FR05107 version 2
ISSUE DATE: 01/09/2025
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol
Cymwysterau,
Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
360 o gredydau yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer pob Llwybr Gradd Adeiladu.
Gofynion mynediad
Gofynion Mynediad Cyffredinol ar gyfer pob Llwybr Gradd Adeiladu
Mae'r llwybr Prentisiaeth Gradd Adeiladu ar Lefel 6 yn addas yn bennaf i ymgeiswyr sydd naill ai wedi cwblhau cymwysterau Safon Uwch sy'n briodol ar gyfer mynediad i brifysgol, neu a allai eisoes fod wedi cwblhau prentisiaeth gysylltiedig ar Lefelau 3, 4 neu 5.
Sylwer: Mae ymgeiswyr ar gyfer y llwybr prentisiaeth hwn yn debygol o fod yn 19 oed.
Mae prosesau'n bodoli i sicrhau nad yw ymgeiswyr â gwybodaeth, cymwysterau ac/neu brofiad perthnasol blaenorol yn cael eu rhoi dan anfantais drwy orfod ailddysgu. Bydd prifysgolion unigol yn gallu cynghori ynghylch y rolau cyfredol ar gyfer achredu dysgu blaenorol a chydnabod profiad blaenorol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 6: Rheoli Adeiladu
Lefel 6: Rheoli Adeiladu Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn
| BSc (Anrh) Rheoli Adeiladu | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Prifysgol Wrecsam | C00/0232/9 500/9305/8 | 360 | 3600 | Cyfun | Cymraeg a/neu Saesneg |
| Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | C00/1091/6 601/6794/4 | 360 | 3600 | Cyfun | Cymraeg a/neu Saesneg |
| BSc (Anrh) Rheoli Prosiect Adeiladu | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Prifysgol De Cymru | C00/4981/6 601/4888/3 | 360 | 3600 | Cyfun | Cymraeg a/neu Saesneg |
Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 6: Rheoli Adeiladu | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| 43 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 6: Rheoli Adeiladu | 500 | 900 |
360 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth
1400 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer Rheoli Adeiladu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Tua 48 mis yw hyd y llwybr.
Lefel 6: Peirianneg Sifil
Lefel 6: Peirianneg Sifil Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:
| BEng (Anrh) Peirianneg Sifil | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Prifysgol Wrecsam | C00/4779/4 | 360 | 3600 | Cyfun | Cymraeg a/neu Saesneg |
| Prifysgol De Cymru | C00/1253/8 603/2438/7 | 360 | 3600 | Cyfun | English Only |
| BSc (Hons) Civil Engineering | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| University of South Wales | C00/0448/5 600/5105/X | 360 | 3600 | Cyfun | Cymraeg a/neu Saesneg |
| Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | C00/4925/0 601/7916/8 | 360 | 3600 | Cyfun | Saesneg yn unig |
Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 6: Peirianneg Sifil | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| 41 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 6: Peirianneg Sifil | 500 | 900 |
360 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth
1400 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer Peirianneg Sifil, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Tua 48 mis yw hyd y llwybr.
Lefel 6: Mesur Meintiau
Lefel 6: Mesur Meintiau Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:
| BSc (Anrh) Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Prifysgol De Cymru | C00/3943/2 603/4928/1 | 360 | 3600 | Cyfun | Cymraeg a/neu Saesneg |
| BSc (Anrh) Mesur Meintiau | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | C00/4959/4 603/5232/2 | 360 | 3600 | Cyfun | Cymraeg a/neu Saesneg. |
| Prifysgol Wrecsam | C00/1223/3 603/2266/4 | 360 | 3600 | Cyfun | Saesneg yn unig |
Gweler Atodiad 3 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 6: Mesur Meintiau | 500 | 900 |
360 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth
1400 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer Mesur Meintiau, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Tua 48 mis yw hyd y llwybr.
Lefel 6: Gwaith syrfëwr
Lefel 6: Gwaith syrfëwr Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:
| BSc (Anrh) Arolwg Adeiladu | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Prifysgol Wrecsam | C00/4779/3 | 360 | 3600 | Cyfun | Cymraeg a/neu Saesneg. |
| Prifysgol De Cymru | 360 | 3600 | Cyfun | Cymraeg a/neu Saesneg. | |
| BSc (Anrh) Tir ac Eiddo | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Prifysgol De Cymru | 360 | 3600 | Cyfun | Cymraeg a/neu Saesneg | |
Gweler Atodiad 4 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 6: Gwaith syrfëwr | 500 | 900 |
360 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth
1400 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer Archwilio Eiddo, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Tua 48 mis yw hyd y llwybr.
Gofynion eraill ychwanegol
Mae ymgeiswyr ar gyfer y llwybr prentisiaeth hwn yn debygol o fod yn 19 oed.
Rolau swydd
Hyfforddwr Personol / Gweithiwr Proffesiynol Atgyfeiriadau Ymarfer Corff
Gellir gweld fersiwn ddiweddaraf y rolau swydd a'r swydd-ddisgrifiadau ar gyfer Llwybrau Gradd Adeiladu isod.
Rheolwr Adeiladu
Mae rheolwyr adeiladu yn gyfrifol am reoli a chynllunio pob cam o brosiect adeiladu yn ymarferol. Maent yn sicrhau bod prosiectau adeiladu yn cael eu cwblhau'n ddiogel, o fewn y gyllideb ac ar amser. Fel rheolwr adeiladu, byddech chi'n goruchwylio amserlenni gwaith ac yn dirprwyo tasgau i'ch tîm i sicrhau bod pob cam o brosiect adeiladu yn cael ei gyflawni'n unol â'r cynllun.
Mae sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy'n ystyried swydd fel rheolwr adeiladu yn cynnwys:
- Gwybodaeth am adeiladu ac adeiladau
- Rhinweddau arwain
- Sgiliau rheoli amser
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
Y gallu i ddatrys problemau a gweithio ar eich cymhelliant eich hun.
Peiriannydd Sifil
Mae peirianwyr sifil yn cynllunio, yn dylunio ac yn rheoli prosiectau adeiladu mawr. Gallai hyn gynnwys pontydd, adeiladau, cysylltiadau trafnidiaeth ac adeileddau mawr eraill. Maent yn defnyddio meddalwedd modelu cyfrifiadurol a data o arolygon, profion a mapiau i greu glasbrintiau prosiect. Mae'r cynlluniau hyn yn cynghori contractwyr ar y camau gweithredu gorau ac yn helpu i leihau'r effaith a'r risg amgylcheddol hyd yr eithaf.
