Mae Lantra wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Amaeth a'r Amgylchedd a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 31/03/2020 ACW Fframwaith Rhif. FR05033
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
49 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 2 Amaethyddiaeth.
69 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 3 Amaethyddiaeth
Gofynion mynediad
Lefel 2: Amaethyddiaeth
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth. Fodd bynnag, ceir cymwysterau neu brofiad a fydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y sector cyn cychwyn:
- Dyfarniad/Tystysgrif/Diploma Lefel 1 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Gweithrediadau Tir
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Amaethyddiaeth Ymarferol
- Wedi gweithio yn y diwydiant Amaethyddol yn y gorffennol, neu'n gweithio ynddo ar hyn o bryd.
- Gwaith gwirfoddol yn y diwydiant Amaethyddol
- TGAU
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth Sylfaen. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol. Ceir cyfleoedd i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Sylfaen Amaethyddiaeth hefyd i ddysgwyr sy'n oedolion a chanddynt brofiad o fewn y diwydiant Amaethyddiaeth neu sy'n ystyried newid gyrfa.
Lefel 3: Amaethyddiaeth
Mae'r diwydiant Amaethyddiaeth am i'r gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth fod yn hyblyg, ac felly wedi awgrymu y dylid cwblhau un o'r canlynol:
- Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith
- Dyfarniad, Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithgareddau Tir
- Prentisiaeth Sylfaen mewn Amaethyddiaeth
- Diploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith - Cnydau/Da Byw
- Llwybr i Brentisiaethau
- Profiad ymarferol o fewn y diwydiant Amaethyddol
- Gwaith gwirfoddol o fewn y diwydiant Amaethyddol
- 3 TGAU (A* -C) / Safon Uwch yn ogystal â phrofiad ymarferol o fewn y diwydiant Amaethyddol
- Safon UG/Uwch - yn ogystal â phrofiad ymarferol o fewn y diwydiant Amaethyddol
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Amaethyddiaeth
Lefel 2: Amaethyddiaeth Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Diploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0621/9 601/2653/X | 37 | 370 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Amaethyddiaeth | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Amaethyddiaeth | 1292 | 323 |
37 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith (FfCCh)
Gan fod hyd y Brentisiaeth Sylfaen yn hyblyg, bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Bydd hyn yn golygu rhwng 1615 o oriau ar gyfer 12 mis a 3230 o oriau ar gyfer 24 mis
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Amaethyddiaeth
Lefel 3: Amaethyddiaeth Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Diploma Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0109/7 500/6224/4 | 57 | 570 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Amaethyddiaeth | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Amaethyddiaeth | 1292 | 323 |
57 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith (FfCCh)
Gan fod hyd y Brentisiaeth yn hyblyg, bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Bydd hyn yn golygu rhwng 1615 o oriau ar gyfer 12 mis a 3230 o oriau ar gyfer 24 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Cymwysterau
Participants must achieve the following combined qualification below.
Gofynion eraill ychwanegol
Lefel 2: Amaethyddiaeth
Ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen, mae'r diwydiant Amaethyddiaeth wedi gofyn i ymgeiswyr gwblhau pedwar o'r Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol a ganlyn, y mae dau ohonynt yn Orfodol a dau yn Ddewisol.
Bydd y gofynion cyflogaeth ychwanegol hyn yn gwella'r Brentisiaeth ac yn hwyluso cyflogaeth yn y diwydiant. Nid yw Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol yn ofynnol er mwyn ennill tystysgrif, ac mae'n bosibl na fyddant yn cael eu cyllido.
