Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cytuno ar gynnwys y Fframwaith Prentisiaethau hwn. Dyma'r unig fframwaith prentisiaethau yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant sydd wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i gael cyllid Medr.
ISSUE DATE: 1 May 2026
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Rhaid i’r rhaglen ddysgu gynnwys tair elfen orfodol:
- cymwysterau
- sgiliau hanfodol
- hyfforddiant yn y gwaith / y tu allan i’r gwaith.
Yr isafswm credyd sydd ei angen ar gyfer llwybr lefel 2 – Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yw 77 Credyd.
Yr isafswm credyd sydd ei angen ar gyfer llwybr lefel 3 – Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yw 92 Credyd.
Yr isafswm credyd sydd ei angen ar gyfer Llwybr Lefel 4 – Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yw 72 credyd (yn dibynnu ar y llwybr a ddilynir).
Yr isafswm credyd sydd ei angen ar gyfer Llwybr Lefel 5 - Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer yw 132 credyd.
Gofynion mynediad
Level 2
There are no formal entry requirements; however, please see the annex for further guidance.
Level 3
There are no formal entry requirements; however, please see the annex for further guidance.
Level 4
There are no formal entry requirements; however, please see the annex for further guidance.
Level 5
Learners are required to complete the Level 4 Preparing for Leadership and Management qualification prior to undertaking this qualification. However, funding may be available to allow learners to complete this qualification while undertaking the Level 5 framework. Please see the annex for further guidance.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Lefel 2: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr ennill un o'r cymwysterau Gwybodaeth / Craidd a Chymhwysedd / Ymarfer isod:
| Lefel 2 – Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| WJEC | C00/4848/4 | 30 | 300 | Gwybodaeth | Saesneg-Cymraeg |
| Lefel 2 - Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/1245/8 | 35 | 350 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 2: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 1 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 2: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant | 350 | 420 |
Hyfforddiant y tu allan i’r gwaith: Hyfforddiant sy'n digwydd y tu allan i ddyletswyddau gwaith rheolaidd. Mae'n cynnwys gweithgareddau dysgu strwythuredig fel:
- cyfarwyddo
- tiwtora
- asesu
- adolygiadau cynnydd
- astudiaeth breifat
- hyfforddi personol
- mentora
- e-ddysgu
- dysgu o bell
- sesiynau yn yr ystafell ddosbarth.
Hyfforddiant yn y gwaith: Hyfforddiant yn ystod gweithgareddau gwaith arferol. Mae sgiliau’n cael eu meithrin, eu hymarfer a’u rhoi ar waith fel rhan o dasgau bob dydd yn y gweithle
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Mae cyfanswm y cymwysterau Gwybodaeth/Craidd yn isafswm o 30 credyd, ac mae'r cymwysterau Cymhwysedd/Ymarfer yn isafswm o 35 credyd. Gyda'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru gofynnol yn 12 credyd, mae gan y llwybr hwn sgôr credyd o 77.
Cyfanswm yr oriau hyfforddi - sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith - ar gyfer y llwybr hwn yw o leiaf 770 o oriau hyfforddi (dros 12 mis).
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd / 45 o Oriau Dysgu dan Arweiniad Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu
- 6 chredyd / 45 o Oriau Dysgu dan Arweiniad Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif
Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr ennill un o'r cymwysterau Gwybodaeth / Craidd a Chymhwysedd / Ymarfer isod.
| Lefel 2 - Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| WJEC | C00/4848/4 | 30 | 300 | Gwybodaeth | Saesneg-Cymraeg |
| Lefel 3 - Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Ymarfer | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/1245/9 | 50 | 500 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant | 500 | 312 |
Hyfforddiant y tu allan i’r gwaith: Hyfforddiant sy'n digwydd y tu allan i ddyletswyddau gwaith rheolaidd. Mae'n cynnwys gweithgareddau dysgu strwythuredig fel:
- cyfarwyddo
- tiwtora
- asesu
- adolygiadau cynnydd
- astudiaeth breifat
- hyfforddi personol
- mentora
- e-ddysgu
- dysgu o bell
- sesiynau yn yr ystafell ddosbarth.
Hyfforddiant yn y gwaith: Hyfforddiant yn ystod gweithgareddau gwaith arferol. Mae sgiliau’n cael eu meithrin, eu hymarfer a’u rhoi ar waith fel rhan o dasgau bob dydd yn y gweithle.
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Mae cyfanswm y cymwysterau Gwybodaeth/Craidd yn isafswm o 30 credyd, ac mae'r cymwysterau Cymhwysedd/Ymarfer yn isafswm o 50 credyd. Gyda'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru gofynnol yn 12 credyd, mae gan y llwybr hwn sgôr credyd o 92.
Cyfanswm yr oriau hyfforddi - sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith - ar gyfer y llwybr hwn yw 812 o oriau hyfforddi (dros 18 mis).
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd / 45 o Oriau Dysgu dan Arweiniad Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu
6 chredyd / 45 o Oriau Dysgu dan Arweiniad Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif.
Lefel 4: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Lefel 4: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Cymwysterau
Rhaid i gyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau Gwybodaeth a Chymhwysedd / Ymarfer isod, gyda'r opsiwn ychwanegol o Baratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant ar Lefel 4.
| Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Gweithio gyda theuluoedd a gofalwyr i ddatblygu sgiliau magu plant) | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/3933/4 | 64 | 640 | Cyfun | Saesneg-Cymraeg |
| . Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Gweithio gyda Phlant ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu) | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/3933/4 | 64 | 640 | Cyfun | Saesneg-Cymraeg |
| Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Adnabod a Chefnogi Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)) | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/3933/4 | 60 | 600 | Cyfun | Saesneg-Cymraeg |
| Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant) ac un o'r cymwysterau o 1 i 3 uchod | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/1249/8 | 60 | 600 | Gwybodaeth | Saesneg-Cymraeg |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 4: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 4: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant | 350 | 420 |
Hyfforddiant y tu allan i’r gwaith: Hyfforddiant sy'n digwydd y tu allan i ddyletswyddau gwaith rheolaidd. Mae'n cynnwys gweithgareddau dysgu strwythuredig fel:
- cyfarwyddo
- tiwtora
- asesu
- adolygiadau cynnydd
- astudiaeth breifat
- hyfforddi personol
- mentora
- e-ddysgu
- dysgu o bell
- sesiynau yn yr ystafell ddosbarth.
Hyfforddiant yn y gwaith: Hyfforddiant yn ystod gweithgareddau gwaith arferol. Mae sgiliau’n cael eu meithrin, eu hymarfer a’u rhoi ar waith fel rhan o dasgau bob dydd yn y gweithle.
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Total knowledge/Core qualifications are a minimum of 30 credits, and the competency/ Practice qualifications a minimum of 35 credits. With the required ESWs at 12 credits, this pathway has a total credit rating of 77.
The total amount of training hours, which includes both on and off the job learning for this pathway, is a minimum 770 training hours (over 12 months).
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 credits / 45 Guided Learning Hours Level 2 Essential Skills Wales Communication
- 6 credits / 45 Guided Learning Hours Level 2 Essential Skills Wales Application of Number
Lefel 5: Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
Lefel 5: Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr ennill y cymwysterau Gwybodaeth a Chymhwysedd / Ymarfer isod:
| Lefel 4 - Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City & Guilds | C00/1249/8 | 60 | 600 | Cyfun | English-Welsh |
| Lefel 5 - Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| City and Guilds | C00/1249/7 | 120 | 1200 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 5: Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 5: Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer | 1200 | 600 |
Hyfforddiant y tu allan i’r gwaith: Hyfforddiant sy'n digwydd y tu allan i ddyletswyddau gwaith rheolaidd. Mae'n cynnwys gweithgareddau dysgu strwythuredig fel:
- cyfarwyddo
- tiwtora
- asesu
- adolygiadau cynnydd
- astudiaeth breifat
- hyfforddi personol
- mentora
- e-ddysgu
- dysgu o bell
- sesiynau yn yr ystafell ddosbarth.
Hyfforddiant yn y gwaith: Hyfforddiant yn ystod gweithgareddau gwaith arferol. Mae sgiliau’n cael eu meithrin, eu hymarfer a’u rhoi ar waith fel rhan o dasgau bob dydd yn y gweithle.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd / 45 o Oriau Dysgu dan Arweiniad Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu
- 6 chredyd / 45 o Oriau Dysgu dan Arweiniad Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif
- 6 chredyd / 45 o Oriau Dysgu dan Arweiniad Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol (Dewisol)
Gofynion eraill ychwanegol
Rhaid bod dysgwyr wedi cael archwiliadau DBS manwl ac efallai y bydd rhai troseddau'n atal dysgwyr rhag gweithio yn y sectorau hyn.
Rolau swydd
Ewch i fframwaith cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru i weld swyddi penodol ym maes gofal cymdeithasol. Bydd yn egluro pa gymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer ymarfer.
I weld yr amrywiaeth o swyddi yn y sector gofal plant, ewch i wefan Gofalwn Cymru i gael straeon pobl go iawn.
Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
| Swydd | Disgrifiad o’r swydd |
| Ymarferydd/ Cynorthwyydd Crèche / Gofal dydd llawn | Darparu gofal i blant o'u geni nes iddynt gyrraedd oedran ysgol mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Cefnogi dysgu drwy chwarae a gweithgareddau wedi'u cynllunio, diwallu anghenion gofal personol fel bwydo a newid, a dilyn gweithdrefnau diogelu. Gweithio fel rhan o dîm, cyfathrebu â theuluoedd, a helpu plant i ddatblygu. Mae sgiliau Cymraeg a chymorth cyntaf yn ddymunol. |
Ymarferydd / Cynorthwyydd Cyn-ysgol / Gofal dydd sesiynol
| Cefnogi plant rhwng dwy a phump oed yn ystod sesiynau bore neu sesiynau prynhawn strwythuredig mewn lleoliad cyn-ysgol neu grŵp chwarae. Annog dysgu drwy chwarae, helpu i gynllunio a darparu gweithgareddau sy'n briodol i oedran, a diwallu anghenion gofal personol. Sicrhau amgylchedd diogel a chynhwysol a dilyn gweithdrefnau diogelu. Gweithio'n agos gyda chydweithwyr a theuluoedd. Mae sgiliau Cymraeg a chymorth cyntaf yn ddymunol. |
Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
| Swydd | Disgrifiad o’r swydd |
| Ymarferydd Dechrau'n Deg | Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg sy'n cefnogi teuluoedd sydd â phlant rhwng dim a phedair oed. Mae ymarferwyr Dechrau'n Deg yn chwarae rhan hollbwysig drwy ddarparu profiadau dysgu cynnar diddorol, cefnogi teuluoedd, ac annog datblygiad corfforol, emosiynol ac ieithyddol plant. Maent yn gweithio mewn timau aml-asiantaeth, gan gynnwys ymwelwyr iechyd, therapyddion lleferydd ac ymarferwyr cymorth magu plant, i roi cymorth holistaidd wedi'i deilwra. Mae ymarferwyr hefyd yn sylwi’n gynnar ar anghenion datblygu ac yn meithrin perthynas gadarnhaol â rhieni, gan gynnig arweiniad ymarferol i wella canlyniadau hirdymor i blant. |
Ymarferydd Crèche / Gofal dydd llawn | Drwy weithio mewn tîm, bydd ymarferwyr yn helpu i greu awyrgylch diogel, croesawgar a chynhwysol i blant, a hynny er mwyn cefnogi eu gofal, eu chwarae, eu dysgu a’u datblygiad. Bydd ymarferwyr yn arsylwi ac yn cofnodi datblygiad, cynnydd, diddordebau ac unrhyw broblemau a allai godi. Bydd ymarferwyr yn llunio gweithgareddau addysgol i gefnogi eu dysgu parhaus. Mae'r rôl yn cynnwys bwydo, newid clytiau, a chreu trefn ddyddiol arferol. Bydd ymarferwyr yn annog y plant i gymdeithasu, yn eu helpu i ddarganfod diddordebau newydd ac yn eu paratoi i symud ymlaen i'r lefel nesaf o ofal yn yr ysgol. |
Ymarferydd Gofal dydd sesiynol / Cyn ysgol
| Mae ymarferwyr gofal dydd sesiynol neu ymarferwyr cyn-ysgol yn gofalu am blant rhwng dwy a phump oed yn ystod oriau penodol, fel arfer yn y boreau neu’r prynhawniau. Maent yn creu amgylchedd diogel ac ysgogol sy'n cefnogi dysgu cynnar drwy weithgareddau sy'n seiliedig ar chwarae. Mae ymarferwyr yn helpu plant i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, emosiynol a chyfathrebu, yn arsylwi a chofnodi eu cynnydd, ac yn gweithio'n agos gyda theuluoedd. Maent yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru ac yn sicrhau bod anghenion pob plentyn yn cael eu diwallu yn unol â’r rheoliadau. Mae gwaith tîm, diogelu ac ymarfer cynhwysol yn rhannau allweddol o'r rôl. |
Cynorthwyydd gwarchod plant
| Mae cynorthwywyr gwarchod plant yn cefnogi gwarchodwyr plant cofrestredig i ddarparu gofal yn y cartref i blant o'u geni hyd at 12 oed. Maent yn helpu i greu amgylchedd diogel, cefnogol ac ysgogol, yn helpu gyda threfniadau bob dydd, ac yn cynnwys plant mewn gweithgareddau chwarae a dysgu. Mae'r rôl yn meithrin perthynas gadarnhaol â theuluoedd, yn cefnogi datblygiad emosiynol a chorfforol plant, yn golygu cadw cofnodion ac yn sicrhau bod safonau diogelu ac iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni o dan oruchwyliaeth y gwarchodwr plant. |
Gwarchodwr plant
| Mae gwarchodwyr plant yn weithwyr proffesiynol hunangyflogedig sy’n darparu gofal plant yn y cartref i blant o'u geni hyd at 12 oed. Maent yn creu amgylchedd diogel, cefnogol ac ysgogol sy'n cefnogi dysgu a datblygu drwy chwarae a threfn ddyddiol. Mae gwarchodwyr plant yn cynllunio gweithgareddau sy'n seiliedig ar y Cwricwlwm i Gymru, yn arsylwi ac yn asesu cynnydd plant, ac yn annog llesiant emosiynol, corfforol a chymdeithasol. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd, yn cadw cofnodion, ac yn sicrhau eu bod yn bodloni rheoliadau diogelu, iechyd a diogelwch. Mae hyblygrwydd, sgiliau cyfathrebu cryf, ac ymrwymiad i ymarfer cynhwysol yn allweddol i'r rôl. |
| Dirprwy reolwr Crèche / Gofal dydd llawn | Mae dirprwy reolwyr mewn lleoliadau gofal dydd llawn neu mewn crèche yn cefnogi'r rheolwr i oruchwylio’r gweithrediadau dyddiol, gan sicrhau safonau uchel o ofal ac addysg i blant o'u geni hyd at oedran ysgol. Maent yn arwain staff, yn helpu i gynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm, ac yn sicrhau bod gofynion rheoleiddio a diogelu yn cael eu bodloni. Mae dirprwyon hefyd yn rheoli’r drefn ddyddiol, yn gweithio gyda theuluoedd, ac yn camu i rôl y Rheolwr pan fo angen. |
Dirprwy reolwr Gofal dydd sesiynol / Cyn ysgol
| Mae dirprwy reolwyr mewn lleoliadau sesiynol yn helpu i gynnal sesiynau gofal plant rhan-amser i blant rhwng dwy a phump oed. Maent yn cefnogi staff, yn helpu i gynllunio a darparu dysgu seiliedig ar chwarae yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru, ac yn sicrhau amgylchedd diogel a chynhwysol. Maent yn cynnal safonau diogelu, yn gweithio gyda theuluoedd, ac yn ysgwyddo cyfrifoldebau arwain pan na fydd y Rheolwr yno. |
Rheolwr / Person â chyfrifoldeb mewn Gofal dydd llawn / Crèche
| Mae rheolwyr mewn lleoliadau gofal dydd llawn neu mewn crèche yn arwain y gofal a’r addysg i blant o'u geni hyd at oedran ysgol. Maent yn rheoli staff, yn sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno, yn rheoli trefniadau diogelu ac iechyd a diogelwch, ac yn sicrhau bod y lleoliad yn cydymffurfio â rheoliadau. Mae rheolwyr yn meithrin perthynas gref â theuluoedd, yn monitro cynnydd plant, ac yn gwneud yn siŵr bod y lleoliad yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithiol. |
| Rheolwr / Person â chyfrifoldeb mewn Gofal dydd sesiynol / Cyn ysgol | Mae rheolwyr sesiynol yn arwain lleoliadau blynyddoedd cynnar rhan-amser ar gyfer plant rhwng dwy a phump oed. Maent yn rheoli staff, yn cynllunio’r cwricwlwm ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei gyflwyno, ac yn sicrhau amgylchedd diogel a chefnogol. Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys diogelu, cydymffurfio â rheoliadau, gweithio gyda theuluoedd, a chefnogi datblygiad plant. Mae rheolwyr hefyd yn goruchwylio asesiadau ac yn sicrhau arferion cynhwysol yn y lleoliad. |
Lefel 4 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
| Swydd | Disgrifiad o’r swydd |
| Ymarferydd / arweinydd Crèche / Gofal dydd llawn | Bydd ymarferwyr ar lefel 4 yn dangos dealltwriaeth gref o ddatblygiad plant ac o gyflwyno’r cwricwlwm mewn lleoliadau gofal dydd llawn. Maent yn meithrin sgiliau arwain, yn cefnogi ymarfer cynhwysol, ac yn helpu i wella ansawdd. Maent yn myfyrio ar eu rôl o ran hyrwyddo llesiant, diogelu, ac yn gweithio gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol i ddiwallu anghenion unigol plant. |
| Ymarferydd / arweinydd Gofal dydd sesiynol / Cyn Ysgol | Mae ymarferwyr yn dangos arweinyddiaeth ac ymarfer myfyriol. Maent yn gloywi eu gallu i gynllunio a darparu dysgu sy'n seiliedig ar chwarae, cefnogi trefniadau pontio, a hyrwyddo datblygiad cyffredinol plant. Maent yn edrych ar ddulliau o ymgysylltu â theuluoedd, cynnal mesurau diogelu, a chyfrannu at helpu i wella ansawdd yn eu lleoliad |
| Rheolwr / dirprwy reolwr Crèche / Gofal dydd llawn | Mae'r llwybr hwn yn helpu dirprwy reolwyr i ddatblygu arweinyddiaeth ac ymarfer myfyriol mewn lleoliadau gofal dydd llawn. Mae’r dysgwyr yn cefnogi datblygiad staff, yn arwain y gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm, ac yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau ansawdd, ymarfer cynhwysol, a meithrin partneriaethau cryf gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol i wella dysgu a lles plant. |
Rheolwr / dirprwy reolwr Gofal dydd sesiynol / Cyn ysgol
| Mae dirprwy reolwyr yn meithrin eu sgiliau arwain a rheoli gan helpu i redeg lleoliadau sesiynol yr un pryd. Maent yn arwain yr ymarfer, yn mentora staff, ac yn sicrhau bod plant yn derbyn safonau uchel o ofal ac addysg. Mae'r llwybr yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth fyfyriol, diogelu, cynllunio'r cwricwlwm, a gweithio gyda theuluoedd ac asiantaethau i gefnogi deilliannau i blant. |
Lefel 5 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
| Job role | Job description |
| Arweinydd / Rheolwr / Person â chyfrifoldeb gyda Dechrau'n Deg | Mae Rheolwyr Dechrau'n Deg yn arwain timau amlddisgyblaethol i ddarparu gwasanaethau blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel yn eu cymunedau. Drwy'r llwybr Lefel 5, maent yn meithrin sgiliau arwain strategol, ymarfer myfyriol, a gwybodaeth fanwl am ddatblygiad plant a chymorth i deuluoedd. Mae rheolwyr yn goruchwylio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau, yn sbarduno gwelliant parhaus, yn sicrhau cydymffurfiad â rheoliadau, ac yn meithrin partneriaethau cryf â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, addysg a gofal cymdeithasol. Maent yn hyrwyddo arferion cynhwysol, yn cefnogi datblygiad y gweithlu, ac yn defnyddio data i gynllunio a gwella canlyniadau i blant a theuluoedd. |
Dilyniant
Lefel 2
Symud ymlaen i'r brentisiaeth Lefel 2
Bydd dysgwyr yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd, gan gynnwys:
- ysgolion a cholegau
- gwaith
- profiad gwaith
- diweithdra (o bosibl drwy gyrsiau cyn cyflogi)
- hyfforddiant neu brofiad yn y sector
- ar ôl colli swydd
- cymwysterau gwybodaeth galwedigaethol o'r sector (yn enwedig cymwysterau lefel 1 a 2)
- Cymdeithas Bagloriaeth Cymru (PLL), Iechyd a Datblygiad. Dysgwyr cyn-16 yn dilyn Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen CBAC
- Cyflwyniad Gofalwn Cymru i Ofal Plant.
