Mae'r Grŵp Llywio Cydymffurfiaeth Reoleiddiol wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn gyda chynrychiolwyr cyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd. Dyma'r unig lwybr prentisiaeth yn y sector Cydymffurfiaeth Reoleiddiol sydd wedi'i gymeradwyo i gael ei ddefnyddio yng Nghymru ac sy'n gymwys i gael cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/11/2024 ACW Fframwaith Rhif. FR05114
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Diploma Lefel 4 mewn Cydymffurfiaeth Reoleiddiol sydd wedi'i achredu gan Agored Cymru yw'r cymhwyster.
Yr isafswm gwerth credyd a fydd yn ofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 4 mewn Cydymffurfiaeth Reoleiddiol yw 59 credyd.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y llwybr hwn. Fodd bynnag, bydd llawer o gyflogwyr yn disgwyl safon uchel o ran llythrennedd a rhifedd
e.e. cymwysterau TGAU â graddau A* i D, cymwysterau Safon Uwch neu allu amlwg i weithio ar y lefel hon, megis profiad a fagwyd drwy gyflogaeth neu waith gwirfoddol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 4: Cydymffurfiaeth Reoleiddiol
Lefel 4: Cydymffurfiaeth Reoleiddiol Cymwysterau
Rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfunol isod.
| Diploma Lefel 4 mewn Cydymffurfiaeth Reoleiddiol | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/4997/7 | 59 | 590 | Cyfun | Cymraeg - Saesneg |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 4: Cydymffurfiaeth Reoleiddiol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 4: Cydymffurfiaeth Reoleiddiol | 330 | 260 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cymhwyster cyfunol – 59 credyd. Cyfanswm yr oriau hyfforddi – sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith – ar gyfer y Llwybr hwn yw 590.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd /60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Gofynnir i ddysgwyr wneud y canlynol
Datgan unrhyw rybuddiadau neu euogfarnau troseddol ar adeg cofrestru ar gyfer y cymhwyster Cydymffurfiaeth Reoleiddiol
Cydymffurfio â gwiriadau cyn cyflogi'r sefydliad sy'n cyflogi
Rolau swydd
Mae'r brentisiaeth Cydymffurfiaeth Reoleiddiol yn cynnig llwybr mynediad i sbectrwm o rolau cyflawni rheoleiddiol yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae wedi cael ei dylunio i addysgu'r sgiliau, y wybodaeth a'r ymddygiadau (cymwyseddau) sylfaenol y bydd eu hangen ar bawb sy'n dymuno gweithio mewn unrhyw rôl broffesiynol lle mae angen goruchwylio cydymffurfiaeth reoleiddiol. Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, bydd gan gyfranogwyr y sgiliau trosglwyddadwy y bydd eu hangen i weithio mewn unrhyw faes sy'n seiliedig ar reoleiddio/cydymffurfiaeth.
Yn y sector cyhoeddus, mae amrywiaeth o weithwyr proffesiynol yn sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol mewn nifer o wahanol swyddogaethau. O fewn awdurdodau lleol, mae'r disgyblaethau hyn yn cynnwys Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu, yn ogystal â gorfodi amgylcheddol mewn meysydd fel Rheoli Gwastraff. Yn yr un modd, mae rheoleiddwyr cenedlaethol yn sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol, er enghraifft yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r brentisiaeth yn cynnig llwybr tuag at yrfa sy'n llawn boddhad yn un o'r sectorau eang uchod. Yn dilyn astudiaethau pellach a phrofiad priodol, gall y rolau enghreifftiol gynnwys:
Swyddog Safonau Masnach
Swyddog Iechyd yr Amgylchedd
Swyddog Gorfodi Trwyddedu
Swyddog Gorfodi Troseddau Amgylcheddol
Yn y sector preifat, mae swyddogion cydymffurfiaeth reoleiddiol yn cyflawni rôl bwysig er mwyn cefnogi gweithgareddau cydymffurfiaeth, goruchwylio uniondeb cadwyni cyflenwi, a chydgysylltu â rheoleiddwyr rheng flaen.
Dilyniant
Ymhlith y llwybrau mynediad posibl ar gyfer y brentisiaeth Cydymffurfiaeth Reoleiddiol mae:
Mynediad uniongyrchol o'r ysgol neu'r coleg
Drwy Fagloriaeth Cymru
Mynediad uniongyrchol – gan gynnwys ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gyfarwydd â'r sector.