Gorfodol:
• Cymorth Cyntaf Brys (cwrs undydd sy'n bodloni'r gofynion a amlinellwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch HSE)
• Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Ymwybyddiaeth/Cyflwyno Iechyd Meddwl)
Dau brawf galwedigaethol arall wedi'u hachredu a'u cydnabod yn ddeddfwriaethol neu'n genedlaethol sy'n berthnasol i'r diwydiant (rhestr o awgrymiadau isod):
- Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1)
- Hylendid Bwyd Sylfaenol (Cymeradwywyd gan yr FSA)
- Peiriannau Torri Gwair Silindr a Thro a weithredir ar droed
- Defnydd Diogel o Dractorau Dwy Olwyn a Reolir ar Droed
- Llif Gadwyn a Gweithrediadau Cysylltiedig
- Defnydd Diogel o Docwyr Gwrychoedd
- Codi a Chario'n Ddiogel
- Gweithrediadau Wagen Fforch Godi
- Gyrru Tractor a Gweithrediadau Cysylltiedig
- Gyrru Cerbyd gyda Threlar
- Defnydd Diogel o Beiriannau Palu Modur
- Gweithrediadau Malu Bonion
- Defnyddio Offer Cynnal a Chadw Glaswellt yn Ddiogel
- Cerbydau Torri Gwair
- Gyrru Cerbyd Pob Tir / Beic Cwad
- Asglodi coed / Rhwygo sglodion
- Hyfforddiant CAT
- Tystysgrif Trin Deunyddiau
- Gweithrediadau Asglodi Llwyni
- Defnyddio Peiriannau Olwyn Sgraffinio yn Ddiogel
- Tystysgrif Rheoli ac Atal Llygredd Integredig
- Defnyddio Peiriant Llifanu Ongl yn Ddiogel
- Triniwr Telesgopig
- Ffrwythloni Artiffisial
- Tocio Carnau
- Cneifio
- Defnyddio Meddyginiaethau Milfeddygol yn Ddiogel
- Defnydd Diogel o Ddip Defaid
- Hyfforddiant Dofednod Prydain (Cynllun Pasbort Hyfforddi Cod y Llew)
- Lles Dofednod (Cymeradwywyd gan BPT)
- Hylendid a Bioddiogelwch Fferm (Cymeradwywyd gan BPT / Cymeradwywyd gan God y Llew)
- Codi a Chario (Cymeradwywyd gan BPT)
- Bioddiogelwch, Diogelwch a Thrin Wyau (Cymeradwywyd gan God y Llew)
- Diogelwch Bwyd (Cymeradwywyd gan God y Llew)
- Gweithiwr Iechyd a Lles Dofednod (Cymeradwywyd gan God y Llew)
- Rheoli Adnoddau Naturiol mewn Modd Cynaliadwy (SMNR)
Lefel 3: Amaethyddiaeth
Ar gyfer y Brentisiaeth, mae'r diwydiant Amaethyddiaeth wedi gofyn i ymgeiswyr gwblhau pedwar o'r Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol a ganlyn, y mae dau ohonynt yn Orfodol a dau yn Ddewisol. Bydd y gofynion cyflogaeth ychwanegol hyn yn gwella'r Brentisiaeth ac yn hwyluso cyflogaeth yn y diwydiant. Nid yw Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol yn ofynnol er mwyn ennill tystysgrif, ac mae'n bosibl na fyddant yn cael eu cyllido.
Sylwer: Os yw prentis eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2, argymhellir y dylai ddilyn cyrsiau gwahanol.