Mae llawer o gymwysterau'n cynnig cefndir rhagorol o wybodaeth a dealltwriaeth i gefnogi dysgu yn y llwybr hwn. Gweler y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant
Symud ymlaen o'r brentisiaeth Lefel 2
Mae symud ymlaen yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddysgwyr ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau newydd. Ni ddylid ystyried symud ymlaen fel symud i rôl uwch yn unig chwaith. Mewn rhai achosion, gall symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mor werth chweil gan ei fod yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd. Gall hyn gynnwys rôl fwy arbenigol mewn lleoliad gwahanol a bydd yn cynnwys hyfforddiant a phrofiad ychwanegol.
Symud ymlaen i brentisiaeth Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (lle mae cyfleoedd gwaith ar gael).
Edrychwch ar y tabl uchod i weld swyddi lefel 3.
Cofiwch nad yw prentisiaethau ym maes gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant wedi'u cynllunio i symud ymlaen o ran lefelau, yn hytrach maent yn gysylltiedig â swyddi a swyddogaethau. Felly, gall dysgwyr symud ymlaen os gallant ddangos eu bod yn diwallu cyfrifoldebau ymarferydd lefel 3. Rhaid i ddysgwyr fod yn ymgymryd â thasgau lefel 3 yn eu swydd er mwyn gallu cwblhau'r brentisiaeth lefel 3. Mae hyn yn ofynnol i ddangos cymhwysedd galwedigaethol.
Mae amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol yn cael eu cynnig gan sefydliadau dyfarnu drwy golegau a darparwyr dysgu eraill i helpu gyda symud ymlaen a datblygu sgiliau arbenigol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- ymchwil a chynllunio cwricwlwm
- gwybodaeth am ddatblygu busnes
- cyngor a hyfforddiant i gefnogi hunangyflogaeth
- dechrau busnes newydd ym maes gofal plant.
Nid oes yn rhaid i ymarferwyr ddechrau prentisiaeth ar lefel 2. Os ydynt yn cyflawni swyddogaethau rôl lefel 3, gallent ddechrau'n uniongyrchol ar brentisiaeth lefel 3 os yw'r holl amodau eraill yn bodloni gofynion y fframwaith.
Lefel 3
Symud ymlaen i'r brentisiaeth Lefel 3
Bydd dysgwyr yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd, gan gynnwys:
- ysgolion a cholegau
- gwaith
- profiad gwaith
- diweithdra (o bosibl drwy gyrsiau cyn cyflogi)
- hyfforddiant neu brofiad yn y sector
- ar ôl colli swydd
- cymwysterau gwybodaeth galwedigaethol o'r sector (yn enwedig cymwysterau lefel 1 a 2)
- Cymdeithas Bagloriaeth Cymru (PLL), Iechyd a Datblygiad. Mae dysgwyr ôl-16 (sy'n astudio ar Lefel 3) yn astudio Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch Lefel 3 CBAC
Prentisiaethau sylfaen
Mae cyflawni ar lefel 3 yn dangos y gallu i nodi a defnyddio dealltwriaeth, dulliau a sgiliau perthnasol i gwblhau tasgau a mynd i'r afael â phroblemau sydd, er eu bod wedi'u diffinio'n dda, yn gallu bod yn gymhleth. Mae'n cynnwys ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gychwyn a chwblhau tasgau a gweithdrefnau yn ogystal ag arfer rhywfaint o ymreolaeth a chrebwyll. Mae hefyd yn dangos ymwybyddiaeth o wahanol safbwyntiau neu ymagweddau mewn maes astudio neu faes gwaith.
Symud ymlaen o'r brentisiaeth Lefel 3
Mae cwblhau cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer yn galluogi dysgwyr i weithio fel gweithiwr gofal plant lefel 3 cymwysedig heb oruchwyliaeth ac mewn rôl arwain mewn llawer o leoliadau gwaith.
Mae'r cymhwyster yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen i'r canlynol:
- Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
- Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant
- Lefel 5 Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer (os mewn rôl berthnasol)
- Cymwysterau galwedigaethol Lefel 4 a 5 sy'n benodol i'r sector y cyfeirir atynt uchod
- Sgiliau datblygu busnes i fod yn hunangyflogedig a chreu busnesau gofal plant newydd.
Gall symud ymlaen i addysg uwch (AU) ar gyfer cymwysterau Lefel 4, 5 a 6 fod yn opsiwn, ac efallai y bydd modd defnyddio cymwysterau prentisiaeth tuag at ofynion mynediad.
Ni ddylid ystyried symud ymlaen fel symud i rôl uwch yn unig chwaith, fel yr eglurir yn yr adran symud ymlaen Lefel 2. Weithiau, gall symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mor werth chweil gan ei fod yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.
Mae cyfleoedd i ymarferwyr ddilyn hyfforddiant pellach neu asesiad o gymhwysedd sy'n eu galluogi i symud i swyddi rheoli eraill. Mewn llawer o leoliadau blynyddoedd cynnar, rhaid cael cymhwyster lefel 3, ond mewn lleoliadau Dechrau'n Deg mae angen cymhwyster lefel 5. Yn ei chynllun gweithlu 10 mlynedd, mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i ymestyn hyn i leoliadau eraill.
Mae amrywiaeth o raddau sylfaen blynyddoedd cynnar a graddau gyda statws ymarferydd ar gael ledled Cymru sy'n cynnig cymhwyster a gydnabyddir i weithredu fel ymarferydd blynyddoedd cynnar. Mae pob un ohonynt yn cynnwys Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (EYPS) yn eu teitl. Efallai y bydd rhywfaint o symud ymlaen hefyd o ran cael mynediad at raddau gwaith chwarae, addysgu, gwaith cymdeithasol neu nyrsio a hyfforddiant proffesiynol. Fodd bynnag, er mwyn symud ymlaen i'r llwybrau hyn byddai’n rhaid i'r ymgeisydd fodloni'r gofynion mynediad AU a chwblhau'r rhaglen radd tair blynedd.
Yn nes ymlaen yn y ddogfen fframwaith hon, ceir gwybodaeth am symud ymlaen i brentisiaethau lefel 4 a 5 ac ymhellach.
Symud ymlaen i'r brentisiaeth Lefel 4
Mae'r llwybr wedi cael ei ddatblygu i ddarparu cwmpas ac ehangder i'r rheini sydd mewn rolau arwain a rheoli yn y sector a’r rheini sy'n symud i rolau o'r fath.
Fel canllaw, gall dysgwyr ymuno o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- prentisiaethau (lefel 3)
- drwy gymwysterau eraill
- profiad gwaith
- diweithdra ond gyda phrofiad blaenorol cysylltiedig mewn blynyddoedd cynnar a gofal plant
- Diplomâu NVQ/FfCCh ar lefelau 3 a 4 neu gymwysterau gwybodaeth sy'n berthnasol i iechyd a gofal cymdeithasol (e.e. o golegau neu brifysgolion).
Symud ymlaen o'r brentisiaeth Lefel 4
Gall dysgwyr symud ymlaen o'r llwybr hwn i gymwysterau pellach sy'n benodol i'w gwaith. Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant. Gall y rhain gynnwys cymwysterau arbenigol ar unrhyw lefel, tystysgrifau neu ddiplomâu addysg uwch, gradd sylfaen neu gyrsiau gradd mewn blynyddoedd cynnar a gofal plant, neu addysg a hyfforddiant arall sy'n gysylltiedig â gwaith i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus.
Symud ymlaen i'r brentisiaeth Lefel 5
Mae'r llwybr wedi cael ei ddatblygu i roi hyblygrwydd i'r rheini sydd mewn rolau arwain a rheoli yn y sector a’r rheini sy'n symud i rolau o'r fath.
Fel canllaw, gall dysgwyr ymuno o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- prentisiaethau (lefel 3) a Llwybr Ymarfer Proffesiynol Lefel 4
- drwy gymwysterau eraill (er enghraifft mewn rheoli)
- profiad gwaith
- diweithdra ond gyda phrofiad blaenorol cysylltiedig mewn blynyddoedd cynnar a gofal plant
- Diplomâu NVQ/FfCCh ar lefelau 3 a 4 neu gymwysterau gwybodaeth sy'n berthnasol i iechyd a gofal cymdeithasol (e.e. o golegau neu brifysgolion)
Symud ymlaen o'r brentisiaeth Lefel 5
Gall dysgwyr symud ymlaen o'r llwybr hwn i gymwysterau pellach sy'n benodol i'w gwaith. Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant. Gall y rhain gynnwys cymwysterau arbenigol ar unrhyw lefel, Tystysgrifau neu Ddiplomâu Addysg Uwch, gradd sylfaen neu gyrsiau gradd mewn blynyddoedd cynnar a gofal plant neu addysg a hyfforddiant arall sy'n gysylltiedig â gwaith i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus.
