Mae Lantra wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Amaeth a'r Amgylchedd a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 31/03/2020 ACW Fframwaith Rhif. FR05037
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
127 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Peirianneg Tir Lefel 2.
78 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Peirianneg Tir Lefel 3.
Gofynion mynediad
Lefel 2: Peirianneg Tir
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Peirianneg Tir. Fodd bynnag, ceir cymwysterau, cyrsiau a phrofiad a fydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y sector cyn cychwyn:
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Astudiaethau Tir
- Dyfarniad/Tystysgrif Lefel 1 BTEC mewn Astudiaethau Tir
- /Diploma Lefel 1 mewn Gweithrediadau Tir Seiliedig ar Waith
- TGAU (Saesneg/Mathemateg, isafswm D) /Safon Uwch
- Wedi gweithio yn y diwydiant yn y gorffennol, neu'n gweithio ynddo ar hyn o bryd
- Sgiliau Allweddol/Hanfodol.
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth Sylfaen.
Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.
Ceir cyfleoedd i ddysgwyr sy'n oedolion hefyd symud ymlaen i'r Brentisiaeth Sylfaen Peirianneg Tir, os oes ganddynt brofiad o fewn y diwydiant Peirianneg Tir, neu os ydynt yn ystyried newid gyrfa.
Lefel 3: Peirianneg Tir
Mae'r gofynion mynediad ar gyfer Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg Tir yn cynnwys cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg Tir Seiliedig ar Waith, a rhoddir ystyriaeth i'r canlynol
- Tystysgrif/Tystysgrif Estynedig/Diploma Lefel 2 mewn Technoleg Tir
- Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg Tir Seiliedig ar Waith
- NVQ Lefel 2 mewn Peirianneg Gwasanaeth Tir
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu RPL lle bo'n briodol.
Ceir cyfleoedd i ddysgwyr sy'n oedolion hefyd symud ymlaen i'r Brentisiaeth Peirianneg Tir, os oes ganddynt brofiad o fewn y diwydiant Peirianneg Tir, neu os ydynt yn ystyried newid gyrfa.
Wrth adolygu'r fframweithiau Peirianneg Tir, cytunwyd â'r diwydiant mai hyd isafswm y Brentisiaeth Sylfaen yw 24 mis, a hyd isafswm y Brentisiaeth yw 15 mis (yn ychwanegol at y 24 mis i ennill y Brentisiaeth Sylfaen).
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Peirianneg Tir
Lefel 2: Peirianneg Tir Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
| Lefel 2 Diploma mewn Gweithrediadau Peirianneg Tir Seiliedig ar Waith (FfCCh) | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/0231/8 501/0302/7 | 109 | 1090 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 2: Peirianneg Tir | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 1 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 2: Peirianneg Tir | 2584 | 323 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
109 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg Tir Seiliedig ar Waith (FfCCh)
Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yw 3230 o oriau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Peirianneg Tir
Lefel 3: Peirianneg Tir Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
| Lefel 3 Diploma mewn Gweithrediadau Peirianneg Tir Seiliedig ar Waith (FfCCh)) | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/0231/9 501/0399/4 | 60 | 600 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun. .
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 3: Peirianneg Tir | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 3: Peirianneg Tir | 1615 | 323 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
60 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 3 mewn Gweithrediadau Peirianneg Tir Seiliedig ar Waith (FfCCh)
Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yw 2019 o oriau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Gofynion cyflogaeth ychwanegol
Ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen a'r Brentisiaeth, mae'r diwydiant Peirianneg Tir wedi gofyn i ymgeiswyr gwblhau pedwar o'r Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol a ganlyn, y mae dau ohonynt yn Orfodol a dau yn Ddewisol. Bydd y gofynion cyflogaeth ychwanegol hyn yn gwella'r Brentisiaeth ac yn hwyluso cyflogaeth yn y diwydiant. Nid yw Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol yn ofynnol er mwyn ennill tystysgrif, ac mae'n bosibl na fyddant yn cael eu cyllido.
Sylwer: Os yw prentis eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2, argymhellir y dylai ddilyn cyrsiau gwahanol.
