Mae Lantra wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Amaeth a'r Amgylchedd a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/03/2021 ACW Fframwaith Rhif. FR05015
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm gwerth credyd sy'n ofynnol ar gyfer Lefel 2 Gofal Anifeiliaid (gan gynnwys cymwysterau a Sgiliau Hanfodol) yw: 56 credyd
Yr isafswm gwerth credyd sy'n ofynnol ar gyfer Lefel 3 Gofal Anifeiliaid (gan gynnwys cymwysterau a Sgiliau Hanfodol) yw: 72 credyd
Lefel 2: 12-18 mis (hyblyg)
Lefel 3: 18-24 mis (hyblyg)
Gofynion mynediad
Lefel 2: Gofal Anifeiliaid
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid, ond ceir cymwysterau neu brofiad a fydd yn helpu dysgwyr i ddeall y sector a'r ymrwymiad sydd ei angen cyn cychwyn:
- Profiad o wirfoddoli yn y diwydiant gofal anifeiliaid
- Wedi gweithio yn y diwydiant yn y gorffennol, neu'n gweithio ynddo ar hyn o bryd
- Diploma Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid
- Diploma Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
- Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Anifeiliaid Bach Ymarferol
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Anifeiliaid Bach Ymarferol
- TGAU / Safon Uwch
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth Sylfaen. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.
Ceir cyfleoedd i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Sylfaen Gofal Anifeiliaid hefyd i ddysgwyr sy'n oedolion a chanddynt brofiad o fewn y diwydiant Ceffylau neu sy'n chwilio am yrfa newydd.
Lefel 3: Gofal Anifeiliaid
Mae'r diwydiant gofal anifeiliaid am i'r gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth Gofal Anifeiliaid fod yn hyblyg, ac felly wedi awgrymu y dylid cwblhau un o'r canlynol:
NVQ Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid
- Diploma Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
- Diploma Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid Ymarferol
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid
- Profiad ymarferol o fewn y diwydiant Gofal Anifeiliaid
- 3 TGAU (A*-C/9-4)/Safon Uwch
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu RPL lle bo'n briodol.
(Ceir llawer o gymwysterau ym maes gofal anifeiliaid - dim ond ychydig o awgrymiadau a geir uchod).
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Gofal Anifeiliaid
Lefel 2: Gofal Anifeiliaid Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:
Diploma Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0621/9 601/2653/X | 37 | 370 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Gofal Anifeiliaid | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Mae WEST (Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) yn orfodol ac efallai y bydd darparwyr hyfforddiant yn gallu creu eu cwestiynau sector-benodol eu hunain drwy ddefnyddio canllawiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Gan fod hyd y Brentisiaeth Sylfaen yn hyblyg (12-18 mis), bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol, bydd hyn yn golygu 1615 o oriau am 12 mis, pro rata ar gyfer unrhyw gyfnod arall.
Cymysgedd addas / hyblyg - argymhellir isafswm o oddeutu 20% i ffwrdd o'r gwaith. Yn dibynnu ar hyd y brentisiaeth, bydd hyn yn golygu 323 o oriau o hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith bob blwyddyn.
Gall yr oriau hyn amrywio yn ôl profiad blaenorol a chyrhaeddiad y prentis, a'r amser a gymerir i gwblhau'r rhaglen brentisiaeth.
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Gofal Anifeiliaid | Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol o 1292 awr y flwyddyn | Argymhellir 20%, yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol: 323 o oriau'r flwyddyn |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
44 credyd/440 o oriau TQT ar gyfer Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd /60 o oriau TQT ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 credyd / 60 o oriau TQT ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Gofal Anifeiliaid
Lefel 3: Gofal Anifeiliaid Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:
Diploma Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0110/7 500/6815/5 | 51 | 510 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Gofal Anifeiliaid | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Mae WEST (Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) yn orfodol ac efallai y bydd darparwyr hyfforddiant yn gallu creu eu cwestiynau sector-benodol eu hunain drwy ddefnyddio canllawiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
https://www.tribalgroup.com/software-and-services/student-information-systems/wales-essential-skills-toolkit
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Gan fod hyd y Brentisiaeth yn hyblyg (18-24 mis), bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol, bydd hyn yn golygu 1615 o oriau am 12 mis, pro rata ar gyfer unrhyw gyfnod arall.
Cymysgedd addas/hyblyg - argymhellir isafswm o oddeutu 20% i ffwrdd o'r gwaith. Yn dibynnu ar hyd y brentisiaeth, bydd hyn yn golygu 323 o oriau o hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith bob blwyddyn.
Gall yr oriau hyn amrywio yn ôl profiad blaenorol a chyrhaeddiad y prentis, a'r amser a gymerir i gwblhau'r rhaglen brentisiaeth.