Gorfodol:
• Cymorth Cyntaf Brys (cwrs undydd sy'n bodloni'r gofynion a amlinellwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch HSE)
• Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Ymwybyddiaeth/Cyflwyno Iechyd Meddwl)
Dau brawf galwedigaethol arall wedi'u hachredu a'u cydnabod yn ddeddfwriaethol neu'n genedlaethol sy'n berthnasol i'r diwydiant (rhestr o awgrymiadau isod):
- Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1)
- Hylendid Bwyd Sylfaenol (Cymeradwywyd gan yr FSA)
- Peiriannau Torri Gwair Silindr a Thro a weithredir ar droed
- Defnydd Diogel o Dractorau Dwy Olwyn a Reolir ar Droed
- Llif Gadwyn a Gweithrediadau Cysylltiedig
- Defnydd Diogel o Docwyr Gwrychoedd
- Codi a Chario'n Ddiogel
- Gweithrediadau Wagen Fforch Godi
- Gyrru Tractor a Gweithrediadau Cysylltiedig
- Gyrru Cerbyd gyda Threlar
- Defnydd Diogel o Beiriannau Palu Modur
- Gweithrediadau Malu Bonion
- Defnyddio Offer Cynnal a Chadw Glaswellt yn Ddiogel
- Cerbydau Torri Gwair
- Gyrru Cerbyd Pob Tir / Beic Cwad
- Asglodi coed / Rhwygo sglodion
- Hyfforddiant CAT
- Tystysgrif Trin Deunyddiau
- Gweithrediadau Asglodi Llwyni
- Defnyddio Peiriannau Olwyn Sgraffinio yn Ddiogel
- Tystysgrif Rheoli ac Atal Llygredd Integredig
- Defnyddio Peiriant Llifanu Ongl yn Ddiogel
- Triniwr Telesgopig
- Ffrwythloni Artiffisial
- Tocio Carnau
- Cneifio
- Defnyddio Meddyginiaethau Milfeddygol yn Ddiogel
- Defnydd Diogel o Ddip Defaid
- Hyfforddiant Dofednod Prydain (Cynllun Pasbort Hyfforddi Cod y Llew)
- Lles Dofednod (Cymeradwywyd gan BPT)
- Hylendid a Bioddiogelwch Fferm (Cymeradwywyd gan BPT / Cymeradwywyd gan God y Llew)
- Codi a Chario (Cymeradwywyd gan BPT)
- Ymwybyddiaeth Amgylcheddol (Cymeradwywyd gan BPT)
- Bioddiogelwch, diogelwch a thrin wyau (Cymeradwywyd gan God y Llew)
- Diogelwch Bwyd (Cymeradwywyd gan God y Llew)
- Rheoli Iechyd a Lles Dofednod (Cymeradwywyd gan God y Llew)
- Trin/Defnyddio Gwenwyn Llygod (Cymeradwywyd gan CRRU)
- Rheoli Adnoddau Naturiol mewn Modd Cynaliadwy (SMNR)
- Rheoli Adnoddau Naturiol mewn Modd Cynaliadwy (SMNR)
Rolau swydd
Mae'r mathau o swyddi sydd ar gael yn cynnwys:
Prentisiaeth Sylfaen: Gweithiwr Fferm (Da Byw, Cnydau neu Fferm Gymysg), Gweithredwr Peiriannau Amaethyddol, Gweithiwr Da Byw/ Buchesi/Diadelloedd, Gweithiwr Uned Moch, Gweithiwr Dofednod
Prentisiaeth: Gweithiwr Fferm, Gweithredwr Peiriannau Amaethyddol, Gweithiwr Da Byw/Buchesi/Diadelloedd, Technegydd Da Byw, Gweithiwr Uned Moch, Technegydd Moch, Gweithiwr Dofednod
Dilyniant
Lefel 2: Amaethyddiaeth
Mae'r diwydiant yn rhoi gwerth ar y Brentisiaeth Sylfaen mewn Amaethyddiaeth fel llwybr mynediad i mewn i'r sector.
Ceir cyfleoedd i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Sylfaen Amaethyddiaeth i ddysgwyr sy'n oedolion a chanddynt brofiad o fewn y diwydiant Amaethyddol neu sy'n ystyried newid gyrfa.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Amaethyddiaeth: Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen yn cael cyfle i fynd rhagddynt o fewn y diwydiant, drwy symud ymlaen i'r Brentisiaeth Amaethyddiaeth neu i Addysg Bellach.
Mae'r swyddi nodweddiadol y bydd dysgwyr sy'n cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen yn gallu symud ymlaen iddynt wedi'u rhestru yn yr adran ar cyfleoedd swydd, ee, Gweithiwr Fferm/Gweithiwr Fferm Âr, Gweithredwr Peiriannau Amaethyddol, Da Byw/Gweithiwr Buchesi/Diadelloedd, Gweithiwr Uned Moch, Gweithiwr Dofednod.