Mae sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy'n ystyried swydd fel peiriannydd sifil yn cynnwys:
- Gwybodaeth am adeiladu ac adeiladau
- Sgiliau dylunio a gwybodaeth
- Bod yn drylwyr a rhoi sylw i fanylion.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
- Y gallu i weithio'n dda gydag eraill.
- Y gallu i weithio ar eich cymhelliant eich hun.
- Y gallu i ddefnyddio cyfrifiadur a'r prif becynnau meddalwedd yn hyderus.
Syrfëwr Meintiau
Mae syrfewyr meintiau yn amcangyfrif ac yn rheoli costau ar gyfer prosiectau adeiladu mawr. Maen nhw'n sicrhau bod strwythurau'n bodloni safonau cyfreithiol ac ansawdd. Mae syrfewyr meintiau yn cymryd rhan ym mhob cam o brosiect. P'un a ydyn nhw'n gweithio ar brosiectau preswyl, masnachol neu ddiwydiannol, mae cleientiaid yn dibynnu arnyn nhw i sicrhau bod y canlyniad terfynol yn cynnig gwerth am arian.
Mae sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy'n bwriadu dod yn syrfëwr meintiau yn cynnwys:
- Gwybodaeth fathemategol gadarn
- Sylw rhagorol i fanylion
- Sgiliau meddwl dadansoddol
- Dealltwriaeth o wyddoniaeth a thechnoleg peirianneg
- Gwybodaeth am adeiladu ac adeiladau
- Y gallu i weithio ar eich cymhelliant eich hun.
Syrfëwr
Mae syrfewyr yn rhoi cyngor proffesiynol ar amrywiaeth o faterion sy'n gysylltiedig ag adeiladu. Gallent sicrhau bod eiddo newydd yn cael ei adeiladu'n unol â rheoliadau a manylebau, gan gynghori ar gynnal a chadw ac atgyweirio strwythurau presennol neu asesu difrod i ddibenion cyfreithiol ac yswiriant. Mae llawer o syrfewyr yn arbenigo mewn un maes gan fod llawer o gyfrifoldebau'n gysylltiedig â'r rôl.
Mae sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy'n bwriadu dod yn syrfëwr yn cynnwys:
- Gwybodaeth am adeiladu ac adeiladau
- Bod yn drylwyr a rhoi sylw i fanylion.
- Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid
- Y gallu i weithio ar eich cymhelliant eich hun.
- Sgiliau meddwl dadansoddol
- Amynedd a'r gallu i aros yn dawel mewn sefyllfaoedd llawn straen.
- Sgiliau meddwl a rhesymu.
Dilyniant
Dilyniant i'r rhai sydd wedi cwblhau Llwybrau Gradd Adeiladu:
- cyflogaeth mewn rolau swydd yn y ddolen uchod neu rolau swydd tebyg
- Graddau Meistr yn yr alwedigaeth berthnasol.
- Aelodaeth o gorff proffesiynol/siartredig
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau Prentisiaethau yn gynhwysol ac yn gallu dangos ymagwedd weithredol tuag at nodi a chael gwared ar rwystrau i fynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r personau hynny nad ydynt fel y nodwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'i chynnwys er mai dim ond mewn perthynas â'r gofyniad i ddileu gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Rhaid i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant yn seiliedig ar y naw nodwedd warchodedig hynny.
Ni cheir unrhyw rwystrau o ran mynediad i'r Fframwaith Prentisiaeth Gradd Adeiladu, a bwriedir iddo gynnwys pob dysgwr waeth beth fo'i ryw, oedran, anabledd, cred grefyddol neu darddiad ethnig. Er mwyn bodloni gofynion dysgwyr, gellir defnyddio nifer o wahanol arddulliau dysgu i gyflwyno'r cynnwys sy'n ofynnol ar gyfer dysgu i ffwrdd o'r gwaith.
CYFRIFOLDEBAU CYFLOGAETH A HAWLIAU (ERR)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (ERR) bellach yn orfodol. Fodd bynnag, argymhellir bod pob prentis yn derbyn rhaglen sefydlu cwmni gan gynnwys Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch trylwyr.
CYDNABYDDIAETH/ACHREDIAD GAN GORFF PROFFESIYNOL A'R DIWYDIANT
Mae'n ofynnol i Sefydliadau Addysg Uwch sy'n darparu Rhaglenni Prentisiaeth Gradd Adeiladu fod wedi ennill neu fod wrthi'n gweithio tuag at ennill achrediad gan Gorff Proffesiynol sy'n gysylltiedig â'r Alwedigaeth a ddilynir.
Dylai SAUau annog prentisiaid yn weithredol i ymgysylltu â chyrff proffesiynol yn ystod eu prentisiaeth a pharatoi am gydnabyddiaeth gan gyrff proffesiynol ar ôl cwblhau eu prentisiaeth.
