Skip to main content

Llwybr

Mesur Meintiau

Mae CITB wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth Technegol Uwch mewn Mesur Meintiau yn y sector Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau sydd wedi'i gymeradwyo i gael ei ddefnyddio yng Nghymru ac sy'n gymwys i gael cyllid gan Medr.

ISSUE DATE:01/07/2026 FRAMEWORK NO: M0720

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau

  • Sgiliau Hanfodol

  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

Yr isafswm gwerth credyd a fydd yn ofynnol ar gyfer y Llwybr Technegol Uwch Lefel 4 mewn Mesur Meintiau yn y Diwydiant Adeiladu yw 135 credyd 

Yr isafswm gwerth credyd a fydd yn ofynnol ar gyfer y Llwybr Technegol Uwch Lefel 5 mewn Mesur Meintiau yn y Diwydiant Adeiladu yw 135 credyd (yn dibynnu ar gwblhau'r brentisiaeth Lefel 4 ymlaen llaw – gweler y nodiadau canllaw ar gyfer Lefel 5)

Gofynion mynediad

Gellir dechrau ar brentisiaeth yn y diwydiant adeiladu fel Uwch-dechnegydd Mesur Meintiau Adeiladu ar Lefel 4 mewn amrywiaeth o ffyrdd:

 • Bod wedi gweithio mewn galwedigaeth dechnegol gysylltiedig yn y diwydiant adeiladu yn flaenorol

  • Cwblhau Prentisiaeth Crefft Adeiladu Lefel 3

  • Cwblhau Prentisiaeth Dechnegol Adeiladu Lefel 3

  • Cwblhau Cymhwyster Technegol Adeiladu Lefel 3

  • Bagloriaeth Cymru

  • Cymwysterau Safon Uwch

• Profiad gwaith ac agwedd gadarnhaol

• Dysgu Cyn Prentisiaeth. 

Gellir dechrau ar brentisiaeth yn y diwydiant adeiladu fel Uwch-dechnegydd Mesur Meintiau Adeiladu ar Lefel 5 mewn amrywiaeth o ffyrdd:

 • Bod wedi gweithio mewn galwedigaeth dechnegol gysylltiedig yn y diwydiant adeiladu yn flaenorol, am o leiaf dair blynedd o gyflogaeth wiriadwy mewn rôl mesur meintiau

  • Cwblhau Prentisiaeth Mesur Meintiau Lefel 4

Llwybr ar gyfer pobl 19+ oed yn unig yw hwn.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 4 : Mesur Meintiau

Lefel 4 : Mesur Meintiau Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn

Lefel 4 – Tystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC mewn Mesur Meintiau (2023)
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearsons 610/0938/6 120 1200 Cyfun Cymraeg-Saesneg
Lefel 4 – Tystysgrif Genedlaethol Uwch Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mewn Mesur Meintiau
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant QSUHNC 120 1200 Cyfun Cymraeg-Saesneg

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4 : Mesur Meintiau Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru 

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Lefel 4: Mesur Meintiau 

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4 : Mesur Meintiau 1220 320

Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

120 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth 

Cyfanswm yr oriau hyfforddi – sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith – ar gyfer y llwybr Lefel 4 yw 1540.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd / 45 GLH Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu

  • 6 chredyd / 45 GLH Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif

Lefel 5 - Mesur Meintiau

Lefel 5 - Mesur Meintiau Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn

Lefel 5 – Diploma Cenedlaethol Uwch BTEC mewn Mesur Meintiau (2023)
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearsons 610/0938/8 240 2400 Cyfun Cymraeg-Saesneg
Lefel 5 – Diploma Cenedlaethol Uwch Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mewn Mesur Meintiau
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant HA5QS 240 2400 Cyfun Cymraeg-Saesneg

Gwerth credyd Diplomâu Cenedlaethol Uwch Pearson a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer dysgwyr sydd wedi ennill Tystysgrif Genedlaethol Uwch Pearson neu Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fydd 120 i achredu dysgu blaenorol.
Bydd yn ofynnol i brentisiaid sy'n ymuno drwy'r llwybr sy'n seiliedig ar o leiaf dair blynedd o brofiad gwaith achrededig gwblhau rhaglen lawn 240 GLH y Diploma Cenedlaethol Uwch oni fyddant wedi ennill cymhwyster Tystysgrif Genedlaethol Uwch gysylltiedig neu wedi cwblhau prentisiaeth Lefel 4 mewn mesur meintiau yn flaenorol.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 5 - Mesur Meintiau Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru 

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Lefel 5: Mesur Meintiau 

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 5 - Mesur Meintiau 2440 640
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

240 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth 

Cyfanswm yr oriau hyfforddi – sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith – ar gyfer y llwybr hwn yw 3080.

Cyfanswm yr oriau hyfforddi Lefel 5 ar gyfer dysgwyr sydd wedi ennill prentisiaeth Mesur Meintiau Lefel 4 neu sydd ag o leiaf dair blynedd o brofiad gwaith gwiriadwy fel technegydd mesur meintiau yw 1540, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd / 45 GLH Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu

  • 6 chredyd / 45 GLH Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif

Gofynion eraill ychwanegol

Uwch-dechnegydd Mesur Meintiau yn y Diwydiant Adeiladu

Lefel

Isafswm Gwerth Credyd

Sgiliau Digidol ar gyfer Adeiladu

2

3

Gofynnir i ddysgwyr ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol, achosion o fethdaliad neu ddyfarniadau llys sirol ar adeg cofrestru ar gyfer y cymhwyster Darparu Gwasanaethau Ariannol.

 

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Fframweithiau Mesur Meintiau Uwch cyfunol ym maes adeiladu yw'r rhain, ac maent yn bodloni'r gofynion gwybodaeth a chymhwysedd a nodir yn neilliannau'r llwybr dysgu a sgiliau unigol. Mae'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau i'w gweld yn y ddogfen deilliannau dysgu sydd yn Atodiad 1 isod. 

 

Rolau swydd

Syrfëwr Meintiau

Syrfëwr Meintiau Lefel 4 

Mae Syrfëwr Meintiau Lefel 4 yn cefnogi'r tîm masnachol drwy wneud gwaith mesur, helpu i lunio cynlluniau costau, cadw cofnodion prosiectau, a helpu i gyflawni tasgau tendro a chaffael. Mae'r rôl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau technegol, gweithio dan oruchwyliaeth, a rhoi gwybodaeth gywir am gostau a meintiau er mwyn helpu i gyflawni prosiectau.

