Mae'r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (NSAFD) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Bwyd a Diod a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/08/2023 ACW Fframwaith Rhif. FR05123
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 4 - Llwybr Rhagoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd yw 45 credyd (sef cyfanswm yr hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer yr holl elfennau).
Gofynion mynediad
Dyma rai enghreifftiau:
- Llwybrau academaidd (ee TGAU, Bagloriaeth Cymru)
- Drwy gwblhau cymwysterau galwedigaethol
- Cwblhau cyfnod ar leoliad gyda chyflogwr
- Profiad gwaith
- Hyfforddiant
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 4: Rhagoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd
Lefel 4: Rhagoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd Cymwysterau
Mae'n rhaid gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Lefel 4 Tystysgrif Hyfedredd mewn Rhagoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
FDQ | C00/0277/7 501/1656/3 | 27 | 270 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 4: Rhagoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 3 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 3 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 3 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 4: Rhagoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd | 112 | 296 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Argymhellir y dylai gymryd 24 mis o leiaf i gwblhau'r llwybr.
Cyfanswm gwerth credyd isaf y cymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth cyfun: 27 credyd
Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol: 18 credyd
Cyfanswm yr oriau hyfforddi isafswm yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith: 408 o oriau dysgu
- Cymhwysedd = isafswm o 52 awr
- Gwybodaeth = isafswm o 73 awr
- Sgiliau Hanfodol Cymru (gwerth tybiannol 45 awr x 3) = 135 awr
- Gweithgareddau mentora, hyfforddi a chefnogi 88 wythnos x 1 awr/wythnos = 88 awr
- Mentora yn y swydd = 60 awr
Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith = 296 o oriau hyfforddi
- Elfen wybodaeth - Tystysgrif Lefel 4 Rhagoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd = 73 awr
- Oriau Sgiliau Hanfodol Cymru a Mentora i Ffwrdd o'r Gwaith = 223 awr
Isafswm oriau hyfforddi yn y gwaith = 112 o oriau hyfforddi
- Elfen gymhwysedd - Tystysgrif Lefel 4 mewn Rhagoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd = 52 awr
- Mentora yn y swydd = 60 awr
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 ODDA Lefel 3 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 ODDA Lefel 3 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 ODDA Lefel 3 Llythrennedd Digidol
Gofynion eraill ychwanegol
Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol ar wahân i'r gofynion mynediad cyffredinol.
Dilyniant
Dilyniant o'r Brentisiaeth Uwch Bwyd a Diod (Rhagoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd):
Dyma rai enghreifftiau:
- I swydd, er enghraifft, fel rheolwr cynhyrchiant, rheolwr gweithgynhyrchu diwastraff neu reolwr gwella parhaus
- Ymlaen i gymhwyster Addysg Uwch;
- Ymlaen i gymhwyster lefel 5;
- Datblygiad drwy symud yn llorweddol yn eu gyrfa neu i rôl swydd uwch.
Bydd llawer o opsiynau gyrfa ar gael i'r Prentis ar ôl cwblhau'r llwybr yn llwyddiannus.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut mae mynd ati'n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Dynion yn bennaf sy'n gweithio yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ac maent yn cynrychioli dros ddeuparth (68%) y gweithlu; Mae 32% yn fenywod. Mewn cymhariaeth, mae dosbarthiad y rhywiau ar draws pob diwydiant yng Nghymru yn fwy cytbwys, gyda 53% yn ddynion a 47% yn ferched. Rhwng 2006 a 2011, cafwyd cynnydd o 7% yng nghyfran y dynion yn y gweithlu (o 13,000 i 13,800) ond gostyngiad o 4% yng nghyfran merched o'r gweithlu (o 6,900 i 6,600). Mae 36% o weithwyr bwyd a diod Cymru oddi mewn i'r grŵp oedran 45 i 54 oed; Mae 8% rhwng 30 a 34 oed; a dim ond 17% sydd rhwng 16 a 29 oed. Mae’r grŵp oedran 16 i 29 oed gryn dipyn yn llai nag yng ngwledydd eraill y DU. Mewn cymhariaeth, mae 38% o'r gweithlu bwyd a diod yn y grŵp oedran hwn yng Ngogledd Iwerddon; ynghyd â 26% yn Lloegr a 25% yn yr Alban.
Bydd dros ddeuparth (68%) o’r gweithlu presennol yn gymwys i ymddeol yn yr 20 mlynedd nesaf. Mae’r amcangyfrifir bod 3,500 o wladolion y tu allan i’r DU yn gweithio yn niwydiant bwyd a diod Cymru yn 2011 yn werth ei nodi, sef cynnydd o 86% ers 2006. (Skills Insights and Labour Market Facts about the Food and Drink Manufacturing and Processing industry in Wales 2013-2014, Improve Limited 2013)
Mae’r llwybr hwn yn llwybr pwysig i annog mwy o amrywiaeth o fewn y diwydiant ac mae’r camau canlynol yn cael eu cymryd i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant:
- Monitro data yn barhaus er mwyn canfod unrhyw broblemau ac ymyrryd pan fydd angen
- Hyrwyddo'r diwydiant ymhlith cynulleidfa amrywiol drwy ein gwefan gyrfaoedd Gyrfaoedd Blasus www.tastycareers.org.uk a Llysgenhadon Gyrfaoedd Blasus
- Gweithdai prentisiaeth i godi ymwybyddiaeth ynghylch manteision Prentisiaethau ymhlith cyflogwyr
Mae'n rhaid i'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â darpariaeth prentisiaethau, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant, canolfannau a chyflogwyr, ymrwymo i bolisi cyfle cyfartal, a chael polisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru Canllawiau/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 - Lefel 4: Rhagoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd
501/1656/3/C00/0277/7 - FDQ Lefel 4: Tystysgrif Hyfedredd mewn Rhagoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd
Rheolau Cyfuno (RhC)
Cyfanswm y credydau sydd eu hangen ar gyfer y cymhwyster 27
Cyfanswm Amser y Cymhwyster (CAC) 270 awr
Grŵp A – Rheoli newid Gorfodol 20+ credyd
Grŵp B – Gwybodaeth am Ragoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd Dewisol 0-10 credyd
Ystod Oriau Dysgu dan Arweiniad (isafswm/uchafswm) 125 - 213 awr
Asesu
Mae unedau sgiliau galwedigaethol (SG) wedi'u dylunio i asesu'r sgiliau cymhwysol sydd eu hangen ar y dysgwr i arddangos perfformiad cymwys yn y gweithle mewn rôl benodol. Asesir y cymhwyster hwn drwy bortffolio o'r hyn a gyflawnwyd gan y dysgwr. Gellir defnyddio tystiolaeth asesu arall i ategu tystiolaeth o berfformiad, ee tystiolaeth gan dyst, cwestiynau'n gysylltiedig â'r gwaith, dogfennau o'r gwaith, tystiolaeth ffotograffig a thrafodaeth broffesiynol.
Gellir defnyddio dulliau asesu eraill i asesu gofynion gwybodaeth alwedigaethol (GA) a gwybodaeth danategol (GD) gan gynnwys e-asesiad, arholiad amlddewis ac aseiniad. Nodir y gofynion asesu mewn unedau asesu unigol, er enghraifft, gweler F/601/2954 Egwyddorion technegau gwella parhaus(Kaizen) mewn gweithrediadau bwyd.
Nodir y gofynion asesu yn yr unedau asesu unigol. Ceir addasiadau rhesymol sy'n caniatáu cymorth i'r dysgwr ar gyfer asesiadau llafar neu drefniadau addasu eraill i fodloni anghenion y dysgwr. Bydd yr holl weithgarwch asesu yn destun mesurau sicrwydd ansawdd mewnol.
Mae FDQ wedi sefydlu system ansawdd sy'n cynnwys polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod ei gymwysterau'n cael eu datblygu a'u darparu ac yn parhau i fod yn addas i'r diben. Mae FDQ yn rhoi sicrwydd ansawdd allanol ar gyfer holl asesiadau'r canolfannau, ac ar gyfer eu trefniadau sicrwydd ansawdd mewnol.
Mae asesiadau o unedau Sgiliau Galwedigaethol (SG) wedi'u dylunio i asesu'r sgiliau cymhwysol sydd eu hangen ar y dysgwr i arddangos perfformiad cymwys yn y gweithle mewn rôl benodol.
Grŵp A Rheoli newid
- L/601/9650 SG Cyfarwyddo gweithredu strategaeth rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 4 19
- R/601/9651 GA Deall sut i gyfarwyddo gweithredu strategaeth rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 4 32
- Y/601/9652 SG Arwain gwaith i nodi blaenoriaethau ar gyfer rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 36
- D/601/9653 SG Arwain gwaith i fesur perfformiad cyfredol o ran rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 36
- H/601/9654 SG Arwain gwaith i ddadansoddi perfformiad cyfredol o ran rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 36
- K/601/9655 SG Arwain gwaith i wella perfformiad o ran rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 36
- M/601/9656 SG Arwain rheolaeth ar berfformiad o ran rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 36
- T/601/9657 SG Datblygu strategaeth rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 26
- A/601/9658 SG Deall sut i ddatblygu strategaeth rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 32
- F/601/9659 SG Sicrhau ymrwymiad i strategaeth rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 4 23
- T/601/9660 GA Deall sut i sicrhau ymrwymiad i strategaeth rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 31
- A/601/9661 SG Arwain newid sefydliadol i gynnal rhagoriaeth mewn gweithrediadau bwyd 4 4 28
- F/601/9662 GA Deall sut i arwain newid sefydliadol i gynnal rhagoriaeth mewn gweithrediadau bwyd 4 4 26
- J/601/9663 SG Cyfleu gweledigaeth a pholisi ar gyfer rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 28
- L/601/9664 GA Deall sut i gyfleu gweledigaeth a pholisi ar gyfer rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 32
- R/601/9665 SG Sicrhau cydymffurfiaeth i gefnogi rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 28
- Y/601/9666 GA Deall sut i sicrhau cydymffurfiaeth i gefnogi rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 31
- D/601/9667 SG Meithrin diwylliant rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 32
- H/601/9668 GA Deall sut i ddatblygu diwylliant rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 30
- K/601/9669 SG Rheoli risg er mwyn rheoli gwaith i sicrhau rhagoriaeth mewn gweithrediadau bwyd 4 5 28
- D/601/9670 GA Deall sut i reoli risg er mwyn rheoli gwaith i sicrhau rhagoriaeth mewn gweithrediadau bwyd 4 5 32
- K/601/9672 SG Annog arloesi er mwyn rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 32
- M/601/9673 GA Deall sut i annog arloesi er mwyn rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 32
- T/601/9674 SG Datblygu a rheoli perthnasoedd â sefydliadau allanol mewn gweithrediadau bwyd 4 3 12
- A/601/9675 GA Deall sut i ddatblygu a rheoli perthnasoedd â sefydliadau allanol mewn gweithrediadau bwyd 4 3 18
- H/600/9609 SG/GA Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, rheoleiddio, moesegol a
- chymdeithasol 4 5 25
- Y/600/9588 SG/GA Datblygu a gwerthuso cynlluniau gweithredol ar gyfer ei faes cyfrifoldeb ei hun 5 6 25
- F/601/9676 SG Datblygu, gweithredu a gwerthuso systemau sicrhau ansawdd mewn gweithrediadau bwyd 4 4 22
- J/601/9677 GA Gwerthuso a gwella systemau sicrhau ansawdd mewn gweithrediadau bwyd 4 4 12
- L/601/9678 SG Deall systemau sicrhau ansawdd mewn gweithrediadau bwyd 4 4 18
- R/601/9679 GA Asesu gweithrediadau ar gyfer effeithiolrwydd a chydymffurfiaeth â safonau diogelwch bwyd mewn gweithrediadau 4 4 26
- J/601/9680 SG Adrodd ar gydymffurfiaeth â gofynion diogelwch bwyd mewn gweithrediadau 4 4 26
- L/601/9681 GA Deall sut i adrodd ar gydymffurfiaeth â gofynion diogelwch bwyd mewn gweithrediadau 4 4 20
- R/601/9682 SG Datblygu strategaeth i sicrhau cynaliadwyedd mewn gweithrediadau bwyd 4 4 32
Grŵp B – Gwybodaeth am Ragoriaeth wrth Weithgynhyrchu Bwyd
- Y/601/9683 GD Egwyddorion polisi a rheoleiddio bwyd 4 5 36
- D/601/9684 GD Egwyddorion defnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a Systemau Rheoli Gwybodaeth mewn technoleg bwyd 4 4 23
- H/601/9685 GD Egwyddorion effeithlonrwydd ynni mewn gweithrediadau bwyd 4 4 24
- K/601/9686 GD Egwyddorion lleihau gwastraff mewn gweithrediadau bwyd 4 4 24
- M/601/9687 GD Egwyddorion defnyddio dŵr yn effeithlon mewn amgylchedd bwyd 4 4 24
- T/601/9688 GD Egwyddorion defnydd effeithlon o drafnidiaeth mewn gweithrediadau bwyd 4 4 24
- A/601/9689 GD Egwyddorion rheoli prosiect newid mewn gweithrediadau bwyd 4 4 35
- L/602/2001 GD Egwyddorion strategaeth rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 4 24
- M/601/9690 GD Egwyddorion sicrhau diwylliant rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 33
- D/601/9944 GD Egwyddorion rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 4 33
- T/601/9948 GD Egwyddorion methodolegau gwella ansawdd wrth ragori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 34
- T/601/9951 GD Egwyddorion offer a thechnegau gwella ansawdd er mwyn gwella rhagoriaeth mewn gweithrediadau bwyd 4 5 34
- F/601/9953 GD Egwyddorion diffinio cyfleoedd gwella er mwyn rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 34
- J/601/9954 GD Egwyddorion mesur perfformiad sefydliadol er mwyn rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 33
- L/601/9955 GD Egwyddorion dadansoddi perfformiad sefydliadol cyfredol er mwyn rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 33
- R/601/9956 GD Egwyddorion gwella perfformiad sefydliadol er mwyn rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 35
- Y/601/9957 GD Egwyddorion rheoli perfformiad sefydliadol er mwyn rhagori mewn gweithrediadau bwyd 4 5 35