Mae'r Grŵp Llywio Caffael Masnacholwedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Caffael a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
Cyfanswm y gwerth credyd lleiaf sydd ei angen ar gyfer y Llwybr Prentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol Lefel 3 yw 61 credyd.
Cyfanswm y gwerth credyd lleiaf sydd ei angen ar gyfer y Llwybr Prentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol Lefel 4 yw 105 credyd.
Entry requirements
Mae cyflogwyr yn dymuno denu newydd-ddyfodiaid i'r proffesiwn sydd â diddordeb mewn gweithio yn y proffesiwn caffael a chyflenwi masnachol .
Mae'r proffesiwn yn cynnig ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa ar draws y cylch masnachol a welir mewn ‘Rolau Swyddi’ a llwybrau amrywiol ar gyfer dilyniant gyrfa.
Gall y broses ddethol gan gyflogwyr (neu mewn partneriaeth â darparwyr dysgu) gynnwys asesiad cychwynnol lle gofynnir i ymgeiswyr a oes ganddynt unrhyw gymwysterau neu brofiad y gellir eu hachredu yn erbyn gofynion y brentisiaeth.
Bydd angen i brentisiaid, ynghyd â bodloni'r gofynion mynediad y llwybr, allu cydymffurfio â Gwiriadau Cyn-Gyflogaeth y sefydliad sy'n cyflogi.
Lefel 3: Argymhellir bod gan yr ymgeisydd radd C neu uwch mewn TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth). Sylwer, rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y llwybr hwn fod yn 16+ oed.
Lefel 4: Argymhellir bod gan yr ymgeisydd TGAU gradd C neu uwch o leiaf mewn Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth) ynghyd â chymhwyster Lefel 3 perthnasol. Byddai'r rhain fel arfer yn cynnwys dwy Safon Uwch neu fwy, diplomâu cysylltiedig (neu NVQs) neu gymhwyster cyfwerth. Fodd bynnag, nid yw'r awgrymiadau hyn yn hanfodol. Sylwer, rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y llwybr hwn fod yn 18+ oed.
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Lefel 3: Prentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol
Lefel 3: Prentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol Cymwysterau
Rhaid i gyfranogwyr gyflawni'r ddau gymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 3 - Tystysgrif mewn Gweithrediadau Caffael a Chyflenwi (Cymru) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Open Awards | C00/4940/5 | 19 | 190 | Gwybodaeth | Cymraeg a Saesneg |
Lefel 3 - Tystysgrif Uwch mewn Gweithrediadau Caffael a Chyflenwi | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi | 603/3283/9 | 30 | 300 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 3: Prentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg-Saesneg
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 3: Prentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol | 230 | 260 |
Mae'r cymhwyster cymhwysedd yn gyfanswm o 19 credyd a'r cymhwyster gwybodaeth yn 30 credyd
Cyfanswm yr oriau hyfforddi - sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Llwybr hwn yw 490 o oriau hyfforddi.
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 credyd / 60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 4: Prentisiaeth mewn Caffael a Chyflenwi Masnachol
Lefel 4: Prentisiaeth mewn Caffael a Chyflenwi Masnachol Cymwysterau
Rhaid i gyfranogwyr gyflawni'r ddau gymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 4 - Tystysgrif mewn Rheoli Caffael a Chyflenwi (Cymru) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Open Awards | C00/4940/6 | 33 | 330 | Gwybodaeth | Cymru-Saesneg |
Lefel 4 - Diploma mewn Caffael a Chyflenwi | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi | 603/3924/X | 60 | 600 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 4: Prentisiaeth mewn Caffael a Chyflenwi Masnachol | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg-Saesneg
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 4: Prentisiaeth mewn Caffael a Chyflenwi Masnachol | 590 | 340 |
Mae'r cymhwyster cymhwysedd yn gyfanswm o 33 credyd a'r cymhwyster gwybodaeth yn 60 credyd
Cyfanswm yr oriau hyfforddi - sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Llwybr hwn yw 930 o oriau hyfforddi.
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Other additional requirements
Gofynnir i ddysgwyr ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol, methdaliad neu Ddyfarniad Llys Sirol (CCJ) ar adeg cofrestru.
Job roles
Mae'r sector caffael yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru. Mae'r sector cyhoeddus ar ei ben ei hun yn gwario dros £8 biliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith, tra yn y sector preifat, mae tua 40%-70% o wariant sefydliadau ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith a brynwyd.
Mae'n elfen hanfodol o weithrediadau busnes, nid yn unig yn sicrhau caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn effeithlon ac yn effeithiol ond mae'n gyfle enfawr i effeithio ar les cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol trwy benderfyniadau prynu gwybodus a rheoli contractau yn effeithiol ar draws pob sector.
Mae'r sector yn wynebu cyfnod o ansefydlogrwydd ac ansicrwydd parhaus yn sgil digwyddiadau macro-economaidd. Mae'r digwyddiadau hyn wedi dangos pwysigrwydd caffael wrth nodi atebion i reoli risg, lleihau anwadalrwydd wrth gynyddu gwerth ar draws cadwyni cyflenwi cymhleth a bregus.