Gorfodol:
- Cymorth Cyntaf Brys (cwrs undydd sy'n bodloni'r gofynion a amlinellwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch HSE)
- Defnyddio Peiriannau Olwyn Sgraffinio yn Ddiogel
Dau brawf galwedigaethol arall wedi'u hachredu a'u cydnabod yn ddeddfwriaethol neu'n genedlaethol sy'n berthnasol i'r diwydiant (rhestr o awgrymiadau isod):
- Gyrru Tractor Sylfaenol
- Defnydd Diogel o Dractorau Dwy Olwyn a Reolir ar Droed
- Defnyddio Offer Cynnal a Chadw Glaswellt yn Ddiogel
- Cerbyd Pob Tir (ATV/UTV) / Defnyddio / Gyrru'n Ddiogel
- Cyrsiau Technegol Gwneuthurwyr Cymeradwy
- Rheoli Adnoddau Naturiol mewn Modd Cynaliadwy (SMNR)
- Peiriannau Dwy Olwyn
- Defnydd Diogel o FLT/Telesgopig/Gwrthbwyso
- Defnydd Diogel o Beiriannau Torri Gwair (Gwthio/Gyrru)
- Codi a Chario
- Defnydd Diogel o Dorwyr Llwyni
- Llifiau Cadwyn - Cynnal a Chadw a Thrawstorri
- Defnydd Diogel o Chwistrellwyr (PA1 + PA6 + PA2)
- Llwythwr a chloddiwr - Defnydd diogel o "180° neu 360°"
Rolau swydd
Gall rolau swydd ar Lefel 2 gynnwys: Peiriannydd Gwasanaeth Amaethyddol, Peiriannydd Gwasanaeth Coedyddiaeth, Peiriannydd Gwasanaeth Chwaraeon/Gofal Tir, Peiriannydd Gwasanaeth Garddwriaethol, Peiriannydd Gwasanaeth Cynnal a Chadw Peiriannau.
Gall rolau swydd ar Lefel 3 gynnwys: Technegydd Diagnostig, Goruchwyliwr Gweithdy.
Dilyniant
Mae'r diwydiant Peirianneg Tir yn rhoi gwerth ar y Brentisiaeth fel llwybr mynediad/dilyniant i'r diwydiant. O'r Brentisiaeth Sylfaen ceir dilyniant uniongyrchol i'r Brentisiaeth, neu mae'n bosibl yr ystyrir dilyniant o raglenni eraill.
Dilyniant i'r Brentisiaeth.
Cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg Tir Seiliedig ar Waith.
Ystyrir:
Tystysgrif/Tystysgrif Estynedig/Diploma Lefel 2 mewn Technoleg Tir
Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg Tir Seiliedig ar Waith
NVQ Lefel 2 mewn Peirianneg Gwasanaeth Tir
Mae mynediad i'r brentisiaeth hon yn ddibynnol ar ddisgresiwn y Darparydd Hyfforddiant.
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth.
Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.
Ceir cyfleoedd i ddysgwyr sy'n oedolion hefyd symud ymlaen i'r Brentisiaeth Peirianneg Tir, os oes ganddynt brofiad o fewn y diwydiant Peirianneg Tir, neu os ydynt yn ystyried newid gyrfa.
Dilyniant o'r Brentisiaeth
Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus yn cael cyfle i fynd rhagddynt o fewn y diwydiant, drwy symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch eraill, fel HNC/D. Dyma enghreifftiau o gyrsiau sydd ar gael ar draws y DU:
- Peirianneg: Peirianneg Tir ac Adeiladu
- Peirianneg: rheoli delwriaeth peiriannau
- Amaethyddiaeth a mecaneiddio
- Technoleg amaethyddol
- Pobl neu reolaeth ariannol
- Rheoli Busnes.
Efallai y bydd prentisiaid sydd eisiau symud ymlaen yn eu cyflogaeth o'r Brentisiaeth yn gallu gweithio tuag at swyddi uwch, technegol a rheoli. Bydd y gallu i symud ymlaen yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad yr unigolyn, gan na fydd cyflawni'r Brentisiaeth yn unig yn rhoi sicrwydd o fynediad i'r cyfleoedd hyn.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Dynion yn bennaf yw gweithwyr y diwydiant Peirianneg Tir (77%), sydd yn sylweddol uwch na chyfartaledd y dynion sy'n gweithio yn y sector, sef 68% (y DU) a chyfartaledd Cymru o 71%.
Er nad yw'r diwydiant yn atal menywod rhag gweithio yn y sector, awgrymir bod y diffyg cydbwysedd yn deillio o hen ganfyddiad mai diwydiant y mae dynion yn gweithio ynddo yn bennaf yw peirianneg tir, er bod llawer o rolau yn y maes hwnnw yn cael eu cyflawni gan fenywod. Mae'n ddiddorol mai dynion yn bennaf hefyd sy'n cofrestru ar raglenni dysgu Addysg Bellach yn gysylltiedig â Pheirianneg Tir, sef cyfartaledd o 98% o gymharu â chofrestriadau dysgu seiliedig ar waith o 100%.