Mae'r brentisiaeth Lefel 5 yn cronni 120 credyd y gellir eu hystyried tuag at astudiaeth Addysg Uwch.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
It is important that apprenticeship Pathways are inclusive and can demonstrate an active approach to identifying and removing barriers to entry and progression. Pathways should advance equality of opportunity between persons who share protected characteristics and those persons who do not as identified in the Equality Act 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
- beichiogrwydd a mamolaeth.
Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond er mwyn dileu gwahaniaethu o safbwynt cyflogaeth.
Rhaid i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn dysgwyr pan fyddant yn ymuno â’r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob dysgwr (yn enwedig y grŵp 16 i 18 oed) yn derbyn rhaglen gynefino gan y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y darparwr hyfforddiant a'r cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y llwybr hwn yn cael eu cyflawni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Medr.
Atodiad 1 Lefel 4 - Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Y berthynas rhwng cymwysterau gwybodaeth a chymhwysedd
Mae'r cymhwyster hwn yn darparu gwybodaeth i ddysgwyr er mwyn iddynt ennill y cymhwyster Cymhwysedd / Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.
Mae cyfanswm y credydau Gwybodaeth yn o leiaf 30 credyd, ac mae'r credydau Cymhwysedd/Ymarfer yn o leiaf 30 credyd. Gyda'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru gofynnol yn 12 credyd, mae gan y llwybr hwn isafswm sgôr credyd o 72, yn dibynnu ar ba lwybr a ddewisir.
Yn ogystal, os dewisir y cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli, cyfanswm y credydau Gwybodaeth yw 90 credyd ac mae credydau Cymhwysedd / Ymarfer yn isafswm o 30 credyd. Gyda'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru gofynnol yn 12 credyd, mae gan y llwybr hwn isafswm sgôr credyd o 132 credyd, yn dibynnu ar ba lwybr a ddewisir.
Mae'r cynnwys yn ymdrin â'r canlynol:
Gorfodol ar gyfer pob llwybr Ymarfer Proffesiynol:
- Arwain ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn Ymarfer proffesiynol
- Sgiliau astudio.
Gorfodol ar gyfer y llwybrau Ymarfer Proffesiynol a ddewisir:
- Gweithio gyda theuluoedd a gofalwyr i ddatblygu sgiliau magu plant
- Gweithio gyda Phlant gydag Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu
- Adnabod a Chefnogi Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Gorfodol ar gyfer y llwybr Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli:
- Arwain ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn
- Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arwain a rheoli
- Deall sut mae arwain a rheoli perfformiad tîm yn effeithiol.
Atodiad 2 Framework Guidance
Mae'r Fframwaith Prentisiaeth Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant ar gyfer y rheini sy'n gweithio gyda babanod, plant a phobl ifanc (a'u teuluoedd a'u gofalwyr) mewn lleoliadau neu wasanaethau lle mai gofal, dysgu a datblygiad drwy chwarae yw eu prif bwrpas, er enghraifft:
- meithrinfeydd
- Dechrau’n Deg
- gofal dydd llawn
- gofal dydd sesiynol
- crèches
- gwarchodwyr plant
- cylchoedd meithrin.
Mae'n addas i unrhyw un sy'n dymuno ymuno â'r sector ac i'r rheini sydd eisoes yn gweithio ynddo ac sy'n dymuno datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau a dod yn alwedigaethol gymwys.
Sylwch: Dylai pobl sy'n gweithio mewn amgylchedd ysgol sy'n dilyn y cwricwlwm statudol ymgymryd â'r Fframwaith Cefnogi Addysgu a Dysgu (STL) mwy perthnasol, a dylai pobl sy’n gweithio yn y sector chwarae – ee, mewn clybiau ar ôl ysgol – gyflawni'r Fframwaith Gwaith Chwarae.
Dylai dysgwyr a chyflogwyr ofyn i ddarparwyr dysgu beth yw’r cymhwyster a’r lefel gywir ar gyfer eu rôl
Gall y rhai sy'n gweithio mewn sectorau iechyd neu flynyddoedd cynnar penodol symud rhwng sectorau, drwy ddefnyddio datblygiad proffesiynol parhaus ac ychwanegol priodol sy'n berthnasol i'r rôl newydd.
Nodau ac amcanion y fframwaith hwn (Cymru)
Nod y fframwaith hwn yw:
- hyrwyddo datblygu gweithlu o'r radd flaenaf: cymwys, credadwy, digonol a hyderus.
- cefnogi cyflogwyr i ddarparu'r gweithlu hwn a sicrhau bod gofal plant hygyrch, fforddiadwy ac o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu sy'n gwella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol plant
- cefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion polisi mewn perthynas â gofal plant a'i mentrau Dechrau'n Deg a'r Cwricwlwm i Gymru drwy ddarparu gweithlu cynaliadwy o ansawdd uchel
- cefnogi adferiad economaidd Cymru drwy ddarparu gofal plant i deuluoedd sy'n gweithio a gofalwyr.
Amcanion y fframwaith hwn
1. Cefnogi datblygiad parhaus gweithlu o ansawdd uchel sydd â dealltwriaeth gyffredin a chyfredol o ymarfer blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.
2. Sicrhau cyflenwad o ymarferwyr profiadol sy'n gymwys yn alwedigaethol i ddarparu gofal plant a chyfrannu at weithlu effeithiol sy'n sicrhau diogelwch, a datblygiad addysgol a phersonol plant.
3. Cefnogi'r gwaith o ddatblygu gweithlu hyblyg sy'n gallu gweithio ar draws lleoliadau a chefnogi anghenion gwahanol plant.
4. Helpu i gadw ymarferwyr ac annog symud ymlaen i gymwysterau lefel 3 (ac uwch) lle bo hynny'n briodol ac yn bosibl, (gan gefnogi'r dyheadau yn y Cynllun Gweithlu 10 Mlynedd a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed).
5. Sicrhau darpariaeth barhaus o ofal plant o ansawdd uchel sy'n cefnogi teuluoedd a gofalwyr sy'n gweithio i ymuno â'r gweithlu neu aros yn y gweithlu.
6. Sicrhau bod ymarferwyr yn cael cymorth i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
7. Hyrwyddo cynhwysiant ac archwilio cyfleoedd i wreiddio ymarfer gwrth-wahaniaethol mewn cymwysterau.
Pwrpas y fframwaith
Mae'r fframwaith hwn yn darparu'r 'safon aur' o hyfforddiant cychwynnol i ddysgwyr sy'n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Nod y fframwaith hwn yw datblygu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol pobl sy'n gweithio gyda babanod, plant a phobl ifanc (gan gynnwys eu teuluoedd a'u gofalwyr) mewn lleoliadau neu wasanaethau (y rheini yn y blynyddoedd cynnar yn bennaf) sy'n canolbwyntio ar ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Gall y fframwaith hefyd fod yn addas ar gyfer rhai ymarferwyr cymorth gofal iechyd blynyddoedd cynnar, yn enwedig y rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau Dechrau'n Deg. Mae'n addas ar gyfer pobl sy'n dymuno ymuno â'r sector blynyddoedd cynnar neu ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant neu’r sector iechyd blynyddoedd cynnar penodol i blant, ac mae'n darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i ymarferwyr sydd eisoes yn cael eu cyflogi yn y sector.
Mae'r holl ofal plant yng Nghymru yn bodoli yng nghyd-destun deddfwriaethol a pholisi:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
- Cymraeg 2050 - Miliwn o Siaradwyr Cymraeg
- Cymru Iachach (2018)
- Ffyniant i Bawb (2018) cynllun gweithredu economaidd
- Y Rhaglen Lywodraethu 2021 - 2026
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)
- Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir hyd at 12 oed
- Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021.
Tynnir sylw at iechyd, lles a rhagolygon babanod, plant a phobl ifanc yn yr holl ddogfennau hyn, ac maent hefyd yn cydnabod yr angen i gael gweithlu medrus iawn i gefnogi eu datblygiad.
Dyfyniad o'r Cynllun 10 Mlynedd ar gyfer y Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar: Adolygu ac Adnewyddu (2024):
“Cyhoeddwyd Cynllun Gweithlu 10 Mlynedd y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Gwaith Chwarae yn 2017, ac mae'n nodi ein gweledigaeth i blant o bob cefndir gael y dechrau gorau mewn bywyd, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyrraedd ei botensial llawn a byw bywyd iach, ffyniannus a boddhaus. Mae sicrhau bod gennym weithlu medrus, cymwys a chefnogol yn ganolog i gyflawni hyn.
"Am weddill oes y cynllun hwn, byddwn yn gweithio'n ddiflino i ddenu'r bobl iawn i'r sector, i'w cefnogi i ddatblygu fel y gallant ddarparu chwarae, dysgu a gofal o ansawdd uchel. Rydyn ni'n benderfynol bod y gweithlu'n ffynnu, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac eisiau aros a symud ymlaen yn y sector hynod werthfawr a gwerth chweil hwn.”
Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth bwerus i sicrhau bod anghenion babanod, plant a phobl ifanc Cymru yn cael eu diwallu a bod eu hawliau'n cael eu parchu er mwyn iddynt gyrraedd eu llawn botensial. Mae gwasanaethau gofal plant a'r blynyddoedd cynnar yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o helpu i gyflawni'r weledigaeth hon drwy gefnogi plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr, drwy ddarpariaeth o ansawdd uchel. Mae corff sylweddol o dystiolaeth yn dangos bod darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad plant, yn enwedig plant difreintiedig. Mae cysylltiad cryf rhwng gofal plant o ansawdd uchel a gweithlu cymwysedig iawn, yn ôl adroddiad Llywodraeth Cymru: Polisi Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC); Cynllun 10 Mlynedd ar gyfer y Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar: Adroddiadau cynnydd (diweddarwyd ddiwethaf yn 2023).
