwr. Gellir defnyddio tystiolaeth asesu arall i ategu tystiolaeth o berfformiad, ee tystiolaeth gan dyst, cwestiynau'n gysylltiedig â'r gwaith , dogfennau o'r gwaith, tystiolaeth ffotograffig a thrafodaeth broffesiynol.
Gellir defnyddio dulliau asesu eraill i asesu gofynion gwybodaeth alwedigaethol (GA) a gwybodaeth danategol (GD) gan gynnwys e-asesiad, arholiad amlddewis ac aseiniad. Nodir y gofynion asesu mewn unedau asesu unigol, er enghraifft, gweler F/601/2954 Egwyddorion technegau gwella parhaus (Kaizen) mewn gweithrediadau bwyd.
Nodir y gofynion asesu yn yr unedau asesu unigol. Ceir addasiadau rhesymol sy'n caniatáu cymorth i'r dysgwr ar gyfer asesiadau llafar neu drefniadau addasu eraill i fodloni anghenion y dysgwr. Bydd yr holl weithgarwch asesu yn destun mesurau sicrwydd ansawdd mewnol.
Mae FDQ wedi sefydlu system ansawdd sy'n cynnwys polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod ei gymwysterau'n cael eu datblygu a'u darparu ac yn parhau i fod yn addas i'r diben. Mae FDQ yn rhoi sicrwydd ansawdd allanol ar gyfer holl asesiadau'r canolfannau, ac ar gyfer eu trefniadau sicrwydd ansawdd mewnol.
Mae asesiadau o unedau Sgiliau Galwedigaethol (SG) wedi'u dylunio i asesu'r sgiliau cymhwysol sydd eu hangen ar y dysgwr i arddangos perfformiad cymwys yn y gweithle mewn rôl benodol.
Grŵp A Unedau rheoli bwyd
Cynllunio
- D/504/6891 SG Cyfrannu at ddatblygu cynllun strategol mewn busnes bwyd 3 2 15
- H/504/6892 GA Deall sut i gyfrannu at ddatblygu cynllun strategol mewn busnes bwyd 3 2 17
- K/504/6893 SG Cyfrannu at ddatblygu cynllun gweithredol mewn busnes bwyd 3 2 14
- M/504/6894 GA Deall sut i gyfrannu at ddatblygu cynllun gweithredol mewn busnes bwyd 3 2 14
- T/504/6895 GA Deall sut i gyfrannu at ddatblygu cynllun gweithredol cadwyn gyflenwi mewn busnes bwyd 3 2 14
Gosod targedau
- R/504/6905 SG Cynllunio a chytuno ar dargedau mewn busnes bwyd 3 2 13
- Y/504/6906 SG Gosod amcanion mewn busnes bwyd 3 2 12
- D/504/6907 SG Gosod dangosyddion perfformiad allweddol mewn busnes bwyd 3 2 15
- H/504/6908 GA Deall sut i osod targedau mewn busnes bwyd 3 2 12
- K/504/6909 SG Llunio amserlen waith mewn busnes bwyd 3 2 13
- D/504/6910 GA Deall sut i lunio amserlen waith mewn busnes bwyd 3 2 13
Dyrannu adnoddau
- A/504/7319 SG Nodi anghenion o ran adnoddau staff mewn busnes bwyd 3 3 21
- M/504/7320 GA Deall sut i nodi anghenion o ran adnoddau staff mewn busnes bwyd 3 3 21
- T/504/7321 SG Cydgysylltu gweithgarwch recriwtio mewn busnes bwyd 3 3 18
- A/504/7322 GA Deall sut i gydgysylltu gweithgarwch recriwtio mewn busnes bwyd 3 3 19 F/504/7323 SG Sefydlu cyflogeion mewn busnes bwyd 3 3 19
