- Framework:
- Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau
- Lefel:
- 2/3/4
Mae Prentisiaeth Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Lefel 2 a 3 yn cynnwys atgyweirio a chynnal a chadw pob math o gerbydau. Byddwch yn cynnal gwaith cynnal a chadw rheolaidd ac atgyweiriadau sylfaenol, ynghyd â nodi a rhoi gwybod am ddiffygion.
Fel prentis, byddwch yn dysgu sut i ddiagnosio, profi ac atgyweirio cerbydau amrywiol, gan gynnwys cerbydau ysgafn a thrwm, trelars, beiciau modur, carafanau a chartrefi modur.
Gallech weithio i ddelwriaewth a chanolbwyntio ar wneuthurwr penodol, neu weithio i garej annibynnol sy’n delio â gwneuthurwyr cerbydau amrywiol.
Mae atgyweirio cerbydau yn waith ymarferol gyda phob cerbyd yn dod â phroblem newydd. Bydd gofyn i chi gyflawni tasgau anodd yn fanwl-gywir ac yn fedrus felly mae deheurwydd llaw yn hollbwysig. Bydd disgwyl i chi hefyd drin cyfarpar trwm a sefyll am gyfnodau maith gydol eich diwrnod gwaith.
Bydd hefyd angen sgiliau cyfathrebu da arnoch er mwyn egluro popeth yn glir i’r cwsmer.
Ar ôl cwblhau’r llwybr, gallwch symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel Uwch Lefel 4 lle byddwch yn dysgu sut i fod yn rheolwr tro cyntaf effeithiol mewn gweithdy cynnal a chadw neu atgyweirio.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau – Lefel 2
Llwybr 1: Cerbyd ysgafn – addas ar gyfer swydd Technegydd Gwasanaeth Cerbyd Ysgafn
Llwybr 2: Cerbyd trwm – addas ar gyfer swydd Technegydd Gwasanaeth Cerbyd Trwm
Llwybr 3: Beic Modur - Technegydd Gwasanaeth Beic Modur
Llwybr 4: Gosodiadau Awto-drydanol a Thrydanol Symudol
Llwybr 5: Trelar Cerbyd Trwm
Llwybr 6: Tryc codi
Llwybr 7: Carafán a Chartref Modur
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau - Lefel 3
Llwybr 1: Cerbyd ysgafn – addas ar gyfer swydd Technegydd Diagnostig Cerbyd Ysgafn
Llwybr 2: Cerbyd trwm – addas ar gyfer swydd Technegydd Diagnostig Cerbyd Trwm
Llwybr 3: Beic Modur - addas ar gyfer swyddi Technegydd Diagnostig Beic Modur
Llwybr 4: Gosodiadau Awto-drydanol a Thrydanol Symudol
Llwybr 5: Tryc Codi – addas ar gyfer swydd Technegydd Diagnostig Tryc Codi
Llwybr 6: Carafán a Chartref Modur - addas ar gyfer swydd Uwch Dechnegydd Carafán a Chartref Modur.
Egwyddorion Diagnosteg a Rheoli Uwch – Lefel 4
Llwybr 1: Egwyddorion Diagnosteg a Rheoli Uwch – addas ar gyfer swyddi Prif/Uwch Dechnegydd a Rheolwr Gweithdy.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 22 mis
Lefel 3: 18 mis
Lefel 4: 18 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Prentisiaeth (Lefel 3) mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau (unrhyw lwybr)
- Addysg Bellach ac Uwch – Diploma Lefel 3/Diploma Estynedig
Lefel 3 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio
- Gradd sylfaen
- Rhaglenni Addysg Uwch fel rhaglenni MEng a BEng mewn Cerbydau Modur.
Lefel 4 Mae’r rolau’n cynnwys
- Cyflogaeth
- Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio
- Gradd sylfaen er enghraifft, mewn Peirianneg Fodurol neu Dechnoleg Fodurol
- Rhaglenni Addysg Uwch fel rhaglenni MEng a BEng Peirianneg Fodurol.
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma mewn llwybr o’ch dewis.
Lefel 3: Diploma mewn llwybr o’ch dewis
Diploma estynedig lefel 3 (Llwybr 6)
Lefel 4: Tystysgrif mewn Diagnosteg Cerbydau a Rheoli Uwch
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Mae gofynion mynediad yn hyblyg ac mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr ddiddordeb penodol mewn ymgeiswyr a all ddangos agwedd hyderus a phositif a pharodrwydd i weithio’n galed.
Mae sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol ynghyd â dealltwriaeth o bwysigrwydd darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Mae prawf dallineb lliw yn orfodol i’r rhai sydd am weithio gyda systemau trydanol.
Lefel 2: Dim gofynion mynediad penodol.
Lefel 3
Lefel 3: Dim gofynion mynediad penodol ar gyfer y rhan fwyaf o lwybrau, ac eithrio Llwybr 6: Carafán a Chartref Modur lle bydd angen i unigolion fod â diddordeb mewn hyfforddiant ‘aml-sgiliau’ oherwydd bydd yn gweithio ar systemau amrywiol, gan gynnwys mecaneg, siasi, brêcs, nwy, plymio, gwaith saer/gwaith coed, electroneg a thechnoleg cyfathrebu yn defnyddio systemau diagnostig a lloeren yn y cerbyd.
Lefel 4
Lefel 4: Cwblhau Prentisiaeth (Lefel 3) mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau neu gyda phrofiad blaenorol o weithio yn y diwydiant cerbydau modur neu beirianneg ar Lefel 3.
Gweld llwybr llawn