Amcanion allweddol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gofal plant yw:
- sicrhau ansawdd
- datblygu’r gweithlu
- cydgysylltu rhaglenni gan gynnwys Dechrau'n Deg a'r Cwricwlwm i Gymru
- cefnogi Mentrau Gofal Plant
- sicrhau darpariaeth ddigonol
- datblygu'r seilwaith
hyrwyddo sector cynhwysol a gwrth-wahaniaethol
gwella gwybodaeth.
Nod y fframwaith hwn yw helpu'r llywodraeth a chyflogwyr yn y sector i gyflawni'r nodau hyn.
Llwybr lefel 2
Mae prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 yn addas i’r rheini sy’n gweithio o dan oruchwyliaeth mewn lleoliadau. Mae’n dangos cymhwysedd galwedigaethol yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, ac yn helpu i sicrhau gofal plant o ansawdd uchel.
Ar y lefel hon, mae ymarferwyr yn cyfrannu at arferion cynhwysol a gwrthwahaniaethol sy’n helpu i gefnogi datblygiad corfforol, deallusol, ieithyddol, emosiynol a chymdeithasol plant. Mae eu gwaith yn cael ei arwain gan gydweithwyr mwy profiadol, ac mae eu rolau penodol posibl wedi’u disgrifio yn yr adran swyddi yn y fframwaith.
Llwybr lefel 3
Mae prentisiaeth Lefel 3 yn addas i ymarferwyr sy’n ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb mewn lleoliadau gofal plant. Maent yn gweithio’n annibynnol ac yn defnyddio eu crebwyll i arsylwi, cynllunio a threfnu gweithgareddau sy’n hybu datblygiad plant.
Mae ymarferwyr Lefel 3 yn hyrwyddo arferion cynhwysol a gwrthwahaniaethol. Maent yn helpu plant i ddatblygu’n gorfforol, yn ddeallusol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol, ac i ddatblygu eu sgiliau iaith. Maent yn cefnogi iechyd a lles plant, gan gynnwys hybu maeth a hydradiad, ac yn ymateb yn briodol i salwch plant.
Mae ymarferwyr Lefel 3 yn gweithio’n fwy annibynnol, ac mae’n bosibl y byddant yn ysgwyddo rolau datblygiadol neu oruchwyliol, gan roi cefnogaeth i ymarferwyr llai profiadol. Mae’n bosibl bod rhai hefyd yn cael eu cyflogi i gefnogi rhaglenni allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Dechrau’n Deg (ar gyfer plant hyd at dair oed), a’r Cwricwlwm i Gymru (ar gyfer plant rhwng tair ac wyth oed).
Gall rhai dysgwyr symud yn syth i lwybr Lefel 3 os yw eu rôl a’u cyfrifoldebau yn eu galluogi i gyflawni’r tasgau angenrheidiol ar gyfer yr unedau gorfodol a’r rhai dewisol a ddewisir.
Disgrifir y swyddi penodol y gellir ymgymryd â nhw yn adran rolau swyddi'r fframwaith.
Llwybr lefel 4
Mae prentisiaeth Lefel 4 yn helpu ymarferwyr profiadol sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa drwy arwain eu hymarfer ac arbenigo ynddo. Mae tri opsiwn ar gyfer y llwybr hwn:
- gweithio gyda theuluoedd a gofalwyr i ddatblygu sgiliau magu plant
- helpu plant gydag anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu
- adnabod a chefnogi plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Bydd dysgwyr yn datblygu ac yn defnyddio dealltwriaeth, sgiliau a gwybodaeth arbenigol ar y llwybr o’u dewis. Byddant yn defnyddio dulliau gweithredu a theorïau perthnasol i arwain ymarfer annibynnol a myfyriol, ac yn defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol a hunanymwybyddiaeth i wella canlyniadau i blant. Bydd eu rôl hefyd yn cynnwys sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol.
Bydd y dysgwyr yn arwain y broses o newid ymarfer drwy gynllunio a gwerthuso, ac yn paratoi portffolio o dystiolaeth.
Mae’r llwybr hefyd yn rhoi sylfaen gref i ddysgwyr symud i rolau arwain neu reoli, ac yn rhoi’r sgiliau a’r hyder angenrheidiol iddynt ysgwyddo cyfrifoldebau yn y dyfodol.
Gall dysgwyr ddewis cyflawni cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant fel rhan o’u prentisiaeth.
Fel arfer, mae gan ddysgwyr sy’n dilyn y llwybr hwn gymhwyster Lefel 3 cydnabyddedig eisoes. Disgrifir y rolau penodol posibl yn adran rolau swyddi'r fframwaith.
Llwybr lefel 5
Mae prentisiaeth Lefel 5 wedi’i chynllunio ar gyfer ymarferwyr profiadol mewn rolau arwain neu reoli mewn lleoliadau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Mae’r cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i roi theorïau arwain a rheoli ar waith mewn amgylchiadau go iawn, gan ddefnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol a data i wella gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
Mae dysgwyr yn dangos eu sgiliau arwain drwy brosiect busnes yn y gweithle, portffolio o dystiolaeth, a thrafodaeth broffesiynol. Maent yn dangos sut maen nhw’n arwain timau, yn gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, ac yn cyfathrebu’n effeithiol. Maent hefyd yn defnyddio sgiliau rhifedd a digidol i gefnogi perfformiad a datblygiad yn eu lleoliad.
Yn y llwybr hwn mae’n rhaid bod gan ddysgwyr eisoes gymhwyster Lefel 3 cydnabyddedig a rhaid iddyn nhw gyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Rhaid iddynt hefyd fod yn ymwneud â gweithgareddau arwain neu reoli er mwyn dangos tystiolaeth ar gyfer y cymhwyster Ymarfer.
Rhaid i ddysgwyr hefyd gyflawni cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant cyn symud ymlaen i Lefel 5. Gellir gwneud hyn fel rhan o’r llwybr prentisiaeth.
Disgrifir y swyddi penodol ar gyfer y llwybr hwn, sy’n seiliedig ar ymarfer, yn adran rolau swyddi'r fframwaith.
Ewch i fframwaith cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru i weld swyddi penodol ym maes blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae’n egluro pa gymwysterau y mae eu hangen er mwyn ymarfer.
Amlinelliad o’r gweithlu
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adroddiadau cynhwysfawr i fapio'r gweithlu gofal plant a chwarae yng Nghymru. Mae Adroddiad Cam 2, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2024, yn amcangyfrif bod mwy na 16,000 o ymarferwyr yn y sector. Mae'n rhagweld cynnydd o 24 y cant mewn anghenion staffio erbyn 2027-2028 o ganlyniad i ehangu’r rhaglen Dechrau'n Deg.
Pam mae angen i ni ddatblygu'r gweithlu?
Mae cynnig darpariaeth blynyddoedd cynnar fforddiadwy, hygyrch ac o ansawdd uchel, sydd ar gael pan fydd ei angen ar rieni, yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ehangu ein heconomi, gan helpu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith a chreu rhagor o gyfleoedd cyflogaeth yn y maes gofal plant ei hun. Mae'r ddarpariaeth hon yn parhau i fod yn bwysig wrth i blant gyrraedd oedran ysgol gan ei bod yn caniatáu i rieni sy'n gweithio barhau i gynnal eu teuluoedd yn ariannol, gan wybod y bydd eu plant yn cael gofal, yn cael eu cadw'n ddiogel, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol.
Mae ymchwil yn profi fod addysg gynnar a gofal plant o ansawdd uchel yn arwain at fwy o fanteision hirdymor i'n plant ac yn dylanwadu'n gryf ar eu cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol. Pan fydd gan y gweithlu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau i ddarparu gofal plant a chwarae o ansawdd uchel, gall yr effeithiau ar blant fod yn sylweddol iawn. Mae o fudd arbennig i blant o gefndiroedd difreintiedig, ac i blant anabl neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. (Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir (2022); Llywodraeth Cymru: Polisi Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC); Cynllun 10 Mlynedd ar gyfer y Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar: Adroddiadau cynnydd (diweddarwyd ddiwethaf yn 2023)
Mae gan Gymru eisoes weithlu gofal plant a chwarae ymroddedig a chymwys iawn, ond gwyddom y gallwn wneud mwy i newid canfyddiadau am yrfa yn y sector er mwyn ei gwneud yn yrfa ddeniadol i’w dewis. Gall y rheini sy'n dymuno newid gyrfa ddod â phersbectif newydd ac amrywiaeth o brofiad i'r gweithlu. Mae'n bwysig helpu'r sector i ddenu a chadw ymarferwyr o safon, i gyrraedd safonau uchel o ran gofal plant ac i ddatblygu gweithlu proffesiynol sy'n ddigon medrus i ymateb i heriau'r degawd nesaf a thu hwnt.
Mae ansawdd y ddarpariaeth gofal plant a chwarae yn hollbwysig
Mae angen amrywiaeth o sgiliau ar ymarferwyr i sicrhau bod ein plant yn cael y cymorth dysgu a datblygu cywir i gyrraedd eu llawn botensial. Rydym am gefnogi ymarferwyr i ennill ystod eang o gymwysterau priodol a gwella eu lefelau sgiliau, gyda dull cyffredinol o ymdrin â safonau a chymwysterau ar draws sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Rydym am gefnogi rheolwyr pob lleoliad i anelu at a chyrraedd lefel 5. Byddwn yn cefnogi'r sector drwy ddatblygu llwybrau cynnydd priodol i gyflawni'r cymwysterau hyn a chael mynediad at hyfforddiant strwythuredig a llwybrau gyrfa.
“Ar 15 Mawrth 2024, cyhoeddwyd Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC), gan ddod â'n holl bolisïau a rhaglenni sy'n ymwneud ag ECPLC o bob rhan o Lywodraeth Cymru at ei gilydd. Mae'r cynllun yn rhoi’r plentyn a datblygiad y plentyn wrth galon popeth a wnawn ac fe'i datblygwyd o amgylch tair thema: ansawdd y ddarpariaeth, mynediad at ddarpariaeth, a chefnogi a datblygu'r gweithlu. Drwy ganolbwyntio ar y themâu hyn, mae'r cynllun yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu cyfleoedd addysg a gofal plant cynhwysol o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar chwarae ar gyfer pob babi a phlentyn ifanc rhwng dim a phump oed.”