- J/504/7324 GA Deall sut i sefydlu cyflogeion mewn busnes bwyd 3 3 21
- L/504/7325 SG Dyrannu adnoddau staff mewn busnes bwyd 3 3 19
- R/504/7326 GA Deall sut i ddyrannu adnoddau staff mewn busnes bwyd 3 2 15
- Y/504/7327 SG Nodi'r adnoddau ffisegol sydd eu hangen mewn busnes bwyd 3 2 18
- D/504/7328 GA Deall sut i nodi'r adnoddau ffisegol sydd eu hangen mewn busnes bwyd 3 2 19
- H/504/7329 SG Defnyddio adnoddau i sicrhau'r perfformiad gorau posib mewn busnes bwyd 3 3 21
- Y/504/7330 GA Deall sut i ddefnyddio adnoddau i sicrhau'r perfformiad gorau posib mewn busnes bwyd 3 3 20
Cynnal gweithrediadau
- D/504/7331 SG Rhoi cynllun gweithredol ar waith mewn busnes bwyd 3 2 14
- H/504/7332 GA Deall sut i roi cynllun gweithredol ar waith mewn busnes bwyd 3 3 21
- K/504/7333 SG Cefnogi datblygiad gweithdrefn mewn busnes bwyd 3 3 20
- M/504/7334 GA Deall sut i gefnogi datblygiad gweithdrefn mewn busnes bwyd 3 3 20
- T/504/7335 SG Cefnogi datblygiad manyleb mewn busnes bwyd 3 3 20
- A/504/7336 GA Deall sut i gefnogi datblygiad manyleb mewn busnes bwyd 3 3 20
- F/504/7337 SG Cyfrannu at gyrchu cyflenwadau mewn busnes bwyd 3 2 15
- J/504/7338 GA Deall sut i gyfrannu at gyrchu cyflenwadau mewn busnes bwyd 3 3 23
- L/504/7339 SG Cyfrannu at gynnal cydymffurfiaeth mewn busnes bwyd 3 3 20
- F/504/7340 GA Deall sut i gyfrannu at gynnal cydymffurfiaeth mewn busnes bwyd 3 4 24
- J/504/7341 SG Cefnogi arfer gwella mewn busnes bwyd 3 2 14
- L/504/7342 GA Cefnogi arfer cynaliadwy mewn busnes bwyd 3 2 15
- J/504/7355 SG Cyfrannu at reoli prosiect mewn busnes bwyd 3 3 20
- L/504/7356 GA Deall sut i gyfrannu at reoli prosiect mewn busnes bwyd 3 3 21
- R/504/7360 SG Rheoli cyllideb mewn busnes bwyd 3 2 15
- Y/504/7361 GA Deall sut i reoli cyllideb mewn busnes bwyd 3 3 20
- H/504/7363 SG Llunio adroddiadau a chyflwyno gwybodaeth reoli mewn busnes bwyd 3 3 18
- M/504/7365 GA Deall sut i lunio adroddiadau a chyflwyno gwybodaeth reoli mewn busnes bwyd 3 3 20
- A/504/7367 SG Rhoi cyflwyniad mewn busnes bwyd 3 2 10
- F/504/7368 GA Deall sut i roi cyflwyniad mewn busnes bwyd 3 2 16
- J/504/7369 SG Arwain cyfarfodydd mewn busnes bwyd 3 2 10
- A/504/7370 GA Deall sut i arwain cyfarfodydd mewn busnes bwyd 3 3 20
- F/504/7371 SG Rheoli treial cynhyrchu mewn busnes bwyd 3 3 17
- J/504/7372 GA Deall sut i reoli treial cynhyrchu mewn busnes bwyd 3 3 26
- A/602/4617 SG Gwneud diagnosis o broblemau mewn gweithrediadau bwyd 3 3 14
- F/602/4618 GA Deall sut i wneud diagnosis o broblemau mewn gweithrediadau bwyd 3 3 16
- J/602/4619 SG Datrys problemau mewn gweithrediadau bwyd 3 3 16
- A/602/4620 GA Deall sut i ddatrys problemau mewn gweithrediadau bwyd 3 4 22
- L/504/7373 SG Hyrwyddo gwasanaeth cwsmeriaid mewn busnes bwyd 3 2 16
- R/504/7374 GA Deall sut i hyrwyddo gwasanaeth cwsmeriaid mewn busnes bwyd 3 2 16
- Y/504/7375 SG Cyfrannu at ddatrys cwynion mewn busnes bwyd 3 2 13
- D/504/7376 GA Deall sut i gyfrannu at ddatrys cwynion mewn busnes bwyd 3 3 20
- K/504/7378 SG Cynnal archwiliad mewnol mewn busnes bwyd 3 2 16
- M/504/7379 GA Deall sut i gynnal archwiliad mewnol mewn busnes bwyd 3 3 20
Monitro
- H/504/7380 SG Datblygu gweithdrefnau ar gyfer monitro mewn busnes bwyd 3 2 14
- K/504/7381 GA Deall sut i ddatblygu gweithdrefnau ar gyfer monitro mewn busnes bwyd 3 2 14
- M/504/7382 SG Monitro perfformiad mewn busnes bwyd 3 3 17
- T/504/7383 GA Deall sut i fonitro perfformiad unigol mewn busnes bwyd 3 2 14
- A/504/7384 SG Gwella eich perfformiad eich hun mewn busnes bwyd 3 2 16
- F/504/7385 GA Deall sut i wella eich perfformiad eich hun mewn busnes bwyd 3 3 18
- J/504/7386 SG Monitro cynnydd gweithgaredd gwaith mewn busnes bwyd 3 2 13
- L/504/7387 GA Deall sut i fonitro cynnydd gweithgaredd gwaith mewn busnes bwyd 3 3 15
- R/504/7388 GA Deall sut i fonitro cynnydd gweithgaredd gwaith yn y gadwyn cyflenwi bwyd 3 2 14
- Y/504/7389 GA Deall sut i fonitro cynnydd gweithgaredd gwaith ym maes adwerthu a gweini bwyd 3 2 15
- F/602/4697 SG Monitro a rheoli llif y gwaith i gyrraedd targedau mewn gweithrediadau bwyd 3 2 9
- J/602/4698 GA Deall sut i fonitro a rheoli llif y gwaith i gyrraedd targedau mewn gweithrediadau bwyd 3 3 15
- H/602/5826 SG Monitro diogelwch bwyd ar adegau rheoli tyngedfennol mewn gweithrediadau bwyd 3 1 5
- L/504/7390 SG Cynnal asesiad o risgiau mewn busnes bwyd 3 2 14
- R/504/7391 GA Deall sut i gynnal asesiad o risgiau mewn busnes bwyd 3 3 19
- Y/504/7392 SG Cefnogi ac ymdrin â gweithdrefnau cwyno mewn busnes bwyd 3 3 15
- D/504/7393 GA Deall sut i gefnogi ac ymdrin â gweithdrefnau cwyno mewn busnes bwyd 3 2 14
- H/504/7394 SG Cychwyn a chefnogi gweithdrefnau disgyblu mewn busnes bwyd 3 3 16
- K/504/7395 GA Deall sut i gychwyn a chefnogi gweithdrefnau disgyblu mewn busnes bwyd 3 2 14
- M/504/7396 SG Monitro absenoldeb mewn busnes bwyd 3 2 14
- T/504/7397 GA Deall sut i fonitro absenoldeb mewn busnes bwyd 3 2 12
- A/504/7398 SG Cyfrannu at asesu costau gweithredu mewn busnes bwyd 3 2 13
- F/504/7399 GA Deall sut i gyfrannu at asesu costau gweithredu mewn busnes bwyd 3 2 14
- K/504/7400 SG Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad mewn busnes bwyd 3 2 9
