Mae'r Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau (GGDaS) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Addysg a Gwasanaethau Gwybodaeth a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 18/12/2015 ACW Framwaith Rhif. FR03533
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
45 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Datblygu Cymunedol.
48 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Datblygu Cymunedol.
Gofynion mynediad
Mae'n rhaid i bawb sy'n ymuno â'r Brentisiaeth fod yn 16 oed o leiaf.
Mae'n rhaid i bawb sy'n ymuno â'r Brentisiaeth fod yn llwyr ymwybodol o ddibenion datblygu cymunedol. Mae hi felly'n syniad da i'r rhai sy'n ymuno ofyn am gyngor gyrfaoedd a chasglu gwybodaeth am ddatblygu cymunedol cyn ymrestru. Cydnabod pwysigrwydd uniondeb bob tro wrth ryngweithio'n bersonol a chymdeithasol ac i barchu hawliau pobl ifanc o fewn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP);
Byddai hefyd yn fanteisiol i rai sy'n ymuno fod wedi cwblhau rhyw fath o waith gwirfoddol mewn lleoliad cymunedol, fel codi arian, stondin gacennau yn yr ysgol, gwirfoddoli cyn ymrestru ar y rhaglen; ffafrir profiad o'r fath, ond nid yw'n rhagofyniad ar gyfer y Brentisiaeth.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Datblygu Cymunedol
Lefel 2: Datblygu Cymunedol Cymwysterau
Mae'n rhaid gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Lefel 2 Tystysgrif mewn Datblygu Cymunedol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Agored Cymru | C00/0460/2 | 24 | 240 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Datblygu Cymunedol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Datblygu Cymunedol | 161 | 255 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Tystysgrif Lefel 2 mewn Datblygu Cymunedol - O leiaf 27 credyd/416 GLH - dros gyfnod o 14 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Datblygu Cymunedol
Lefel 3: Datblygu Cymunedol Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymwysterau cyfun isod.
Lefel 3 Tystysgrif mewn Datblygu Cymunedol (FfCCh) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Agroed Cymru | C00/0460/1 | 27 | 270 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Datblygu Cymunedol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Datblygu Cymunedol | 152 | 264 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Tystysgrif Lefel 3 mewn Datblygu Cymunedol - O leiaf 27 credyd/416 GLH - dros gyfnod o 16 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Gan y bydd y Brentisiaeth yn cynnwys gweithio gyda phlant/pobl ifanc ac/neu oedolion sy'n agored i niwed, bydd yn rhaid i bob newydd-ddyfodiad fod yn barod i dderbyn gwiriad uwch drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae'n rhaid i Ganolfannau sicrhau y cydymffurfir â'r holl ofynion statudol sy'n gysylltiedig â gweithio gyda phlant/pobl ifanc ac/neu oedolion sy'n agored i niwed.
Dilyniant
Lefel 2: Prentisiaeth mewn Datblygu Cymunedol
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol na llwybrau mynediad wedi'u pennu ymlaen llaw ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen. Ceir cryn hyblygrwydd i ddysgwyr symud ymlaen i'r Brentisiaeth Sylfaen o nifer o lwybrau gwahanol, a allai gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
- Unrhyw waith, hyfforddiant neu wirfoddoli perthnasol blaenorol yn y sector datblygu cymunedol;
- Cydnabyddiaeth o ddatblygu sgiliau a gwybodaeth yn erbyn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Cymunedol;
- Cymwysterau academaidd;
- Cymwysterau galwedigaethol;
- Meithrin Sgiliau Oedolion a Llwybrau at Brentisiaethau;
- Rhaglenni canolradd y farchnad lafur; a
- Twf Swyddi Cymru.
Llwybrau dilyniant o'r Brentisiaeth Sylfaen
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen yn cynnig sail gadarn o wybodaeth i unigolion a all eu helpu i ddysgu a datblygu eu gyrfaoedd ymhellach ym maes datblygu cymunedol a meysydd cysylltiedig, gan gynnwys dilyniant fertigol i hyfforddiant mwy arbenigol ar lefel 3.
