Mae Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Cerbydau, Cludiant a Logisteg a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
43 credyd yw'r cyfanswm isafswm credydau gofynnol ar gyfer Lefel 2 Warysau a Storio.
Entry requirements
Lefel 2: Warysau a Storio – Gweithiwr mewn Warws
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol, ond mae cyflogwyr yn ceisio denu ymgeiswyr sydd â diddordeb brwd mewn gweithio mewn busnes warysau yn y sector logisteg. Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i weithio shifftiau, gallu gweithio fel rhan o dîm a bod â sgiliau cadw amser da. Mae gan gyflogwyr ddiddordeb hefyd mewn ymgeiswyr sydd â sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol y bydd y Brentisiaeth Sylfaen hon yn adeiladu arnynt.
Bydd ymgeiswyr i'r Brentisiaeth Sylfaen hon yn amrywio o ran oedran a phrofiad. Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddod o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- Gwaith neu brofiad gwaith
- Hyfforddiant a/neu brofiad. Gallai hyn gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud
- Unrhyw un o Sgiliau Hanfodol Cymru neu'r Sgiliau Allweddol Ehangach
- Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y Cymhwyster Prif Ddysgu ar gyfer Busnes Manwerthu sydd â chynnwys logisteg yn rhan ohono
- Cymwysterau galwedigaethol neu academaidd
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Lefel 2: Warysau a Storio – Gweithiwr mewn Warws
Lefel 2: Warysau a Storio – Gweithiwr mewn Warws Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 2 Tystysgrif mewn Warysau a Storio | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
EAL | C00/0280/7 501/1707/5 | 26 | 260 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 2: Warysau a Storio – Gweithiwr mewn Warws | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 1 | 6 |
Application of number | 1 | 6 |
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 2: Warysau a Storio – Gweithiwr mewn Warws | 98 | 223 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
26 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth - Tystysgrif Lefel 2 mewn Warysau a Storio (Cyfun)
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Gweithiwr mewn Warws yw 321.
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Other additional requirements
Dim
Progression
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 2 hon:
Prentisiaethau Sylfaen/Prentisiaethau mewn unrhyw un o'r canlynol:
- Prentisiaeth Sylfaen mewn Arwain Tîm
- Prentisiaeth Gweithrediadau Logisteg
- Prentisiaeth Warysau a Storio
- Prentisiaeth Gyrru Cerbydau Nwyddau
I swydd fel Aelod o Dîm Gweithrediadau Warws neu ar ôl datblygiad a hyfforddiant pellach e.e. rhaglen ddatblygu fewnol/allanol (DPP) wedi'i hachredu/heb ei hachredu i'r swyddi canlynol ar lefel 3:
- Arweinydd Tîm
- Rheolwr Warws
- Rheolwr Cludiant
Ar ôl hyfforddiant a datblygiad pellach i'r rhai sy'n dewis gwneud hynny:
- Gradd sylfaen mewn logisteg, cynllunio cludiant, gweithrediadau logisteg a gweinyddu. Ewch i www.fdf.ac.uk
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Dynion gwyn yn bennaf sydd yng ngweithlu'r sector Logisteg ac, er gwaethaf cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw menywod, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl ag anhawster dysgu neu anabledd yn cael eu denu i'r diwydiant. Mae'r gweithlu presennol yn heneiddio sy’n golygu bod angen mwy o bobl i lenwi ystod o rolau logisteg.
Fodd bynnag, mae'r Diwydiant Warysau yn denu mwy o fenywod gan fod cyfleoedd ar gyfer gwaith rhan-amser a gweithio shifftiau hyblyg.
Mae ymwybyddiaeth o Logisteg fel proffesiwn yn cael ei chodi drwy Gymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru mewn Busnes Manwerthu, sydd â chynnwys logisteg, a hefyd drwy daflenni hyrwyddo sydd wedi'u hanelu at bobl ifanc 14 – 19 oed mewn ysgolion. Mae'r taflenni hyn yn cynnwys "Getting more girls into Logistics and Retail" a fydd yn helpu i hyrwyddo'r amrywiaeth o swyddi mewn logisteg. Mae mentrau eraill sy'n ceisio denu ymgeiswyr o boblogaeth amrywiol a ddatblygwyd gan Skills for Logistics yn cynnwys:
- Gwefan gyrfaoedd Delivering your Future sy'n dangos rolau nad ydynt yn stereoteipiau www.deliveringyourfuture.co.uk
- Made in China - adnodd addysgu am ddim i gefnogi Mathemateg a Menter mewn ysgolion gan ddefnyddio taith chwaraewr MP3 o Tsieina i'r DU. http://www.madeinchinaresources.co.uk/
Ystyrir bod prentisiaethau'n ffordd hanfodol o annog a hwyluso mwy o amrywiaeth o unigolion i mewn i’r diwydiant ac mae cynlluniau gweithredu ar waith i gynyddu nifer y prentisiaethau o leiaf 10% bob blwyddyn.
Mae'r camau i gynyddu’r nifer o bobl sy’n dod i mewn i’r diwydiant a chynyddu amrywiaeth yn y gweithlu Logisteg yn cynnwys:
- amodau mynediad hyblyg i ddenu ystod eang o ymgeiswyr;
- Ymgorffori canllawiau ar asesu cychwynnol i sicrhau nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr i'r fframwaith hwn;
- Cysylltiadau â'r Ganolfan Byd Gwaith, gan hyrwyddo logisteg fel llwybr gyrfa;
- Hyrwyddo cynnwys logisteg yn y cwricwlwm drwy'r Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILTUK);
- Datblygu rhaglen mynediad at gyflogaeth wedi'i hanelu at grwpiau anodd eu cyrraedd;
- Codi proffil Logisteg mewn digwyddiadau gyrfaoedd.