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Gofal Anifeiliaid | Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol o 1292 awr y flwyddyn | Argymhellir 20%, yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol: 323 o oriau'r flwyddyn |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
51 credyd/510 o oriau TQT ar gyfer Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 credyd/60 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
6 credyd/60 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
6credyd/60 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Lefel 2
Dylid annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau ychwanegol, fel tystysgrifau mewn:
- Gwella eich dysgu a'ch pherfformiad eich hun
- Gweithio gydag eraill
- Datrys Problemau
- Cydraddoldeb
- Codi a Chario'n Ddiogel
- Cymorth Iechyd Meddwl
- Ymwybyddiaeth Ofalgar
- Diwylliant Cymru
- Diogelu
- Cymorth Cyntaf Brys (cwrs undydd wedi'i gymeradwyo gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)
- Cymorth Cyntaf Anifeiliaid
Lefel 3
Cynghorir pob prentis i fodloni'r gofynion ychwanegol canlynol sydd gan gyflogwyr, a fydd yn gwella'r brentisiaeth ac yn ei gwneud hi'n haws iddynt symud ymlaen o fewn y diwydiant:
- Cymorth Cyntaf Brys (cwrs undydd wedi'i gymeradwyo gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch).
- Cymorth Cyntaf Anifeiliaid
Yn ogystal â hyn, dylid annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau ychwanegol, fel tystysgrifau mewn:
- Gwella eich dysgu a'ch pherfformiad eich hun
- Gweithio gydag eraill / Gweithio mewn tîm
- Datrys Problemau
- Cydraddoldeb / Amrywiaeth / Cynhwysiant Cymdeithasol
- Codi a Chario'n Ddiogel
- Cymorth Iechyd Meddwl
- Ymwybyddiaeth Ofalgar
- Diwylliant Cymru
- Diogelu
- Arwain a Rheoli / Goruchwylio a Dirprwyo
- Cyfathrebu
Rolau swydd
Lefel 2: Gofal Anifeiliaid
Gall rolau swydd ar Lefel 2 (Prentisiaeth Sylfaen) gynnwys:
Cynorthwyydd Siop Anifeiliaid Anwes/Cynorthwyydd Manwerthu
| Gweithio mewn siopau manwerthu sy'n gofalu am anifeiliaid byw ac yn eu gwerthu. Gall y gwaith gynnwys: ymdrin ag ystod o ymholiadau gan gwsmeriaid; helpu gyda danfoniadau a llenwi silffoedd; bwydo a rhoi dŵr i'r anifeiliaid a glanhau cewyll; newid deunydd gwaelodol a deunydd gwely; cael gwared ag ysgarthion. |
Trin Anifeiliaid/Cŵn
| Mae trin anifeiliaid yn cynnwys gofalu am gŵn, cathod a chwningod. Mae'r rôl hon yn cynnwys cynorthwyo i siampŵo, torri blew a gwirio croen, llygaid, clustiau, safn, trwyn, traed a chrafangau anifeiliaid am unrhyw broblemau. |
Cynorthwyydd Gofal Anifeiliaid
| Bydd cynorthwywyr gofal anifeiliaid yn gofalu am anifeiliaid o ddydd i ddydd mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau, o dan oruchwyliaeth. Cyflawnir y gwaith mewn mannau fel lleoliadau gofal dydd, cenels a chathdai, canolfannau lles ac achub anifeiliaid, canolfannau bywyd gwyllt, parciau fferm, sŵau/casgliadau o anifeiliaid, gwasanaethau anifeiliaid anwes, sefydliadau bridio neu drin anifeiliaid ac ysbytai milfeddygol. |
Trafodwr Cŵn
| Bydd trafodwr cŵn a'i gi yn hyfforddi i ddiben penodol. Bydd trafodwyr cŵn yn gweithio gyda'u cŵn er mwyn helpu i atal a chanfod troseddau neu i ganfod pobl sydd wedi mynd ar goll. Bydd sefydliadau amrywiol yn defnyddio cŵn gwaith, fel yr heddlu, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, y lluoedd arfog/lifrog, gwasanaethau tân ac achub a charchardai. |
Cynorthwyydd Llety Anifeiliaid
| Bydd gweithwyr llety anifeiliaid yn gofalu am anifeiliaid tra byddant yn aros mewn sefydliadau llety neu gwarantîn, fel arfer tra bo'u perchnogion oddi cartref. Darperir y rhan fwyaf o sefydliadau llety i gŵn a chathod. Fodd bynnag, mae cyfleusterau llety hefyd ar gael i anifeiliaid eraill fel cwningod a pharotiaid. |
Cynorthwyydd Ceidwad Sŵ | Bydd Cynorthwyydd Ceidwad Sŵ yn cyflawni lawer o'r un tasgau â'r Ceidwad Sŵ, fel bwydo'r anifeiliaid a monitro eu lles, ond bydd yn gwneud hynny o dan oruchwyliaeth Prif Geidwad Sŵ, Curadur Anifeiliaid ac aelodau eraill uwch o'r staff. |