Byddai cyfle hefyd i symud ymlaen i yrfaoedd cysylltiedig eraill, fel gyrfaoedd o fewn y diwydiant milfeddygol
Lefel 3: Amaethyddiaeth
Mae'r diwydiant Amaethyddiaeth yn rhoi gwerth ar y Brentisiaeth fel llwybr mynediad/dilyniant i'r diwydiant. O'r Brentisiaeth Sylfaen ceir dilyniant uniongyrchol i'r Brentisiaeth, neu gall dysgwyr symud ymlaen yn syth i'r Brentisiaeth o raglen arall.
Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus yn cael cyfle i fynd rhagddynt o fewn y diwydiant, drwy symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch eraill, fel HNC/D. Dyma enghreifftiau o'r cyrsiau sydd ar gael ledled Cymru a'r DU:
- Amaethyddiaeth
- Amaethyddiaeth a Chadwraeth Cefn Gwlad
- Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid
- Amaethyddiaeth gydag Astudiaethau Busnes
- Agronomegydd Cnydau
Efallai y bydd prentisiaid sydd eisiau symud ymlaen yn eu cyflogaeth o'r Brentisiaeth yn gallu gweithio tuag at swyddi rheoli, fel Rheolwr Fferm Cynorthwyol neu Reolwr Uned.
Bydd y gallu i symud ymlaen yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad yr unigolyn, gan na fydd cyflawni'r Brentisiaeth Lefel 3 yn unig yn rhoi sicrwydd o fynediad i'r cyfleoedd hyn
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod fframweithiau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai Fframweithiau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Dynion yn bennaf yw gweithwyr y diwydiant Amaethyddol (77%), sydd yn sylweddol
uwch na chyfartaledd y dynion sy'n gweithio yn y sector, sef 68% (y DU) a chyfartaledd Cymru o 71%. Er nad yw'r diwydiant yn atal menywod rhag gweithio yn y sector, awgrymir bod y diffyg cydbwysedd yn deillio o hen ganfyddiad mai diwydiant y mae dynion yn gweithio ynddo yn bennaf yw Amaethyddiaeth, er bod llawer o rolau yn y maes hwnnw yn cael eu cyflawni gan fenywod. Mae'n ddiddorol mai dynion yn bennaf hefyd sy'n cofrestru ar raglenni dysgu Addysg Bellach yn gysylltiedig ag Amaethyddiaeth, sef cyfartaledd o 69% o gymharu â chofrestriadau dysgu seiliedig ar waith o 99%.
Ceir ystod o rolau ymarferol i bobl o bob oedran a gallu, ynghyd ag angen cynyddol am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus. Yn ôl ymchwil Lantra, rhagwelir y bydd angen 26,000 o bobl yng Nghymru dros y degawd nesaf ar draws y sector tir.
Ni ystyrir amaethyddiaeth yn yrfa ddeniadol bob amser, gan fod pobl yn tybio nad oes rhyw lawer o gyfleoedd am ddyrchafiad yn yr yrfa honno. Hefyd, mae'r gamdybiaeth bod pob swydd amaethyddol yn golygu gweithio y tu allan ym mhob tywydd yn ystod oriau hir ac anghymdeithasol, a bod llawer o'r swyddi o fewn busnesau teuluol sy'n cael eu trosglwyddo o'r naill genhedlaeth i'r nesaf yn creu mwy o rwystrau wrth recriwtio yn y farchnad lafur gystadleuol ehangach.
Fodd bynnag, nodir y rhain fel tueddiadau a gysylltir yn benodol â natur y sector Amaethyddol, ac nid oes unrhyw rwystrau gwirioneddol wrth recriwtio i'r diwydiant. Efallai y ceir rhai cyfyngiadau corfforol yn rhannau o'r diwydiant Amaethyddol, yn enwedig wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau trwm neu gydag anifeiliaid mawr. Ni ddylai hyn gau unrhyw un allan, oherwydd gallai cyfleoedd fodoli yn rhannau eraill o'r diwydiant.