Mae Skills for Logistics yn disgwyl i ddarparwyr a chyflogwyr gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r sector a dyrchafiad o fewn y sector.
Bydd Skills for Logistics yn monitro'r niferoedd sy'n dilyn pob Prentisiaeth, ac yn eu cyflawni, ac yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau i ddilyn prentisiaethau a'u cyflawni fel rhan o'n Strategaeth Cymwysterau Sector.
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Fodd bynnag, mae'n ofynnol cynnal CHC.
Rhaid i bob Prentis Sylfaen dderbyn hyfforddiant sefydlu i'r gweithle ac i'r rhaglen Brentisiaeth. Bydd CHC yn cael ei gynnwys drwy Ddyfarniad FfCCh ar wahân o'r enw Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr yn y Diwydiant Logisteg, a fydd yn sicrhau bod y Prentis yn gwybod ac yn deall pob un o'r naw canlyniad cenedlaethol ar gyfer CHC fel a ganlyn:
- Yr ystod o hawliau a chyfrifoldebau statudol cyflogwyr a gweithwyr o dan gyfraith cyflogaeth a’r ffaith y gall deddfwriaeth arall effeithio ar hawliau cyflogaeth hefyd. Dylai hyn gynnwys hawliau a chyfrifoldebau'r prentis o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, deddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol arall ac iechyd a diogelwch, ynghyd â dyletswyddau cyflogwyr.
- Gweithdrefnau a dogfennau sy'n cydnabod ac yn diogelu ei berthynas â'i gyflogwr, gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth fel rhan o'r brentisiaeth
- Yr ystod o ffynonellau a gwybodaeth a chyngor sydd ar gael iddo ar ei hawliau a'i gyfrifoldebau cyflogaeth, gan gynnwys Mynediad i Waith a Chymorth Dysgu Ychwanegol
- Y cyfraniad mae ei alwedigaeth yn ei wneud yn ei sefydliad ac yn y diwydiant.
- Yn meddu ar farn wybodus am y mathau o lwybrau gyrfa sy'n agored iddo.
- Y mathau o gyrff cynrychiadol a deall eu perthnasedd i'r diwydiant a'r sefydliad a'r prif rolau a chyfrifoldebau.
- Ble a sut i gael gwybodaeth a chyngor am ei ddiwydiant, ei alwedigaeth, ei hyfforddiant a’i yrfa.
- Gallu disgrifio a gweithio o fewn egwyddorion a chodau ymarfer ei sefydliad.
- Gallu cydnabod a llunio barn ar faterion sy'n peri pryder i'r cyhoedd sy'n effeithio ar y sefydliad a'r diwydiant.
Rhaid cyflwyno tystysgrif cyflawniad y Dyfarniad CHC i Skills for Logistics wrth wneud cais am y dystysgrif cwblhau Prentisiaeth.
Responsibilities
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant / Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
Atodiad 1 Lefel 2: - Warysau a Storio - Gweithredydd Warws
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r Dystysgrif mewn Warysau a Storio ar Lefel 2 yn gymhwyster cyfun sy'n ymgorffori cymhwysedd a gwybodaeth, sy'n cael eu hasesu ar wahân.
RHAID i ddarparwyr sicrhau bod Prentisiaid Sylfaen yn cyflawni o leiaf 10 credyd cymhwysedd ac o leiaf 10 credyd gwybodaeth wrth ddewis unedau i fodloni gofynion SASW.
Mae'r Llwybr yn dod i gyfanswm o 43 credyd sy'n cynnwys cymhwysedd, gwybodaeth, y cymhwyster CHC a dau Sgil Hanfodol Cymru, sef Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Mae'r Llwybr hwn yn fwy na'r isafswm o 37 credyd a bennir gan SASW.
Cyfanswm y Credydau ar gyfer y cymhwyster cyfun hwn yw 26 credyd, sy'n cynnwys:
Unedau Gorfodol
- Iechyd, Diogelwch a Diogeledd yn y gwaith (1 credyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Datblygu perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
Unedau Dewisol Grŵp 1 (2 uned o'r grŵp hwn)
- Prosesu archebion ar gyfer cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cydosod archebion i'w hanfon mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Dewis nwyddau mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Rhoi nwyddau mewn storfeydd mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Lapio a phecynnu nwyddau mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Unedau Dewisol Grŵp 2 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Cadw ardaloedd gwaith yn lân mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cynnal safonau hylendid wrth drin a storio nwyddau mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Sicrhau glendid offer mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Unedau Dewisol Grŵp 3 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Defnyddio offer i symud nwyddau mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Symud a/neu drafod nwyddau mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Defnyddio llwythwr ochr fforch godi mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd) Defnyddio craen cryno mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd)
- Defnyddio wagen fforch godi ddiwydiannol mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd) Defnyddio teclyn codi mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd)
Unedau Dewisol Grŵp 4 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Gwirio lefelau stoc a chofnodion stoc (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cadw stoc ar y lefelau gofynnol mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Unedau Dewisol Grŵp 5 (Gwerth gofynnol o 6 chredyd o'r grŵp hwn)
- Defnyddio offer i gyflawni gofynion gwaith mewn gweithrediadau logisteg (4 credyd am gymhwysedd a 4 am wybodaeth)
- Cynnal diogelwch nwyddau a deunyddiau peryglus mewn gweithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
- Derbyn nwyddau mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth) Prosesu nwyddau a ddychwelir mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Trefnu nwyddau a deunyddiau i'w hailgylchu neu eu gwaredu mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Goruchwylio derbyn, storio neu anfon nwyddau (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth) Egwyddorion diogelwch bwyd mewn logisteg (1 credyd am wybodaeth)