Cynorthwyydd Bywyd Gwyllt | Mae rôl y Cynorthwyydd Bywyd Gwyllt yn hollbwysig i gyflawni amcan craidd canolfan bywyd gwyllt, sef cynorthwyo'r Goruchwylydd Bywyd Gwyllt wrth dderbyn anifeiliaid gwyllt sy'n sâl, wedi'u hanafu neu eu hamddifadu, gan eu hadsefydlu a'u magu'n effeithiol, a'u rhyddhau'n ôl i'r gwyllt. Efallai y bydd gan Gynorthwywyr Bywyd Gwyllt wahanol feysydd arbenigedd, ac y byddant yn gweld pob math o anifeiliaid, o adar yr ardd hyd at ddraenogod, elyrch yn eu llawn dwf a chywion elyrch bychain. |
Cerddwr Cŵn | Bydd cerddwyr cŵn yn cynnig gwasanaethau i helpu perchnogion i ymarfer eu hanifeiliaid anwes. |
Gwarchodwr Anifeiliaid Anwes | Bydd gwarchodwyr anifeiliaid anwes yn cynnig gwasanaethau i helpu perchnogion i ofalu am eu hanifeiliaid tra byddant oddi cartref. Gall gynnwys gofalu am anifail anwes/ci yng nghartref y perchennog, ymweld â chŵn bach/anifeiliaid anwes a thacsis anifeiliaid anwes. |
Swyddog/Cynorthwyydd Cwrdd ag Anifeiliaid | Gall Swyddogion Cwrdd ag Anifeiliaid helpu staff academaidd mewn ysgol neu goleg* oleg, a'u helpu i oruchwylio myfyrwyr a rhoi cymorth a chyngor technegol fel bo'r angen. Byddant yn cyflawni gwaith beunyddiol arferol i ofalu am stoc anifeiliaid y sefydliad yn unol â'r polisi lles anifeiliaid, gan gynnwys glanhau'r llety, darparu bwyd, diod, deunydd gwely, deunydd nythu a gwiriadau iechyd dyddiol. Gall y rôl gynnwys cyfrannu at gydgysylltu â goruchwylio sesiynau addysg rhyngweithiol gydag anifeiliaid, diwrnodiau blasu a gweithgareddau i ddarpar fyfyrwyr neu'r cyhoedd drwy drafodaeth â'r sefydliad. |
Lefel 3: Gofal Anifeiliaid
Gall rolau swydd ar Lefel 3 (Prentisiaeth) gynnwys:
Ceidwad Sŵ/Anifeiliaid
| Bydd Ceidwaid Sŵ yn gyfrifol am ofal a lles anifeiliaid mewn sŵ, parc bywyd gwyllt/saffari, acwariwm neu gasgliad arbennig o ddydd i ddydd. Gall ceidwaid weithio gydag ystod eang o anifeiliaid, o famaliaid ac adar hyd at ymlusgiaid ac amffibiaid a physgod ac infertebratau. |
Triniwr Anifeiliaid/Cŵn
| Er bod mwyafrif y gwaith trin anifeiliaid yn golygu gofalu am gŵn, mae'r diwydiant wedi tyfu ac wedi troi'n llawer mwy amrywiol. Bellach mae'n cynnwys gwasanaethau trin ar gyfer anifeiliaid eraill, fel cathod a chwningod. Gall trin anifeiliaid fod yn waith boddhaus, oherwydd gall atal a lliniaru dioddefaint anifeiliaid. |
Hyfforddwr Anifeiliaid/Cŵn
| Ceir llawer o wahanol fathau o swyddi hyfforddi anifeiliaid, ac mae angen hyfforddiant a sgiliau gwahanol ar gyfer pob math. Mae mwyafrif yr hyfforddiant anifeiliaid yn canolbwyntio ar gŵn. Fodd bynnag, ceir mathau gwahanol o hyfforddiant anifeiliaid, gan gynnwys ceffylau sy'n cael eu hyfforddi i berfformio mewn sioeau ceffylau, neu hyfforddi anifeiliaid gwyllt fel llewod neu eliffantod. |
Technegydd Rheoli Anifeiliaid / Swyddog Cwrdd ag Anifeiliaid | Bydd technegwyr rheoli anifeiliaid yn rhoi gofal i anifeiliaid bob dydd mewn colegau, ysgolion a phrifysgolion. Mae'n cynnwys gweithio gydag amrywiaeth eang o anifeiliaid, myfyrwyr, staff addysgu ac ymwelwyr/asiantaethau allanol. Gallai'r rôl hefyd gynnwys cymryd rhan mewn clybiau gwyliau/penwythnos i blant. |
Trafodwr Cŵn/Anifeiliaid | Mae trafodwyr cŵn yn gyfrifol am sicrhau bod anifeiliaid gwaith yn cyflawni eu dyletswyddau dyddiol. Bydd yr anifeiliaid eisoes wedi'u hyfforddi, a chyfrifoldeb y trafodwr fydd cynnal safonau hyfforddi drwy dulliau atgyfnerthu cadarnhaol, gan gynnal lles anifeiliaid ar yr un pryd. Gallai hyn gynnwys anifeiliaid eraill. |