Syrfëwr Meintiau Lefel 5

Mae Syrfëwr Meintiau Lefel 5 yn rheoli pecynnau gwaith diffiniedig â mwy o annibyniaeth, gan baratoi cynlluniau costau, prisiadau a dogfennau caffael. Mae'r rôl yn cynnwys monitro costau, asesu taliadau i is-gontractwyr, rheoli amrywiadau, a chyfrannu at brosesau gwneud penderfyniadau masnachol gan gymhwyso dealltwriaeth gadarn o gontractau a phrosesau adeiladu.

Cyfrifoldebau Allweddol 

Lefel 4 

  • Cymorth data costau — Helpu i baratoi amcangyfrifon, cynlluniau costau, ac adroddiadau ariannol drwy gasglu a threfnu gwybodaeth berthnasol am gostau.

  • Mesur a phrisio — Mesur meintiau a phrisio deunyddiau'n gywir yn seiliedig ar luniadau a manylebau i ategu cynlluniau costau a rhestrau meintiau.

  • Gweinyddu contractau — Cadw cofnodion masnachol, diweddaru logiau amrywiadau, a helpu i baratoi ceisiadau am daliadau.

  • Cymorth ar gyfer tendrau — Helpu i baratoi ymholiadau tendro, casglu dyfynbrisiau gan is-gontractwyr, a llunio dalennau cymharu sylfaenol.

  • Mesur ar y safle — Ymweld â safleoedd i wirio meintiau, cofnodi cynnydd, a helpu'r tîm masnachol i gasglu data ar y safle.

  • Cymorth ar gyfer caffael — Cyfrannu at restrau caffael, drafftio archebion syml ar gyfer is-gontractwyr, a chydgysylltu â chyflenwyr ar gyfer prisio.

  • Rheoli dogfennau — Sicrhau bod lluniadau, manylebau, a ffeiliau masnachol yn drefnus ac yn gyfredol.

  • Dysgu a chydymffurfiaeth — Dilyn gweithdrefnau cwmnïau, datblygu dealltwriaeth o gontractau adeiladu, a meithrin gwybodaeth dechnegol drwy gwblhau tasgau dan oruchwyliaeth.

Lefel 5 

  • Rheoli pecynnau gwaith dynodedig — Goruchwylio prosesau caffael, prisio, tracio costau a gweinyddu masnachol ar gyfer pecynnau prosiectau penodol

  • Paratoi cynlluniau costau ac amcangyfrifon — Datblygu cynlluniau costau manwl, diweddariadau ar gyllidebau, ac amcangyfrifon cyfnod cynnar â goruchwyliaeth gyfyngedig.

  • Arwain gweithgareddau tendro — Paratoi dogfennau tendro, dadansoddi cynigion is-gontractwyr, ac argymell dyfarniadau yn seiliedig ar werth a chydymffurfiaeth.

  • Asesu prisiadau a thaliadau — Paratoi prisiadau interim, bwrw golwg dros geisiadau gan is-gontractwyr, ac argymell symiau taliadau.

  • Gweinyddu newidiadau i gontractau — Nodi amrywiadau, paratoi hysbysiadau newid, cynnal logiau newidiadau, a helpu i gyd-drafod cyfrifon terfynol.

  • Monitro costau prosiectau — Tracio gwariant, diweddaru rhagolygon cost i gwblhau, a chyfrannu at adroddiadau masnachol misol.

  • Cymhwyso gwybodaeth am gontractau — Defnyddio NEC, JCT, neu ffurflenni contract eraill i reoli rhwymedigaethau, risgiau, a phrosesau masnachol.

  • Helpu i reoli risg a gwerth — Cyfrannu at gofrestri risg, adolygiadau peirianneg gwerth, a chynigion arbed costau.

  • Cydgysylltu â rhanddeiliaid — Rhannu gwybodaeth fasnachol yn glir â chleientiaid, dylunwyr, is-gontractwyr a thimau safle.

  • Cadw cofnodion cywir — Sicrhau bod dogfennau masnachol, ffeiliau caffael, a data ariannol yn drefnus ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth.

Dilyniant

Llwybrau i gamu ymlaen i'r canlynol:

Bydd hyn drwy amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:

Bydd pobl fel arfer yn dechrau ar Brentisiaeth Dechnegol Uwch Lefel 4 mewn Mesur Meintiau drwy un o bedwar llwybr:

  • Cymwysterau academaidd megis cymwysterau Safon Uwch (a fydd yn aml yn cynnwys mathemateg neu wyddoniaeth), BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig.

  • Camu ymlaen o brentisiaeth lefel is, 

  • Profiad gwaith perthnasol yn y diwydiant, lle y bydd ymgeiswyr eisoes yn gweithio mewn rolau adeiladu neu rolau technegol ac yn gallu dangos gallu a dealltwriaeth ymarferol.

  • Mynediad dan nawdd cyflogwr, lle y bydd cwmnïau'n recriwtio prentisiaid yn uniongyrchol ac yn eu helpu i ymuno â'r rhaglen Lefel 4 yn seiliedig ar asesiadau mewnol neu botensial.

Bydd y llwybrau hyn yn sicrhau bod ymgeiswyr wedi dysgu'r hanfodion ac yn meddu ar y galluogrwydd technegol sy'n ofynnol ar gyfer hyfforddiant mesur meintiau ar lefel uwch.

Camu ymlaen o'r canlynol:

Fel arfer, gall Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Mesur Meintiau arwain at y canlynol:

  • Diploma / Diploma Cenedlaethol Uwch Lefel 5 mewn Mesur Meintiau — meithrin sgiliau technegol a masnachol dyfnach.

  • Gradd-brentisiaeth Lefel 6 (BSc Mesur Meintiau) — y llwybr safonol tuag at ddod yn Syrfëwr Meintiau cwbl gymwysedig.

