- Framework:
- Gwaith Warws a Storio
- Lefel:
- 2/3
Os oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn gweithio ym maes gwaith warws yn y sector logisteg, yn mwynhau gweithio mewn tîm, yn barod i weithio shifftiau ac yn cadw amser yn dda, gallai hon fod yn yrfa ddelfrydol i chi.
Mae Prentisiaid Sylfaen yn gweithio fel casglwyr/pacwyr mewn warysau, llwythwyr a gyda hyfforddiant priodol fel gweithredwyr tryciau codi. Yna mae modd ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb yn cynnwys rôl rheolwr tîm iau.
Byddech yn cyflawni dyletswyddau amrywiol a allai gynnwys gweithio ar eich pen eich hun neu mewn tîm a gallai gynnwys llwytho/dadlwytho cerbydau a dethol a phacio archebion cwsmeriaid, gan sicrhau bod nwyddau yn barod i gael eu dosbarthu ar amser.
Os ydych chi’n mynd ymlaen i rôl Uwch mewn Gwaith Warws, byddech yn ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol gofalu am dimau a sicrhau bod tasgau’n cael eu cwblhau ar amser yn unol â gofynion sefydliadau a chwsmeriaid.
Bydd y fframwaith hwn yn cynnig cyfleoedd i symud ymlaen i swyddi Lefel 3 a hyfforddiant mewn Gwaith Warws ac i’r diwydiant logisteg ehangach.
Mae gan gyflogwyr ddiddordeb mewn ymgeiswyr sydd â sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol a fydd yn sail i’r brentisiaeth hon yn cael ei seilio arnynt.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Gweithiwr Warws – Lefel 2
Addas ar gyfer swydd Gweithiwr Warws
Gwaith Warws a Storio – Lefel 3
Addas ar gyfer Swyddi Uwch Swyddog Warws/Arweinydd Tîm
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12 mis
Lefel 3: 12 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Prentisiaethau Sylfaen mewn unrhyw un o’r canlynol: Prentisiaeth mewn Arwain Tîm/ Prentisiaeth Gweithrediadau Logisteg/ Prentisiaeth Gwaith Warws a Storio/ Prentisiaeth Gyrru Cerbydau Nwyddau.
- Gyda rhaglen datblygu mewnol/ allanol bellach wedi/heb ei hachredu (DPP) i’r swyddi canlynol ar lefel 3: Arweinydd Tîm/ Rheolwr Warws/Rheolwr Cludiant.
- Gradd sylfaen mewn logisteg, cynllunio cludiant, gweithrediadau a gweinyddu logisteg yn dilyn hyfforddiant a datblygu pellach.
Lefel 3 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Prentisiaeth/Prentisiaeth Uwch mewn un o’r canlynol: Prentisiaeth Uwch Rheoli/Prentisiaeth Uwch Rheoli Prynu a Chyflenwi.
- Gyda rhaglen datblygu mewnol/ allanol bellach wedi/heb ei hachredu (DPP) i’r swyddi canlynol: Arweinydd Tîm/Rheolwr Warws/Arbenigwr Cludiant.
- Gradd sylfaen mewn logisteg, cynllunio cludiant, gweithrediadau a gweinyddu logisteg yn dilyn hyfforddiant a datblygu pellach.
- Rhaglenni addysg uwch fel Rheoli Logisteg a’r Gadwyn Gyflenwi, Busnes a Rheoli.
Cymwysterau
Lefel 2: Tystysgrif mewn Gwaith Warws a Storio
Lefel 3: Diploma mewn Gwaith Warws a Storio
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Gall ymgeiswyr ar gyfer y brentisiaeth hon ddod o lwybrau amrywiol, gan gynnwys:
- gwaith neu brofiad gwaith
- hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy’n dangos yr hyn maen nhw wedi’i wneud
- unrhyw Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol Ehangach
- Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y Cymhwyster Prif Ddysgu ar gyfer Busnes Manwerthu sydd â chymhwyster(au) galwedigaethol neu academaidd amrywiol gyda chynnwys logisteg.
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Lefel 3
Gall ymgeiswyr ar gyfer y brentisiaeth hon ddod o lwybrau amrywiol, gan gynnwys:
- gwaith neu brofiad gwaith
- hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy’n dangos yr hyn maen nhw wedi’i wneud
- unrhyw Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol Ehangach
- Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y Cymhwyster Prif Ddysgu ar gyfer Busnes Manwerthu sydd â chymhwyster(au) galwedigaethol neu academaidd amrywiol gyda chynnwys logisteg.
Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Gweld llwybr llawn