Penderfyniadau a gwaith pellach
Ysgrifennwyd yr unedau o fewn y Diploma mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith mewn cydweithrediad â sefydliadau dyfarnu partner, i sicrhau eu bod yn rhydd rhag rhagfarn, yn hygyrch i bob prentis, ac yn berthnasol i ystod eang o rolau a busnesau ym maes Amaethyddiaeth. Oherwydd natur amrywiol y sector Amaethyddol mae'r Diploma Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith wedi cael ei ddatblygu o'r unedau hyn, er mwyn caniatáu cymaint o hyblygrwydd a dewis ag sy'n bosibl oddi mewn i'r rheolau cyfuno.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 2: Amaethyddiaeth
Mae'n rhaid i Fframwaith Prentisiaeth Sylfaen nodi:
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster, Diploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth.
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (C&G), a byddant yn creu cyfanswm o 37 credyd o leiaf, a bydd 10 o'r credydau hyn yn sail i'r elfen wybodaeth ac yn cael eu hasesu drwy ddulliau annibynnol.
Asesir yr unedau cymhwysedd ar wahân i'r unedau gwybodaeth a restrir isod.
Bydd y dewis o unedau yn dibynnu ar y rôl a'r man gwaith y mae'r prentis yn gweithio ynddo, a bydd angen i'r prentis, y cyflogwr a'r darparwyr gytuno ar hynny ar ddechrau'r rhaglen.
Unedau gwybodaeth (rhaid cwblhau 10 credyd o leiaf)
- Monitro a chynnal iechyd a diogelwch (2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Cynnal a datblygu perfformiad personol (1 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol ag eraill (1 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Sicrhau bod cnydau'n parhau i dyfu'n iach (4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Sefydlu a chynnal amodau sy'n briodol ar gyfer lles anifeiliaid (2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Cynnal bioddiogelwch safle a hylendid personol (1 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Paratoi cyflenwadau bwyd a dŵr ar gyfer da byw (1 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Monitro a chynnal cyflenwadau bwyd a dŵr ar gyfer da byw (1 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Paratoi a monitro amgylchedd cynhyrchu da byw a reolir yn fecanyddol (2 gredyd
- yn seiliedig ar wybodaeth)
- Llwytho a dadlwytho adnoddau ffisegol yn y gweithle (1 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Cludo adnoddau ffisegol o fewn yr ardal waith (1 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Paratoi a gweithredu tractor ac atodion (3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Cynnal cyfarpar a pheiriannau (2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth).
Atodiad 2 Lefel 3: Amaethyddiaeth
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster, Diploma Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth.
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (C&G), a byddant yn creu cyfanswm o 57 credyd o leiaf, a bydd 10 o'r credydau hyn yn sail i'r elfen wybodaeth ac yn cael eu hasesu drwy ddulliau annibynnol.
Asesir yr unedau cymhwysedd ar wahân i'r unedau gwybodaeth a restrir isod.
Bydd y dewis o unedau gwybodaeth yn dibynnu ar y rôl a'r man gwaith y mae'r prentis yn gweithio ynddo, a bydd angen i'r prentis, y cyflogwr a'r darparwyr gytuno ar hynny ar ddechrau'r rhaglen.
Unedau gwybodaeth (rhaid cyflawni 10 credyd o leiaf)
- Hyrwyddo, monitro a chynnal iechyd, diogelwch eiddo a diogelwch personol (3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Cyfleu gwybodaeth yn y gweithle (1 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Cadw a storio cofnodion yn y gwaith (1 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Paratoi, monitro a thrin safleoedd er mwyn plannu cnydau (3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Nodi, monitro a chynnal twf iach cnydau (5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Sefydlu, monitro a chynnal amodau priodol ar gyfer da byw (3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Rhoi triniaethau sylfaenol i dda byw (2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Sefydlu, monitro a chynnal hylendid a bioddiogelwch safleoedd (2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Cyflawni gweithdrefnau hwsmonaeth arferol (2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Cynnal, monitro a gwerthuso darpariaeth bwyd a dŵr i dda byw (3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- Cynllunio i baratoi a defnyddio tractorau ac atodion (3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth).