Skip to main content

Llwybr

Theatr Dechnegol: Golau, Sain a Llwyfan

Mae cynnwys y Llwybr hwn wedi cael ei gytuno gan Sgiliau Creadigol a Diwylliannol. Dyma’r unig Lwybr Prentisiaeth ar gyfer Theatr Dechnegol: Golau, Sain a Llwyfan a gymeradwywyd i’w ddefnyddio yng Nghymru sy’n gymwys i gael cyllid gan Medr.. FR03462 version 2 01/08/2024

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol: 

  • Cymwysterau, 

  • Sgiliau Hanfodol 

  • Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith 

 

 

60 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Theatr Dechnegol (Golau, Sain a Llwyfan) 

Gofynion mynediad

Mae cyflogwyr yn amcanu at ehangu’r gronfa o recriwtiaid posibl i mewn i Theatr Dechnegol i roi mwy o gyfle i unigolion gael eu pig i mewn i’r diwydiant.  

Mae ganddynt ddiddordeb arbennig yn y rhai sydd:  

  • yn dangos diddordeb brwd mewn gweithio mewn rolau cefn llwyfan 

  • yn deall pwysigrwydd gweithio mewn timau ac yn fodlon gweithio sifftiau.  

 

Sylwer: Bydd rolau technegydd yn aml yn cynnwys gofyniad i godi a chario a gallant hefyd gynnwys gwaith ar uchder, mewn mannau cyfyng.  

 

Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol yn unrhyw un neu rai o’r diwydiannau creadigol neu rolau cymorth technegol, a ategir gan bortffolio o dystiolaeth, ond nid yw hyn yn orfodol gan y bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael cyfle teg i ddangos eu gallu. Wedyn bydd rhaglenni’n cael eu teilwra i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Theatr Dechnegol (Sain, Golau a Llwyfan)

Lefel 3: Theatr Dechnegol (Sain, Golau a Llwyfan) Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Tystysgrif Lefel 3 BIIAB mewn Theatr Dechnegol (Sain, Golau a Llwyfan)
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
BIIAB C00/4940/9 30 300 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Dyfarniad Lefel 3 yn Egwyddorion y Sector Treftadaeth Ddiwylliannol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
BIIAB C00/0712/4 15 150 Gwybodaeth Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Theatr Dechnegol (Sain, Golau a Llwyfan) Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.  

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Theatr Dechnegol (Sain, Golau a Llwyfan) 183 267

Tystysgrif Lefel 3 BIIAB mewn Theatr Dechnegol (Sain, Golau a Llwyfan) – 30 credyd

 

Dyfarniad Lefel 3 yn Egwyddorion y Sector Treftadaeth Ddiwylliannol – 15 credyd

 

450 yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 18 mis

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/ 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru 

  • 6 chredyd/ 60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru  

  • 6 chredyd/ 60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru 

Gofynion eraill ychwanegol

Sylwer: Bydd rolau technegydd yn aml yn cynnwys gofyniad i godi a chario a gallant hefyd gynnwys gwaith ar uchder, mewn mannau cyfyng.  

Dilyniant

Lefel 3: Theatr Dechnegol (Golau, Sain a Llwyfan)

Dilyniant i’r cymhwyster Lefel 3 mewn Theatr Dechnegol 

 

Gall hyn fod o amrywiaeth o lwybrau gan gynnwys: 

 

Prentisiaeth Sylfaen mewn Theatr Dechnegol 

 

Cymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru yn y Diwydiannau Creadigol a’r Cyfryngau 

 

Cymwysterau cyffredinol neu alwedigaethol sy’n gysylltiedig â’r diwydiannau creadigol a diwylliannol neu’n berthnasol iddynt 

 

 

 

Dilyniant o’r Llwybrau Prentisiaeth i Swyddi 

 

Mae rolau penodol y gallai’r llwybrau hyn arwain atynt yn cynnwys: 

 

Golau: Technegydd Goleuo (neu Dechnegydd Goleuo Arweiniol) 

 

Sain: Technegydd Sain (neu Dechnegydd Sain Arweiniol) 

Llwyfan: Technegydd Llwyfan (neu Dechnegydd Llwyfan Arweiniol), Prif Ddyn Brig   

 

Yn dilyn cyfnod yn gweithio yn yr un rôl ac yn datblygu sgiliau ychwanegol naill ai ar lefel uwch neu ar yr un lefel; Uwch Dechnegydd Sain, Uwch Dechnegydd Llwyfan, Prif Ddyn Brig. 

A chyda datblygiad a hyfforddiant pellach, gall swyddi posibl gynnwys, er enghraifft, Rheolwr Technegol neu Reolwr Llwyfan. 

 

AB/AU 

I’r rhai sy’n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau a’u cymwysterau y tu hwnt i lefel 3, mae cyfleoedd yn bodoli i wneud cymwysterau uwch megis: 

HND/HNC Trydan Theatr   

Ar ôl datblygiad a hyfforddiant pellach, o bosibl gradd Sylfaen mewn Theatr Dechnegol 

Cymwysterau Lefel 4/5 mewn Rheoli 

Cymwysterau galwedigaethol eraill sy’n gysylltiedig â’r diwydiannau creadigol a diwylliannol neu’n berthnasol iddynt. 

 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau Prentisiaethau yn gynhwysol ac yn gallu dangos ymagwedd weithredol tuag at nodi a chael gwared ar rwystrau i fynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r personau hynny nad ydynt fel y nodwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010.  

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'i chynnwys er mai dim ond mewn perthynas â'r gofyniad i ddileu gwahaniaethu mewn cyflogaeth.  

Rhaid i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant yn seiliedig ar y naw nodwedd warchodedig hynny. 

 

Er bod y ffigyrau’n amrywio fesul rhanbarth, ar y cyfan mae’r sector creadigol a diwylliannol yn wyn gan mwyaf (93%), mae bron i hanner y gweithlu dan 40 oed, mae cynrychiolaeth o blith dynion a menywod yn 60/40% ac mae oddeutu 13% yn anabl. 

 

Rhesymau tebygol dros yr anghydbwysedd yma yw: 

diffyg llwybrau datblygiad gyrfa adnabyddadwy yn y diwydiant hyd yma 

bod tuedd yn y sector i recriwtiaid newydd ddechrau heb gyflog neu â chyflog isel am hyd at ddwy flynedd mewn rhai achosion gan olygu bod cyfleoedd i bobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig yn gallu bod yn gyfyngedig. 

bod gan y diwydiant hanes o raddedigion yn mynd i mewn iddo a allai atal y rhai heb radd rhag ymgeisio; 

bod yr hanes o raddedigion yn mynd i mewn i’r diwydiant yn golygu y gallai’r rhai sy’n recriwtio fynd ati’n awtomatig i geisio graddedigion hyd yn oed ar gyfer rolau ar lefel mynediad, a’r diwylliant hwn o duedd o blaid graddedigion wrth recriwtio yw’r hyn y bydd y llwybr hwn yn dechrau ymdrin ag ef, gobeithio. 

 

Er mwyn gwrthweithio rhai o’r materion hyn, mae ymwybyddiaeth o yrfaoedd mewn Theatr Dechnegol a diwydiannau creadigol a diwylliannol eraill yn cael ei chodi trwy’r canlynol: 

mynd ati i herio’r diwylliant o brofiad gwaith di-dâl sy’n dominyddu’r diwydiannau creadigol a diwylliannol a chreu dewisiadau gwell i fwy o bobl. Roedd Prentisiaethau Creadigol yn llwybr amgen newydd sbon i mewn i’r diwydiannau creadigol, un a oedd yn seiliedig ar allu a photensial yn hytrach na hanes academaidd neu gefndir a chysylltiadau cymdeithasol. Fe wnaethom ddatblygu ymchwydd o gefnogaeth trwy weithgarwch ymgysylltu ac ymgyrchu wedi’i dargedu er mwyn dangos sut y gallai prentisiaethau weithio i ddysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. 

y Diploma (14-19) yn y Diwydiannau Creadigol a’r Cyfryngau a’r Rhaglen Brentisiaeth i Bobl Ifanc mewn Celf a Dylunio neu yn y Celfyddydau Perfformio, sydd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion 

mae’r wefan gyrfaoedd Creative Choices yn cynnig gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd, rhestriadau ar gyfer hyfforddiant, astudiaethau achos am weithio yn y diwydiant, mynediad at rwydweithiau a mentora 

http://www.creative-choices.co.uk/

rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i godi ymwybyddiaeth o brentisiaethau yn y sectorau creadigol a diwylliannol. Mae hyn yn cynyddu amrywiaeth o ran y mathau o gyflogwyr sy’n cymryd rhan trwy annog busnesau bach a chanolig gan felly estyn cyrhaeddiad y rhaglen. 

 

Ystyrir bod prentisiaethau’n llwybr hollbwysig i annog mwy o amrywiaeth o unigolion i ymuno â’r diwydiant a hwyluso hynny ar eu cyfer er mwyn herio’r duedd o blaid graddedigion ar y pwynt mynediad. Felly mae amodau mynediad i’r llwybr hwn yn eithriadol o hyblyg ac mae mentora wedi cael ei gynnwys i gynnig cymorth ychwanegol a chynyddu’r siawns y bydd prentisiaid yn cwblhau’r Brentisiaeth yn llwyddiannus.

 

Bydd Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn monitro’r niferoedd sy’n ymgymryd â’r holl Brentisiaethau ac yn eu cyflawni trwy ei Grŵp Cymwysterau a Phrentisiaethau a arweinir gan gyflogwyr ac yn cymryd camau i ymdrin ag unrhyw rwystrau i ymgymryd â phrentisiaethau a’u cyflawni fel rhan o’n Strategaeth Cymwysterau Sector. 

 

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (ERR) bellach yn orfodol. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16 oed -18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu cwmni.  

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr. 

 

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr


Diwygiadau dogfennau

07 Ebrill 2026 - By Nicola Beasley   Created pathway