Skip to main content

Pathway

Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau

Mae Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Cerbydau, Cludiant a Logisteg a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

Yr isafswm credydau gofynnol sydd eu hangen ar gyfer: 

Lefel 2: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn - 174 credyd.

Lefel 2: Cerbyd Trwm - 199 credyd.

Lefel 2: Beic Modur - 185 credyd.

Lefel 2: Ôl-gerbyd Cerbydau Trwm - 156 credyd.

Yr isafswm credydau gofynnol sydd eu hangen ar gyfer:

Lefel 3: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn - 160 credyd.

Lefel 3: Cerbyd Trwm - 201 credyd.

Lefel 3: Beic Modur - 201 credyd

Entry requirements

Lefel 2: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn/Cerbyd Trwm/Beic Modur/Ôl-gerbyd Cerbydau Trwm

I gael mynediad at y Brentisiaeth Lefel 2, argymhellir bod gan yr ymgeisydd radd G neu uwch mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth TGAU (neu gymwysterau cyfatebol).

Mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr ddiddordeb mawr mewn ymgeiswyr sy'n gallu dangos:

  • Diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant Manwerthu Modurol;
  • Y gallu i weithio’n hyderus a pharodrwydd i weithio'n galed;
  • Sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol da y bydd y Brentisiaeth hon yn adeiladu arnynt;
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid i’r busnes bob amser;
  • awydd i weithio gyda'u cyflogwr i gyrraedd targedau;
  • awydd i gamu ymlaen trwy hunan-ddatblygiad.

Bydd y Brentisiaeth hon yn gofyn am fedrusrwydd llaw da, gall gynnwys trin a thrafod offer trwm a threulio cyfnodau hir yn sefyll. I'r rhai sy'n gweithio gyda systemau trydanol, bydd angen prawf dallineb lliw.

 Bydd gan ymgeiswyr bob math o wahanol brofiadau, cyflawniadau a/neu gymwysterau. Mae enghreifftiau o amodau mynediad y gall cyflogwyr edrych amdanynt yn cynnwys:

  • Gwaith neu brofiad gwaith; neu
  • Hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud; neu
  • Unrhyw un o Sgiliau Hanfodol Cymru neu'r Sgiliau Allweddol Ehangach; neu
  • Llwybrau at Brentisiaethau mewn Cerbydau neu Beirianneg;
  • Cymhwyster Prif Ddysgu fel rhan o Fagloriaeth Cymru mewn Busnes Manwerthu (sydd â chynnwys manwerthu cerbydau) neu Beirianneg; neu
  • Bagloriaeth Cymru – unrhyw lefel; neu
  • Ystod o gymwysterau galwedigaethol neu academaidd.

Lefel 3: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn/Cerbyd Trwm/Beic Modur

I gael mynediad at y Brentisiaeth Lefel 3, argymhellir bod gan yr ymgeisydd radd C neu uwch mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth TGAU (neu gymwysterau cyfatebol).  Fodd bynnag, nid yw'r argymhellion hyn yn hanfodol.

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 2: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn

Lefel 2: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 2 Diploma mewn Cymhwysedd Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
IMI C00/4675/6 96 964 Gwybodaeth Saesneg yn unig
City & Guilds C00/4518/6 610/0068/5 98 980 Gwybodaeth Saesneg yn unig
Lefel 2 Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
IMI C00/4676/0 78 780 Cyfun Saesneg yn unig
City & Guilds C00/4517/6 610/0065/2 78 780 Cyfun Saesneg yn unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 2: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn Lefel Minimum Credit Value
Communication 1 6
Application of number 1 6
Digital literacy 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 2: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn 815 640
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Cyfanswm y credydau gofynnol: Cymhwysedd: 96 credyd a Gwybodaeth: 78 credyd:

Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Cerbyd Ysgafn yw 1590.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 2: Cerbyd Trwm

Lefel 2: Cerbyd Trwm Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 2 Diploma mewn Gallu Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Trwm
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
IMI C00/0275/2 500/9813/5 101 1010 Gwybodaeth Saesneg yn unig
City & Guilds C00/0232/1 501/0745/8 101 1010 Gwybodaeth Saesneg yn unig
Lefel 2 Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Trwm
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
IMI C00/0274/2 500/9873/1 78 780 Cyfun Saesneg yn unig
City & Guilds C00/0204/0 500/9982/6 78 780 Cyfun Saesneg yn unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 2: Cerbyd Trwm Lefel Minimum Credit Value
Communication 1 6
Application of number 1 6
Digital literacy 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 2: Cerbyd Trwm 855 983
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Cyfanswm isafswm credydau: 199 credyd, yn cynnwys:  Cymhwysedd: 101 credyd a Gwybodaeth: 78 credyd:

Cyfanswm yr oriau hyfforddi sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Cerbyd Trwm yw 1838.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 2: Beic Modur

Lefel 2: Beic Modur Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 2 Diploma mewn Cymhwysedd Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Beic Modur
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
City & Guilds C00/0205/0 500/9990/5 95 950 Gwybodaeth Saesneg yn unig
Lefel 2 Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Beiciau Modur
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
IMI C00/0272/9 500/9680/1 70 700 Cyfun Saesneg yn unig
City & Guilds C00/0221/3 501/0288/6 70 700 Cyfun Saesneg yn unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 2: Beic Modur Lefel Minimum Credit Value
Communication 1 6
Application of number 1 6
Digital literacy 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 2: Beic Modur 810 933
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Cyfanswm y credydau gofynnol: 185 credyd sy’n cynnwys:  Cymhwysedd: 95 credyd a Gwybodaeth: 70 credyd:

Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Beic Modur yw 1743.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 2: Ôl-gerbyd Cerbydau Trwm

Lefel 2: Ôl-gerbyd Cerbydau Trwm Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 2: Ôl-gerbyd Cerbydau Trwm Lefel Minimum Credit Value
Communication 1 6
Application of number 1 6
Digital literacy 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 2: Ôl-gerbyd Cerbydau Trwm 652 825
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Cyfanswm y credydau gofynnol: 156 credyd sy’n cynnwys: Cymhwysedd: 77 credyd a Gwybodaeth: 59 credyd:

Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Ôl-gerbyd Cerbydau Trwm yw 1477.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn

Lefel 3: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 3 Diploma mewn Cymhwysedd Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbyd Ysgafn
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
IMI C00/4675/9 90 980 Gwybodaeth Saesneg yn unig
City& Guilds C00/4588/1 610/0069/6 87 870 Gwybodaeth Saesneg yn unig
Lefel 3 Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbyd Ysgafn
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
IMI C00/4676/1 77 765 Cyfun Saesneg yn unig
City & Guilds C00/4588/0 610/0066/3 73 730 Cyfun Saesneg yn unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn 748 613
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Cyfanswm y credydau gofynnol: Cymhwysedd: 87 credyd a Gwybodaeth: 73 credyd

Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Cerbyd Ysgafn yw 1541.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Cerbyd Trwm

Lefel 3: Cerbyd Trwm Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 3 Diploma mewn Gallu Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Trwm
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
IMI C00/0349/0 600/1691/7 102 1020 Gwybodaeth Saesneg yn unig
City & Guilds C00/0205/1 500/9984/X 102 1020 Gwybodaeth Saesneg yn unig
Lefel 3 Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Trwm
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
IMI C00/0274/0 500/9812/3 79 790 Cyfun Saesneg yn unig
City & Guilds C00/0204/1 500/9983/8 79 790 Cyfun Saesneg yn unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Cerbyd Trwm Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Cerbyd Trwm 865 1008
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Cyfanswm y credydau gofynnol: 201 credyd, yn cynnwys: Cymhwysedd: 102 credyd a Gwybodaeth: 79 credyd

Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Cerbyd Trwm yw 1873.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Beic Modur

Lefel 3: Beic Modur Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 3 Diploma mewn Cymhwysedd Cynnal a Chadw a Thrwsio Beiciau Modur
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
City & Guilds C00/0984/5 501/0023/3 102 1020 Gwybodaeth Saesneg yn unig
Lefel 3 Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Beiciau Modur
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
IMI C00/0180/5 500/9684/9 79 790 Cyfun Saesneg yn unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Beic Modur Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Beic Modur 861 1003
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Cyfanswm y credydau gofynnol: 201 credyd, yn cynnwys: Cymhwysedd: 102 credyd a Gwybodaeth: 79 credyd:

Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Beic Modur yw 1864.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Bydd angen medrusrwydd corfforol da ar bob llwybr; a bydd angen trafod offer trwm a threulio cyfnodau hir yn sefyll. I'r rhai sy'n gweithio gyda systemau trydanol, bydd angen prawf dallineb lliw

Job roles

Fersiwn ddiweddaraf y rolau swydd a'r swydd-ddisgrifiadau ar gyfer y Llwybr hwn

Lefel 2:  Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn / Cerbyd Trwm / Beic Modur

/ Ôl-gerbyd Cerbyd Trwm

Teitl Swydd

Rôl swydd

Technegydd Gwasanaethu Cerbyd Ysgafn

Cwblhau prosesau cynnal a chadw ac archwiliadau rheolaidd ar gerbydau ysgafn gan gynnwys gwasanaethu, atgyweirio rhannau a rhoi rhannau newydd yn lle rhai sydd â nam arnynt a chadw cofnodion cynnal a chadw.

Technegydd Gwasanaethu Cerbyd Trwm

 

Cwblhau prosesau cynnal a chadw ac archwiliadau rheolaidd ar gerbydau trwm gan gynnwys gwasanaethu, atgyweirio rhannau a rhoi rhannau newydd yn lle rhai sydd â nam arnynt a chadw cofnodion cynnal a chadw.

Technegydd Gwasanaethu Beic Modur

Cwblhau prosesau cynnal a chadw ac archwiliadau rheolaidd ar feiciau modur gan gynnwys gwasanaethu, atgyweirio rhannau a rhoi rhannau newydd yn lle rhai sydd â nam arnynt a chadw cofnodion cynnal a chadw.

Technegydd Gwasanaethu Ôl-gerbyd Cerbyd Trwm

 

Cwblhau prosesau cynnal a chadw ac archwiliadau rheolaidd ar ôl-gerbydau cerbydau trwm gan gynnwys gwasanaethu, atgyweirio rhannau a rhoi rhannau newydd yn lle rhai sydd â nam arnynt a chadw cofnodion cynnal a chadw.

 

Lefel 3: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn / Cerbyd Trwm / Beic Modur

Teitl Swydd

Rôl swydd

Technegydd Diagnosteg Cerbyd Ysgafn

Cwblhau gwasanaeth diagnostig ar gerbydau ysgafn, atgyweirio, cynnal a chadw ac archwilio, rhoi rhannau newydd yn lle’r rhai sydd â nam arnynt a chadw cofnodion cynnal a chadw.

Technegydd Diagnosteg Cerbyd Trwm

 

Cwblhau gwasanaeth diagnostig ar gerbydau trwm, atgyweirio, cynnal a chadw ac archwilio, rhoi rhannau newydd yn lle’r rhai sydd â nam arnynt a chadw cofnodion cynnal a chadw.

Technegydd Diagnosteg Beic Modur

 

Cwblhau gwasanaeth diagnostig ar feiciau modur, atgyweirio, cynnal a chadw ac archwilio, rhoi rhannau newydd yn lle’r rhai sydd â nam arnynt a chadw cofnodion cynnal a chadw.

 

 

Progression

Lefel 2

Dilyniant i'r Brentisiaeth Lefel 2 – Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn / Cerbyd Trwm / Beic Modur / Ôl-gerbyd Cerbyd Trwm

Gallai dilyniant i’r Brentisiaeth Lefel 2 gynnwys cymwysterau TGAU, rhaglenni Cysylltiadau Ysgolion amrywiol, ystod o gymwysterau Modurol Lefel 1 neu Lefel 2 neu brofiad gwaith yn y sector Modurol.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 2 – Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn / Cerbyd Trwm / Beic Modur / Ôl-gerbyd Cerbyd Trwm

Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Lefel 2, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu gweithio fel Technegydd Gwasanaethu Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn / Cerbydau Trwm / Beiciau Modur / Ôl-gerbyd Cerbydau Trwm. Gallai llwybrau dilyniant pellach gynnwys ymgymryd â’r Brentisiaeth Lefel 3. Gall unigolion ddewis ymgymryd â chymwysterau Lefel 3 eraill mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio.

Mae rhagor o wybodaeth ar yrfaoedd a dilyniant hefyd ar gael yma:

https://www.autocity.org.uk

Lefel 3

Llwybrau Dilyniant i mewn i Lefel 3 Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn / Cerbyd Trwm / Beic Modur

Gallai dilyniant i mewn i’r Brentisiaeth Lefel 3 fod yn uniongyrchol o’r Brentisiaeth Lefel 2 neu o gymwysterau galwedigaethol eraill perthnasol. Neu, gallai unigolion sy’n ymgymryd â’r Brentisiaeth Lefel 3 fod â phrofiad o weithio mewn rôl Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Lefel 2.

Dilyniant o Lefel 3 Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbyd Ysgafn / Cerbyd Trwm / Beic Modur

Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Lefel 3, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu gweithio fel Technegydd Diagnosteg Cerbydau Ysgafn / Cerbydau Trwm / Beiciau Modur. Mae llwybrau dilyniant pellach yn cynnwys rolau fel Prif Dechnegydd neu swyddi goruchwylio/rheoli. Gall unigolion ddewis gwneud cymwysterau uwch hefyd yn cynnwys cymwysterau Lefel 4 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio, gradd sylfaen mewn Cerbydau Modur neu Beirianneg, neu weithio tuag at achrediad fel achrediad IMI er enghraifft. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma: https://tide.theimi.org.uk/learn/accreditation

Mae rhagor o wybodaeth ar yrfaoedd a dilyniant hefyd ar gael yma:

https://www.autocity.org.uk

 

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Dangosodd proffil o'r Diwydiant Manwerthu Modurol yng Nghymru yn 2020 y canlynol:

  • Gwryw: 80%
  • Benyw: 20%
  • 55+ oed: 18%

Mae'r llwybr Prentisiaeth wedi bod yn boblogaidd yn y Diwydiant Manwerthu Cerbydau ers amryw o flynyddoedd, yn enwedig ar yr ochr dechnegol, ond rydym yn gwybod bod recriwtio yn dal i beri anawsterau. Yn ogystal, o'r data sydd gennym, rydym yn gwybod hefyd nad yw menywod wedi'u cynrychioli'n ddigonol yn y diwydiant. Mae'n ymddangos bod yr anawsterau a'r ffaith nad yw menywod wedi'u cynrychioli'n ddigonol yn deillio o broblemau delwedd y diwydiant, ynghyd ag amodau cyflog a’r ffaith bod pobl yn tybio bod diffyg rhagolygon gyrfa yn y sector. Er mwyn helpu i wrthwneud rhai o'r materion hyn a helpu i ddenu pobl i'r diwydiant, mae gan yr IMI wefan gyrfaoedd benodol ar gael: www.autocity.org.uk. Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am 150+ o rolau swyddi, ynghyd â fideos a theithiau Realiti Rhithwir 360 gradd o weithleoedd, pecynnau cymorth profiad gwaith a phecynnau sgiliau cyflogadwyedd.  Mae'r cyfan ar gael i’w lawrlwytho am ddim ac mae adrannau i archwilio rolau swyddi, ynghyd ag adnoddau penodol megis gwybodaeth am y farchnad lafur y gall Cynghorwyr Gyrfaoedd, Arweinwyr Gyrfaoedd ac Athrawon eu defnyddio hefyd.

Gan obeithio cynyddu amrywiaeth y gweithlu modurol, mae'r IMI yn mynd ati ar hyn o bryd i gynnal rhaglen waith o'r enw UK Automotive Sector: Diversity Task Force. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector modurol. Adeg cychwyn y prosiect hwn, ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael yn gyhoeddus am y niferoedd o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a oedd yn gweithio yn y sector modurol yng Nghymru neu'r DU. Felly, ysgogodd hyn gais yr IMI i'r ONS ar gyfer achrediad arbennig i gael mynediad at setiau data llywodraeth ar y farchnad lafur ar lefel micro. Mae'r IMI yn defnyddio'r data hwn i sefydlu llinell sylfaen er mwyn profi'r rhagdybiaeth nad yw rhai grwpiau wedi'u cynrychioli'n ddigonol yn sector modurol y DU. Bydd y data llawn ar gael i'r cyhoedd unwaith y bydd yr adroddiad wedi'i gyhoeddi.

Cydnabyddir yn eang fod gweithle amrywiol yn darparu profiad gwell i gwsmeriaid sydd, yn ei dro, yn darparu proffidioldeb gwell. Mae'n dod yn amgylchedd gwaith mwy deniadol a chynhwysol hefyd, sy'n apelio at sbectrwm ehangach o'r boblogaeth. Deellir nad oes digon o amrywiaeth yn y sector modurol ac, o ganlyniad, mae'n recriwtio o gronfa dalent sy'n crebachu drwy'r amser. Rhaid i hynny newid os yw'r sector yn mynd i fod yn addas i'r diben ar gyfer y chwyldro technolegol newydd sy'n esblygu'n gyflym, o gerbydau cysylltiedig ac awtonomaidd i gerbydau trydan, hydrogen a ffynonellau tanwydd glân eraill.

Mae gan y rhaglen waith dri nod allweddol:

  • Mae am ddenu pobl o'r gymuned Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i'r sector.
  • Helpu'r sector modurol i ddod yn weithle sy'n derbyn ac yn annog y rhai sy'n wynebu anableddau corfforol a niwro.
  • Mynd i'r afael â diffyg amrywiaeth o ran rhywedd yn y sector.

 Nod cyffredinol y rhaglen waith, felly, yw canfod sut y gallwn ddod yn sector a fydd yn apelio at weithlu mwy amrywiol a meithrin y gweithle hwnnw.

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen UK Automotive Sector: Diversity Task Force, gan gynnwys ei adroddiad interim, ewch i dudalen we'r rhaglen. https://tide.theimi.org.uk/about-imi/diversity-task-force

 

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni

Responsibilities

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y llwybr hwn yn cael eu cyflawni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

 


Document revisions

19 Tachwedd 2021