- Framework:
- Gweithgynhyrchu Peirianneg
- Lefel:
- 2/3
Bydd prentisiaethau gweithgynhyrchu peirianneg yn darparu gwybodaeth a sgiliau i chi mewn meysydd arbenigol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys gweithrediadau a dulliau peirianneg; a chynnal a chadw cyfarpar a pheiriannau.
Mae cwmnïau gweithgynhyrchu yn gweithredu ar raddfa ddiwydiannol a bach, gan gyflenwi deunyddiau sy’n berthnasol i’w gwaith i ddiwydiannau eraill.
Mae peirianneg yn ymwneud â sicrhau bod popeth yn gweithio'n effeithlon, ac mae'n cynnwys tasgau amrywiol fel gwasanaethu grisiau symudol, gwirio awyrennau'r Awyrlu Brenhinol a chysylltu llinellau ffôn.
Pathway options and levels
Gweithgynhyrchu Peirianneg (Gweithredwr a Lled-grefftus) – Lefel 2
Mae enghreifftiau o swyddi yn cynnwys:
Llwybr 1: Gosodwr Lled-grefftus (Cydosod Awyrennau), Gosodwr Cydrannau Awyrofod, Peiriannydd Cynnal a Chadw Cyfarpar Goroesi, a Gosodwr Cynnal a Chadw Awyrennau.
Llwybr 2: Gwneuthurwr Cyfarpar Morol, Peiriannydd Gosod, Gosodwr Mecanyddol, Adeiladwr Cychod/Saer Llongau, a Gwneuthurwr Hwyliau.
Llwybr 3: Gweithredwr Gosod Peiriannau, Gweithiwr Metel Dalen Lled-grefftus, a Gweithredwr/Gosodwr CNC.
Llwybr 4: Gosodwr Cynnal a Chadw Mecanyddol, Gof Arfau Milwrol a Gosodwr Cynnal a Chadw Morol.
Llwybr 5: Gweithredwr Weldio Cynnal a Chadw, Weldiwr Gosod, Gosodwr Pibellau, Gweithiwr Metel Dalen Lled-grefftus a Weldiwr.
Llwybr 6: Prosesu a Gorffen Deunyddiau – mae enghreifftiau o swyddi yn cynnwys Gwneuthurwr Mowld a Chraidd, Peiriannydd Proses (Castio), Castiwr Tywod, Castiwr Dei ac Arolygydd Castio.
Llwybr 7: Mae enghreifftiau o swyddi yn cynnwys Peirianneg Cynhyrchu, Profion Heb Fod yn Ddinistriol, Cymorth Technegol, Arolygydd Rheoli Ansawdd a Chynorthwyydd Mesureg.
Gweithgynhyrchu Peirianneg (Crefft a Thechnegydd) – Lefel 3
Mae enghreifftiau o swyddi yn cynnwys:
Llwybr 1: Gosodwr Systemau Awyrennau, Gosodwr Peiriannau Aero, Technegydd Datblygu Systemau Awyrennau, Gosodwr Cynnal a Chadw Awyrennau, Technegydd Cyfansawdd a Gosodwr Ffrâm Awyr.
Llwybr 2: Gwneuthurwr Cyfarpar Morol, Peiriannydd Morol, Saer Coed Morol, Technegydd Electroneg, Weldiwr Arbenigol (Llongau tanfor).
Llwybr 3: Peiriannydd Crefftus, Gwneuthurwr Offer, Gefail Metel, Gweithiwr Metel Dalen Crefftus, Gosodwr Crefftus, Gwneuthurwr Cyfansawdd a Gosodwr a Chydosodwr Pibellau
Llwybr 4: Peiriannydd Morol, Trydanwr Morol, Saer Llongau, Peintiwr Morol, Rigiwr/Symudwr Cychod, Saer Coed Dodrefnu.
Llwybr 5: Technegydd Cynnal a Chadw Mecanyddol, Technegydd Cynnal a Chadw Electroneg, Gwasanaethau Lifft, Peiriannau, Technegydd Cynnal a Chadw Systemau.