Dylid annog Prentisiaid Gradd i ennill cerdyn achredu Diwydiant perthnasol fel cerdyn person cymwys proffesiynol CSCS ar ôl cwblhau eu Prentisiaeth Gradd.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddi a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion mae'r llwybr hwn yn cael ei ddarparu yn unol â Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr Arweiniad.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 - Rheoli Adeiladu
Gwybodaeth
Bydd Rheolwr Adeiladu yn:
Deall effaith amgylcheddol tymor byr a thymor hwy gweithgareddau Adeiladu, yn gadarnhaol ac yn negyddol, a sut i wneud y mwyaf o'r effeithiau hyn a'u lleihau i'r eithaf yn ystod pob cam o'r prosiect ac yn y tymor hwy. Gwybod sut i adolygu bygythiadau a chyfleoedd i'r diwydiant adeiladu ac arfarnu a gwerthuso dylanwad materion cyfreithiol, gwleidyddol a chymdeithasol cyfredol ar y diwydiant. |
Deall y cylch rheoli prosiectau gan gynnwys y prosesau cynllunio, rheoli, cyllidebu, ariannu prosiectau, caffael a thalu i arwain at gyflawni prosiectau'n effeithiol. Dealltwriaeth Sylfaenol o gyfraith Contractau a mathau o gontractau. Deall strategaethau a phrosesau sy'n gysylltiedig â Rheoli Newid |
| Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r broses adeiladu ac o'r deunyddiau a'r dechnoleg sy'n ffurfio arfer gorau.nstrate knowledge and understanding of the construction process and of the materials and technology that comprise best practice. |
| Deall rhwymedigaethau ar gyfer Iechyd, Diogelwch, llesiant a materion amgylcheddol ar y safle, sut i nodi peryglon posibl a rheoli'r risgiau |
Deall sut i gymhwyso gwybodaeth am y broses adeiladu wrth archwilio a dewis prosesau caffael. Deall a gwerthuso gwahanol arddulliau arwain mewn perthynas â phrosiectau sy'n briodol i'w rôl. |
Meddu ar wybodaeth am ddiffygion cyffredin mewn adeiladau a deall mesurau ansawdd gan gynnwys adroddiadau strwythurol, arolygon dadfeiliad ac adroddiadau adeiladu a sut y gellir defnyddio'r rhain. Deall deddfwriaeth gyfredol a safonau diogelwch eraill y DU/cenhedloedd y DU a'u heffaith ar weithgareddau adeiladu. Gwybod sut i ddatblygu perthnasoedd gwaith effeithiol a gweithio ar draws timau gydag arbenigwyr eraill y tîm adeiladu sy'n ymwneud â'r prosiect. Deall materion cyfreithiol a chytundebol a rheoli contractau sy'n ymwneud â'r safle a gweithio o fewn cyfyngiadau masnachol a chyfreithiol i sicrhau canlyniadau prosiect effeithiol yn ôl yr angen/os oes angen. Deall dulliau i sicrhau cydweithio a chyfathrebu'n effeithiol â deiliaid dyletswyddau gan gynnwys cleientiaid, ymgynghorwyr a/neu randdeiliaid, cydweithwyr, isgontractwyr. Deall yr angen am fesurau diogelwch adeiladau fel y bônt yn berthnasol i feddianwyr neu ddefnyddwyr y presennol ac/neu'r dyfodol. Deall sut i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol effeithiol, sut i ysgogi eraill ac arferion disgyblu effeithiol. Deall materion sy'n effeithio ar logisteg a chyfyngiadau ar adeiladu. Deall sut y gall defnydd effeithiol o dechnoleg a rhaglenni cyfrifiadurol gyfrannu at y broses reoli. Deall sut i ddarllen a dehongli lluniadau adeiladu ar bapur neu mewn fformat digidol. Meddu ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynlluniau achredu amgylcheddol a pholisïau'r DU/cenhedloedd y DU. Sgiliau Bydd Rheolwr Adeiladu yn gallu: Gosod ac adolygu amcanion, nodi adnoddau a'u cyfyngiadau a chynllunio, monitro a rheoli gweithgareddau i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni yn unol â gofynion y prosiect ar gyfer y rhanddeiliaid gan gynnwys meddianwyr neu ddefnyddwyr. Dangos gwerthfawrogiad da o arfer da o ran meithrin a chynnal perthynas waith dda â chleientiaid a/neu randdeiliaid. |
| Rheoli neu reoli dan oruchwyliaeth risgiau iechyd, diogelwch, llesiant a'r amgylchedd yn unol â deddfwriaeth, peryglon, yr amgylchedd, adeiladau diogel a systemau gwaith diogel. |
| Nodi'r safonau sy'n ofynnol gan gleientiaid a/neu randdeiliaid eraill a rhoi gweithdrefnau effeithiol ar waith ar gyfer rheoli, cofnodi a gwella ansawdd. |
| Rheoli gweithgareddau adeiladu, neu eu rheoli dan oruchwyliaeth, mewn ffordd sy'n cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy ac yn gweithredu arfer gorau ac yn lleihau/negyddu effaith amgylcheddol negyddol ac yn gwella effaith amgylcheddol lle bo'n bosibl/ofynnol. |
Cyfrannu at faterion cyfreithiol a chytundebol a rheoli contractau yn gysylltiedig â'r safle a gweithio o fewn cyfyngiadau masnachol a chyfreithiol i sicrhau canlyniadau prosiect effeithiol yn ôl yr angen/os oes angen. Cysylltu â'r Prif Gontractwr ar bob mater sy'n ymwneud â diogelwch adeiladau er budd yr holl feddianwyr neu ddefnyddwyr y presennol a'r dyfodol. |
| Ymchwilio i broblemau, achosion ac effeithiau a phennu atebion. |
| Nodi, casglu a phrosesu gwybodaeth sydd ei hangen i reoli prosiectau, a sicrhau bod yr wybodaeth honno sydd ar gael. |
| Rheoli risgiau, neu reoli risgiau dan oruchwyliaeth, a chynllunio i'w lliniaru i leihau eu heffaith hyd yr eithaf. |
| Cyfrannu at reoli ac arfarnu aelodau'r tîm a chontractwyr arbenigol, adeiladu timau, cynghori ar ddatblygiad, a datrys gwrthdaro i sicrhau gwaith tîm effeithiol. |
Cyfrannu at weithredu atebion arloesol. Rheoli, neu reoli dan oruchwyliaeth, y broses o drosglwyddo cleientiaid yn effeithiol a gwasanaeth cwsmeriaid effeithiol. |
Rheoli neu oruchwylio gweithredwyr a/neu gontractwyr arbenigol yn effeithiol yn ystod y cam adeiladu. Datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol a gweithio ar draws y tîm yn effeithiol gyda gweithwyr proffesiynol eraill y tîm adeiladu sy'n ymwneud â'r prosiect. |
Nodi a chywiro diffygion cyffredin mewn gweithgareddau adeiladu. Gallu rheoli gweithgareddau adeiladu, neu eu rheoli dan oruchwyliaeth, mewn modd sy'n cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy ac yn gweithredu arfer gorau, ac yn gwella, yn lleihau, neu'n negyddu effaith amgylcheddol lle bo angen. Gallu darllen a dehongli lluniadau adeiladu ar bapur neu mewn fformat digidol. |
Ymddygiadau Bydd Rheolwr Adeiladu yn: Gallu gweithio o fewn ei lefel cymhwysedd ei hun ac yn gwybod pryd i ofyn am gyngor gan eraill, a phryd i allu cynghori cleientiaid ac/neu randdeiliaid. |
Gweithio o fewn rheolau a rheoliadau cymhwysedd ac ymddygiad proffesiynol ac yn dangos uniondeb a phroffesiynoldeb ym mhob gweithgaredd, yn unol â gofynion cyrff proffesiynol. |
| Gallu cynllunio a rheoli cyfarfodydd effeithiol, cyflwyno gwybodaeth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd ac arddangos sgiliau rhyngbersonol effeithiol. |
Nodi ei anghenion datblygu ei hun, a chymryd camau priodol i fodloni'r anghenion hynny. Dangos cydweithio effeithiol a chyfathrebu'n effeithiol â chleientiaid a/neu randdeiliaid, cydweithwyr, isgontractwyr. Arddangos sgiliau rhyngbersonol effeithiol, gan gynnwys sut i ysgogi eraill ac arferion disgyblu effeithiol. Arddangos egwyddorion moesegol, safonol ac ymddygiad gan gynnwys y gallu i arwain, i weithio mewn tîm a chyfathrebu, cyfrifoldeb ac atebolrwydd personol, a dyletswydd gofal tuag at eraill, gan gynnwys meddianwyr ac/neu ddefnyddwyr yr adeilad. Cyflawni DPP yn ôl gofynion y Corff Proffesiynol. |
Atodiad 2 - Peirianneg Sifil
Gwybodaeth
Bydd Peiriannydd Sifil yn:
Gwybod sut i gymhwyso gwybodaeth am fathemateg, ystadegau, gwyddor naturiol ac egwyddorion peirianneg i broblemau sydd wedi'u diffinio'n fras, a sut i ddadansoddi'r problemau hynny i ffurfio casgliadau cadarn.