Mae cyfleoedd am ddilyniant penodol yn cynnwys:
- Cymwysterau lefel 3 mewn Datblygu Cymunedol (gan gynnwys Prentisiaeth Lefel 3 mewn Datblygu Cymunedol) a:
- Chymwysterau Lefel 3 mewn Cynghori ac Arwain.
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen hefyd yn cyd-fynd â llwybr sy'n cefnogi dilyniant, drwy gymwysterau lefel 3 perthnasol, i gyrsiau lefel uwch ac/neu gyfleoedd Addysg Uwch, gan gynnwys graddau proffesiynol a chymwysterau ôl-radd mewn datblygu cymunedol. Yn ogystal â hynny, mae'r Brentisiaeth Sylfaen yn cynnig cyfleoedd i symud ymlaen ar hyd ystod o lwybrau galwedigaethol eraill, gan gynnwys dilyniant ochrol i gymwysterau lefel 2 eraill mewn meysydd fel iechyd a thai.
Lefel 3: Prentisiaeth mewn Datblygu Cymunedol
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol na llwybrau mynediad wedi'u pennu ymlaen llaw ar gyfer y Brentisiaeth. Fodd bynnag, disgwylir y bydd gan bob dysgwr sy'n cofrestru ar y Brentisiaeth rywfaint o brofiad blaenorol o ddatblygu cymunedol, o bosib drwy waith gwirfoddol neu leoliadau cyflogaeth eraill, gan gynnwys y Brentisiaeth Sylfaen mewn Datblygu Cymunedol (ar lefel 2).
Mae'n bosibl y bydd y profiad hwn wedi'i gyfuno â thystiolaeth o gyflawniad yn y meysydd canlynol neu beidio:
- Cymwysterau academaidd;
- Cydnabyddiaeth o ddatblygu sgiliau a gwybodaeth yn erbyn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Cymunedol;
- Cymwysterau galwedigaethol;
- Meithrin Sgiliau Oedolion a Llwybrau at Brentisiaethau; a
- Rhaglenni canolradd y farchnad lafur.
Llwybrau dilyniant o'r Brentisiaeth
Mae'r Brentisiaeth yn cynnig sylfaen gadarn o wybodaeth i unigolion a all eu helpu i fanteisio ar gyfleoedd pellach i ddysgu a datblygu eu gyrfaoedd ym maes Datblygu Cymunedol ac mewn meysydd cysylltiedig.
Er nad oes unrhyw gymhwyster lefel 4 mewn Datblygu Cymunedol ar hyn o bryd, mae'r Brentisiaeth yn cynnig dilyniant i ystod o gymwysterau lefel uwch yn y sector hwn ac mewn sectorau eraill, gan gynnwys cymwysterau Lefel 4, Prentisiaethau Uwch, Graddau Sylfaen a graddau proffesiynol.
Mae'r Brentisiaeth hefyd yn cyfrannu at lwybr sy'n cefnogi dilyniant i gyrsiau lefel uwch ac/neu gyfleoedd Addysg Uwch, gan gynnwys graddau proffesiynol a chymwysterau ôl-radd mewn datblygu cymunedol.
Yn ogystal a hynny, mae'r Brentisiaeth yn cynnig cyfleoedd i symud ymlaen ar hyd ystod o lwybrau galwedigaethol eraill, gan gynnwys dilyniant ochrol i gymwysterau lefel 3 eraill
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut maent yn mynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Mae Datblygu Cymunedol yn gwerthfawrogi ac yn dathlu cyfraniadau gwahanol unigolion, grwpiau a chymunedau, ac wedi ymrwymo i'w cefnogi a'u hyrwyddo.