Llwybr 6: Gweithiwr Metel Dalen, Platiwr/Gwneuthurwr a Weldiwr.
Llwybr 7: Peiriannydd Proses (Castio), Gwneuthurwr Mowld a Chraidd (lled-grefftus), Castiwr Tywod a Chastiwr Dei.
Llwybr 8: Dylunydd Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur, Technegydd Mesur a Rheoli, Arolygydd Rheoli Ansawdd, Peiriannydd Cymorth Technegol ac Arolygydd Mesureg.
Llwybr 9: Trydanwr Diwydiannol, Technegydd Peirianneg Trydanol, Technegydd Electroneg, Technegydd Cydosod Electroneg, Technegydd Gweithgynhyrchu Electroneg.
Llwybr 10: Technegydd Gosod a Chomisiynu (Cyfarpar trwm) a Thechnegydd Gosod a Chomisiynu (Cyfarpar ysgafn).
Llwybr 11: Gwneuthurwr Offer (Gweithgynhyrchu) a Gwneuthurwr Offer (Ymchwil a Datblygu).
Llwybr 12: Technegydd Profion Cerbydau, Technegydd Chwaraeon Moduro, Adeiladwr Cerbydau (cerbydau masnachol a cherbydau cludo teithwyr) a Thechnegydd Datblygu Cerbydau.
Llwybr 13: Peirianneg Gwaith Coed, Gwneud Patrymau a Modelau – yn cefnogi swyddi Gweithiwr Coed Peirianneg, gwneuthurwr Modelau Peirianneg a Choed CNC.
Llwybr 14: Arweinydd Prosiect (Peirianneg), Rheolwr Prosiect (Peirianneg) a Pheiriannydd Cymorth Cynnyrch.
Further information
Duration
Lefel 2: 18 mis
Lefel 3: 42 mis
Progression routes
Lefel 2 Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Addysg Bellach neu Brentisiaeth i uwchraddio cymhwysedd a gwybodaeth i statws cwbl grefftus.
Lefel 3 Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Arweinydd Tîm neu swyddi goruchwylio
- Prentisiaeth Uwch mewn Peirianneg
- Gradd sylfaen neu HNC/HND.
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma NVQ
Lefel 3: Diploma Estynedig/Diploma NVQ
What are the entry requirements for this pathway?
All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);
Lefel 2
Mae fframwaith y Brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd â phum cymhwyster TGAU gradd C (gradd gyfatebol newydd 4) neu gymwysterau uwch gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.
Bydd gan gyflogwyr ddiddordeb mewn ymgeiswyr:
- sydd â phrofiad gwaith neu gyflogaeth flaenorol yn y sector; neu
- sy'n awyddus ac yn frwdfrydig i weithio mewn amgylchedd peirianneg/gweithgynhyrchu; neu
- sy'n barod i ymgymryd â chwrs hyfforddi yn y gweithle a'r tu allan i'r gweithle a defnyddio'r hyn a ddysgir yn y gweithle; neu
- sydd â chymhwyster Bagloriaeth Cymru; neu
- sydd â chymwysterau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth (gradd D i E neu radd 2 cyfwerth newydd/uwch neu gymhwyster uwch); neu
- sydd wedi cwblhau Rhaglen Peirianneg Uwch (rhaglen Llwybrau at Brentisiaeth gynt) mewn disgyblaeth berthnasol; neu
- sy'n hoffi gwaith ymarferol ac eisiau gweithio gyda'u dwylo; neu
- nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol ond eu bod yn gallu dangos, o bosibl drwy bortffolio, bod ganddynt y potensial i gwblhau'r brentisiaeth hon gan eu bod wedi gweithio yn y sector ar Lefel 2 o'r blaen; neu
- sydd wedi cwblhau'r Cymwysterau Sgiliau Hanfodol (ESQ).
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol
Lefel 3

Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol
View full pathway