Deall sut i gyfrannu at ddylunio a datblygu atebion peirianneg a sut i weithredu'r atebion hynny'n effeithiol, gan gynnwys sut i werthuso eu heffeithiolrwydd yng nghyd-destun cylch oes cyfan y prosiect.
Gwybod sut i ddewis, cymhwyso a gwerthuso technegau cyfrifiadurol a dadansoddol priodol i fodelu problemau sydd wedi'u diffinio'n fras, gan gydnabod cyfyngiadau'r technegau a ddefnyddir, gan gynnwys llenyddiaeth dechnegol, sgiliau labordy a gweithdy ymarferol a deunyddiau priodol, technolegau peirianneg.
Gwybod sut i gynllunio'r gwaith a'r adnoddau sydd eu hangen i alluogi gweithredu tasgau a phrosiectau peirianneg yn effeithiol. Deall sut i reoli'r broses o gynllunio a threfnu tasgau ac adnoddau. Gwybod sut i gymhwyso dull integredig neu systemig o ddatrys problemau wedi'u diffinio'n fras, a sut i ddylunio atebion sy'n bodloni cyfuniad o anghenion cymdeithasol, defnyddwyr, busnesau a chwsmeriaid fel bo'n briodol, gan gynnwys ystyried materion iechyd a diogelwch, amrywiaeth, cynhwysiant, diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol a masnachol perthnasol, codau ymarfer a safonau'r diwydiant. Gwybod sut i reoli timau neu arbenigeddau technegol. Deall sut i gynorthwyo eraill i fodloni anghenion technegol a rheolaethol newidiol. Deall sut i reoli prosesau ansawdd a chyfrannu at welliannau ansawdd. |
Gwybod sut i reoli, paratoi a rheoli costau/cyllidebau tasgau neu brosiectau peirianneg. Meddu ar wybodaeth gadarn am fframweithiau a chontractau statudol a masnachol o fewn eich maes cyfrifoldeb eich hun a gwerthfawrogi trefniadau masnachol eraill. |
Dangos gwybodaeth gadarn am ddeddfwriaeth, peryglon a systemau gwaith diogel. Gwybod sut i reoli risgiau a deall gofynion Adeiladu (Dylunio a Rheoli). Gwybod sut i reoli a gweithredu gwelliannau o ran iechyd, diogelwch a llesiant. |
Deall egwyddorion datblygu cynaliadwy, asesu amgylcheddol a llesiant yng nghyd-destun polisïau a deddfwriaeth y DU fel Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) Deall egwyddorion Sero Net a gostwng Allyriadau Carbon a'u cymhwyso yn y gwaith. Gwybod sut i reoli gweithgareddau peirianneg sy'n cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy ac at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (UNSDGs) a dangos dealltwriaeth o arfer gorau. Cydnabod cyfrifoldebau, manteision a phwysigrwydd cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Deall yr ystod o dechnoleg ac offer cyfrifiadurol fel BIM ar gyfer dadansoddi a dylunio. Sgiliau Bydd Prentis Gradd Peirianneg Sifil yn gallu: Dangos sut maen nhw'n cynnal ac yn ehangu eu gwybodaeth am ddamcaniaeth ac ymarfer peirianneg, a sut mae technoleg o gymorth i gymhwyso hynny. Dangos sut maen nhw wedi datrys problemau peirianneg drwy ddefnyddio dull damcaniaethol cadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth, a sut maen nhw wedi cyfrannu at welliant parhaus. Nodi, adolygu a dewis technegau, gweithdrefnau a dulliau i gyflawni tasgau peirianneg. Cyfrannu at ddylunio a datblygu atebion peirianneg a dangos sut maen nhw wedi cyfrannu at weithredu'r atebion hynny, gan gynnwys gwerthuso eu heffeithiolrwydd yng nghyd-destun cylch oes cyfan y prosiect. Dangoswch sut maen nhw wedi arfer barn gadarn o ran peirianneg. |
Cyfathrebu'n dda ag eraill ar bob lefel gan gynnwys defnydd effeithiol o Gymraeg neu Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Trafod syniadau a chynlluniau yn gymwys ac yn hyderus. Cynnal proses rheoli risg i nodi, gwerthuso a lliniaru risgiau (effeithiau ansicrwydd) sy'n gysylltiedig â phrosiect neu weithgaredd penodol, gan gynnwys risgiau diogelwch. |
Cynllunio'r gwaith a'r adnoddau sydd eu hangen er mwyn gallu cynnal tasgau a phrosiectau peirianneg yn effeithiol. Rheoli, cynorthwyo neu gefnogi'r gwaith o baratoi a rheoli costau/cyllidebau tasgau neu brosiectau peirianneg. Rheoli, cynorthwyo neu gefnogi gwaith cynllunio a threfnu tasgau ac adnoddau o fewn eu maes cyfrifoldeb eu hunain. Rheoli, cynorthwyo neu gefnogi gwaith rheoli timau neu arbenigwyr technegol o fewn eu maes cyfrifoldeb eu hunain. Cynorthwyo eraill i fodloni anghenion technegol a rheolaethol sy'n newid. Rheoli, cynorthwyo neu gefnogi prosesau ansawdd a chyfrannu at welliannau ansawdd o fewn eu maes cyfrifoldeb eu hunain. |