Goruchwylydd Gofal/Lles Anifeiliaid | Bydd Goruchwylwyr Gofal/Lles Anifeiliaid yn cyflawni ac yn goruchwylio tasgau fel glanhau, diheintio a chynnal safonau uchel. Gall hyn gynnwys llety anifeiliaid, ardaloedd ymarfer a bwyd, a'r holl gyfleusterau i'r staff a'r cyhoedd, yn ogystal â goruchwylio gofal anifeiliaid. Gall y rôl gynnwys goruchwylio a hyfforddi Cynorthwywyr a gwirfoddolwyr Gofal Anifeiliaid o ddydd i ddydd, a sicrhau bod staff yn cadw at fesurau Iechyd a Diogelwch. Gall Goruchwylwyr Gofal/Lles Anifeiliaid weithio ochr yn ochr â'r Llawfeddygon Milfeddygol Ymgynghorol i archwilio a thrin anifeiliaid, gan gynnwys sicrhau bod meddyginiaethau'n cael eu rhoi ar gyfyngau penodedig, a chynnal asesiadau rheolaidd o ymddygiad anifeiliad cyn eu hailgartrefu, gan roi'r newyddion diweddaraf i'r rheolwyr. Cyflawnir y gwaith mewn mannau fel cyfleusterau gofal dydd a llety, cenels a chathdai, canolfannau lles neu achub anifeiliaid, canolfannau cwrdd ag anifeiliaid, canolfannau bywyd gwyllt, parciau fferm, sŵau/casgliadau o anifeiliaid, gwasanaethau anifeiliaid anwes, sefydliadau bridio neu drin anifeiliaid ac ysbytai milfeddygol. |
Goruchwyliwr Bywyd Gwyllt | Mae rôl y Goruchwyliwr Bywyd Gwyllt yn hollbwysig er mwyn cyflawni amcan craidd canolfan bywyd gwyllt, sef derbyn anifeiliaid gwyllt sâl, wedi'u hanafu neu eu hamddifadu, gan eu hadsefydlu a'u magu'n effeithiol, a'u rhyddhau'n ôl i'r gwyllt. Efallai y bydd gan Oruchwylwyr Bywyd Gwyllt wahanol feysydd arbenigedd ac y byddant yn gweld pob math o anifeiliaid, o adar yr ardd hyd at ddraenogod, elyrch yn eu llawn dwf a chywion elyrch bychain. Maen nhw'n goruchwylio tasgau a gyflawnir gan staff, fel Cynorthwywyr Bywyd Gwyllt, a gwirfoddolwyr.
|
Rheolwr Llety Anifeiliaid | Bydd Rheolwyr Llety Anifeiliaid yn gyfrifol am waith dyddiol cyfleusterau llety, fel cenels, ac am ofalu am anifeiliaid a gedwir dan eu goruchwyliaeth. Mae'n rhaid iddynt oruchwylio'r anifeiliaid a gedwir yn eu cyfleusterau llety, i sicrhau eu bod yn derbyn gofal priodol. |
Goruchwyliwr/Rheolwr Siop Anifeiliaid Anwes/Manwerthu | Mae rolau goruchwylio/rheoli mewn siopau anifeiliaid anwes a manwerthu fel arfer yn golygu ymwneud â phob agwedd ar y siop, fel recriwtio, rheoli stoc a safonau'r siop. Gall gynnwys tasgau fel sicrhau bod y siop yn rhoi gwasanaeth o safon ragorol i gwsmeriaid drwy'r cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ym maes anifeiliaid anwes y gall y Goruchwylydd/Rheolwr Siop Anifeiliaid Anwes/Manwerthu a'i dîm ei gynnig. Bydd Rheolwyr/Goruchwylwyr Siop Anifeiliaid Anwes/Manwerthu yn sicrhau gofal anifeiliaid o'r safon uchaf bosib, ac yn sicrhau y rhoddir y brif flaenoriaeth i les anifeiliaid, gan hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes. Gall hyn gynnwys mabwysiadu rôl allweddol o ran goruchwylio, ysgogi, hyfforddi a datblygu'r tîm, yn ogystal â chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o redeg y siop a chyfrannu at gyrraedd a rhagori ar dargedau allweddol y siop. |
Arolygydd Lles Anifeiliaid / Swyddog Gorfodi Lles Anifeiliaid | Bydd Arolygwyr Lles Anifeiliaid / Swyddogion Gorfodi Lles Anifeiliaid yn gorfodi'r gyfraith, ac yn addysgu'r cyhoedd ynghylch sut i atal creulondeb i anifeiliaid. Gallai'r tasgau gynnwys ymateb i alwadau a wneir naill ai'n uniongyrchol i'w sefydliad, neu i achosion wedi'u cyfeirio gan asiantaethau allanol (gan gynnwys yr heddlu), mynd i'r safle trafod manylion y feirniadaeth â'r troseddwr posibl, cynnig cyngor a chefnogaeth a, lle bo angen, cychwyn proses gyfreithiol i gymryd yr anifail ymaith o oruchwyliaeth yr unigolyn. Yn ogystal ag achosion dinesig, bydd Arolygwyr Lles Anifeiliaid / Swyddogion Gorfodi Lles Anifeiliaid yn aml yn eu cael eu hunain mewn senarios achub. Gall anifeiliaid fynd yn sownd mewn mannau cyfyng, ar lannau neu eu cael eu hunain mewn sefyllfaoedd straenllyd iawn. Bryd hynny, gwaith yr Arolygwyr Lles Anifeiliaid / Swyddogion Lles Anifeiliaid yw cynorthwyo i achub yr anifail a'i symud wedyn i amgylchedd diogel. |
Dilyniant
Lefel 2: Gofal Anifeiliaid
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid yn gymhwyster a werthfawrogir gan y diwydiant gofal anifeiliaid fel llwybr i mewn i'r diwydiant.
