- Framework:
- Prentisiaeth Uwch mewn Gwyddor Bywyd a Diwydiannau Gwyddoniaeth Cysylltiedig
- Lefel:
Mae'r rhaglen Prentisiaeth Uwch hon wedi'i chynllunio ar gyfer newydd-ddyfodiaid i swyddi sy'n defnyddio gwyddorau bywyd, gwyddoniaeth gemegol, gwyddor bwyd, a datblygu prosesau. Hefyd, mae'n darparu llwybrau camu ymlaen ac ailsgilio ar gyfer gweithwyr sydd eisoes mewn swyddi labordy, gwyddonol a thechnegol.
Gallwch weithio mewn pedwar maes penodol o wyddoniaeth a thechnoleg mewn diwydiannau amrywiol:
- Gwyddor Bywyd
- Gwyddoniaeth Gemegol
- Gwyddor Bwyd
- Datblygu Prosesau
Bydd natur y swyddi labordy, gwyddonol a thechnegol yn amrywio yn ôl anghenion y cyflogwr, ond gallech weithio mewn meysydd fel cynhyrchu, ymchwil a datblygu, a dadansoddi gwyddonol ym meysydd gweithgynhyrchu, iechyd, amgylcheddol, gwyddoniaeth fforensig a gwasanaethau contract.
Mae'r brentisiaeth yn cynnwys cymwysterau a phrofiad diwydiannol mewn 4 llwybr a fydd yn darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddod yn gymwys yn y swydd o’ch dewis.
Mae'r brentisiaeth yn cynnig cyfle i ennill statws proffesiynol fel Technegydd Gwyddoniaeth Cofrestredig neu Dechnegydd Peirianneg.
Dylech fod yn ymwybodol o'r amodau gwaith amrywiol a allai gynnwys;
- Gweithio gyda chemegau peryglus iawn
- Dod i gysylltiad â bioberyglon
- Gweithio gyda'r cyhoedd
- Gweithio gyda nifer o adrannau gwahanol
- Gweithio fel rhan o dîm neu weithio heb oruchwyliaeth mewn amgylchedd diogelwch uchel
- Gwisgo cyfarpar diogelu personol.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Prentisiaeth Uwch mewn Gwyddor Bywyd a Diwydiannau Gwyddoniaeth Cysylltiedig - Lefel 4
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Technegydd Gwyddor Bywyd
Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Technegydd Gwyddoniaeth Gemegol
Llwybr 3: Addas ar gyfer swydd Technegydd Gwyddor Bwyd
Llwybr 4: Addas ar gyfer swydd Technegydd Proses
Mwy o wybodaeth
Hyd
24 -36 mis
Llwybrau dilyniant
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Prentisiaeth Uwch ar gyfer Gweithwyr Gwyddorau Bywyd a Gwyddoniaeth Gemegol Broffesiynol ar lefel 5.
- Graddau Israddedig mewn Gwyddoniaeth Gemegol neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
- Diplomâu Gwyddoniaeth neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
- Camu ymlaen i radd anrhydedd drwy astudio'n rhan-amser ac ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus gan gynnwys:
- Hyfforddiant
- Cymwysterau pellach mewn maes cysylltiedig
- Aelodaeth o sefydliad proffesiynol ar lefel Technegydd Gwyddoniaeth Cofrestredig.
Cymwysterau
Diploma NVQ Lefel 4 yn y llwybr sy'n cael ei ddewis.
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 4
Er nad yw'r fframwaith yn rhagnodi'r cymwysterau mynediad ar gyfer y Brentisiaeth Uwch, fel canllaw cyffredinol i lefel y Radd Sylfaen, Diploma HND neu Ddiploma HNC, dylai ymgeiswyr:
- Fod yn camu ymlaen o'r Brentisiaeth Lefel Uwch mewn disgyblaeth wyddonol gysylltiedig;
- Wedi sicrhau o leiaf 200 pwynt ar Safon Uwch/UG gan gynnwys DD yn TAG A2 ar gyfer dau bwnc Gwyddoniaeth, gan gynnwys y pwnc gwyddoniaeth sy'n brif elfen y Radd Sylfaen, Diploma HND neu Ddiploma HNC;
- Ennill o leiaf 5 cymhwyster TGAU gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a 3 phwnc arall ar radd C neu uwch.
Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd cyflogwyr am recriwtio prentisiaid sydd â'r gallu i ymgymryd â phrentisiaeth Lefel 6 yn y pen draw, a fyddai'n dechrau ar Lefel 4 yn y lle cyntaf. O dan yr amgylchiadau hyn, byddai angen i ymgeiswyr ennill cymwysterau Safon Uwch priodol neu gymwysterau cyfatebol a fyddai'n caniatáu iddynt gael mynediad i Addysg Uwch ar Lefel 6.
Mae'n bosibl y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn darparu gwybodaeth sylfaenol tuag at y Brentisiaeth Uwch.
Gweld llwybr llawn