Llwybrau i gamu ymlaen
Mae'r sefydliadau proffesiynol siartredig ar gyfer Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd yn cydnabod pwysigrwydd prentisiaethau fel llwybrau tuag at yrfaoedd yn y meysydd hyn a thuag at statws ymarferydd siartredig yn y pen draw. Mae'r ddau sefydliad wedi cyflawni rôl allweddol yn y gwaith o ddatblygu'r brentisiaeth Cydymffurfiaeth Reoleiddiol hon i Gymru.
Er enghraifft, mae'r Sefydliad Siartredig Safonau Masnach eisoes wedi mapio'r brentisiaeth gyfatebol sydd ar gael yn Lloegr yn ei Fframwaith Cymhwysedd Proffesiynol. Mae'r trefniant hwn yn cynnig rhai esemptiadau ar gyfer y cymhwyster proffesiynol Safonau Masnach. Mae'r Sefydliad yn bwriadu mapio'r cymhwyster Lefel 4 sydd wrth wraidd prentisiaeth Cydymffurfiaeth Reoleiddiol Cymru yn yr un ffordd, a thrwy hynny hwyluso'r gallu i roi'r rhai sy'n cwblhau'r brentisiaeth yn llwyddiannus ar lwybr carlam tuag at gyflawni'r nod o ennill cymhwyster proffesiynol llawn.
Mae cyrsiau gradd Iechyd yr Amgylchedd ar gael mewn canolfannau ledled y DU (gan gynnwys ym Mhrifysgol Caerdydd) a'r gobaith yw y gellir sefydlu llwybr prentisiaeth lefel gradd ymhen amser hefyd.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos camau pendant i ganfod a dileu rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael mynediad a chamu ymlaen. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a phersonau nad ydynt yn eu rhannu, fel y'u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond mewn perthynas â'r gofyniad i ddileu gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Mae'r data mwyaf cyfredol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y sector yn deillio o ddau arolwg a gynhaliwyd yn y proffesiwn Safonau Masnach. Cynhaliwyd Arolwg Amrywiaeth y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach yn 2021 ac mae'n rhoi'r cipolwg canlynol ar y DU:
Hunaniaeth rhywedd
56% Benywaidd, 42% Gwrywaidd, 0.62% Anneuaidd a 0.31% Traws
Hunaniaeth ethnig
5.5% Asiaidd, 3.8% Du, 1.9% Cymysg / Amlethnig, 0.2% Grŵp ethnig arall, 83.6% Gwyn Prydeinig, 4.7% Gwyn arall
Oedran
6% o dan 30 oed
45% rhwng 30 a 50 oed
49% dros 50 oed
Caiff y proffil oedran hwn ar gyfer y proffesiwn Safonau Masnach yn y DU ei adlewyrchu mewn cipolwg o 2021 ar y gweithlu yng Nghymru yn benodol, a ddangosodd y canlynol:
mae 7% o'r proffesiwn yn 30 oed neu'n iau ac, mewn cyferbyniad a hynny,
mae 48% o'r proffesiwn dros 50 oed
Nid oes rhwystrau i'w gweld a fyddai'n atal unrhyw grwpiau penodol rhag cael swyddi ym maes cydymffurfiaeth reoleiddiol. O ran hunaniaeth rhywedd, mewn proffesiwn a oedd yn llawn dynion ar un adeg, mae cyfran y menywod sy'n gweithio o fewn disgyblaeth Safonau Masnach bellach yn fwy na chyfran y dynion. Y nod o ran hunaniaeth rhywedd a hunaniaeth ethnig yw i gynrychiolaeth y gwahanol grwpiau adlewyrchu cyfansoddiad y boblogaeth ehangach sy'n gweithio, ac i hyn gael ei gyflawni drwy godi ymwybyddiaeth o'r amrywiol lwybrau gyrfa ynghyd â phrosesau recriwtio'r sefydliadau sy'n cyflogi.
Mae'r data uchod yn dangos yn glir i ba raddau y mae gan y proffesiynau rheoleiddiol hyn weithlu sy'n heneiddio. Mae'r ffaith bod llai na 10% o'r gweithlu yn iau na 30 oed yn destun pryder sylweddol o safbwynt gwydnwch a chynllunio olyniaeth ar gyfer y dyfodol. Rhagwelir y bydd yr anghydbwysedd hwn o ran oedran yn dechrau cael ei unioni'n fuan ar ôl i'r brentisiaeth Lefel 4 gael ei chyflwyno, wrth i ymwybyddiaeth o yrfaoedd a oedd yn ‘anweledig’ o'r blaen godi ac wrth i lwybrau tuag atynt ddod yn hygyrch i bobl ifanc.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (ERR) bellach yn orfodol. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16 oed -18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddi a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion mae'r llwybr hwn yn cael ei ddarparu yn unol â Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr Arweiniad.