Mae addysg a hyfforddiant ar gyfer datblygu cymunedol wedi ymrwymo i gael gwared â gwahaniaethu, i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawn sy'n cymryd rhan ac i feithrin perthnasoedd da rhwng grwpiau amrywiol. Gall datblygu cymunedau yn effeithiol fod o gymorth i ymdrin ag anfantais a gwahaniaethu o fewn cymunedau lleol, a hyrwyddo gwaith ieuenctid fel gyrfa ddeniadol.
Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i annog amrywiaeth ehangach o unigolion i ymuno â'r sector, felly mae'r llwybr wedi cael ei ddylunio i gefnogi hyn:
- Cynlluniwyd yr amodau mynediad i'r llwybr fel eu bod yn hyblyg
- Mae mentora wedi'i gynnwys i gynnig cymorth ychwanegol a chynyddu cyfraddau cadw prentisiaid; ac
- Mae hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan annatod o raglen ddysgu'r prentisiaid mewn perthynas â CHC.
Lle nodir bod diffyg cymwysterau llythrennedd a rhifedd yn rhwystr i gyflogaeth, bydd cymorth i ennill cymwysterau drwy'r model hyfforddiant prentisiaeth yn cael gwared â'r rhwystr hwnnw.
Cafodd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) a chymwysterau y mae'r llwybr hwn yn seiliedig arnynt eu datblygu gyda'r sector i sicrhau mynediad i ddetholiad mor eang o ddysgwyr ag sy'n bosibl.
Mae egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn berthnasol i'r holl systemau hynny a chanddynt y potensial i wahaniaethu yn erbyn prentisiaid ar unrhyw bryd yn ystod y rhaglen - o recriwtio a dethol ac ymsefydlu, hyd at gwblhau'n llwyddiannus.
Mae angen cynnig llwybrau mynediad hyblyg i'r sector datblygu cymunedol yn rhan o lwybr cydlynus ar gyfer cyfleoedd i ddatblygu ymarferwyr datblygu cymunedol.
Un o'r prif flaenoriaethau fydd defnyddio'r llwybr er mwyn helpu i hyrwyddo datblygu cymunedol fel opsiwn gyrfa ymhlith grwpiau amrywiol nad ydynt o bosib wedi cael eu denu i'r maes gwaith hwn yn y gorffennol, ac annog cyfranogiad ymhlith amrywiaeth ehangach o grwpiau o ddysgwyr. Bydd amodau mynediad hyblyg hefyd yn helpu i ddenu ymgeiswyr o grwpiau wedi'u tangynrychioli, gan greu potensial drwy hynny am weithlu mwy amrywiol.
Mae'r egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn berthnasol i'r holl systemau a gweithdrefnau hynny, y mae potensial iddynt wahaniaethu yn erbyn prentisiaid ar unrhyw bryd yn ystod y rhaglen - o recriwtio, dethol ac ymsefydlu hyd at gwblhau'n llwyddiannus ac asesu.
Disgwylir i'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â chyflenwi'r Bartneriaeth - darparwyr, canolfannau asesu a chyflogwyr:
- ddangos ymrwymiad a chefnogaeth tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth a sefydlu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth neu ddatganiad cenhadaeth;
- gael proses recriwtio agored sydd ar agor i bob ymgeisydd;
- allu dangos na cheir unrhyw arferion gwahaniaethol wrth ddethol a chyflogi.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw CHC yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 2: Datblygu Cymunedol
Mae'n ofynnol i brentisiaid gwblhau cymhwyster Tystysgrif Lefel 2 mewn Datblygu Cymunedol (FfCCh) yn rhan o'r Brentisiaeth Sylfaen.
Dyluniwyd y cymhwyster i gynnig llawer o hyblygrwydd i'r dysgwr. I ennill y cymhwyster hwn, mae'n rhaid i'r dysgwr ennill isafswm o 24 credyd, y mae 15 ohonynt yn orfodol a 9 yn ddewisol. Drwy gwblhau'r 24 credyd o'r strwythur gorfodol a dewisol, bydd y dysgwr yn ennill isafswm o 10 credyd gwybodaeth a 10 credyd cymhwysedd.