(Gwefan Llywodraeth Cymru Cynllun ECPLC Ffeithlun Blynyddol)
Mae darpariaeth Dechrau'n Deg wedi ehangu o dan gynllun ECPLC. Y prif amcanion ar gyfer ehangu Dechrau'n Deg yw:
- sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd
- mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd
- cynyddu darpariaeth gwasanaethau gofal plant o ansawdd uchel a sefydliadau a lleoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Gymru sy'n fwy cyfartal, drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn “credu y dylai pob person gael ei drin yn deg, ac rydym yn gweithio tuag at Gymru fwy cyfartal, gwlad sy'n sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau, sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu ac sy'n ceisio canlyniadau tecach i'n holl ddinasyddion, nawr ac yn y dyfodol.” (Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Cynllun Strategol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2025 i 2029).
Dylai llwybrau prentisiaeth fod yn gynhwysol a dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar rwystrau rhag mynediad a symud ymlaen. Dylai llwybrau hybu cyfle cyfartal i bawb, gan gynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig fel y nodwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
- beichiogrwydd a mamolaeth.
Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond er mwyn dileu gwahaniaethu o safbwynt cyflogaeth.
Rhaid i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn dysgwyr pan fyddant yn ymuno â’r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny. Gellir ystyried addasiadau rhesymol yn unol â gofynion y cymhwyster.
Yn draddodiadol, menywod sydd fel arfer yn darparu gwaith gofal plant. Mae ymgyrchoedd recriwtio blaenorol wedi canolbwyntio ar ddenu mwy o ddynion, pobl ifanc ac ymarferwyr rhyngwladol i'r proffesiwn i sicrhau y gellir cynnig gofal, fel bod babanod, plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau i gyrraedd eu llawn botensial.
Mae cyrff y sector yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r angen i hyrwyddo cydraddoldeb ac ymarfer gwrth-wahaniaethol ymysg cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a dysgwyr, er mwyn ceisio annog recriwtio lleol i adlewyrchu'r gymuned. Mae data cwblhau prentisiaethau yn rhoi cipolwg ar sut mae prentisiaethau'n adlewyrchu cydraddoldeb ac amrywiaeth ledled Cymru.
Y Gymraeg
Mae ein hymchwil yn dangos bod angen mwy o siaradwyr Cymraeg yn y maes gofal plant. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cyrraedd targed Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, a hefyd er mwyn hybu tegwch a chynhwysiant yn unol â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Mae gwella mynediad at wasanaethau Cymraeg yn sicrhau nad yw plant a theuluoedd sy’n siarad Cymraeg yn wynebu anfantais. Mae cynhwysiant ieithyddol yn un o elfennau allweddol ymarfer gwrth-hiliol, oherwydd mae’n cefnogi hunaniaeth ddiwylliannol ac yn cael gwared ar rwystrau a allai eithrio pobl nad ydynt yn siarad Saesneg.
Yng Nghymru, mae’n bosibl gwneud prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae hyn yn helpu i greu gweithlu mwy amrywiol a chynrychioladol, ac mae’n cyd-fynd ag ymrwymiad y Cynllun Gweithredu yng nghyswllt cyfleoedd teg ac amgylcheddau dysgu cynhwysol.
Mae gan gyrff cyfrifol yn y sector hefyd ddeunyddiau i hybu ac ymgysylltu â dysgwyr a chyflogwyr. Maent wedi creu adnoddau dwyieithog i gefnogi ac annog gweithlu amrywiol.
Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys:
- Cyrsiau Cymraeg Camau
- Mwy na geiriau – strategaeth pum mlynedd
- Prentis-Iaith – adnodd ieithyddol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Maent yn cefnogi datblygiad y Gymraeg a hefyd yn cyfrannu at Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol drwy hybu ymarfer cynhwysol sy’n ymateb i ddiwylliant a mynediad teg at gyfleoedd dysgu a gwasanaethau.
Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Rhaid i ddarparwyr dysgu fynd ati o’r cychwyn cyntaf i adnabod a chynorthwyo prentisiaid sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau cychwynnol i gael gwybod a oes unrhyw rwystrau dysgu a gwneud yn siŵr bod y cymorth cywir ar waith. Rhaid adolygu’r cynlluniau hyn yn rheolaidd a’u diweddaru i adlewyrchu datblygiad y dysgwr a’i anghenion newidiol.
Mae’r fframwaith yn pwysleisio pwysigrwydd arferion cynhwysol. Rhaid i ddarparwyr gymryd camau effeithiol i ofalu bod dysgwyr ADY yn aros ar eu cyrsiau ac yn cyflawni eu nodau. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, cydymffurfio â deddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd, a sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad teg at gyfleoedd dysgu. Dylai darparwyr weithio gyda chyflogwyr, asiantaethau cymorth, a rhanddeiliaid eraill i ddarparu cymorth wedi’i deilwra sy’n diwallu anghenion dysgwyr unigol, gan gynnwys rhoi addasiadau rhesymol ar waith.
Mae’r fframwaith yn pennu cymorth ADY fel elfen allweddol o’r broses o ddarparu prentisiaethau o safon. Rhaid i ddarparwyr fynd ati’n frwd i ganfod anghenion, gweithredu strategaethau cymorth, a monitro canlyniadau er mwyn i bob dysgwr allu llwyddo. Mae rhagor o wybodaeth am gymorth ADY ar gael yn Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru.
Llesiant a gwydnwch: hyrwyddo arweinyddiaeth dosturiol
Mae llesiant a gwydnwch dysgwyr yn hanfodol ar gyfer ansawdd uchel o ofal plant a'r blynyddoedd cynnar yn y fframweithiau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Mae arweinwyr yn chwarae rhan allweddol mewn arweinyddiaeth dosturiol, sy'n cynnwys gwrando'n weithredol, dangos empathi, a chreu amgylcheddau diogel lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u deall. Drwy hyrwyddo ymarfer myfyriol, annog cymorth gan gymheiriaid, a blaenoriaethu iechyd meddwl, gall arweinwyr adeiladu timau gwydn sy'n ffynnu hyd yn oed mewn amgylchiadau heriol. Mae'r dull hwn yn cefnogi ymarferwyr unigol ac yn cryfhau'r ethos gofalu cyffredinol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Cefnogaeth cyflogwyr
Yn 2024, roedd yna:
- 1,064 o warchodwyr plant
- 1,028 o sefydliadau gofal dydd llawn
- 327 o sefydliadau gofal dydd sesiynol
- 10 cyfleuster crèche.
(Adroddiad SASS Arolygiaeth Gofal Cymru 2024).
Mae cyflogwyr yn parhau i ddefnyddio'r brentisiaeth gofal, chwarae, dysgu a datblygu plant i recriwtio ymarferwyr i'r sector ac i gefnogi'r gwaith o ddatblygu’r ymarferwyr presennol i fodloni'r cymhwyster sy'n cael ei ffafrio gan y diwydiant (a chymhwysedd galwedigaethol). Rhaid i gyflogwyr wneud yn siŵr bod hyfforddeion yn cael eu goruchwylio’n ofalus bob amser, fel y nodwyd yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, safon 13.8.
Mae dilyn rhaglen brentisiaeth yn creu gweithiwr neu reolwr cymwys a fydd yn gymwys i'r lefel a ddisgwylir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir. Mae'r sector blynyddoedd cynnar yn cydnabod, er mwyn diwallu anghenion cyflogwyr a dyheadau'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau ac sy’n gweithio ynddynt, bod defnyddio cymwysterau achrededig sy'n diwallu anghenion rheoleiddio'r gweithlu yn dal yn bwysig. Ym maes blynyddoedd cynnar a gofal plant, ceir fframwaith cymwysterau sy’n nodi’r cymwysterau a argymhellir ar gyfer ymarfer. Mae cyflogwyr wedi cyfrannu at ddatblygu'r cymwysterau sydd yn y fframwaith hwn ac rydym yn parhau i weithio gyda nhw drwy grwpiau ffocws i adolygu’r fframwaith a gwneud newidiadau iddo.
Nod y fframwaith prentisiaethau hwn yw cefnogi datblygiad proffesiynol ymarferwyr sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant, a bodloni'r cymwysterau a'r gofynion proffesiynol i gefnogi eu taith tuag at arwain a rheoli mewn lleoliadau gofal plant. Mae'n galluogi ymarferwyr lefel 2 a 3 i ehangu eu gwybodaeth a'u cymhwysedd i ymgymryd â gweithgareddau mwy cymhleth wrth weithio â babanod, plant a phobl ifanc. Mae'n cyflwyno'r rôl arwain ar lefel 4 gyda'r cyfle i ddatblygu sgiliau rheoli sector-benodol ar lefel 5.
Mae’r dudalen ddigwyddiadau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru yn cyfeirio at gyfleoedd datblygu a gweithdai i reolwyr er mwyn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus ac arweinyddiaeth ar draws y sector.
Atodiad 3 Further Guidance for Learning Providers
Rydym ni’n credu bod darparwyr dysgu yn anelu at y lefelau gorau posibl o ran cyflawni prentisiaethau yn y sector. Ond, adeg adolygiad Cymwysterau Cymru o system gymwysterau a dysgu'r sector a gyhoeddwyd yn 2016, nodwyd pryderon ynghylch ansawdd a chysondeb. Defnyddiodd Cymwysterau Cymru ei bwerau o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 i gyfyngu ar y cyrff dyfarnu sy'n gallu darparu'r gyfres o gymwysterau ar gyfer y sector. Yn dilyn proses gaffael, penodwyd consortiwm yn cynnwys City & Guilds a CBAC (Y Consortiwm) fel yr unig ddarparwr am gyfnod o bum mlynedd. Ers 2017, mae Cymwysterau Cymru, y Consortiwm, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sector i ddatblygu cymwysterau sy'n diwallu'r anghenion a'r disgwyliadau sy'n newid ar draws blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.