- M/504/7401 GA Deall sut i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad mewn busnes bwyd 3 3 13
- T/504/7402 SG Cyfrannu at ddatblygu diwylliant sefydliadol mewn busnes bwyd 3 2 15
- A/504/7403 GA Deall sut i gyfrannu at ddatblygiad diwylliant sefydliadol mewn busnes bwyd 3 2 15
Cefnogi
- F/504/7404 SG Cyfathrebu'n effeithiol mewn busnes bwyd 3 2 15
- M/504/7446 GA Deall sut i gyfathrebu'n effeithiol mewn busnes bwyd 3 2 17
- T/504/7447 SG Cyfrannu at waith tîm traws-swyddogaethol mewn busnes bwyd 3 2 19
- A/504/7448 GA Deall sut i gyfrannu at waith tîm traws-swyddogaethol mewn busnes bwyd 3 3 23
- L/504/7468 SG Rheoli gwrthdaro mewn busnes bwyd 3 3 20 T/504/7450 IAWN Deall sut i reoli gwrthdaro mewn busnes bwyd 3 3 21
- A/504/7451 SG Cyfrannu at frolio cynnyrch neu wasanaethau gerbron darpar gwsmeriaid mewn busnes bwyd 3 3 22
- F/504/7452 GA Deall sut i gyfrannu at frolio cynnyrch neu wasanaethau gerbron darpar gwsmeriaid mewn busnes bwyd 3 3 20
- J/504/7453 SG Cyfrannu at gynnal perthnasoedd allanol mewn busnes bwyd 3 2 17
- L/504/7454 GA Deall sut i gyfrannu at gynnal perthnasoedd allanol mewn busnes bwyd 3 3 21
- R/504/7455 SG Asesu sgiliau a gwybodaeth mewn busnes bwyd 3 3 26
- Y/504/7456 GA Deall sut i asesu sgiliau a gwybodaeth mewn busnes bwyd 3 3 26
- D/504/7457 SG Nodi anghenion dysgu a sgiliau mewn busnes bwyd 3 2 15
- H/504/7458 GA Deall sut i nodi anghenion dysgu a sgiliau mewn busnes bwyd 3 2 15
- K/504/7459 SG Darparu hyfforddiant a mentora mewn busnes bwyd 3 3 24
- D/504/7460 GA Deall sut i ddarparu hyfforddiant a mentora mewn busnes bwyd 3 3 21
- H/504/7461 SG Darparu hyfforddiant mewn busnes bwyd 3 3 23
- K/504/7462 GA Deall sut i ddarparu hyfforddiant mewn busnes bwyd 3 4 30
- M/504/7463 SG Hwyluso gweithgareddau mewn busnes bwyd 3 3 20
- T/504/7464 GA Deall sut i hwyluso gweithgareddau mewn busnes bwyd 3 2 17
Grŵp B - Unedau Gwybodaeth
- F/504/7242 GD Egwyddorion cyfathrebu mewn busnes bwyd 3 3 21
- L/504/7244 GD Egwyddorion ymddygiad sefydliadol mewn busnes bwyd 3 4 27
- Y/504/7246 GD Egwyddorion cefnogi diwylliant sefydliadol mewn busnes bwyd 3 3 18
- D/504/7247 GD Egwyddorion gosod targedau a monitro perfformiad mewn busnes bwyd 3 3 21
- H/504/7248 GD Egwyddorion rheoli gwybodaeth mewn busnes bwyd 3 3 18
- K/504/7249 GD Egwyddorion systemau ansawdd mewn busnes bwyd 3 4 23
- D/504/7250 GD Egwyddorion cydymffurfio sefydliadol mewn busnes bwyd 3 4 22
- A/601/2953 GD Egwyddorion gwella mewn gweithrediadau bwyd 3 3 16
- F/601/2954 GD Egwyddorion technegau gwelliant parhaus (Kaizen) mewn gweithrediadau bwyd 3 3 15
- L/601/2701 GD Egwyddorion cynaliadwyedd mewn gweithrediadau bwyd 3 4 34