Ceir cyfleoedd i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Sylfaen Gofal Anifeiliaid hefyd i ddysgwyr sy'n oedolion a chanddynt brofiad o fewn y diwydiant gofal anifeiliaid neu sy'n chwilio am yrfa newydd.
Dilyniant o Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2:
Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen yn llwyddiannus yn cael cyfle i fynd rhagddynt o fewn y diwydiant, drwy symud ymlaen i'r Brentisiaeth Gofal Anifeiliaid neu i gyrsiau Addysg Bellach eraill, fel:
- Diploma Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Sgiliau Ymarferol wrth Ofalu am Anifeiliaid
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Ymarferol wrth Ofalu am Anifeiliaid
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Rheoli Anifeiliaid
- Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Anifeiliaid
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn * Rheoli Anifeiliaid
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Hyfforddiant Anifeiliaid
- Diploma Lefel 3 mewn Trin Cŵn
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Egwyddorion Rheoli Anifeiliaid mewn Siop Anifeiliaid Anwes
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Egwyddorion Rheoli Anifeilaidd mewn Siop Anifeiliaid Anwes
Bydd cyfleoedd pellach am ddilyniant, fel Prentisiaeth/cymwysterau Nyrsio Milfeddygol Lefel 3 yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad yr unigolyn, a gofynion penodol y cyrff dyfarnu a rheoleiddio perthnasol, gan na fydd cyflawni'r Brentisiaeth yn unig yn rhoi sicrwydd o fynediad i'r cyfleoedd hyn.
Bydd y swyddi arferol y bydd prentisiaid yn gallu symud ymlaen iddynt ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 yn dibynnu ar eu cymwysterau a'r profiad y maent wedi'i gael.
Lefel 3: Gofal Anifeiliaid
Mae'r diwydiant gofal anifeiliaid yng Nghymru yn rhoi gwerth ar Brentisiaeth Lefel 3 fel llwybr mynediad/dilyniant i'r diwydiant. O'r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 ceir dilyniant uniongyrchol i Lefel 3, neu gall dysgwyr symud ymlaen i'r Brentisiaeth o raglen arall.
Ceir cyfleoedd i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Gofal Anifeiliaid hefyd i ddysgwyr sy'n oedolion a chanddynt brofiad o fewn y diwydiant gofal anifeiliaid neu sy'n chwilio am yrfa newydd.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3:
Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus yn cael cyfle i fynd rhagddynt o fewn y diwydiant, drwy symud ymlaen i Gyrsiau Addysg Bellach eraill fel HNC/D, Gradd Sylfaen (Fdg/FdSc) neu Radd (BSc). Dyma enghreifftiau o'r cyrsiau sydd ar gael ledled Cymru a Lloegr:
- BSc Anrh. mewn Gwyddor Anifeiliaid
- FdSc mewn Ymddygiad a Lles Anifeiliaid
- Fdg mewn Rheoli Anifeiliaid
- HNC/D Gofalu am Anifeiliaid
- BSc Lles Anifeiliaid
- Fdg Iechyd Anifeiliaid
- BSc Bioleg Anifeiliaid
- Dyfarniad L4 mewn Hyfforddwr Anifeiliaid
I brentisiaid sy'n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwysterau y tu hwnt i Lefel gradd, ceir cyfleoedd i symud ymhellach i Addysg Uwch ar gyrsiau fel fel Diploma Ôl-radd (PGdip) Gradd Meistr (MSc), gan gynnwys:
- MSc/PGdip mewn Lles Anifeiliaid
- MSc mewn Bioleg Anifeiliaid Gwyllt
- MSc/MRes/PGdip mewn Iechyd a Lles Ceffylau
Mae www.ucas.co.uk neu
ymhlith gwefannau defnyddiol y gellir ymweld â nhw ynghylch Addysg Uwch. Mae'r ddwy wefan yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau a darparwyr, ynghyd â gwybodaeth benodol am ofynion mynediad.
Efallai y bydd prentisiaid sydd eisiau symud ymlaen yn eu cyflogaeth o'r Brentisiaeth yn gallu gweithio tuag at swyddi rheoli.
Bydd y gallu i symud ymlaen yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad yr unigolyn, gan na fydd cyflawni'r Brentisiaeth Lefel 3 yn unig yn rhoi sicrwydd o fynediad i'r cyfleoedd hyn.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Y Diwydiant Gofal Anifeiliaid
Menywod (67%) yw'r rhan fwyaf o gyflogeion y diwydiant gofal anifeiliaid, sy'n sylweddol uwch na chanran y menywod sy'n gweithio ym marchnad lafur y DU (47%), yn ogystal â'r cyfartaledd o 32% o fenywod sy'n gweithio yn y sector tir (cyfartaledd Cymru yw 29%). Er nad yw'r diwydiant yn atal dynion rhag gweithio yn y sector, awgrymir bod y diffyg cydbwysedd yn deillio o hen ganfyddiad mai diwydiant y mae menywod yn gweithio ynddo yn bennaf yw gofal anifeiliaid, er bod dynion yn cyflawni llawer o rolau yn y maes hwnnw.
Ceir ystod o rolau ymarferol i bobl o bob oedran a gallu, ynghyd ag angen cynyddol am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus.
Mewn diwydiant sydd mor amrywiol ceir ystod eang o gyfleoedd, yn trafod, goruchwylio a gofalu am anifeiliaid sy'n amrywio rhwng anifeiliaid anwes bach, domestig ac egsotic a bywyd gwyllt ac anifeiliaid y sŵ. Mae cyflogwyr yn chwilio am weithwyr sy'n arddangos brwdfrydedd, a chanddynt sgiliau cyflogadwyedd sylfaenol fel y gallu i weithio mewn tîm, cyrraedd yn brydlon a sgiliau cyfathrebu.
Nid oes unrhyw rwystrau gwirioneddol sy'n atal pobl rhag cael eu recriwtio i'r diwydiant, ond mae'n bosibl y ceir rhai cyfyngiadau corfforol yn rhannau o'r diwydiant gofal anifeiliaid, yn enwedig wrth drafod a gweithio gydag anifeiliaid. Ni ddylai hyn gau unrhyw un allan, oherwydd gallai cyfleoedd fodoli i bobl ag anabledd corfforol weithio yn rhan arall o'r diwydiant. Yn wir, mae gan y diwydiant brofiad helaeth o ymdrin â phobl â chyfyngiadau corfforol, gan fod Cŵn Tywys y Deillion a Chŵn Clywed i Bobl Fyddar yn gweithredu ynddo.
Mae'n ofynnol i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sicrhau na cheir unrhyw achosion o wahaniaethu mewn modd annheg.
Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr pwysig i hyrwyddo ac annog amrywiaeth fwy o unigolion i ymuno â'r diwydiant.
Penderfyniadau a gwaith pellach
Ysgrifennwyd yr unedau o fewn y Diploma mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith mewn cydweithrediad â sefydliadau dyfarnu partner, i sicrhau eu bod yn rhydd rhag rhagfarn, yn hygyrch i bob prentis, ac yn berthnasol i ystod eang o rolau a busnesau ym maes Gofal Anifeiliaid. Oherwydd natur amrywiol y sector Gofal Anifeiliaid mae'r Diploma mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith wedi cael ei ddatblygu o'r unedau hyn, er mwyn caniatáu cymaint o hyblygrwydd a dewis ag sy'n bosibl oddi mewn i'r rheolau cyfuno.
Mae Lantra yn gweithio gyda'r diwydiant Gofal Anifeiliaid i hyrwyddo'r angen am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus. Yn rhan o hyn rhoddir ystyriaeth hefyd i'r angen i gynyddu cyfranogiad ymhlith dynion a chynyddu amrywiaeth ethnig o fewn y diwydiant. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:
Marchnata a chyfathrebu i dynnu sylw at y cyfleoedd ymhlith ystod eang o yrfaoedd ac i grwpiau targed.
Nododd y diwydiant fod canfyddiadau diwylliannol gwahanol ynghylch cadw anifeiliaid anwes (ac felly rolau lle gofelir amdanynt) yn rhwystr posibl, ac y gallai hynny effeithio ar y bobl sy'n ymuno â'r diwydiant.
Mae grwpiau o'r diwydiant wedi nodi eu bod yn ystyried chwilio am ffyrdd i'r sector ymgysylltu â chymunedau ar lawr gwlad, i ehangu diddordeb eto yn y sector o blith pob grŵp diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol. Er enghraifft, "hyrwyddwyr" mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, cyflwyniadau, posteri ac ati.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Dylid cynnal CHC yn ystod y rhaglen sefydlu, edrych arno eto yn rheolaidd a'i gofnodi.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
ATODIAD 1 Lefel 2 - Gofal Anifeiliaid
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster cyfun, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth:
Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
500/6818/0 / C00/0110/5 44 credyd 440 o oriau TQT 330 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (City & Guilds), a byddant yn creu cyfanswm o 44 credyd o leiaf (yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir).
Asesir yr unedau drwy gasglu tystiolaeth yn y gwaith ar ffurf portffolio, a thrwy brawf gwybodaeth amlddewis. Bydd yr asesydd yn ffurfio barn ynghylch dilysrwydd, digonolrwydd a chywirdeb y dystiolaeth.
Bydd y dewis o unedau - oddi mewn i ofynion canllawiau'r sefydliad dyfarnu (City & Guilds) - yn dibynnu ar y rôl a'r man gwaith y mae'r prentis yn gweithio ynddo, a bydd angen i'r prentis, y cyflogwr a'r darparydd gytuno ar hynny ar ddechrau'r rhaglen.
Unedau gwybodaeth
- 201 - Cynnal a datblygu perfformiad personol (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 202 - Sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol ag eraill (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 203 - Hyrwyddo a chynnal iechyd a lles anifeiliaid (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 204+19 - Rhoi triniaethau sylfaenol i anifeiliaid (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 205 - Dewis a pharatoi llety ar gyfer anifeiliaid (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 206 - Cynnal llety i anifeiliaid (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 207 - Rheoli a ffrwyno anifeiliaid (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 208 - Symud anifeiliaid rhwng lleoliadau (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 209 - Sicrhau bod eich gweithredoedd eich hunain yn lleihau risgiau i iechyd a diogelwch (2 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 210 - Cynnal glanweithdra a bioddiogelwch yr amgylchedd gwaith gofal anifeiliaid (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 211 - Rhoi cyfleoedd i anifeiliaid gael ymarfer dan reolaeth (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 212 - Rhoi cyfleoedd i anifeiliaid gael rhyddid i ymarfer (1 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 213 - Hyfforddi anifeiliaid drwy raglenni hyfforddi sylfaenol (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 214 - Cyfrannu at werthuso a gweithredu rhaglenni hyfforddi anifeiliaid sylfaenol (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 215 - Croesawu, derbyn a gofalu am ymwelwyr â safleoedd (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 216 - Cyflawni dyletswyddau derbynfa (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 217 - Ymdrin â thaliadau gan gleientiaid (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 218 - Paratoi a thrin cŵn cyn eu golchi (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 219 - Golchi a glanhau cŵn (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 220 - Paratoi a thrin anifeiliaid (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 221 - Sychu cŵn a pharatoi eu blew i'w steilio (1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 222 - Cyfleu gwybodaeth yn y gwaith (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 223 - Cadw a storio cofnodion yn y gwaith (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 224 - Paratoi bwyd i'r anifeiliaid (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 225 - Rhoi bwyd a dŵr i'r anifeiliaid (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 226 - Trafod anifeiliaid i'w galluogi i weithio'n effeithiol (3 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 227 - Gofalu am anifeiliaid ar ôl iddynt weithio (2 o 4 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 228 - Llwytho a dadlwytho anifeiliaid i'w cludo (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 236 * - Paratoi am, a chynnal ymgyrchoedd chwilio drwy ddefnyddio ci (1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 237 - Cynnal a datblygu perfformiad cŵn (1 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 239 - Defnyddio offer cyfathrebu radio (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 240 - Cadw stoc ar lefelau gofynnol mewn amgylchedd manwerthu (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 241 - Rhoi gwybodaeth a chyngor i gwsmeriaid mewn amgylchedd manwerthu (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 242 - Prosesu taliadau am bryniannau mewn amgylchedd manwerthu (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 536 * - Paratoi am, a chynnal ymgyrchoedd chwilio drwy ddefnyddio ci (1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 537 - Cynnal a datblygu perfformiad cŵn (1 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
ATODIAD 2 Lefel 3 - Gofal Anifeiliaid
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster cyfun, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth:
Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
500/6815/5 / C00/0110/7 51 credyd 510 o oriau TQT 346 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (City & Guilds), a byddant yn creu cyfanswm o 51 credyd o leiaf (yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir).
Asesir yr unedau drwy gasglu tystiolaeth yn y gwaith ar ffurf portffolio, a thrwy aseiniad a phrawf lle mae'n rhaid ysgrifennu atebion byr. Bydd yr asesydd yn ffurfio barn ynghylch dilysrwydd, digonolrwydd a chywirdeb y dystiolaeth.
Bydd y dewis o unedau - oddi mewn i ofynion canllawiau'r sefydliad dyfarnu (City & Guilds) - yn dibynnu ar y rôl a'r man gwaith y mae'r prentis yn gweithio ynddo, a bydd angen i'r prentis, y cyflogwr a'r darparydd gytuno ar hynny ar ddechrau'r rhaglen.
Unedau gwybodaeth
- 301 - Gweithredu, monitro a gwerthuso cynlluniau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid (2 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 302 - Hyrwyddo, monitro a chynnal iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo yn y gwaith (3 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 303 - Cynllunio i drafod a ffrwyno anifeiliaid (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 304 - Cynllunio, goruchwylio a rheoli symudiad anifeiliaid (2 o 4 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 305 - Ymchwilio i gamdriniaeth neu niwed yr adroddwyd amdano i anifeiliaid a gweithredu'n briodol (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 308 - Cydgysylltu gofal anifeiliaid sydd wedi cael eu cam-drin, eu niweidio, sydd wedi troi'n straen neu wedi'u gadael (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 309 - Rhoi cyngor ac arweiniad ar ddewis a gofalu am anifeiliaid i ddarpar geidwaid (4 o 7 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 310 - Asesu addasrwydd amgylcheddau newydd ar gyfer lleoli anifeiliaid (4 o 7 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 311 - Cynllunio i sefydlu a rheoli poblogaethau o anifeiliaid gwyllt (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 312 - Monitro a gwerthuso sefydlu a rheoli poblogaethau anifeiliaid gwyllt (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 313 - Darparu gwybodaeth ynghylch sut i gynnal ymddygiad, iechyd a lles anifeiliaid (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 314 - Adnabod a dehongli ymddygiad anifeiliaid (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 315- Cyfrannu at atal ymddygiad ymosodol a chamdriniaeth gan bobl (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 316 - Cyfrannu at reoli ymddygiad ymosodol a chamdriniaeth gan bobl (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 317 - Asesu a chynllunio gwaith trin cŵn (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 318 - Gwerthu meddyginiaethau a thriniaethau dros y cownter er mwyn gofalu am anifeiliaid (4 o 7 yn seiliedig ar wybodaeth)
- 319 - Rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid sy'n gofyn am gyngor ynghylch symptomau a meddyginiaethau dros y cownter i ofalu am anifeiliaid (4 o 7 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 320 - Gwerthuso'r gyfatebiaeth rhwng unigolion ac anifeiliaid (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 321 - Dylunio rhaglenni hyfforddi integredig i bobl ac anifeiliaid er mwyn gwireddu eu potensial cyfun (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 322 - Gweithredu rhaglenni hyfforddi integredig i unigolion ac anifeiliaid
i wireddu Canlyniadau a gytunwyd ar eu cyfer (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth) - 323 - Gwerthuso rhaglenni hyfforddi integredig i bobl ac anifeiliaid
i wireddu Canlyniadau a gytunwyd ar eu cyfer (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth) - 324 - Cynllunio a pharatoi i ryddhau anifeiliaid brodorol i gynefinoedd brodorol (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 325 - Argymell anifeiliaid i fodloni gofynion o ran adloniant ac addysg
yn y diwydiannau clyweled (2 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth) - 326 - Darparu gwybodaeth gyllidebol ar gyfer rôl yr anifail ar gyfer gofynion clyweled (4 o 7 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 327 - Cynllunio i gludo a throsglwyddo anifeiliaid i ddibenion adloniant ac addysg (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 328 - Cynllunio llety dros dro ar gyfer anifeiliaid mewn amgylchedd adloniant
ac addysg (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth) - 329 - Cynllunio gofal anifeiliaid mewn adloniant ac addysg (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 330 - Paratoi'r anifail ar gyfer adloniant ac addysg (3 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 331 - Paratoi perfformiwr i weithio gyda'r anifail (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 332 - Gweithio'r anifail i fodloni gofynion adloniant ac addysg (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 333 - Steilio a gorffen cŵn (3 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 334 - Paratoi a chodi adeileddau neu arwynebeddau newydd (2 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 335 - Trafod anifeiliaid (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 336 - Cynllunio dietau a chyfundrefnau bwydo i'r anifeiliaid (3 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 337 - Monitro a gwerthuso trefniadau bwydo anifeiliaid (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 338 - Dewis a pharatoi anifeiliaid ar gyfer bridio (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 339 - Rheoli gofal anifeiliaid ifanc (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 340 - Cynllunio llety anifeiliaid (3 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 341 - Monitro a gwerthuso llety anifeiliaid (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 342 - Dewis anifeiliaid i'w hyfforddi (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 343 - Dylunio rhaglenni hyfforddi unigol ar gyfer anifeiliaid (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 344 - Gweithredu rhaglenni hyfforddi unigol ar gyfer anifeiliaid (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 345 - Gwerthuso a gwella rhaglenni hyfforddi sy'n galluogi anifeiliaid i gyflawni amcanion penodol (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 346 - Sefydlu anifeiliaid mewn amgylchedd newydd (1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 347 - Paratoi anifeiliaid i'w cludo (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 348 - Cynnal iechyd a lles anifeiliaid wrth eu cludo (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 349 - Cynllunio, monitro a gwerthuso'r broses o gludo anifeiliaid (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 350 - Penderfynu a chytuno ar bolisïau ar gyfer rheoli anifeiliaid (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 351 - Monitro a gwerthuso gweithrediad polisïau rheoli anifeiliaid (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 352 - Ysgogi a chydnabod ymdrechion gwirfoddolwyr (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 353 - Rheoli gwaith gwirfoddolwyr (3 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 354 - Paratoi a chadw cychod gwaith mewn cyflwr da (3 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 355 - Defnyddio cychod gwaith (3 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 356 - Paratoi adloniant deongliadol a gweithgareddau addysgol (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 357 - Cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau adloniant ac addysgol deongliadol (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 358 - Gwarchod yr amgylchedd drwy orfodaeth gyfreithiol (3 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 359 - Trefnu i dderbyn a storio nwyddau mewn amgylchedd manwerthu (6 o 11 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 361 - Sicrhau bod nwyddau ar gael i'w gwerthu i gwsmeriaid mewn amgylchedd manwerthu (6 o 11 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 362 - Gwerthuso taliadau a dderbynnir gan gwsmeriaid (5 o 9 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 363 - Gwella'r berthynas â chwsmeriaid (2 o 7 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 364 - Gweithio gydag eraill i wella gwasanaeth cwsmeriaid (2 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 365 - Cynnal ymchwiliadau ar sail blaenoriaeth a nifer (Sgiliau er Cyfiawnder) (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 366 - Cyfweld â dioddefwyr a thystion yn gysylltiedig ag ymchwiliadau ar sail blaenoriaeth a nifer (Sgiliau er Cyfiawnder) (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 367 - Cyfweld â phobl dan amheuaeth mewn perthynas ag ymchwiliadau ar sail blaenoriaeth a nifer (Sgiliau er Cyfiawnder)
- (2 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 368 - Paratoi a chyflwyno ffeiliau achos (Sgiliau er Cyfiawnder) (2 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 369 - Cyflwyno gwybodaeth i'r llysoedd neu mewn gwrandawiadau eraill (Sgiliau er Cyfiawnder) (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 370 - Cynnal ymgyrchoedd chwilio cudd gyda chŵn (1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 371 - Galluogi dysgu drwy ddangos a rhoi cyfarwyddyd (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 372 - Cynllunio, cydgysylltu a gwerthuso tim(au) cŵn gwasanaeth (gwaith) i ddibenion cyffredinol o dan amgylchiadau gweithredol (5 o 10 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)