Er bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn goruchafu, gan gwmpasu iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, awdurdodau lleol, a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill. Mae Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru yn nodi blaenoriaethau allweddol i ysgogi twf economaidd, cynyddu cynhyrchiant a gwneud Cymru'n decach ac yn fwy cystadleuol. Mae cyflawni'r uchelgais hwn yn gofyn am y sgiliau masnachol cywir ar draws pob sector.
Gan fod y proffesiwn yn wynebu prinder enfawr o dalent, bydd prentisiaid sy'n cymryd rhan yn y llwybr hwn yn dechrau ar adeg gyffrous ac yn ennill y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen i ddatblygu gyrfa foddhaus ym maes caffael.
Bydd y llwybrau ar Lefel 3 a Lefel 4 a gefnogir gan Dystysgrif (Lefel 3) a Diploma (Lefel 4) Caffael a Chyflenwi Siartredig yn caniatáu i brentisiaid ennill gwybodaeth am yr offer a'r methodolegau i gefnogi blaenoriaethau'r diwydiant, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i reoli perthnasoedd, cyrchu, negodi, rheoli contractau, ymwybyddiaeth ariannol, rheoli risg a chynllunio strategol. Tra bydd y cymhwyster Open Awards a ddatblygwyd gyda gweithwyr proffesiynol o Gymru yn cefnogi cyrhaeddiad y profiad i ddangos cymhwyso'r sgiliau mewn amgylchedd gwaith.
Mae'r rolau swyddi a'r llwybrau dilyniant yn helaeth ar draws diwydiannau a sectorau ac er y bydd rolau a chyfrifoldebau swyddi yn amrywio yn ôl strwythur y swyddogaeth caffael a chyflenwi, bydd y sgiliau a geir yn ystod y brentisiaeth yn drosglwyddadwy ar draws diwydiannau a sectorau gyda dau gymhwyster gwerthfawr yn sail iddynt.
Lefel 3:
Byddai disgwyl i brentisiaethau ar Lefel 3 fod mewn rolau caffael tactegol/mynediad heb unrhyw gyfrifoldeb rheoli neu gyfrifoldeb rheoli cyfyngedig iawn, mewn rolau risg a chyfrifoldeb isel. Byddai prentisiaethau yn cefnogi neu'n cynorthwyo gweithgareddau caffael uwch aelodau'r tîm.
Y rolau swyddi nodweddiadol a ddisgwylir gan brentisiaethau ar Lefel 3:
Cynorthwyydd Prynu, Cynorthwyydd Caffael, Prynwr Cynorthwyol, Cynorthwyydd Gweinyddol, Rheolwr Stoc, Gweinyddwr Contractau, Cynllunydd Rhestr Eiddo, Swyddog Contractau Cynorthwyol, Swyddog Cymorth Caffael
Rolau enghreifftiol a disgrifiad ar Lefel 3:
Cynorthwyydd Caffael: Yn cefnogi uwch weithwyr proffesiynol caffael gyda thasgau gweinyddol a chofnodi data.
Prynwr: Ennill profiad ymarferol ac yn cefnogi gyda chyrchu a phrynu nwyddau a gwasanaethau o dan oruchwyliaeth.
Swyddog Caffael Cynorthwyol: Yn cynorthwyo i gyrchu a rheoli contractau, yn negodi â chyflenwyr, ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau.
Lefel 4:
Byddai disgwyl i brentisiaethau ar lefel 4 fod mewn rolau caffael gweithredol/ lefel mynediad – canol gyda rhywfaint o gyfrifoldeb rheolaethol. Byddai disgwyl i brentisiaid ddarparu gweithgaredd caffael gyda rhywfaint neu ychydig o oruchwyliaeth.
Y rolau swyddi nodweddiadol a ddisgwylir gan brentisiaethau ar Lefel 4:
Swyddog Caffael, Arbenigwr Caffael, Dadansoddwr Cadwyn Gyflenwi, Swyddog Caffael Gweithredol, Rheoli Categori Cynorthwyol, Cynllunydd Cadwyn Gyflenwi Categori, Dadansoddwr Logisteg
Rolau enghreifftiol a disgrifiadau ar Lefel 4:
Swyddog Caffael: Rheoli contractau, yn negodi â chyflenwyr, ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau.
Arbenigwr/Rheolwr Categori Cynorthwyol: Yn cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau categori mewn meysydd penodol fel TG, adeiladu neu gaffael gofal iechyd. Yn aml mae arbenigwyr categori yn gyfrifol am gefnogi datblygiad y categori a'r strategaethau i ddatblygu'r strategaethau caffael a'r farchnad.
Prif Brynwr: Yn rheoli caffael deunyddiau, nwyddau a gwasanaethau ar gyfer y sefydliad, gan sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o'r gost, arian parod, ansawdd a gwasanaeth. Byddwch yn ysgogi gwerth ychwanegol trwy gyrchu'n strategol, peirianneg gwerth, cyflawni arloesedd a rheoli risg.
Rheolwr Contractau: Rheoli contractau gwerth uchel a mabwysiadu a rheoli arfer gorau prosesau caffael ledled y sefydliad.
Progression
Llwybrau dilyniant i Brentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol Lefel 3:
Mae'r proffesiwn yn ceisio denu unigolion o bob cefndir sydd ag awydd i ddylanwadu ar ganlyniadau masnachol gwell trwy arfer gorau caffael a chyflenwi a rheoli contractau.
Mae prentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol Lefel 3 wedi'i chynllunio ar gyfer unigolion o bob cefndir, gan gynnig mynediad hygyrch i'r maes cyffrous hwn. Mae'r rhaglen hyblyg hon yn darparu ar gyfer gwahanol sectorau ac anghenion sefydliadol heb unrhyw brofiad blaenorol angenrheidiol.
Gall dilyniant i brentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol Lefel 3 ddod o'r canlynol:
- TGAU, Safon Uwch a chymwysterau amgen
- Bagloriaeth Cymru
- Profiad gwaith blaenorol
Dilyniant o brentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol Lefel 3:
Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Caffael Masnachol Lefel 3, gall prentisiaid llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth Caffael Masnachol Lefel 4 i barhau â'u taith ddysgu ac ennill dau gymhwyster lefel 4 o ansawdd. Cydnabyddir un yn fyd-eang (Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi) a datblygwyd y llall yn bwrpasol gan weithwyr proffesiynol o Gymru gydag Open Awards i gefnogi cynrychiolwyr i gyflawni'r profiad yn y gwaith cywir ar gyfer gyrfa hir a boddhaus.
Gall prentisiaid eraill barhau i weithio wrth astudio ar gyfer eu cymwysterau proffesiynol - Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi.
Efallai y bydd rhai prentisiaid yn dewis parhau â'u hastudiaethau technegol a dechrau ar gymwysterau proffesiynol sy'n benodol i'r swydd.
Llwybrau dilyniant i Brentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol Lefel 4:
Mae prentisiaeth Lefel 4 yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â phrofiad blaenorol ond cyfyngedig mewn masnach. Gall hyn fod yn unigolion sy'n trosglwyddo o rolau eraill ar draws sectorau. Efallai y bydd yr unigolyn yn hollol newydd i gaffael ac efallai'n gweithredu ar lefel uwch.
Gallai dilyniant i Brentisiaeth Caffael Masnachol Lefel 4 fod yn uniongyrchol o'r Brentisiaeth Caffael Masnachol Lefel 3 neu gymwysterau galwedigaethol neu brentisiaethau cysylltiedig eraill. Gallai mynediad uniongyrchol o'r ysgol fod o gyflawni Safon Uwch (cyfwerth), neu Gymwysterau Bagloriaeth Cymru.
Llwybrau dilyniant o Brentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol Lefel 4:
Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Caffael Masnachol Lefel 4, gall prentisiaid llwyddiannus barhau i weithio wrth astudio ar gyfer eu cymwysterau proffesiynol, Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi. Cymhwyster y mae cyflogwyr yn aml yn gofyn amdano ar gyfer rolau caffael lefel ganolig.
Efallai y bydd rhai prentisiaid yn dewis parhau â'u hastudiaethau technegol a dechrau ar gymwysterau proffesiynol sy'n benodol i'r swydd.
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar rwystrau i fynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r bobl hynny nad ydynt yn gwneud hynny fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd yn cael eu cynnwys er mai dim ond mewn perthynas â'r gofyniad i ddileu gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (ERR) bellach yn orfodol mewn fframweithiau prentisiaethau. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16 oed-18 oed) yn derbyn rhaglen gynefino'r cwmni.
Responsibilities
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a’r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y llwybr hwn yn cael eu darparu yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Darparwyd canllawiau arfer gorau ychwanegol i gefnogi cyflogwyr.
Cyflogwyr:
Darparu hyfforddiant yn y gwaith: Mae arfer gorau yn cynnwys paru prentis â mentor o'r sefydliad neu o sefydliad arall, darparu goruchwyliaeth uniongyrchol, a chyfleoedd i ymarfer a datblygu sgiliau a gwybodaeth ofynnol.
Neilltuo amser ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith: Hwyluso cyfranogiad mewn sesiynau ystafell ddosbarth, gweithdai, neu fodiwlau dysgu ar-lein yn unol â'r cynllun hyfforddi a chefnogi’r prentisiaid yn ystod eu dysgu.
Adolygu cynnydd yn rheolaidd: Cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r prentis a'r darparwr hyfforddiant i drafod cynnydd, mynd i'r afael â heriau, ac addasu'r cynllun yn ôl yr angen.
Cefnogi creu portffolio: Cefnogi’r prentis i baratoi ei bortffolio gyda thystiolaeth i gefnogi tystiolaeth o gymhwysedd yn unol â gofynion y fframwaith.
Gellir cael gwybodaeth bellach oddi wrth: Llywodraeth Cymru