Ceir ystod o rolau ymarferol i bobl o bob oedran a gallu, ynghyd ag angen cynyddol am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus. Mae'r diwydiant yn amrywiol ac yn cynnwys delwriaethau, gweithgynhyrchwyr, y sector gofal tir, delwriaethau a gweithgynhyrchwyr peiriannau coedwigaeth a gardd.
Ceir ystod eang o gyfleoedd ar gyfer peirianwyr tir, gan gynnwys gyrfaoedd cyffrous a boddhaus ym maes datblygu dyluniadau, gweithgynhyrchu, peirianneg maes, peirianneg gwasanaeth, rheolaeth amgylcheddol, mecaneiddio a gwerthu a marchnata.
Penderfyniadau a gwaith pellach:
Ysgrifennwyd yr unedau o fewn y Diploma mewn Peirianneg Tir Seiliedig ar Waith mewn cydweithrediad â sefydliadau dyfarnu partner, i sicrhau eu bod yn rhydd rhag rhagfarn, yn hygyrch i bob prentis, ac yn berthnasol i ystod eang o rolau a busnesau ym maes Peirianneg Tir. Oherwydd natur amrywiol y sector Peirianneg Tir, mae'r Diploma mewn Peirianneg Tir Seiliedig ar Waith wedi cael ei ddatblygu o'r unedau hyn, er mwyn caniatáu cymaint o hyblygrwydd a dewis ag sy'n bosibl oddi mewn i'r rheolau cyfuno.
Bydd Lantra yn gweithio gyda'i Diwydiant Peirianneg Tir i hyrwyddo'r angen am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus. Yn rhan o hyn rhoddir ystyriaeth hefyd i'r angen i gynyddu cyfranogiad yn y diwydiant ymhlith menywod a phobl o gefndiroedd ethnig.
Bydd y gweithgareddau'n cynnwys:
- Cynyddu ymwybyddiaeth o'r Brentisiaeth Peirianneg Tir drwy ymgyrchoedd penodol, gan ganolbwyntio ar grwpiau wedi'u tangynrychioli fel menywod yn arbennig. Cynyddu marchnata a chyfathrebu mwy i dynnu sylw at y cyfleoedd ymhlith ystod eang o yrfaoedd o fewn y sector, ac yn gysylltiedig â'r sector.
- Defnyddio tudalennau gwe gyrfaoedd Lantra i hysbysu cynghorwyr gyrfa a phrentisiaid ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1
Lefel 2: Peirianneg Tir
Mae'n rhaid i Fframwaith Prentisiaeth Sylfaen nodi:
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster, Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg Tir Seiliedig ar Waith, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth.
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau
gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu, a bydd yn
rhaid iddynt greu cyfanswm o 109 credyd o leiaf.
Mae'n rhaid cyflawni 17 o gredydau o leiaf drwy gwblhau'r unedau gwybodaeth a restrir isod, a asesir drwy ddulliau annibynnol.
Mae'r unedau sy'n weddill o'r Diploma yn cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth, ac yn cynnwys dulliau asesu integredig.
Unedau gwybodaeth:
- Monitro a chynnal iechyd a diogelwch mewn Peirianneg Tir (7 credyd)
- Gweithrediadau Peirianneg Tir - Cymhwyso egwyddorion mecanyddol (5 credyd)
- Gweithrediadau Peirianneg Tir - Deall sut i ddefnyddio, gwasanaethu a chynnal
offer a chyfarpar (5 credyd)
Atodiad 2
Lefel 3: Peirianneg Tir
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster, Diploma Lefel 3 mewn Gweithrediadau Peirianneg Tir Seiliedig ar Waith, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth.
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau
gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu, a bydd yn
rhaid iddynt greu cyfanswm o 60 credyd o leiaf.
Mae'n rhaid cyflawni 19 o gredydau o leiaf drwy gwblhau'r unedau gwybodaeth a restrir isod, a asesir drwy ddulliau annibynnol.
Mae'r unedau sy'n weddill o'r Diploma yn cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth, ac yn cynnwys dulliau asesu integredig.
Unedau gwybodaeth:
- Cydnabod a lleihau risgiau yn y maes gwaith Peirianneg Tir (4 credyd)
- Gweithrediad peirianneg ar y tir - cyfrifiadau defnydd (5 credyd)
- Cynnal systemau rheoli a monitro electronig ar Gyfarpar Tir (10 credyd).