Mae cymhwysedd a gwybodaeth wedi'u hintegreiddio i'r cymwysterau hyn ac fe'u hasesir ar wahân - maent yn cynnwys ystyriaeth o wybodaeth a sgiliau'r dysgwr, a'r modd y bydd y dysgwr yn cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau hynny. Dyma grynodeb o unedau'r cymhwyster sy'n ymwneud yn bennaf â chymhwysedd, a'r unedau sy'n ymwneud yn bennaf â gwybodaeth, a'r unedau sy'n cynnwys deilliannau dysgu sy'n ymdrin â chymhwysedd yn ogystal â gwybodaeth.
Unedau Gorfodol
• L/503 / 4865– Pwrpas a'r broses datblygu cymunedol (2 gredyd gwybodaeth)
• R/503/4866 - Datblygu grwpiau cymunedol (2 gredyd gwybodaeth)
• Y/503/4867- Anghydraddoldeb cymdeithasol a'r amrywiaeth mewn cymunedau (2 gredyd gwybodaeth)
• R/504/0635 - Gweithio o fewn grwpiau cymunedol (3 chredyd cymhwysedd)
• Y/504/0636 - Myfyrio ar ymarfer datblygu cymunedol (3 chredyd cymhwysedd)
• D/504/0637 - Nodi anghenion cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
Unedau Dewisol
• H/504/0655 - Monitro a gwerthuso (4 credyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth)
• T/504/0675 - Cefnogi ymchwil yn y gymuned (2 gredyd cymhwysedd a 4 credyd gwybodaeth) • A/504/0676 - Nodi adnoddau cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• H/504/0638 - Cefnogi digwyddiadau cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• K/504/0639 - Cyhoeddusrwydd ar gyfer grwpiau cymunedol (1 credyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth)
• D/504/0640 - Deall gwaith partneriaeth mewn cymunedau (3 chredyd gwybodaeth)
• H/504/0641 - Cyfrannu at waith partneriaeth yn y gymuned (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• K/504/0642 - Cynllunio prosiect cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• M/504/0643 - Gweithredu ac adolygu prosiectau cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• T/504/0644 - Deall a dylanwadu ar benderfyniadau lleol (1 credyd gwybodaeth a 2 gredyd cymhwysedd)
• A/504/0645 - Cefnogi cymunedau cynaliadwy (3 chredyd cymhwysedd a 3 chredyd gwybodaeth) • F/504/0646 - Cefnogi gweithredu amgylcheddol mewn cymunedau (4 credyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth)
• J/504/0647 - Dysgu drwy weithgareddau cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• L/504/0648 - Cefnogi ymgyrchoedd cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• R/504/0649 - Cynllunio ymgyrchoedd cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
Mae'r Dystysgrif Lefel 2 mewn Datblygu Cymunedol yn cynnwys unedau gorfodol a dewisol. Dylai aseswyr roi arweiniad i Brentisiaid Sylfaen er mwyn sicrhau eu bod yn dewis yr unedau dewisol sydd yn fwyaf addas i'w rôl, eu hanghenion a'u hamgylchiadau.
Atodiad 2 Lefel 3: Datblygu Cymunedol
Mae'n ofynnol i brentisiaid gwblhau cymhwyster Tystysgrif Lefel 3 mewn Datblygu Cymunedol (FfCCh) yn rhan o'r Brentisiaeth.
Mae cymhwysedd a gwybodaeth wedi'u hintegreiddio i'r cymhwyster hwn ac fe'u hasesir ar wahân - maent yn asesu gwybodaeth a sgiliau'r dysgwr, a'r modd y bydd y dysgwr yn cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau hynny. Mae'n rhaid i'r dysgwr ennill 27 credyd er mwyn ennill y cymhwyster. mae'n rhaid ennill 18 credyd o blith yr unedau gorfodol a 9 credyd o blith yr unedau dewisol. Drwy gwblhau'r unedau gorfodol a dewisol i ennill 27 credyd, bydd ymgeiswyr yn cwblhau isafswm o 10 credyd gwybodaeth a 10 credyd cymhwysedd.