Daeth y cyfyngiad ar y cymwysterau yn y gyfres i ben ar 31 Awst 2025. Mae CBAC a City & Guilds wedi cadarnhau y byddant yn parhau i gynnig y cymwysterau hyn. Mae diwedd y cyfyngiad yn golygu y caiff cyrff dyfarnu eraill gyflwyno cymwysterau i'w cymeradwyo yn erbyn meini prawf cymeradwyo a gyhoeddwyd. Rhaid iddynt sicrhau bod y cymwysterau'n gwbl ddwyieithog ac ymgysylltu â Gofal Cymdeithasol Cymru i geisio cynnwys y cymwysterau yn y fframwaith cymwysterau.
Mae darparwyr dysgu wedi cymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu'r fframwaith hwn, a byddant yn dal i gymryd rhan mewn adolygiadau yn y dyfodol. Cofiwch nad yw'r fframwaith hwn yn addas i bawb.
Mae yna Fframwaith Gwaith Chwarae ar wahân ar gyfer cyflogwyr a dysgwyr sy'n gweithio gyda phlant hŷn rhwng 8 a 12 oed.
Mae Fframwaith Cymorth Dysgu ar gael hefyd, ar gyfer cynorthwywyr ystafell ddosbarth.
Dylai dysgwyr a chyflogwyr ofyn i ddarparwyr dysgu beth yw’r cymhwyster cywir ar gyfer eu rôl.
Atodiad 4 Further Guidance for Entry Requirements
- Nid oes angen cymwysterau penodol ar ddysgwyr i ddilyn y llwybrau hyn, ond rhaid iddynt fod yn barod i ysgwyddo cyfrifoldebau yn unol â lefel y brentisiaeth.
- Rhaid i ddarpar ddysgwyr gael archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd wedi'i anelu at y canlynol:
- dysgwyr ôl-16 yng Nghymru, sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig gyda theuluoedd/gofalwyr a phlant o dan 8 oed a/neu
- gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheini sy'n gweithio gyda theuluoedd/gofalwyr a phlant 0-19 oed. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau iechyd plant.
Mae cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer yn bennaf ar gyfer:
- pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig gyda theuluoedd/ gofalwyr a phlant o dan 8 oed a
- gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheini sy'n gweithio gyda theuluoedd/ gofalwyr a phlant 0-19 oed
- dysgwyr sydd wedi cyflawni cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
Mae'r cymhwyster Lefel 3 Ymarfer Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn addas ar gyfer:
- dysgwyr sy'n gweithio mewn lleoliad gofal plant sy'n ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau lefel 3
- dysgwyr sydd wedi cyflawni cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd a/neu Ymarfer, a/neu gymhwyster ymarfer a theori
- pobl sy'n gweithio gyda Dechrau'n Deg, a'r rheini sy'n cyflwyno'r cwricwlwm i blant tair i saith oed yng Nghymru
- dysgwyr sydd â chymhwyster etifeddol lefel 2 fel y'i rhestrir yn y fframwaith cymwysterau ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant a Reoleiddir yng Nghymru, sy'n gweithio mewn lleoliad gofal plant ac eisiau symud ymlaen i lefel 3.
Anogir yn gryf bod dysgwyr yn cwblhau'r cymhwyster Craidd cyn neu ochr yn ochr â Lefel 2 a 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer, gan y bydd hyn yn ofyniad ar gyfer ymarfer a bennir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Lefel 1 yw'r gofyniad sylfaenol ar gyfer y llwybr hwn. Bydd dysgwyr yn cael eu hannog a'u cefnogi i symud ymlaen i lefelau uwch lle bo hynny'n briodol, er mwyn cynyddu eu cymhwysedd a'u hyder yn y gweithle.
Cofiwch ei bod yn ofyniad a nodir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru y bydd angen y ddau gymhwyster hyn ar unigolyn er mwyn gweithio mewn swyddi penodol yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant:
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd a
- Lefel 2 neu 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer.
Rhaid i ddysgwyr ar y llwybr hwn fod â diddordeb mewn gweithio gyda phlant (yn enwedig plant ifanc) ac ymrwymiad i wneud hynny a bod yn addas i wneud hynny. Rhagwelir y bydd dysgwyr wedi cael amrywiaeth o brofiadau a chyfleoedd blaenorol.
Mae cyflogwyr ym maes gofal plant yn cynnal archwiliadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), a gall rhai troseddau wahardd darpar ddysgwyr rhag cael eu cyflogi, felly cânt eu hatal yn awtomatig rhag cwblhau'r fframwaith. Felly, dylai darpar ddysgwyr drafod unrhyw faterion perthnasol â'u cyflogwr cyn cofrestru. Mae hyn yn un o ofynion rheoliadau diogelu.
Mae angen amrywiaeth o nodweddion a phriodoleddau personol ar yr holl ymarferwyr yn y sectorau hyn hefyd, ac mae cyflogwyr yn recriwtio fwy a mwy ar sail gwerthoedd. Mae adnoddau gwahanol ar gael i gyflogwyr ar gyfer recriwtio megis:
- Canllaw i Recriwtio’n Dda
- A Question of Care, fideo rhyngweithiol i weld sut beth yw gweithio ym maes gofal
- Cyflwyniad i Gwrs Hyfforddiant Gofal Plant, y gall cyflogwyr ei gydnabod
- Cardiau Gyrfa Gofalwn Cymru, adnodd sy'n darparu gwybodaeth am wahanol rolau ym maes gofal plant
- Gwefan Gofalwn Cymru, sy’n cynnwys llawer o adnoddau prentisiaeth
Rhaid i'r asesiad cychwynnol o addasrwydd dysgwyr ar gyfer y rhaglen gynnwys, o leiaf, arwydd bod y dysgwr yn derbyn yr egwyddorion a'r gwerthoedd sy'n sail i weithio gyda phlant, sef:
Egwyddorion
- Lles y plentyn sydd bwysicaf.
- Mae ymarferwyr yn cyfrannu at ofal, dysgu a datblygiad plant ac adlewyrchir hyn ym mhob agwedd ar ymarfer a darpariaeth gwasanaeth.
- Mae ymarferwyr yn gweithio gyda rhieni a theuluoedd/gofalwyr ac yn bartneriaid yng ngofal, dysgu a datblygiad plant, a nhw yw addysgwyr cyntaf a mwyaf parhaol y plentyn.
Gwerthoedd
- Mae anghenion, hawliau a barn y plentyn wrth wraidd yr holl ymarfer a’r ddarpariaeth.
- Mae unigoliaeth, gwahaniaeth ac amrywiaeth yn cael eu gwerthfawrogi a'u dathlu.
- Mae cyfle cyfartal ac ymarfer gwrth-wahaniaethol yn cael eu hyrwyddo'n frwd
- Mae iechyd a lles plant yn cael eu hyrwyddo'n frwd.
- Mae diogelwch personol a chorfforol plant yn cael ei ddiogelu, gan ganiatáu ar gyfer risg a her fel sy'n briodol i alluoedd y plentyn.
- Cydnabyddir bod hunan-barch, gwydnwch a hunanddelwedd gadarnhaol yn hanfodol i ddatblygiad pob plentyn.
- Perchir cyfrinachedd a chytundebau ynghylch gwybodaeth gyfrinachol fel y bo'n briodol, oni bai fod ei fod yn fater amddiffyn plant neu fod lles plentyn yn y fantol.
- Rhennir gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd proffesiynol yn briodol er mwyn cyfoethogi profiad plant yn ehangach.
- Mae arferion gorau yn gofyn am fyfyrio a chwilio'n barhaus am welliant.
Gall proses ddethol cyflogwyr, mewn partneriaeth â darparwyr dysgu, gynnwys asesiad cychwynnol lle gofynnir i ddysgwyr a oes ganddynt unrhyw gymwysterau neu brofiad y gellir eu hachredu yn erbyn gofynion y brentisiaeth.
Mae gan gyflogwyr a darparwyr dysgu ddiddordeb mewn dysgwyr:
- sy'n awyddus ac yn llawn cymhelliant i weithio mewn amgylchedd gofal plant a'r blynyddoedd cynnar
- sy’n fodlon gwneud hyfforddiant yn y gwaith a thu allan i’r gwaith, a mynd ati i roi’r hyn a ddysgwyd ar waith yn y gweithle
- sydd â phrofiad gwaith blaenorol neu gyflogaeth yn y sector
- sydd â chymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae dysgwyr cyn-16 yn astudio Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen CBAC; mae dysgwyr ôl-16 (sy'n astudio ar L3) yn astudio Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch Lefel 3 CBAC
- sydd â TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol neu gymwysterau cyfatebol, mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg
- sydd wedi cwblhau, neu'n fodlon cwblhau profion mewn sgiliau rhifedd a chyfathrebu sylfaenol i gyrraedd lefel 1 o leiaf. Os nad oes gan ddysgwr y cymwysterau uchod cyn dechrau dysgu, mae'r brentisiaeth yn rhoi cyfle i’r dysgwr ennill y cymwysterau Sgiliau Hanfodol perthnasol. Dim ond os caiff y rhain eu cwblhau ochr yn ochr â'r cymwysterau galwedigaethol y gellir cyflawni'r brentisiaeth yn llawn.