Rheoli risgiau o fewn eu maes cyfrifoldeb eu hunain. Rheoli iechyd, diogelwch a llesiant o fewn eu maes cyfrifoldeb eu hunain. Rheoli gweithgareddau peirianneg, neu eu rheoli dan oruchwyliaeth, gan gynnwys rheoli risg ac iechyd, diogelwch a llesiant. Cyfrannu at welliannau i iechyd, diogelwch a llesiant. |
Cymhwyso egwyddorion datblygu cynaliadwy mewn gweithgareddau gwaith. Rheoli datblygu cynaliadwy a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (UNSDGs) neu eu rheoli dan oruchwyliaeth. Cymhwyso egwyddorion Sero Net a lleihau Allyriadau Carbon yn eu gwaith eu hunain. Dangos fframweithiau a chontractau statudol a masnachol o fewn eu maes cyfrifoldeb eu hunain a bod â gwerthfawrogiad o drefniadau masnachol eraill, fel trefniadau rheoli'r Contract NEC. |
Ymddygiadau
Bydd Prentis Gradd Peirianneg Sifil yn:
Dangos sgiliau personol a chymdeithasol effeithiol, gan gynnwys cydweithio'n effeithiol â chleientiaid, cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill.
Herio ymddygiad negyddol.
Dangos ymwybyddiaeth o amrywiaeth a chynhwysiant
Deall a chydymffurfio â Chod Ymddygiad Corff Proffesiynol
Deall y materion moesegol a all godi yn eu rôl a chyflawni eu cyfrifoldebau mewn modd moesegol.
Cynllunio, cyflawni a chofnodi'r Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) sydd ei angen i gynnal a gwella cymhwysedd yn eu maes ymarfer eu hunain, fel sy'n ofynnol gan y Corff Proffesiynol.
Nodi terfynau eu gwybodaeth a'u sgiliau personol
Ymgysylltu â sefydliadau peirianneg proffesiynol sy'n ffurfio'r Cyd-fwrdd Cymedrolwyr.
Hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb
Atodiad 3 - Syrfëwr Meintiau
Gwybodaeth
Bydd Syrfëwr Meintiau yn:
Deall sut i gyfrifo cost cylch oes. Paratoi, dehongli a dadansoddi data, adroddiadau a rhagolygon.
Dealltwriaeth o lwybrau caffael ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol
Deall rôl y Syrfëwr Meintiau wrth ystyried cynllun gwaith RIBA.
Y dulliau a'r technegau ar gyfer darparu gwybodaeth, data a chyngor i gleientiaid, cydweithwyr neu randdeiliaid.
Sut i sicrhau amgylcheddau gwaith diogel a sicr i chi'ch hun ac i eraill.
Pwysigrwydd a chydnabyddiaeth o amrywiaeth; a gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol, gan gynnwys amgylcheddau cynhwysol e.e. Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol.
Sut i ymgorffori cynaliadwyedd mewn prosiectau a sut i ddylanwadu ar ymddygiad cleientiaid a rhanddeiliaid i liniaru'r newid hinsawdd e.e. caffael yn y gadwyn gyflenwi.
Technoleg adeiladau gan gynnwys deunyddiau.
Sut i reoli perthnasoedd cleient/cwsmer a rhanddeiliaid.
Gwahanol gamau'r broses ddylunio, gofynion cyfreithiol a rheoliadau gan gynnwys cynllunio, Rheoliadau Adeiladu a gofynion iechyd a diogelwch a goblygiadau strwythurol dylunio.
Y ffurfiau safonol ar gyfer contractau ac is-gontractau adeiladu, y mecanweithiau a'r gweithdrefnau contractio a gymhwysir ar gamau amrywiol y contract.
Rôl a chyfrifoldebau gweinyddwr y contract a dyletswyddau partïon y contract.
Pryd mae gwahanol ffurfiau ar gaffael a thendro yn briodol, a chymalau contractau adeiladu/seilwaith.
Mesur a chostio gwaith adeiladu yn fanwl a'r dulliau o gynllunio costau y gellir eu cymhwyso.
Gwybod sut i reoli prosiect adeiladu ac egwyddorion cynlluniau wrth gefn ac adnabod risgiau, lwfans a lliniaru risgiau, costau cylch oes, peirianneg gwerth a rheoli newid.
Technegau i reoli contractwyr, isgontractwyr a/neu gyflenwyr. Adrodd a llunio rhagolygon
Sut i gynnal prisiadau cyfalaf a rhent ar dir ac eiddo, a'r gofynion ar gyfer adrodd am brisiadau.
Y sail y dylid ei defnyddio i fesur, technegau dal data, a safonau a chanllawiau priodol. Cyfyngiadau a graddau o gywirdeb sy'n ofynnol ar gyfer mesuriadau.
Deall effaith a manteision amgylcheddol gweithgareddau adeiladu a sut i wneud y mwyaf o'r effaith gadarnhaol a lleihau effeithiau negyddol hyd yr eithaf ym mhob cam wrth Adeiladu.
Deall safonau amgylcheddol ar sail gwlad gartref a'r DU.
Sut i ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth yn effeithiol gan gynnwys meddalwedd amcangyfrif, meddalwedd mesur a meddalwedd rheoli contractau.
Deall sut i ddefnyddio a dehongli cynlluniau a lluniadau adeiladu papur a digidol.
Dangos ymwybyddiaeth o Batholeg Adeiladu, gan gynnwys sut i gwblhau archwiliad o eiddo a'i fesur i nodi diffygion, achosion a datrysiadau.
Sgiliau
Bydd Syrfëwr Meintiau yn gallu:
Darparu data, gwybodaeth a chyngor, gan gynnwys ffurflenni tendr, ceisiadau am daliadau a chyfraniadau at astudiaethau dichonoldeb i randdeiliaid.
Argymell atebion i sicrhau amgylcheddau gwaith diogel a sicr.
Rhoi cyngor ynghylch technoleg adeiladu adeiladau a deunyddiau cysylltiedig mewn perthynas â chost.
Rhoi cyngor ac argymhellion ynghylch llwybrau caffael priodol a rheoli'r prosesau tendro i gynnwys gwerthuso ffurflenni tendr a ddychwelir a negodi ag isgontractwyr.
Cyfrannu at reoli cyfarwyddiadau contract o'r ymgysylltu hyd at y cwblhau o ran amser, cost ac ymwybyddiaeth o ansawdd.
Rhoi gweithdrefnau gweinyddol ar waith i gynnal prosiect adeiladu yn unol â ffurfiau safonol contractau adeiladu.
Paratoi cyfarwyddiadau, ymdrin â darpariaethau talu, rheoli gweithdrefnau amrywio ac ymdrin â materion cwblhau a meddiant a chyhoeddi tystysgrifau.
Gwneud gwaith meintioli manwl gan gynnwys Bil Meintiau, costio a chynllunio costau'r gwaith adeiladu.
Cynnal prosesau peirianneg gwerth. Paratoi data, dadansoddiadau, adroddiadau a rhagolygon.
Cynnal astudiaethau dichonoldeb neu arfarniad generig o'r prosiect.
Cymhwyso'r canllawiau priodol a defnyddio'r sail briodol i wneud mesuriadau, fel mesuriad o'r gwaith.
Paratoi a chyflwyno mesuriadau yn unol â rheolau newydd ar gyfer mesur.
Dadansoddi costau a manteision mentrau cynaliadwyedd ar brosiect.
Gallu cynghori ynghylch yr atebion adeiladu mwyaf addas sy'n sicrhau'r gwerth mwyaf i randdeiliaid ac yn gwella cost-effeithiolrwydd y prosiect o fewn cyfyngiadau'r gyllideb.
Cynghori ar y dulliau priodol o fesur gwaith wedi'i gwblhau a chyhoeddi dogfennau sy'n ofynnol er mwyn talu contractwyr arbenigol.
Monitro adroddiadau a chynghori'r tîm adeiladu a/neu randdeiliaid ynghylch llif arian a phroffidioldeb y prosiect. Gwerthuso a chynghori ar oblygiadau ariannol penderfyniadau yn ystod y cyfnod adeiladu a/neu faterion ôl-gontract.
Dangos dealltwriaeth o fantolenni, cyfrifon elw a cholled a chynlluniau busnes.
Gallu defnyddio Technoleg Gwybodaeth yn effeithiol e.e., meddalwedd amcangyfrif, meddalwedd mesur a meddalwedd rheoli contractau.
Defnyddio a dehongli cynlluniau a lluniadau adeiladu papur a digidol.
Gwerthfawrogi'r rôl y mae aelodau eraill y tîm adeiladu yn ei chwarae.
Ymddygiadau
Bydd Syrfëwr Meintiau yn:
Darparu gwasanaeth o safon uchel - Gwnewch yn siŵr bob amser fod eich cleient, rhanddeiliaid, neu eraill y mae gennych gyfrifoldeb proffesiynol drostynt, yn derbyn y cyngor, y gefnogaeth neu'r perfformiad gorau posibl o ran telerau'r ymgysylltu rydych chi wedi cytuno arnynt a sicrhau eich bod bob amser yn rhoi sylw i fanylion.
Gweithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo ymddiriedaeth yn y proffesiwn arolygu - Gweithredu mewn ffordd, yn eich bywyd proffesiynol a'ch bywyd preifat, i'ch hyrwyddo chi, eich cwmni, neu'r sefydliad rydych chi'n gweithio iddo mewn ffordd broffesiynol a chadarnhaol.
Gweithredu'n onest a di-duedd, bob amser yn ddibynadwy, yn agored ac yn dryloyw.
Parchu gwybodaeth gyfrinachol eich cleientiaid, eich rhanddeiliaid neu darpar gleientiaid, a pheidio â chaniatáu i ragfarn, buddiannau sy'n gwrthdaro na dylanwad gormodol eraill fod yn drech na'ch barn neu eich rhwymedigaethau proffesiynol neu fusnes.
Gweithredu’n gyson er budd y cyhoedd bob amser wrth wneud penderfyniadau neu roi cyngor.
Trin eraill â pharch - Trin pawb â chwrteisi, moesgarwch a pharch ac ystyried sensitifrwydd diwylliannol ac arferion busnes.
Treat others with respect - Treat everyone with courtesy, politeness and respect and consider cultural sensitivities and business practices.
Hyrwyddo cynaliadwyedd, gan gynnwys arferion sy'n effeithlon o ran ynni.
i leihau effaith amgylcheddol negyddol a lleihau'r newid hinsawdd.
Cymryd cyfrifoldeb – Gweithredwch gyda medr, gofal a diwydrwydd bob amser ac ymdrin ag unrhyw gŵyn mewn modd proffesiynol priodol.
Nodi eu hanghenion datblygu eu hunain, a chymryd camau priodol i fodloni'r anghenion hynny.
Deall a glynu wrth fframweithiau llywodraethu a rheoleiddio Cyrff Proffesiynol y Diwydiant. Safonau moesegol byd-eang a phroffesiynol a chymhwyso'r Rheolau Ymddygiad a sut i ddelio â chyfyng-gyngor moesegol.
Atodiad 4 – Gwaith syrfëwr
Gwybodaeth
Bydd Syrfëwr yn gwybod:
Y gyfraith a rôl cynghorwyr cyfreithiol sy'n ymwneud â chaffael/gwaredu eiddo, ffurfiau safonol ar gontractau adeiladu neu gontractau eraill sy'n gysylltiedig ag eiddo.
Y dulliau a'r technegau ar gyfer darparu gwybodaeth, data a chyngor i gleientiaid, cydweithwyr neu randdeiliaid.
Gweithdrefnau a dulliau cyfrifyddu er mwyn caffael a rheoli cyllid.
Sut i sicrhau amgylcheddau gwaith diogel a sicr i chi'ch hun ac i eraill.
Pwysigrwydd a chydnabyddiaeth o amrywiaeth; a gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol, gan gynnwys amgylcheddau cynhwysol e.e. Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol.
Sut i ymgorffori cynaliadwyedd mewn prosiectau, a sut i ddylanwadu ar ymddygiad cleientiaid a rhanddeiliaid i liniaru newid hinsawdd e.e. caffael yn y gadwyn gyflenwi.
Technoleg adeiladau cymhleth gan gynnwys deunyddiau.
Sut i reoli perthnasoedd â chleientiaid, cwsmeriaid neu randdeiliaid.
Patholeg fanwl adeiladau a'r diffygion, yr achosion a'r atebion cysylltiedig, gan gynnwys costio atgyweiriadau ar gyfer gwaith ôl-osod ac adeiladau newydd.
Y fethodoleg ar gyfer cwblhau archwiliad eiddo a thechnegau arolygu.
Gwahanol gamau'r broses ddylunio, gofynion a rheoliadau cyfreithiol, gan gynnwys cynllunio, Rheoliadau Adeiladu, a gofynion iechyd a diogelwch a goblygiadau strwythurol dylunio.
Cyfrifoldebau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth berthnasol ac ystyriaethau moesegol, gan gynnwys gweithdrefnau atal llwgrwobrwyo a llygredd.
Y ffurfiau safonol ar gyfer contractau ac is-gontractau adeiladu, y mecanweithiau a'r gweithdrefnau contractio a gymhwysir ar gamau amrywiol y contract.
Rôl a chyfrifoldebau gweinyddwr y contract a dyletswyddau partïon y contract.
Pryd mae gwahanol ffurfiau o gaffael, contractau, arolygon a thendro yn briodol a chymalau contractau adeiladu/seilwaith.
Technegau i reoli contractwyr, isgontractwyr a/neu gyflenwyr. Adrodd a llunio rhagolygon
Sut i gynnal prisiadau cyfalaf a rhent cymhleth ar dir ac eiddo, a'r gofynion ar gyfer adrodd am brisiadau.
Sut mae cyfraith tir, cyfraith landlord a thenant a chyfraith gynllunio yn effeithio ar feddiannaeth a rheolaeth adeiladau a thir, a'r defnydd ohonynt.
Y gofynion a'r rhesymau dros archwilio eiddo. Materion diogelwch wrth gynnal archwiliad a sefydlu trefniadau mynediad.
Y sail y dylid ei defnyddio i fesur, technegau dal data, a safonau a chanllawiau priodol. Cyfyngiadau a graddau o gywirdeb sy'n ofynnol ar gyfer mesuriadau.
Deall effaith amgylcheddol gweithgareddau adeiladu a sut i leihau effeithiau negyddol hyd yr eithaf yn ystod pob cam o'r gwaith adeiladu.
Deall safonau diogelwch cyfredol y DU a'r gwledydd cartref. e.e., Safonau Diogelwch Cymru.
Deall sut i ystyried a hyrwyddo cynaliadwyedd, ac arferion effeithlon o ran ynni i leihau effaith negyddol ar yr amgylchedd a newid hinsawdd hyd yr eithaf.
Sgiliau
Bydd Syrfëwr yn gallu:
Darparu data, gwybodaeth a chyngor i gleientiaid sy'n berthnasol i'r ddisgyblaeth arolygu.
Argymell atebion i sicrhau amgylcheddau gwaith diogel a sicr.
Deall y telerau ar gyfer caffael/gwaredu eiddo neu weinyddu contractau.
Rheoli telerau ymgysylltu yn unol â safonau proffesiynol.
Cynnal archwiliadau ac arolygon safle a dulliau adrodd.
Cynnal astudiaethau dichonoldeb neu arfarniadau sy'n berthnasol i'r maes ymarfer.
Yn ddi-duedd, cynnig atebion wrth negodi i broblemau sy'n effeithio ar berchnogion a meddianwyr tir ac eiddo.
Defnyddio dulliau mesur safonol, a lle bo'n briodol, offeryniaeth i gymryd mesuriadau o dir ac eiddo.
Paratoi a chyflwyno mesuriadau mewn modd priodol.
Dadansoddi cost a budd mentrau cynaliadwyedd ar brosiect gan ddefnyddio sgiliau dadansoddol, Technoleg Gwybodaeth
Darparu gwasanaeth cwsmeriaid da.
Cymhwyso safonau diogelwch y DU a'r gwledydd cartref yn y gwaith.
Ystyried a hyrwyddo cynaliadwyedd, ac arferion effeithlon o ran ynni i leihau effaith negyddol ar yr amgylchedd a newid hinsawdd hyd yr eithaf.
Sgiliau Penodol ar gyfer Syrfewyr Adeiladu
Rhoi cyngor ynghylch technoleg adeiladu adeiladau a'u deunyddiau.
Paratoi dyluniad a manyleb prosiectau adeiladu o'r cynigion amlinellol hyd at gwblhau'r broses ddylunio a manylebu.
Ymddygiadau
Bydd Syrfëwr Adeiladu yn:
Darparu gwasanaeth o safon uchel - Gwnewch yn siŵr bob amser fod eich cleient, rhanddeiliaid, neu eraill y mae gennych gyfrifoldeb proffesiynol drostynt, yn derbyn y cyngor, y gefnogaeth neu'r perfformiad gorau posibl o ran telerau'r ymgysylltu rydych chi wedi cytuno arnynt a sicrhau eich bod bob amser yn rhoi sylw i fanylion.
Gweithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo ymddiriedaeth yn y proffesiwn arolygu - Gweithredu mewn ffordd, yn eich bywyd proffesiynol a'ch bywyd preifat, i'ch hyrwyddo chi, eich cwmni, neu'r sefydliad rydych chi'n gweithio iddo mewn ffordd broffesiynol a chadarnhaol.
Gweithredu'n onest - bob amser yn ddibynadwy, yn agored ac yn dryloyw. Parchu gwybodaeth gyfrinachol eich cleientiaid, eich rhanddeiliaid neu darpar gleientiaid, a pheidio â chaniatáu i ragfarn, buddiannau sy'n gwrthdaro na dylanwad gormodol eraill fod yn drech na'ch barn neu eich rhwymedigaethau proffesiynol neu fusnes.
Gweithredu’n gyson er budd y cyhoedd bob amser wrth wneud penderfyniadau neu roi cyngor.
Trin eraill â pharch - Trin pawb â chwrteisi, moesgarwch a pharch ac ystyried sensitifrwydd diwylliannol ac arferion busnes.
Cymryd cyfrifoldeb - Gweithredu gyda medr, gofal a diwydrwydd bob amser ac ymdrin ag unrhyw gŵyn mewn modd proffesiynol priodol, gan ddefnyddio eich cymhelliant eich hun lle bo angen.
Nodi ei anghenion datblygu ei hun, a chymryd camau priodol i fodloni'r anghenion hynny.
Glynu wrth fframweithiau llywodraethu a rheoleiddio'r Diwydiant, gan gynnwys y rhai a osodir gan Gyrff Proffesiynol
Cymhwyso safonau moesegol byd-eang a phroffesiynol a chymhwyso'r Rheolau Ymddygiad a gyfer sut i ymdrin â chyfyng-gyngor moesegol.
Atodiad 5 - Proses Asesu Cymhwysedd ar gyfer Prentisiaethau Gradd Adeiladu Cymru
Proses Asesu Cymhwysedd ar gyfer Prentisiaethau Gradd Adeiladu Cymru
Bydd angen cynnal asesiad o gymhwysedd yn seiliedig ar dystiolaeth o'r gweithle. Bydd angen profi, ymarfer ac ennill yr holl sgiliau ac ymddygiadau ar gyfer yr alwedigaeth.
Mae'r broses isod yn seiliedig ar elfennau cyfredol asesu Prentisiaethau Adeiladu yng Nghymru.
Cadarnhad y Cyflogwr (sgiliau) bod sgiliau wedi cael eu hymarfer a bod y prentis yn gallu ymgymryd â'r sgiliau hyn yn fedrus. (Bydd elfen oddrychol i'r asesiad hwn oherwydd gallai rhai cyflogwyr fod yn fwy llym, a mynnu safonau cymhwysedd uwch nag eraill). Bydd cyflogwr a'r darparydd yn cadarnhau ac yn cytuno bod yr holl ofynion o ran sgiliau wedi'u bodloni.
Gellir dangos tystiolaeth o'r elfennau asesu uchod drwy drafodaeth wedi'i cofnodi rhwng y cyflogwr/mentor a thiwtor/asesydd y sefydliad addysg uwch, drwy ddyddiadur o weithgarwch yn y gweithle wedi'i gydlofnodi gan y cyflogwr/mentor neu gyfuniad o'r ddau.
Cadarnhad y Cyflogwr (ymddygiadau) bod y cyflogwr wedi gweld yr ymddygiadau sydd wedi'u cynnwys yn y GSYau Galwedigaethol a bod y prentis wedi dangos yr ymddygiadau cadarnhaol hyn yn effeithiol yn y gweithle (Bydd elfen oddrychol i'r asesiad hwn oherwydd gallai rhai cyflogwyr fod yn fwy llym a mynnu safonau ymddygiad uwch nag eraill). Bydd y cyflogwr a'r darparydd yn cadarnhau ac yn cytuno bod yr holl ofynion o ran ymddygiad wedi'u bodloni.
Gellir dangos tystiolaeth o'r elfennau asesu uchod drwy drafodaethau wedi'u cofnodi, neu gyfarfodydd arfarnu rhwng y cyflogwr/mentor, drwy ddyddiadur ymddygiad yn y gweithle, neu gyfuniad o'r rhain i gyd, wedi'u cadarnhau gan y cyflogwr/mentor.
Rhaid i'r asesiad o gymhwysedd gan diwtoriaid/aseswyr SAU fodloni canlyniadau dysgu'r brentisiaeth gradd, a gellir dangos tystiolaeth o hyn drwy ystod o strategaethau asesu, gan gynnwys er enghraifft aseiniadau yn y gwaith fel rhan o'r radd, ac arsylwi ymddygiad prentisiaid.
Cynhelir prosiect yn y gweithle pan fydd y cyflogwr a'r sefydliad addysg uwch yn cytuno bod y prentis wedi ennill cymhwysedd ac yn barod i gael ei asesu. Dylai'r prosiect gynnwys elfen o arsylwi yn y gweithle naill ai gan y cyflogwr neu Diwtor/asesydd y SAU, aseiniad academaidd sylweddol yn gysylltiedig â'r gweithle a thrafodaeth broffesiynol.
Dylid cynnal yr asesiad terfynol cyn yr asesiad academaidd/gradd terfynol. Drwy hyn gellir sicrhau bod prentisiaid yn cwblhau pob elfen o'r brentisiaeth yn hytrach nag ennill gradd yn unig. . Y camau ar gyfer yr asesiad terfynol fydd cadarnhad y cyflogwr ynghyd ag asesiad SAU a Phrosiect yn y Gweithle.
Er mwyn ardystio'r brentisiaeth bydd angen tystiolaeth gan y cyflogwr eu bod yn cytuno bod y prentis wedi ennill y sgiliau a'r ymddygiadau sy'n ofynnol yn y GSYau (gall hyn fod ar ffurf llythyr cadarnhau â phennawd y cwmni wedi'i lofnodi a'i ddyddio gan y cyflogwr) a chopi o'r dystysgrif gradd. Bydd gwybodaeth yn cael ei hasesu fel rhan o'r broses o ddyfarnu gradd academaidd.
Gellir defnyddio cydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol fel tystiolaeth o brofiad a dysgu blaenorol os yw'r Darparydd yn gallu gwirio bod hynny wedi digwydd. Dylid cyflwyno ac asesu'r dystiolaeth hon fel yr amlinellwyd uchod, a dylai fodloni rheoliadau academaidd y Darparydd. Caiff profiad a dysgu cysylltiedig ei achredu yn ôl doethineb y SAU.
Proses Asesu Prentisiaeth Gradd Adeiladu Cymru
Cadarnhad y Cyflogwr o Sgiliau ac Ymddygiadau
Asesiad o gymhwysedd gan diwtoriaid/aseswyr y SAU
Prosiect yn y gweithle
Asesiad terfynol
Tystysgrif Prentisiaeth