Mae’r Grŵp Llywio arbenigol a hwyluswyd gan CITB wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn Mae’r Llwybr Prentisiaethau Adeiladu hyn yn y sector Adeiladu wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru ac maent yn gymwys i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y rhaglen dysgu’n cynnwys pedair elfen orfodol:
- Cymwysterau
- Sgiliau Hanfodol.
- Hyfforddiant ar/oddi ar swydd
- Gofynion ychwanegol Cyflogwr? (sgiliau digidol)
Cyfanswm yr isafswm o werth credyd sydd ei angen ar gyfer Llwybr Lefel 3 (Leinin Sych) yw 78 credyd.
Entry requirements
rhestr a - Mae’r brentisiaeth hon yn addas i ddysgwyr sy’n 1:
- 16 oed ac yn hŷn sy’n gweithio yn y grefft ar hyn o bryd ac sydd un ai:
- Wedi cyflawni y Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
neu
neu
- Gyda Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 neu 3 yn y grefft y mae'r brentisiaeth i'w dilyn ynddi.
neu
- Gyda 3 blynedd neu fwy o gyflogaeth ddilys yn y grefft y mae'r brentisiaeth i'w chyflawni ynddi 3.
Rhestr b, ac un neu fwy o'r canlynol 4:
- Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
- Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
- Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Grefft Adeiladu.
- Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar Lefel 1.
- TGAU gradd A*-D yn unrhyw ddau o’r canlynol: - pwnc cyfathrebu, mathemateg, ac un ai gwyddoniaeth neu bwnc technegol
- Gradd A*- D yn TGAU Amgylchedd Adeiledig CBAC.
- Lefel 2 Teilyngdod Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 mewn Dylunio'r Amgylchedd Adeiledig.
- A/AS Amgylchedd Adeiledig, GCE CBAC.
- Teilyngdod, Pearson BTEC Lefel 1/Lefel 2 Dyfarniad Technegol mewn Adeiladu a’r Amgylched Adeiledig
1 Dim ond un o'r gofynion mynediad o restr b y bydd yn rhaid i unigolion uniongyrchol ar y llwybr Adeiladu Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu fod wedi'i gyflawni.
2 O 2023 ymlaen ni fydd y Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu yn gymwys fel opsiwn gofyniad mynediad.
3 Bydd angen cadarnhad gan y cyflogwr bod gan y dysgwr y profiad o gyflogaeth crefft angenrheidiol.
4 Gall fod gan ddysgwyr profiadol fel y'u diffinnir yn rhestr a hefyd rinweddau neu gyraeddiadau y tu hwnt i gyrhaeddiad cymhwyster y dylid eu hystyried. Ni fydd yn rhaid iddynt ennill un o'r cymwysterau yn rhestr b
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Lefel 3 Gweithrediadau Sifil – Gwaith Tir
Lefel 3 Gweithrediadau Sifil – Gwaith Tir Cymwysterau
Lefel 2 Llwybr Adeiladu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City & Guilds | C00/4414/0 | 41 | 414 | Cyfun | Cymraeg-Saesneg |
Lle mae dysgwyr wedi cyflawni un o'r gofynion mynediad yn rhestr a, ni fydd angen iddynt ymgymryd â'r Cymhwyster Craidd Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
Bydd angen i bob dysgwr fod wedi cyflawni o leiaf un o'r gofynion o restr b ar gyfer mynediad.
Lefel 3 Llwybr Adeiladu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City & Guilds | C00/4327/2 | 93 | 927 | Cymhwysedd | Cymraeg-Saesneg |
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 3 Gweithrediadau Sifil – Gwaith Tir | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg-Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 3 Gweithrediadau Sifil – Gwaith Tir | 2786 | 807 |
Rhagwelir y bydd hyd y Brentisiaeth Gweithrediadau Sifil – Gwaith Tir yn y Diwydiant Adeiladu rhwng 2 flynedd (Ôl Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu) a 3 blynedd (Yn cynnwys y cymhwyster Craidd Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladd).
Canllaw yn unig yw’r ffigyrau uchod a gallant fod yn wahanol ar gyfer gweithwyr profiadol/hŷn yn dibynnu ar faint/natur y profiad perthnasol, ac wedi’u lleihau’n sylweddol ar gyfer y rheini sy’n symud ymlaen o gymwysterau cysylltiedig fel y Cymhwyster Dilyniant.
Other additional requirements
Manylion Gofynion Ychwanegol (Isafswm Credyd ac Oriau)
Gofynion ychwanegol Cyflogwr
Lefel 3: Gweithrediadau Sifil – Gwaith Tir |
Lefel |
Isafswm Gwerth Credyd |
Sgiliau Digidol ar gyfer Adeiladu |
2 |
3 |
- Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddatblygu a bydd yn ofynnol pan gaiff ei gymeradwyo gan y Rheoleiddiwr yng Nghymru.
Job roles
Mae'r Fframwaith hwn yn nodi'r safonau a'r meini prawf ar gyfer y Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithrediadau Sifil – Gwaith Tir. Bydd cyflawni holl gydrannau'r Fframwaith hwn yn llwyddiannus yn arwain at ddyfarnu cymhwyster Lefel 3 a chydnabyddiaeth fel Gweithiwr Tir - Gweithrediadau Sifil yn y sector. Bydd Dyfarniad y Cymhwyster hwn yn galluogi'r dysgwr i wneud cais am Gerdyn CSCS Gweithiwr Medrus.
Mae gan y fframwaith hwn un llwybr:
- Gweithrediadau Sifil – Gwaith Tir
Gweithio ar safle adeiladu neu mewn man cyhoeddus, yn unol â manylebau a roddir, gosod draeniau, gosod gwaith haearn ar y stryd, gosod palmentydd, a chloddio tyllau a ffosydd.
Cynlluniwyd y Brentisiaeth hon i roi cyfle i unigolion ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer Gweithrediadau Sifil – Gwaith Tir mewn adeiladau masnachol, diwydiannol a phreswyl.
Yn ogystal, dylai Prentis hefyd allu:
- Rhoi barn a chefnogaeth broffesiynol
- Herio ymddygiadau / gweithgareddau peryglus
- Dangos arloesedd drwy ddynodi meysydd ar gyfer gwella ac awgrymu a/neu ddatblygu datrysiadau arloesol.
- Dynodi risgiau i’w hun ac eraill a’u rheoli
- Cadw’r ardal waith yn lân a thaclus
- Rheoli amser yn effeithiol
- Meddwl yn rhesymegol ac yn unol â gofynion y sefyllfa gan ddefnyddio rhesymu clir a dilys wrth wneud penderfyniadau i ymgymryd â'r cyfarwyddiadau gwaith
- Gweithio’n effeithiol ar ei ben ei hun ac mewn tîm
- Gweithio’n unol â gofynion ansawdd
- Gweithio’n gynhyrchiol
- Gweithio’n ddiogel a sicrhau diogelwch eraill
- Gweithio o fewn lefel ei gymhwysedd a gwybod pa bryd i gael cyngor gan eraill
- Deall Gofynion techneolegol a newidiadau
- Deall Rheoliadau a Gofynion Statudol ac Anstatudol
- Deall Arferion gwaith yn unol â gofynion Iechyd a Diogelwch
- Deall Gweithdrefnau arolygu, profi a chomisiynu
- Cymhwyso deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol yn y sector Adeiladu.
- Creu a meithrin perthnasoedd yn y diwydiant Adeiladu
Drwy gydol y broses Brentisiaeth dylai’r Prentis, o leiaf, ddatblygu ac arddangos yr ymddygiadau sy’n dangos ei fod yn gyson:
- Pendant
- Hyderus
- Wedi gwisgo’n addas
- Empathi
- Teg
- Gonest
- Rhagweithiol
- Cynhyrchiol
- Prydlon
- Dibynadwy
- Parchus (o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant)
Progression
Nod y Fframwaith hwn yw sicrhau bod y dysgwyr llwyddiannus yn ennill:
- Y Sgiliau a'r Wybodaeth sydd eu hangen ar y diwydiant i gyflawni cymhwysedd
- Sgiliau cysylltiedig â swydd a ddefnyddir yn yr amgylchedd gwaith
- Gwybodaeth a sgiliau sy'n cyd-fynd ag arferion gwaith, rheoliadau statudol ac anstatudol perthnasol
- Sgiliau Craidd a Throsglwyddadwy
- Y sail i ddatblygiad gyrfa
Pan fydd prentisiaid wedi cwblhau’r Fframwaith hwn, mae ganddynt nifer o opsiynau i ddatblygu, gan gynnwys:
- Galwedigaethol: datblygu eich hun yn y rôl a cheisio dyrchafiad
- Academaidd: defnyddio’r cymwysterau a enillwyd fel sail ar gyfer astudiaeth bellach a mynediad i Addysg Bellach neu Uwch fel y bo’n briodol
- Cyfuniad o opsiynau Galwedigaethol ac Academaidd: ymgymryd ag astudiaeth ran-amser wrth barhau i weithio. Gall hyn fod yn rhan o Brentisiaeth Lefel Uwch (HLA) strwythuredig os yw hyn yn berthnasol/ar gael.
Yn fwy penodol, ar ôl cwblhau’r Brentisiaeth hon mewn Gweithrediadau Sifil – Gwaith Tir yn llwyddiannus, bydd prentis yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth, a bydd ganddo’r cymwysterau i:
- Wneud cais am gerdyn Gweithiwr Medrus CSCS trwy CSCS yn www.cscs.uk.com/
- Datblygu ar Brentisiaeth Lefel Uwch Berthnasol
- Datblygu yn ei yrfa gyda hyfforddiant pellach ar gyfer swydd megis, Goruchwyliwr/Rheolwr Safle/Gweithdy ayb
Gellir gweld arweiniad pellach o ran gyrfa ar:
https://gyrfacymru.llyw.cymru/gwybodaeth-am-swyddi/gweithiwr-tir
Rhagwelir y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn symud ymlaen yn y diwydiant Adeiladu mewn swyddi cymwys fel swyddi cyflogedig neu hunangyflogedig, goruchwylwyr, rheolwyr.
Disgwylir dysgu parhaus gan yr ymgeiswyr cymwys er mwyn cynnal ymwybyddiaeth o'r rheoliadau sy'n effeithio ar y diwydiant a newidiadau/datblygiadau technolegol.
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a dileu rhwystrau i fynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a’r bobl hynny nad ydynt yn gwneud hynny fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Rhaid i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Er nad yw'r diwydiant adeiladu, yn hanesyddol, wedi bod yn ddewis gyrfa draddodiadol i fenywod. Mae hyn bellach wedi newid, ac mae menywod yn cael eu cefnogi’n well ac yn gweithio’n llwyddiannus yn y diwydiant.
Mae'r cyrff sectoraidd yn gweithio ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i nodi a mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Cefnogir y gwaith hwn gan lywodraeth leol/cenedlaethol, cyrff/asiantaethau anllywodraethol ac Undebau perthnasol.
Mae’n ofynnol bod recriwtio prentisiaid yn agored ac yn deg i bawb sy’n bodloni’r meini prawf dethol, waeth beth fo’u rhyw, tarddiad ethnig, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd.
Rhaid i bob partner sy’n ymwneud â darparu’r brentisiaeth a chyflogwyr fod yn ymrwymedig i bolisi cyfle cyfartal a rhaid iddynt fod â pholisi a gweithdrefn cyfle cyfartal ffurfiol yn eu lle.
Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu dangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddethol a chyflogi. Rhaid i bob gweithgaredd hyrwyddo, dethol a hyfforddi gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol megis Deddf Cydraddoldeb 2010.
Bydd darparwyr yn monitro arferion a gweithdrefnau cyfle cyfartal yn eu sefydliad eu hunain ac yn cymryd camau cadarnhaol pan fo angen Argymhellir hefyd bod cyflogwyr/darparwyr yn cynnal cyfweliad ymadael os yw’r prentis yn gadael y rhaglen cyn ei chwblhau.
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (ERR) bellach yn orfodol. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp blwyddyn 16 -18) yn cael rhaglen sefydlu cwmni.
Responsibilities
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol ag Arweiniad Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Gellir cael mwy o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@gov.wales