Er mwyn helpu dysgwyr i ddatblygu eu gallu i gyfleu a chymhwyso sgiliau rhif mewn modd sy’n adlewyrchu senarios gwaith mewn bywyd go iawn, rydym yn argymell defnyddio modiwlau e-ddysgu Gofal Cymdeithasol Cymru. Maent wedi'u cynllunio'n benodol i adlewyrchu’r mathau o sefyllfaoedd y gall dysgwyr eu hwynebu mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant. Maent yn cyfateb i’r canlyniadau dysgu angenrheidiol ar gyfer cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru, ac yn datblygu sgiliau mewn modd ymarferol. Mae’r modiwlau hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr fagu hyder a chymhwysedd mewn sgiliau hanfodol drwy enghreifftiau perthnasol a phenodol i’r sector sy’n helpu eu dealltwriaeth, eu gallu i roi gwybodaeth ar waith, ac yn eu paratoi ar gyfer asesiad - sy’n meddu ar gymwysterau rhyngwladol mewn Saesneg a mathemateg sydd wedi'u dyfarnu'n gyfwerth gan Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol y DU (UK ENIC). Bydd angen cyflwyno datganiad cymharedd ENIC fel tystiolaeth ochr yn ochr â thystysgrifau cymwysterau wrth hawlio tystysgrif fframwaith prentisiaethau.
Mae'r tasgau sy'n ofynnol yn y prentisiaethau hyn yn cynnwys bodloni gofynion y swydd. Gan fod ymgymryd â phrentisiaeth yn ymrwymiad mawr i'r unigolyn ac i'r cyflogwr, cynhelir cyfweliad i sicrhau bod dysgwyr wedi dewis y sector galwedigaethol cywir a bod ganddynt y cymhelliad i fod yn ddysgwr ar brentisiaeth.
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru neu gyrsiau coleg amser llawn eraill wedi cwblhau unedau neu gyrsiau (er enghraifft cymhwyster Craidd Lefel 2) a fydd yn darparu credyd neu wybodaeth tuag at y Brentisiaeth Sylfaen neu'r Brentisiaeth ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.
Mae prosesau ar waith i sicrhau nad yw dysgwyr sydd â gwybodaeth, cymwysterau a phrofiad blaenorol o dan anfantais o ganlyniad i orfod ailadrodd dysgu. Bydd darparwyr hyfforddiant/colegau a chyrff dyfarnu yn gallu rhoi cyngor ynghylch y rheolau presennol ar gyfer achredu dysgu blaenorol a chydnabod profiad blaenorol. Mae llaciadau neu brocsïaid ar gyfer cymwysterau sgiliau trosglwyddadwy (Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif) ac mae'r manylion hyn ar gael ar wefan Tystysgrif Prentisiaethau Cymru (ACW).
Mae’r cymwysterau ymarfer yn y fframwaith hwn yn gofyn am dystiolaeth a gasglwyd o weithgareddau gwaith. Er mwyn cyflawni’r cymhwyster, rhaid i bobl sy'n gweithio tuag at lefel 2, 3, 4 a 5 fod yn ymgymryd â thasgau sy'n bodloni'r disgrifyddion lefel ar gyfer eu rôl.
Beth i'w ystyried wrth ymgeisio
Bydd llawer o gyflogwyr yn chwilio am sgiliau a rhinweddau dymunol mewn darpar ddysgwyr. Gallai’r rhain gynnwys:
- rhoi hawliau a safbwyntiau babanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd a gofalwyr wrth galon pob ymarfer
- gwerthfawrogi a dathlu unigoliaeth, gwahaniaeth ac amrywiaeth
- mynd ati’n frwd i hyrwyddo cyfle cyfartal ac ymarfer gwrth-wahaniaethol
- cymhelliant i weithio a llwyddo o fewn y sector(au)
- sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cyfathrebu llafar a chorfforol effeithiol
- mynd ati’n frwd i hyrwyddo iechyd a lles babanod, plant a phobl ifanc
- parchu cyfrinachedd a chytundebau ynghylch gwybodaeth gyfrinachol, oni bai fod risg i ddiogelwch a llesiant
- parodrwydd i ymgymryd â rhaglenni hyfforddi a dysgu a chymhwyso'r dysgu hwnnw yn y gweithle
- y gallu i weithio mewn timau bach anffurfiol, gan ddangos sgiliau gwrando a chyfrannu at wneud penderfyniadau ac ymarfer proffesiynol
- safon y cyfathrebu a'r rhifedd sy'n ofynnol ar gyfer gofynion y swydd.
Mae'r llwybrau ar gyfer Arwain a Rheoli mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn addas yn bennaf ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad yn y sector. Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio i helpu dysgwyr dros 19 oed i ymarfer fel arweinwyr a rheolwyr yn y sector.
Rhaid iddynt fod mewn swydd reoli neu arwain tîm/goruchwyliwr sy'n darparu cyfleoedd gwaith go iawn i fodloni gofynion y fframwaith. Efallai y gallent fod yn rheolwr cynorthwyol neu'n arweinydd Dechrau’n Deg sy'n ceisio gwella eu cyfleoedd i symud ymlaen a helpu gyda'r gwaith o gynllunio olyniaeth i reolwyr yn eu sefyllfa gyflogaeth.
Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn gweld hyn fel cyfle i ddatblygu eu rheolwyr eu hunain i’r dyfodol. Gallant gynnig rolau i ymarferwyr i weithio ar lefel 'uwch' gan roi mwy o gyfrifoldebau iddynt er mwyn cwblhau gofynion y cymwysterau.
Mae cyflawni ar lefel 4 a 5 yn dangos y gallu i nodi a defnyddio dealltwriaeth, dulliau a sgiliau perthnasol i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth sydd wedi'u diffinio'n fras. Mae'n cynnwys ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gynllunio a datblygu dulliau gweithredu yn ogystal ag arfer ymreolaeth a chrebwyll o fewn paramedrau eang. Mae hefyd yn adlewyrchu dealltwriaeth o wahanol safbwyntiau, ymagweddau neu ffyrdd o feddwl a'r rhesymeg y tu ôl iddynt. Bydd angen i ddysgwyr fod yn barod i astudio ar y lefel hon cyn dechrau'r brentisiaeth.
Yn ddelfrydol, dylai dysgwyr sy’n dilyn y llwybr lefel 4 fod wedi cwblhau'r Prentisiaeth Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant ar lefel 2 neu 3, neu unrhyw un o'r hen gymwysterau ar fframwaith cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru, ac erbyn hyn yn gweithredu fel arweinwyr, dirprwy reolwyr neu reolwyr. Rhaid bod gan ddysgwyr sydd heb gwblhau'r cymwysterau hyn brofiad blaenorol sylweddol o weithio mewn swyddi goruchwylio neu reoli yn y sector.
Rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn llwybr lefel 5 gael cymhwyster Lefel 3 cydnabyddedig, bodloni'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, a chymryd rhan weithredol mewn tasgau arwain neu reoli i ddarparu'r dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster ymarfer. Rhaid iddynt hefyd gyflawni cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant cyn symud ymlaen i Lefel 5. Gellir gwneud hyn fel rhan o’r llwybr prentisiaeth.
Mae'r swyddi a gwmpesir gan y llwybr hwn yn cynnwys gweithio gydag oedolion a phlant agored i niwed felly bydd angen i ddysgwyr gael archwiliadau manwl clir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) fel a ddisgrifir yn yr adran gofynion mynediad ar gyfer prentisiaethau lefel 2 a 3. Mae angen amrywiaeth o nodweddion a phriodoleddau personol ar ymarferwyr yn y sectorau hyn hefyd.
Dylid asesu pob dysgwr cyn dechrau ei raglen er mwyn canfod:
- unrhyw anghenion hyfforddi penodol
- pa gymorth ac arweiniad y gallai fod eu hangen arnynt wrth weithio tuag at eu cymhwyster
- y math a'r lefel briodol o gymhwyster.
Mae'n debygol iawn y gofynnir i ddysgwyr ymgymryd â Phrofion Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) ar gyfer Cymraeg neu Saesneg, a Chymhwyso Rhif. Nid yw'r rhain wedi'u bwriadu fel rhwystr i fynediad, ond yn hytrach i helpu i ddeall gallu'r dysgwr i gyflawni'r rhaglen. Gallant hefyd helpu i deilwra'r cynllun dysgu unigol i ddiwallu eu hanghenion nhw ac anghenion y cyflogwr, gan ystyried unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chymhwyso rhif sy'n briodol i swyddogaeth eu rôl, os nad ydynt eisoes yn meddu ar y cymwysterau perthnasol.
Mae prosesau ar waith i sicrhau nad yw dysgwyr sydd â gwybodaeth, cymwysterau a/neu brofiad blaenorol perthnasol o dan anfantais o ganlyniad i orfod ailadrodd dysgu. Bydd darparwyr hyfforddiant, cyrff dyfarnu a cholegau yn gallu rhoi cyngor ar y rheolau presennol ar gyfer achredu dysgu blaenorol a chydnabod profiad blaenorol. Gall hyn fod yn arbennig o berthnasol os yw'r dysgwr yn newid meysydd gwasanaeth, megis symud o wasanaethau gofal cymdeithasol i blant i ofal plant. Gan y bydd dysgwyr eisoes yn gweithio yn y sector neu wedi gweithio yn y sector yn ddiweddar, gallant wneud cais i gael cydnabod eu profiad yn ffurfiol gan gorff dyfarnu a bydd hyn yn cyfrif tuag at y cymwysterau yn y llwybr hwn.
Er mwyn helpu dysgwyr i ddatblygu eu gallu i gyfleu a chymhwyso sgiliau rhif mewn modd sy’n adlewyrchu senarios gwaith mewn bywyd go iawn, rydym yn argymell defnyddio modiwlau e-ddysgu Gofal Cymdeithasol Cymru. Maent wedi'u cynllunio'n benodol i adlewyrchu’r mathau o sefyllfaoedd y gall dysgwyr eu hwynebu mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant. Maent yn cyfateb i’r canlyniadau dysgu angenrheidiol ar gyfer cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru, ac yn datblygu sgiliau mewn modd ymarferol. Mae’r modiwlau hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr fagu hyder a chymhwysedd mewn sgiliau hanfodol drwy enghreifftiau perthnasol a phenodol i’r sector sy’n helpu eu dealltwriaeth, eu gallu i roi gwybodaeth ar waith, ac yn eu paratoi ar gyfer asesiad.