  • Llwybrau siartredig — ar ôl Lefel 6, gall llwybrau camu ymlaen arwain at y canlynol:

  • Asesiad o Gymhwysedd Proffesiynol (APC) Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) (er mwyn dod yn aelod o RICS)

  • Llwybrau aelodaeth Sefydliad Siartredig y Syrfewyr Peirianneg Sifil (CICES)

  • Siarteriaeth y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB)

Bydd y llwybr hwn yn mynd â chi o sgiliau lefel technegydd i statws proffesiynol llawn.

Fel arfer, gall Prentisiaeth Uwch Lefel 5 mewn Mesur Meintiau arwain at y canlynol:

  • Gradd-brentisiaeth Lefel 6 (BSc Mesur Meintiau) — y llwybr safonol tuag at ddod yn Syrfëwr Meintiau cwbl gymwysedig. 

  • Llwybrau siartredig — ar ôl Lefel 6, gall llwybrau camu ymlaen arwain at y canlynol:

  • Asesiad o Gymhwysedd Proffesiynol (APC) Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) (er mwyn dod yn aelod o RICS)

  • Llwybrau aelodaeth Sefydliad Siartredig y Syrfewyr Peirianneg Sifil (CICES)

  • Siarteriaeth y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB)

 

 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos camau pendant i ganfod a dileu rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael mynediad a chamu ymlaen. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a phersonau nad ydynt yn eu rhannu, fel y'u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond mewn perthynas â'r gofyniad i ddileu gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Er nad yw'r diwydiant adeiladu wedi bod yn ddewis gyrfa traddodiadol i fenywod yn hanesyddol, mae hyn bellach wedi newid, ac mae menywod yn cael gwell cymorth ac yn gweithio'n llwyddiannus yn y diwydiant.

Mae'r cyrff sectoraidd yn gweithio ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ganfod problemau sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a mynd i'r afael â nhw. Caiff y gwaith hwn ei gefnogi gan lywodraeth leol/genedlaethol, asiantaethau/cyrff anllywodraethol ac undebau perthnasol. 

Mae'n ofynnol i brosesau recriwtio prentisiaid fod yn agored ac yn deg i bawb sy'n bodloni'r meini prawf dethol, beth bynnag fo'u rhywedd, eu tarddiad ethnig, eu crefydd/cred, eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hanabledd.

Rhaid i bob partner sy'n cyfrannu at gynnal prentisiaeth a chyflogwyr ymrwymo i bolisi cyfle cyfartal a rhoi polisi a gweithdrefn cyfle cyfartal ffurfiol ar waith. 

Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu dangos nad oes ganddynt arferion gwahaniaethol agored na chudd ym meysydd dethol a chyflogaeth. Rhaid i'r holl weithgareddau hyrwyddo, dethol a hyfforddi gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol megis Deddf Cydraddoldeb 2010. 

Bydd darparwyr yn monitro arferion a gweithdrefnau cyfle cyfartal o fewn eu sefydliadau eu hunain ac yn cymryd camau cadarnhaol pan fydd angen. Hefyd, argymhellir y dylai cyflogwyr/darparwyr gynnal cyfweliad ymadael os bydd prentis yn gadael rhaglen cyn ei chwblhau.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth yn orfodol mwyach. Fodd bynnag, argymhellir y dylai pob prentis (yn enwedig yn y grŵp oedran 16–18 oed) gael rhaglen sefydlu gan gwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y darparwr hyfforddiant a'r cyflogwr yw sicrhau y caiff gofynion y llwybr hwn eu bodloni yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar brentisiaethau.

 

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

Atodiad 1

Atodiad 1

Gwybodaeth, Sgiliau ac Ymddygiadau ar gyfer Prentis Uwch-dechnegydd Mesur Meintiau yn y Diwydiant Adeiladu (Cymru)

Lefel 4 Gwybodaeth

Atodiad 1

Gwybodaeth, Sgiliau ac Ymddygiadau ar gyfer Prentis Uwch-dechnegydd Mesur Meintiau yn y Diwydiant Adeiladu (Cymru)

Lefel 4 Gwybodaeth

Bydd Prentisiaid Mesur Meintiau ar Lefel 4 yn gwybod ac yn deall y canlynol:

Technoleg a gwasanaethau amgylcheddol yn y diwydiant adeiladu

Egwyddorion dylunio ac adeiladu sy'n gysylltiedig â'u dewis faes ymarfer gan gynnwys:

•  camau dylunio o ddechrau'r prosiect nes iddo gael ei gwblhau

 • effaith deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol (ar lefel genedlaethol a rhyngwladol) 

• sut mae amrywiol elfennau'r strwythur yn gweithio ac yn cydberthyn 

•  proses y gwaith adeiladu 

• prosesau gweithredol a chynnal a chadw ar ôl y contract. 

Arferion contractau

Y mathau amrywiol o gontractau a ddefnyddir yn y diwydiant adeiladu a/neu eu maes busnes, gan gynnwys:

•  darpariaethau contractiol cyffredinol megis yswiriant, arferion cadw, bondiau, iawndal penodedig a chanfyddedig, meddiant cynnar, cwblhau ymarferol a phrosesau contractiol cyffredin eraill.

• cyfraith a deddfwriaeth contractau sylfaenol. 

• dogfennau contractau gan gynnwys yr amrywiol fathau safonol o gontract ac is-gontract, pryd y byddai gwahanol fathau'n cael eu defnyddio gan gynnwys contract peirianneg newydd (NEC), dogfennau penodol, e.e. estyniad amser (EOT), digwyddiad digolledu (CE), rhybuddion cynnar, hysbysiadau gwrthgyfrif a hysbysiadau talu llai.

• prosesau, moeseg a gweithdrefnau contractiol sylfaenol ar amrywiol gamau contract, hawliau trydydd parti gan gynnwys deddfwriaeth berthnasol a'r defnydd o warantau cyfochrog.

Caffael a thendro

Y prif fathau o brosesau caffael, tendro a chyd-drafod a moeseg sy'n rhan o arferion caffael a ddefnyddir yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ar lefel genedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys:

• prosesau tendro a chyd-drafod sy'n rhan o arferion caffael 

• prosesau atodol megis gweithio mewn partneriaeth a chytundebau fframwaith, codau ymarfer a gweithdrefnau a ddefnyddir yn gyffredin. Hefyd, cyflenwyr a chontractwyr enwebedig fel rhan o dendr a gweithdrefnau megis symiau prif gostau a symiau dros dro.

Hefyd, y defnydd o ymgysylltu â Chynllun Asesu Iechyd a Diogelwch Contractwyr (CHAS), Constructionline, Achilles, Builders Profile yn hytrach na'r hen ddull, sef cwblhau Holiadur Cyn Cymhwyso.

Rheolaeth ac adroddiadau ariannol prosiectau

Rheoli costau'n effeithiol yn ystod prosiect. Dangos dealltwriaeth o'r cyfyngiadau cyfreithiol, moesegol a chontractiol ac effaith amser ac ansawdd ar gost prosiect, gan gynnwys:

• rheoli costau'n effeithiol yn ystod cam adeiladu prosiect 

• y cyfyngiadau cyfreithiol a chontractiol ar gostau prosiect megis newidiadau i ddeddfwriaeth adeiladu a dosbarthiad risgiau dylunio

 • adroddiadau a rhagolygon costau yn ystod y cam adeiladu • egwyddorion cynlluniau wrth gefn/lwfansau risg a'r prosesau sy'n sail i gysoni cost a gwerth (CVR) a chymharu cost a gwerth (CVC) 

Meintioli a chostio gwaith adeiladu

Egwyddorion meintioli a chostio gwaith adeiladu fel sail ar gyfer rheolaeth ariannol contractau gan gynnwys:

• meintioli gwaith adeiladu (gan gynnwys mesur a diffinio) 

• yr amrywiol ddulliau mesur safonol 

• costio gwaith adeiladu 

• mesur adeiladau ac adeileddau i safonau y cytunwyd arnynt

• mesur adeiladau ac adeileddau i safonau y cytunwyd arnynt

A

Rheoli gwaith modelu gwybodaeth am adeiladau (BIM)

Yr agweddau technegol a'r agweddau sy'n ymwneud â phroses a chydweithio ar ddefnyddio BIM ar brosiectau gan gynnwys: 

• Strategaethau a phrosesau gweithredu BIM

• Amrywiol opsiynau ac atebion technegol ar gyfer modelu gwybodaeth

• Prosesau cydweithredol sy'n angenrheidiol ar gyfer mabwysiadu BIM

• Systemau dosbarthu safonol a'r defnydd ohonynt mewn seilwaith

• Safonau rheoli perthnasol a gydnabyddir yn rhyngwladol megis cyfnewid gwybodaeth am adeiladau mewn gweithrediadau adeiladu (COBiE)

Rheoli gwaith adeiladu yn fasnachol

Egwyddorion rheoli prosiectau adeiladu gan gynnwys:

  • Adnabod a deall yr elfennau sy'n cyfrannu at gost y prosiect i'r contractwr
  • deall effaith y prosesau dylunio ac adeiladu ar y gost
  • ymwybyddiaeth o'r technegau a ddefnyddir i gysoni'r gost yn erbyn incwm gan gynnwys: 
  • cysoni cost a gwerth (CVR) a chymharu cost a gwerth (CVC)
  • ymwybyddiaeth o'r technegau a ddefnyddir i reoli is-gontractwyr a chyflenwyr yn ariannol

deall y defnydd o lif arian parod gan gynnwys systemau prynu a chysoni ar gyfer deunyddiau

NEU

Economeg dylunio a chynllunio costau

Sut mae cynllunio costau'n helpu i reoli prosiectau'n ariannol yn ystod y cam datblygu dyluniad gan gynnwys:

• ffactorau sy'n effeithio ar economeg dylunio drwy gydol oes adeilad

• sut mae cynllunio costau'n helpu i reoli prosiectau'n ariannol

• amrywiol gamau cynllunio costau

• ffynhonnell data costau

• addasiadau i ddata costau ar gyfer ffactorau gan gynnwys lleoliad, manyleb, amser a grymoedd y farchnad.

Sgiliau Craidd

  • Cyfathrebu a chyd-drafod, gan gynnwys y defnydd o sgiliau llafar, ysgrifenedig, graffeg a chyflwyno gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol sy'n addas ar gyfer sefyllfaoedd penodol, yn arbennig pan fydd cyd-drafod yn digwydd.

  • Dilyn arferion moeseg a phroffesiynol gan gynnwys rôl broffesiynol bersonol a disgwyliadau cymdeithas o ran arferion proffesiynol a rheolau ymddygiad corff proffesiynol a rheoliadau, gan gynnwys egwyddorion cyffredinol y gyfraith a'r system gyfreithiol, fel y bônt yn berthnasol yn eich gwlad ymarfer.

  • Arddangos a chyfiawnhau gweithredoedd ac ymrwymiad personol i ddilyn rheolau corff proffesiynol yng nghyd-destun cynghori cleientiaid.

  • Defnyddio technegau osgoi a rheoli gwrthdaro a gweithdrefnau datrys anghydfod gan gynnwys, er enghraifft, dyfarnu a chyflafareddu.

  • Rhoi elfennau ymarferol gofynion iechyd a diogelwch ar waith ar gyfer cydymffurfiaeth, gan gynnwys cyfrifoldebau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, codau ymarfer a rheoliadau eraill yn eu maes ymarfer eu hunain.

  • Dilyn egwyddorion cynaliadwyedd gan gynnwys pam a sut mae cynaliadwyedd yn ceisio taro cydbwysedd rhwng amcanion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ar lefelau byd-eang, cenedlaethol a lleol, yng nghyd-destun tir, eiddo a'r amgylchedd adeiledig.

  • Gweithio'n effeithiol fel tîm, gan gynnwys ymddygiad a dynameg gweithio mewn tîm.

Sgìl

Bydd Prentisiaid Mesur Meintiau ar Lefel 4 yn gallu gwneud y canlynol, fel y bo'n briodol i'w rolau a'u cyfrifoldebau:

Technoleg a gwasanaethau amgylcheddol yn y diwydiant adeiladu

Cymhwyso eu gwybodaeth at y prosesau dylunio ac adeiladu gan gynnwys:

• Cyfrannu at amrywio prosesau dylunio ar gyfer gwahanol fathau o adeiladau megis gofynion rhychwant clir ar gyfer warysau neu ofynion acwstig ar gyfer llety

 • Dadansoddi a chanfod manylion adeiladu amgen mewn perthynas ag elfennau swyddogaethol y dyluniad megis gwahanol fathau o atebion ar gyfer pyst neu fframiau adeileddol.

Arferion contractau

Cymhwyso gwybodaeth am y defnydd o'r amrywiol fathau safonol o gontractau ar lefel prosiect, gan gynnwys y goblygiadau a'r rhwymedigaethau sy'n berthnasol i bartïon y contract gan gynnwys:

•  Cyfrannu at lunio dogfennau contractau a phrosesau a gweithdrefnau contractiol sy'n berthnasol i agweddau rheolaeth ariannol y prosiect, megis gweithdrefnau newid, prisiadau a chyfrifon terfynol.

Caffael a thendro

Cymhwyso gwybodaeth at y broses o roi'r llwybrau caffael a ddewiswyd ar gyfer eich prosiectau ar waith ac at gynnal prosesau tendro a chyd-drafod sy'n berthnasol iddynt, gan gynnwys:

• Cyfrannu at lunio a/neu gydgasglu dogfennau tendro megis llythyr gwahoddiad, ffurflen dendr, dogfennau iechyd a diogelwch, dogfennau dylunio a manylion contractiol

Rheolaeth ac adroddiadau ariannol prosiectau

Rheoli costau prosiectau gan gynnwys paratoi a chyflwyno adroddiadau ariannol ar berfformiad prosiect ar adegau priodol er mwyn llunio rhagolygon effeithiol o gostau, risgiau a'u goblygiadau ariannol gan gynnwys:

• Llunio adroddiadau a rhagolygon ynghylch costau ar gyfer gwahanol lwybrau caffael a mathau o gleientiaid 

 • Defnyddio llifoedd arian parod mewn prosesau rheolaeth ariannol

Meintioli a chostio gwaith adeiladu

Gwneud gwaith mesur a chostio gwaith ar bob cam o'r broses adeiladu gan gynnwys:

• meintioli gwaith adeiladu ar amrywiol gamau prosiect

 • llunio dogfennau prisio megis rhestrau meintiau, rhestrau gweithgareddau/gwaith, rhestrau cyfraddau neu ddadansoddiadau o symiau contractau

•  costio gwaith adeiladu gan ddefnyddio dulliau megis cyfraddau tendrau, dyfynbrisiau neu waith dydd.

A

Rheoli gwaith modelu gwybodaeth am adeiladau (BIM)

Hwyluso'r defnydd o systemau rheoli BIM ar brosiectau gan gynnwys gweithdrefnau adrodd a rheoli unedig gan gynnwys:

  • Dadansoddi atebion BIM cymharol.

Economeg dylunio a chynllunio costau

Cymhwyso eich gwybodaeth at reoli prosiectau adeiladu yn ariannol, gan gynnwys monitro llif arian parod a phroffidioldeb ac adrodd arnynt yn rheolaidd gan gynnwys:

  • casglu data ar gyfer adroddiadau

• cynnal ymarferion cost i gwblhau

• paratoi llifoedd arian parod

• helpu i baratoi adroddiadau megis datganiadau atebolrwydd, ymarferion cost i gwblhau a chysoniadau cost a gwerth

• cyfrannu at roi prosesau peirianneg gwerth ar waith

Economeg dylunio a chynllunio costau

Rheoli costau gwaith datblygu dyluniad ar brosiect o'r cam dichonoldeb nes i'r dyluniad fod wedi'i gwblhau. Paratoi a chyflwyno data costau i asiantaethau casglu data mewnol a/neu allanol gan gynnwys:

  • llunio amcangyfrifon a chynlluniau costau a rhoi prosesau peirianneg gwerth ar waith

• helpu i baratoi a chyflwyno data costau i asiantaethau casglu data mewnol a/neu allanol 

Lefel 5

Bydd Prentisiaid Mesur Meintiau ar Lefel 5 yn gwybod ac yn deall y canlynol:

  • Rolau a dyletswyddau uwch-reolwyr, uwch-syrfewyr a rheolwyr masnachol, gan gynnwys tasgau megis: 
  • cytuno ar gytundebau fframwaith a'u trefnu 
  • goruchwylio'r agwedd fasnachol ar gontractau a phrosiectau niferus 
  • goruchwylio syrfewyr cynorthwyol a syrfewyr meintiau a phrosesau ar gyfer cymeradwyo taliadau mwy ar gyfer pecynnau tendro is-gontractwyr mwy 
  • mynd i gyfarfodydd â chleientiaid i drafod a datrys cymhlethdodau contractiol.

Technoleg a gwasanaethau amgylcheddol yn y diwydiant adeiladu

Egwyddorion dylunio ac adeiladu sy'n gysylltiedig â'u dewis faes ymarfer gan gynnwys:

•  camau dylunio o ddechrau'r prosiect nes iddo gael ei gwblhau

 • effaith deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol (ar lefel genedlaethol a rhyngwladol) 

• sut mae amrywiol elfennau'r strwythur yn gweithio ac yn cydberthyn 

•  proses y gwaith adeiladu 

• prosesau gweithredol a chynnal a chadw ar ôl y contract. 

Arferion contractau

Y mathau amrywiol o gontractau a ddefnyddir yn y diwydiant adeiladu a/neu eu maes busnes, gan gynnwys:

•  darpariaethau contractiol cyffredinol megis yswiriant, arferion cadw, bondiau, iawndal penodedig a chanfyddedig, meddiant cynnar, cwblhau ymarferol a phrosesau contractiol cyffredin eraill.

• cyfraith a deddfwriaeth contractau sylfaenol. 

• dogfennau contractau gan gynnwys yr amrywiol fathau safonol o gontract ac is-gontract, a phryd y byddai gwahanol fathau'n cael eu defnyddio.

• prosesau, moeseg a gweithdrefnau contractiol sylfaenol ar amrywiol gamau contract, hawliau trydydd parti gan gynnwys deddfwriaeth berthnasol a'r defnydd o warantau cyfochrog.

Caffael a thendro

Y prif fathau o brosesau caffael, tendro a chyd-drafod a moeseg sy'n rhan o arferion caffael a ddefnyddir yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ar lefel genedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys:

• prosesau tendro a chyd-drafod sy'n rhan o arferion caffael 

• prosesau atodol megis gweithio mewn partneriaeth a chytundebau fframwaith, codau ymarfer a gweithdrefnau a ddefnyddir yn gyffredin.

Rheolaeth ac adroddiadau ariannol prosiectau

Rheoli costau'n effeithiol yn ystod prosiect. Dangos dealltwriaeth o'r cyfyngiadau cyfreithiol, moesegol a chontractiol ac effaith amser ac ansawdd ar gost prosiect, gan gynnwys:

• rheoli costau'n effeithiol yn ystod cam adeiladu prosiect 

• y cyfyngiadau cyfreithiol a chontractiol ar gostau prosiect megis newidiadau i ddeddfwriaeth adeiladu a dosbarthiad risgiau dylunio

 • adroddiadau a rhagolygon costau yn ystod y cam adeiladu • egwyddorion cynlluniau wrth gefn/lwfansau risg.

Meintioli a chostio gwaith adeiladu

Egwyddorion meintioli a chostio gwaith adeiladu fel sail ar gyfer rheolaeth ariannol contractau gan gynnwys:

• meintioli gwaith adeiladu (gan gynnwys mesur a diffinio) 

• yr amrywiol ddulliau mesur safonol 

• costio gwaith adeiladu 

• mesur adeiladau ac adeileddau i safonau y cytunwyd arnynt

• mesur adeiladau ac adeileddau i safonau y cytunwyd arnynt

A

Rheoli gwaith modelu gwybodaeth am adeiladau (BIM)

Yr agweddau technegol a'r agweddau sy'n ymwneud â phroses a chydweithio ar ddefnyddio BIM ar brosiectau gan gynnwys: 

• Strategaethau a phrosesau gweithredu BIM

• Amrywiol opsiynau ac atebion technegol ar gyfer modelu gwybodaeth

• Prosesau cydweithredol sy'n angenrheidiol ar gyfer mabwysiadu BIM

• Systemau dosbarthu safonol a'r defnydd ohonynt mewn seilwaith

• Safonau rheoli perthnasol a gydnabyddir yn rhyngwladol megis cyfnewid gwybodaeth am adeiladau mewn gweithrediadau adeiladu (COBiE)

Rheoli Gwaith Adeiladu yn Fasnachol

Egwyddorion rheoli prosiectau adeiladu gan gynnwys:

  • Adnabod a deall yr elfennau sy'n cyfrannu at gost y prosiect i'r contractwr
  • deall effaith y prosesau dylunio ac adeiladu ar y gost
  • ymwybyddiaeth o'r technegau a ddefnyddir i gysoni'r gost yn erbyn incwm 
  • ymwybyddiaeth o'r technegau a ddefnyddir i reoli is-gontractwyr a chyflenwyr yn ariannol

deall y defnydd o lifoedd arian parod.

NEU

Economeg dylunio a chynllunio costau

Sut mae cynllunio costau'n helpu i reoli prosiectau'n ariannol yn ystod y cam datblygu dyluniad gan gynnwys:

• ffactorau sy'n effeithio ar economeg dylunio drwy gydol oes adeilad

• sut mae cynllunio costau'n helpu i reoli prosiectau'n ariannol

• amrywiol gamau cynllunio costau

• ffynhonnell data costau

• addasiadau i ddata costau ar gyfer ffactorau gan gynnwys lleoliad, manyleb, amser a grymoedd y farchnad.

Sgiliau Craidd

  • Cyfathrebu a chyd-drafod, gan gynnwys y defnydd o sgiliau llafar, ysgrifenedig, graffeg a chyflwyno gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol sy'n addas ar gyfer sefyllfaoedd penodol, yn arbennig pan fydd cyd-drafod yn digwydd.

  • Dilyn arferion moeseg a phroffesiynol gan gynnwys rôl broffesiynol bersonol a disgwyliadau cymdeithas o ran arferion proffesiynol a rheolau ymddygiad corff proffesiynol a rheoliadau, gan gynnwys egwyddorion cyffredinol y gyfraith a'r system gyfreithiol, fel y bônt yn berthnasol yn eich gwlad ymarfer.

  • Arddangos a chyfiawnhau gweithredoedd ac ymrwymiad personol i ddilyn rheolau corff proffesiynol yng nghyd-destun cynghori cleientiaid.

  • Defnyddio technegau osgoi a rheoli gwrthdaro a gweithdrefnau datrys anghydfod gan gynnwys, er enghraifft, dyfarnu a chyflafareddu.

  • Rhoi elfennau ymarferol gofynion iechyd a diogelwch ar waith ar gyfer cydymffurfiaeth, gan gynnwys cyfrifoldebau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, codau ymarfer a rheoliadau eraill yn eu maes ymarfer eu hunain.

  • Dilyn egwyddorion cynaliadwyedd gan gynnwys pam a sut mae cynaliadwyedd yn ceisio taro cydbwysedd rhwng amcanion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ar lefelau byd-eang, cenedlaethol a lleol, yng nghyd-destun tir, eiddo a'r amgylchedd adeiledig.

  • Gweithio'n effeithiol fel tîm, gan gynnwys ymddygiad a dynameg gweithio mewn tîm.

Sgìl

Bydd Prentisiaid Mesur Meintiau ar Lefel 5 yn gallu gwneud y canlynol, fel y bo'n briodol i'w rolau a'u cyfrifoldebau:

Technoleg a gwasanaethau amgylcheddol yn y diwydiant adeiladu

Cymhwyso eu gwybodaeth at y prosesau dylunio ac adeiladu gan gynnwys:

•  Amrywio prosesau dylunio ar gyfer gwahanol fathau o adeiladau megis gofynion rhychwant clir ar gyfer warysau neu ofynion acwstig ar gyfer llety

 •  Cymhwyso manylion adeiladu amgen mewn perthynas ag elfennau swyddogaethol y dyluniad megis gwahanol fathau o atebion ar gyfer pyst neu fframiau adeileddol.

Arferion contractau

Cymhwyso gwybodaeth am y defnydd o'r amrywiol fathau safonol o gontractau ar lefel prosiect, gan gynnwys y goblygiadau a'r rhwymedigaethau sy'n berthnasol i bartïon y contract gan gynnwys:

• Llunio dogfennau contractau a chynnal y prosesau a'r gweithdrefnau contractiol sy'n berthnasol i agweddau rheolaeth ariannol y prosiect, megis gweithdrefnau newid, prisiadau a chyfrifon terfynol.

Caffael a thendro

Cymhwyso gwybodaeth at y broses o roi'r llwybrau caffael a ddewiswyd ar gyfer eich prosiectau ar waith ac at gynnal prosesau tendro a chyd-drafod sy'n berthnasol iddynt, gan gynnwys:

• rhoi llwybrau caffael ar waith megis llwybrau traddodiadol, dylunio ac adeiladu, ffurflenni rheoli, contractau cyfnod a chyfres a mathau eraill 

• llunio a/neu gydgasglu dogfennau tendro megis llythyr gwahoddiad, ffurflen dendr, dogfennau iechyd a diogelwch, dogfennau dylunio a manylion contractiol

 • cynnal prosesau tendro a chyd-drafod megis tendro un cam a dau gam, y defnydd o godau ymarfer a thendro electronig

Rheolaeth ac adroddiadau ariannol prosiectau

Rheoli costau prosiectau gan gynnwys paratoi a chyflwyno adroddiadau ariannol ar berfformiad prosiect ar adegau priodol er mwyn llunio rhagolygon effeithiol o gostau, risgiau a'u goblygiadau ariannol gan gynnwys:

• rheoli costau prosiectau yn ystod y cam adeiladu 

• rheoli symiau dros dro/lwfansau risg.

Meintioli a chostio gwaith adeiladu

Gwneud gwaith mesur a chostio gwaith ar bob cam o'r broses adeiladu gan gynnwys:

• meintioli gwaith adeiladu ar amrywiol gamau prosiect

 • llunio dogfennau prisio megis rhestrau meintiau, rhestrau gweithgareddau/gwaith, rhestrau cyfraddau neu ddadansoddiadau o symiau contractau 

•  costio gwaith adeiladu gan ddefnyddio dulliau megis cyfraddau tendrau, dyfynbrisiau neu waith dydd.

A

Rheoli gwaith modelu gwybodaeth am adeiladau (BIM)

Hwyluso'r defnydd o systemau rheoli BIM ar brosiectau gan gynnwys gweithdrefnau adrodd a rheoli unedig gan gynnwys:

  • Paratoi cynllun gweithredu BIM
  • Dylunio proses rheoli BIM a'i rhoi ar waith

Economeg dylunio a chynllunio costau

Cymhwyso eich gwybodaeth at reoli prosiectau adeiladu yn ariannol, gan gynnwys monitro llif arian parod a phroffidioldeb ac adrodd arnynt yn rheolaidd gan gynnwys:

  • casglu data ar gyfer adroddiadau

• cynnal ymarferion cost i gwblhau

• paratoi llifoedd arian parod

• paratoi adroddiadau megis datganiadau atebolrwydd, ymarferion cost i gwblhau a chysoniadau cost a gwerth

• rhoi prosesau peirianneg gwerth ar waith

• paratoi a chyflwyno data costau at ddefnydd mewnol a/neu allanol mewn perthynas â meysydd megis costau eitemau rhagarweiniol, costau cymharol gwahanol dechnegau adeiladu a lwfansau treth.

Economeg dylunio a chynllunio costau

Rheoli costau gwaith datblygu dyluniad ar brosiect o'r cam dichonoldeb nes i'r dyluniad fod wedi'i gwblhau. Paratoi a chyflwyno data costau i asiantaethau casglu data mewnol a/neu allanol gan gynnwys:

  • llunio amcangyfrifon a chynlluniau costau

• rhoi prosesau peirianneg gwerth ar waith

• paratoi a chyflwyno data costau i asiantaethau casglu data mewnol a/neu allanol

Ymddygiadau

Bydd Syrfëwr Meintiau yn y Diwydiant Adeiladu yn arddangos yr ymddygiadau seiliedig ar waith canlynol fel y bo'n briodol i'w rôl a'i gyfrifoldebau, gan gynnwys arddangos y canlynol yn effeithiol:

Sgiliau cyfathrebu a chyd-drafod, gan gynnwys sgiliau llafar, ysgrifenedig, graffeg a chyflwyno gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol sy'n addas ar gyfer sefyllfaoedd penodol, yn arbennig pan fydd cyd-drafod yn digwydd.

Dilyn arferion moeseg a phroffesiynol gan gynnwys rôl broffesiynol bersonol a disgwyliadau cymdeithas o ran arferion proffesiynol a rheolau ymddygiad corff proffesiynol a rheoliadau, gan gynnwys egwyddorion cyffredinol y gyfraith a'r system gyfreithiol, fel y bônt yn berthnasol yn eich gwlad ymarfer.

Arddangos a chyfiawnhau gweithredoedd ac ymrwymiad personol i ddilyn rheolau corff proffesiynol yng nghyd-destun cynghori cleientiaid.

Defnyddio technegau osgoi a rheoli gwrthdaro a gweithdrefnau datrys anghydfod gan gynnwys, er enghraifft, dyfarnu a chyflafareddu.

Rhoi gofynion iechyd a diogelwch ar waith yn ymarferol ar gyfer cydymffurfiaeth, gan gynnwys cyfrifoldebau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, codau ymarfer a rheoliadau eraill yn eu maes ymarfer eu hunain.

Dilyn egwyddorion cynaliadwyedd gan gynnwys pam a sut mae cynaliadwyedd yn ceisio taro cydbwysedd rhwng amcanion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ar lefelau byd-eang, cenedlaethol a lleol, yng nghyd-destun tir, eiddo a'r amgylchedd adeiledig.

Gwaith tîm gan gynnwys ymddygiad a dynameg gweithio mewn tîm.

Atodiad 2

Atodiad 2 – Proses Asesu Cymhwysedd ar gyfer Prentisiaethau Technegol Uwch mewn Mesur Meintiau yn y Diwydiant Adeiladu (Cymru)

Bydd angen i asesiadau cymhwysedd ar gyfer Prentisiaethau Technegol Uwch mewn Mesur Meintiau yn y Diwydiant Adeiladu (Cymru) fod yn seiliedig ar dystiolaeth o'r gweithle.  Bydd angen i brentisiaid gael profiad o'r holl sgiliau ac ymddygiadau ar gyfer yr alwedigaeth, ac ymarfer a dysgu'r sgiliau a'r ymddygiadau hynny. 

Mae'r broses isod yn seiliedig ar elfennau presennol y broses asesu ar gyfer prentisiaethau adeiladu yng Nghymru. 

Cadarnhad y Cyflogwr (sgiliau) bod sgiliau wedi cael eu hymarfer a bod y prentis yn gallu eu rhoi ar waith yn gymwys. (Bydd yr asesiad hwn yn cynnwys elfen o oddrychedd gan ei bod yn bosibl y bydd rhai cyflogwyr yn fwy llym ac yn mynnu safonau cymhwysedd uwch nag eraill.) Bydd y cyflogwr a'r darparwr yn cadarnhau ac yn cytuno bod yr holl ofynion o ran sgiliau wedi cael eu bodloni. 

Gellir dangos tystiolaeth o'r elfennau asesu uchod drwy drafodaeth wedi'i chofnodi rhwng y cyflogwr/mentor a'r tiwtor/asesydd, drwy ddyddiadur o weithgarwch yn y gweithle wedi'i gydlofnodi gan y cyflogwr/mentor, neu gyfuniad o'r ddau. 

Cadarnhad y Cyflogwr (ymddygiadau) bod y cyflogwr wedi bod yn dyst i'r ymddygiadau sydd wedi'u cynnwys yn y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau galwedigaethol a bod y prentis wedi arddangos yr ymddygiadau cadarnhaol hyn yn effeithiol yn y gweithle. (Bydd yr asesiad yn cynnwys elfen o oddrychedd gan ei bod yn bosibl y bydd rhai cyflogwyr yn fwy llym ac yn mynnu safonau cymhwysedd uwch nag eraill.) Bydd y cyflogwr a'r darparwr yn cadarnhau ac yn cytuno bod yr holl ofynion ymddygiadol wedi cael eu bodloni. 

Gellir dangos tystiolaeth o'r elfennau asesu uchod drwy drafodaethau neu gyfarfodydd arfarnu wedi'u cofnodi rhwng y cyflogwr/mentor, drwy ddyddiadur o ymddygiad yn y gweithle, neu gyfuniad o'r rhain wedi'i gadarnhau gan y cyflogwr/mentor. 

Rhaid i asesiad cymhwysedd gan diwtoriaid/aseswyr fodloni deilliannau dysgu'r Prentisiaethau Technegol Uwch mewn Mesur Meintiau a rhaid gallu dangos tystiolaeth o hynny drwy amrywiaeth o strategaethau asesu, gan gynnwys, er enghraifft, aseiniadau seiliedig ar waith fel rhan o gymhwyster y Dystysgrif Genedlaethol Uwch, neu arsylwi ar ymddygiad prentis. 

Caiff prosiect yn y gweithle ei gynnal pan fydd y cyflogwr a'r sefydliad addysg uwch yn cytuno bod y prentis wedi cyflawni cymhwysedd a'i fod yn barod i gael ei asesu.  Dylai'r prosiect gynnwys elfen o arsylwi yn y gweithle, naill ai gan y cyflogwr neu'r tiwtor/asesydd, aseiniad academaidd sylweddol sy'n gysylltiedig â'r gweithle a thrafodaeth broffesiynol. 

Dylid cynnal asesiad terfynol cyn yr asesiad academaidd terfynol. Bydd hyn yn sicrhau bod prentisiaid yn cwblhau holl elfennau'r brentisiaeth ac nid dim ond yn ennill y cymhwyster gwybodaeth. Camau'r asesiad terfynol fydd cadarnhad y cyflogwr wedi'i gyfuno ag asesiad y darparwr a phrosiect yn y gweithle. 

Er mwyn ardystio'r brentisiaeth, bydd angen tystiolaeth gan y cyflogwr ei fod yn cytuno bod y prentis wedi dysgu'r sgiliau a'r ymddygiadau sy'n ofynnol yn y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau (gall hyn fod ar ffurf llythyr cadarnhad â phennawd y cwmni arno wedi'i lofnodi a'i ddyddio gan y cyflogwr) a chopi o dystysgrifau'r cymhwyster.   Caiff gwybodaeth ei hasesu fel rhan o broses ddyfarnu'r cymhwyster academaidd.   

Gellir defnyddio cydnabod dysgu blaenorol fel tystiolaeth o brofiad a dysgu blaenorol os bydd y darparwr yn gallu gwirio bod hynny wedi digwydd.  Dylai'r dystiolaeth hon gael ei chyflwyno a'i hasesu fel yr amlinellir uchod, a chydymffurfio â rheoliadau academaidd y darparwr.  Caiff profiad a dysgu cysylltiedig eu hachredu yn ôl disgresiwn y darparwr.     

Sicrhau Ansawdd Allanol 

Y cyrff dyfarnu a restrir fydd yn cynnal prosesau sicrhau ansawdd allanol ar y cymhwyster gwybodaeth.  Yn ychwanegol at yr elfennau sicrhau ansawdd a nodir uchod, bydd yr elfen profiad gwaith yn destun craffu allanol gan aelodau o'r corff proffesiynol ar gyfer galwedigaeth y brentisiaeth. 

Caiff y gwaith craffu allanol hwn ei wneud gan aelodau o'r corff proffesiynol a bydd yn cynnwys cyfweliad allanol ag o leiaf 10% o garfan prentisiaid y darparwr (wedi'u dewis ar hap) yn seiliedig ar hapsampl o'r elfennau sgiliau ac ymddygiad ar y lefel briodol. 

Os na fydd corff proffesiynol yn gallu darparu cyfwelwyr allanol, bydd y darparwr yn chwilio am weithiwr proffesiynol yn yr alwedigaeth sy'n meddu ar gymwysterau addas ac yn ei gyflogi. 

Atodiad 3

Atodiad 3

Proses Asesu Prentisiaeth Uwch yn y Diwydiant Adeiladu – Cymru

  • Cadarnhad y Cyflogwr o'r Sgiliau a'r Ymddygiadau             
  • Asesiad Cymhwysedd gan Diwtoriaid/Aseswyr              
  • Prosiect yn y Gweithle. 
  • Asesiad Terfynol
  • Ardystio'r Brentisiaeth

Diwygiadau dogfennau

15 Medi 2026