Bydd yn rhaid i'r rhai sydd eisoes wedi ennill cymwysterau cymhwysedd ac/neu wybodaeth cyn y Brentisiaeth hon ddewis opsiynau a fydd yn cynnig cyfleoedd i ddysgu gwybodaeth a sgiliau newydd.
Dyma grynodeb o unedau'r cymhwyster sy'n ymwneud yn bennaf â chymhwysedd, a'r unedau sy'n ymwneud yn bennaf â gwybodaeth, a'r unedau sy'n cynnwys deilliannau dysgu sy'n ymdrin â chymhwysedd yn ogystal â gwybodaeth:
Unedau Gorfodol
• D/503/4868 - Gwerthoedd a'r broses datblygu cymunedol (3 chredyd gwybodaeth)
• D/503/4871 - Anghydraddoldeb cymdeithasol, anghyfiawnder ac amrywiaeth mewn cymunedau (3 chredyd gwybodaeth) • Y/503/4870 - Dynameg grwpiau cymunedol (3 chredyd gwybodaeth)
• J/504/0650 - Datblygu grŵp cymunedol (3 chredyd cymhwysedd)
• R/504/0652 - Ymarfer myfyriol ym maes datblygu cymunedol (3 chredyd cymhwysedd)
• Y/504/0653 - Pennu anghenion cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• D/504/0654 - Monitro a gwerthuso (4 credyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth)
• M/504/0657 - Cynnal ymchwil dan arweiniad y gymuned (2 gredyd cymhwysedd a 4 credyd gwybodaeth) • T/504/0658 – Datblygu adnoddau cymunedol (4 credyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth)
• A/504/0659 - Trefnu digwyddiadau cymunedol (4 credyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth)
• M/504/0660 - Cefnogi cynrychiolaeth gymunedol (2 gredyd cymhwysedd a 4 credyd gwybodaeth)
• F/604/0677 - Cyhoeddusrwydd a marchnata ar gyfer sefydliadau cymunedol (3 chredyd cymhwysedd a 3 chredyd gwybodaeth)
• T/504/0661 - Deall gwaith partneriaeth mewn cymunedau (3 chredyd gwybodaeth)
• A/504/0662 - Datblygu a chynnal partneriaethau cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• J/504/0664 - Cynllunio prosiectau cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• L/504/0665 - Gweithredu ac adolygu prosiectau cymunedol (3 chredyd cymhwysedd)
• L/504/0634 - Deall a dylanwadu ar benderfyniadau lleol (3 chredyd cymhwysedd a 6 chredyd gwybodaeth)
• Y/504/0667 - Datblygu cymunedau cynaliadwy (3 chredyd cymhwysedd a 3 chredyd gwybodaeth) • Y/504/0670 - Cynnwys cymunedau i weithredu'n amgylcheddol (4 credyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth)
• D/504/0671 - Cefnogi dysgu ym maes datblygu cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• H/504/0672 - Cynllunio ymgyrchoedd cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• K/504/0673 - Gweithredu ac adolygu ymgyrchoedd cymunedol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
• M/504/0674 - Datblygu sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol ffurfiol (6 chredyd cymhwysedd a 3 chredyd gwybodaeth)
Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Datblygu Cymunedol (FfCCh) yn cynnwys unedau gorfodol a dewisol. Dylai aseswyr roi arweiniad i brentisiaid er mwyn sicrhau eu bod yn dewis yr unedau dewisol sydd yn fwyaf addas i'w rôl, eu hanghenion a'u hamgylchiadau. Mae cymhwysedd a gwybodaeth wedi'u cyfuno o fewn y cymhwyster hwn, ond bydd yn rhaid eu hasesu ar wahân.