Mae Instructus wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Busnes a Rheoli a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
53 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 - Gweithrediadau Canolfan Gyswllt.
70 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 - Gweithrediadau Canolfan Gyswllt.
Entry requirements
Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y Llwybr Prentisiaeth hwn. Serch hynny,
mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu ymgeiswyr â diddordeb brwd mewn gweithio mewn
amgylchedd canolfan gyswllt, ac sy'n mwynhau siarad â phobl. Maen nhw'n disgwyl i ymgeiswyr ddeall pwysigrwydd cael sgiliau cyfathrebu rhagorol, agwedd gadarnhaol at ddatrys problemau, sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol a pharodrwydd i weithio mewn modd hyblyg yn unol â gofynion cyflogwyr.
Bydd ymgeiswyr yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac yn amrywio o ran profiad, oed, cyflawniadau personol ac, mewn rhai achosion, cymwysterau a dyfarniadau blaenorol
a allai gyfrif tuag at gyflawni'r Rhaglen Brentisiaeth. Dyma rai enghreifftiau:
- wedi dal swydd gyfrifol mewn ysgol neu goleg; NEU
- wedi cwblhau profiad gwaith neu leoliad gwaith; NEU
- wedi cwblhau Gwobr Dug Caeredin neu ddyfarniad tebyg; NEU
- wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch; NEU
- wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh; NEU
- wedi cwblhau prentisiaeth sylfaen lefel 2 o sector arall (ar gyfer ymgeiswyr prentisiaeth lefel 3); NEU
- wedi cyflawni Cymhwyster Prif Ddysgu Gweinyddu Busnes a Chyllid yn rhan o Fagloriaeth Cymru.
Mae prentisiaid sy'n dilyn y Brentisiaeth Canolfan Gyswllt yn debygol o fod wedi cael rhywfaint o brofiad blaenorol mewn rôl canolfan gyswllt neu wasanaeth cwsmeriaid, er nad yw hyn yn ofyniad ffurfiol.
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Lefel 2: Gweithrediadau Canolfan Gyswllt
Lefel 2: Gweithrediadau Canolfan Gyswllt Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 2 Tystysgrif NVQ mewn Gweithrediadau Canolfan Gyswllt | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City and Guilds | C00/0342/4 600/1135/X | 28 | 280 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif mewn Gweithrediadau Canolfan Gyswllt | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City and Guilds | C00/0339/0 600/1137/3 | 13 | 130 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 2: Gweithrediadau Canolfan Gyswllt | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 1 | 6 |
Application of number | 1 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 2: Gweithrediadau Canolfan Gyswllt | 243 | 131 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Cyfanswm isaf o gredydau ar gyfer y llwybr hwn: 53 credyd
28 credyd ar gyfer cymhwyster cymhwysedd ac 13 credyd ar gyfer cymhwyster gwybodaeth
12 credyd ar gyfer Sgiliau Hanfodol, Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif
Cyfanswm yr oriau hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith - Lefel 2 Gweithrediadau Canolfan Gyswllt - 374 awr
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Gweithrediadau Canolfan Gyswllt
Lefel 3: Gweithrediadau Canolfan Gyswllt Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 3 Diploma NVQ mewn Gweithrediadau Canolfan Gyswllt | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City & Guilds | C00/0342/5 600/1136/1 | 42 | 420 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Tystysgrif mewn Gweithrediadau Canolfan Gyswllt | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City & Guilds | C00/0339/1 600/1138/5 | 16 | 160 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 3: Gweithrediadau Canolfan Gyswllt | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 3: Gweithrediadau Canolfan Gyswllt | 255 | 149 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Cyfanswm isaf o gredydau ar gyfer y llwybr hwn: 70 credyd
42 credyd ar gyfer cymhwyster cymhwysedd ac 16 credyd ar gyfer cymhwyster gwybodaeth
12 credyd ar gyfer Sgiliau Hanfodol, Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif
Cyfanswm yr oriau hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith - Lefel 3 Gweithrediadau Canolfan Gyswllt - 404 awr
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Other additional requirements
Amh
Progression
Lefel 2: Gweithrediadau Canolfan Gyswllt
Dilyniant i'r Brentisiaeth Uwch Gweithrediadau Canolfannau Cyswllt
Dilyniant i'r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Gweithrediadau Canolfan Gyswllt
Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid, gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r brentisiaeth hon. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:
- wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh; NEU
- wedi ennill Cymhwyster Prif Ddysgu yn rhan o Fagloriaeth Cymru mewn Busnes, Gweinyddu a Chyllid, Busnes Manwerthu, TGCh neu Wasanaethau Cyhoeddus; NEU
- wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth hon heb unrhyw gymwysterau blaenorol.
Dilyniant o Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid
Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid Lefel 2 symud ymlaen i:
- Brentisiaeth Lefel 3 Gweithrediadau Canolfan Gyswllt; NEU
- Brentisiaethau Lefel 3 eraill fel Gwasanaethau Cwsmeriaid, Busnes a Gweinyddu,
Manwerthu a Gwerthu; NEU
- Fagloriaeth Cymru, gan gynnwys un o'r Cymwysterau Prif Ddysgu mewn ystod o sectorau cysylltiedig, fel busnes, gweinyddu a chyllid, technoleg gwybodaeth, gwasanaethau cyhoeddus a busnes manwerthu; NEU
- Addysg bellach i ddilyn cymwysterau gwasanaethau cwsmeriaid, cymwysterau'n gysylltiedig â busnes neu gymwysterau eraill.
Gyda hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd prentisiaid Lefel 2 yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa i rolau fel Arweinydd Tîm Gwerthu, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid, Arweinydd Tîm Canolfan Gyswllt, Arbenigwr Cynnyrch, Goruchwylydd, Dadansoddwr Cymorth a Rheolwr Canolfan Gyswllt.
Lefel 3: Gweithrediadau Canolfan Gyswllt
Dilyniant i'r Brentisiaeth Lefel 3 Gweithrediadau Canolfan Gyswllt
Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau blaenorol prentisiaid o waith academaidd, gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r brentisiaeth hon. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:
- wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Gweithrediadau Canolfan Gyswllt NEU
- wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Gwasanaethau Cwsmeriaid; NEU
- wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn maes arall yn gysylltiedig â busnes, gan gynnwys Busnes a Gweinyddu, Gwerthu ac Arwain Tîm; NEU
- wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh; NEU
- wedi ennill Cymhwyster Prif Ddysgu yn rhan o Fagloriaeth Cymru ar gyfer Gweinyddu Busnes a Chyllid, TG, Busnes Manwerthu neu Wasanaethau Cyhoeddus; NEU
- wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth hon heb unrhyw gymwysterau blaenorol.
Bydd gan y rhan fwyaf o ddysgwyr sy'n symud ymlaen i'r Brentisiaeth Lefel 3 Canolfan Gyswllt rywfaint o brofiad blaenorol mewn rôl swydd canolfan gyswllt neu wasanaeth cwsmeriaid, er nad yw hyn yn ofyniad ffurfiol. Efallai y bydd y Brentisiaeth Lefel 2 Gweithrediadau Canolfan Gyswllt yn gweddu'n well i ddysgwyr sydd heb unrhyw brofiad blaenorol mewn rôl swydd canolfan gyswllt neu wasanaethau cwsmeriaid, er y dylid barnu ynghylch pob unigolyn yn ôl ei rinweddau, ei brofiadau a'i allu ei hun.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3 Gweithrediadau Canolfan Gyswllt
Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid symud ymlaen i:
- Brentisiaeth Uwch Busnes a Gweinyddu Proffesiynol neu Arwain a Rheoli; NEU
- Addysg bellach neu uwch i ddilyn cymwysterau gwasanaethau cwsmeriaid, cymwysterau'n gysylltiedig â busnes neu gymwysterau eraill, gan gynnwys Graddau Sylfaen mewn, er enghraifft, Gweithrediadau Canolfan Gyswllt neu Reoli Busnes; NEU
- Ystod o raglenni israddedig Gwasanaethau Cwsmeriaid, Canolfannau Cyswllt, Gwerthu, a rhaglenni israddedig eraill; NEU
- Ystod o gymwysterau Gwasanaethau Cwsmeriaid a chymwysterau proffesiynol eraill, gan gynnwys Diploma Lefel 4 Rheoli Gwasanaethau Cwsmeriaid, a Diploma Lefel 4
- Gweithrediadau Canolfan Gyswllt neu Radd Sylfaen Gwasanaethau Cwsmeriaid a Rheoli Canolfannau Cyswllt.
Gyda hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd prentisiaid yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa i rolau sy'n cynnwys: Rheolwr Cynllunio Adnoddau, Uwch Gynllunydd, Rheolwr Tîm, Rheolwr Cyfrif Allweddol, Uwch Reolwr Canolfan Gyswllt ac ystod o rolau eraill uwch sy'n gysylltiedig â chanolfannau cyswllt a gwasanaethau cwsmeriaid.
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Yn ôl ystadegau gwladol, merched yw dros draean (69%) y cyflogeion sy'n gweithio mewn canolfannau cyswllt yn y DU. Mae 34% o gyflogeion yn gweithio'n rhan-amser ac 85% yn wyn. Er bod dynion wedi'u tangynrychioli ymhlith swyddi canolfan gyswllt, maent yn llawer mwy tebygol o fod yn gwneud swyddi amser llawn.
Mae rhesymau posibl am y diffyg cydbwysedd rhwng dynion a merched yn y sector yn cynnwys y canfyddiad:
- mai gwaith i ferched yw gwaith mewn canolfannau cyswllt
- nad yw gwaith mewn canolfannau cyswllt yn cynnig sgiliau lefel uchel nac yn arwain at statws proffesiynol
- nad oes llwybr sgiliau clir na chynyddol
Mae twf a lledaeniad gweithrediadau canolfannau cyswllt a thechnoleg cynyddol soffistigedig canolfannau cyswllt wedi creu mwy o gyfleoedd am swyddi a gyrfaoedd ledled y DU. Fodd bynnag, wrth i'r gweithlu a'r sylfaen o gwsmeriaid droi'n fwy amrywiol, mae angen i ganolfannau cyswllt adlewyrchu'r amrywiaeth honno, a'i rheoli'n effeithiol. Ar gyfer hyn, mae angen nid yn unig agwedd sensitif tuag at faterion fel ethnigrwydd, diwylliant, rhywedd ac anabledd, ond hefyd ymwybyddiaeth o'r ymagweddau gwahanol a mwy creadigol a ddaw i'r busnes yn sgil amrywiaeth yn gyffredinol.
Er mwyn goresgyn rhai o'r materion hyn, mae gwaith ar droed i godi ymwybyddiaeth ynghylch canolfannau cyswllt fel llwybr gyrfa proffesiynol drwy:
- Fagloriaeth Cymru, drwy Gymwysterau Prif Ddysgu mewn Busnes, Gweinyddu a Chyllid, TG a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Adnoddau dysgu ar gyfer ysgolion
- Cyfleoedd i ymgysylltu â grwpiau ethnig a gwella cyfleoedd galwedigaethol
- Gwefannau gyrfaoedd amrywiol ar gyfer y Diwydiant canolfannau cyswllt, sy'n cynnwys lluniau sy'n chwalu stereoteipiau
Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog carfan amrywiol o unigolion i ymuno â'r diwydiant canolfannau cyswllt. Nid yw'r amodau er mwyn cael mynediad i'r Llwybr hwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolion, ac mae'r Llwybr ar agor ac yn hygyrch i bob darpar brentis.
Bydd mentora hefyd yn cael ei ysgogi o fewn y Brentisiaeth, er mwyn cynnig cymorth ychwanegol a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd prentisiaid yn aros.
Bydd Instructus Skills yn monitro cyflawniad a'r defnydd o'r holl brentisiaethau, a bydd yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n atal defnydd a chyflawniad.
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Responsibilities
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Ceir rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru