Mae Instructus wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Busnes a Rheolaeth a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
63 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Gweinyddu Busnes.
76 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gweinyddu Busnes.
115 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Busnes a Gweinyddu Proffesiynol.
Entry requirements
Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y Llwybr Prentisiaeth hwn. Fodd bynnag, mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu ymgeiswyr a chanddynt ddiddordeb brwd mewn busnes ac/neu ddiddordeb arbennig mewn gyrfaoedd gweinyddu cyfreithiol neu feddygol. Maen nhw'n disgwyl i ymgeiswyr arddangos agwedd "medru gwneud" a meddu ar sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol yn sail ar gyfer y brentisiaeth.
Bydd ymgeiswyr yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac yn amrywio o ran profiad, oed, cyflawniadau personol ac, mewn rhai achosion, cymwysterau a dyfarniadau blaenorol a allai gyfrif tuag at gyflawni rhaglen brentisiaeth. Mae enghreifftiau'n cynnwys dysgwyr sydd:
- wedi dal swydd gyfrifol mewn ysgol neu goleg; neu
- wedi cwblhau profiad gwaith neu leoliad gwaith; neu
- wedi cwblhau Gwobr Dug Caeredin neu ddyfarniad tebyg; neu
- wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch; neu
- wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Cymhwyso Rheoleiddio; neu
- wedi cwblhau prentisiaeth sylfaen lefel 2 o sector arall (ar gyfer ymgeiswyr prentisiaeth lefel 3); neu
- wedi cwblhau prentisiaeth lefel 3 o sector arall (ar gyfer ymgeiswyr prentisiaeth uwch); neu
- wedi cyflawni Cymhwyster Prif Ddysgu Gweinyddu Busnes a Chyllid yn rhan o Fagloriaeth Cymru.
Mae prentisiaid sy'n dilyn Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes yn debygol o fod wedi cael rhywfaint o brofiad blaenorol mewn rôl busnes neu weinyddu, er nad yw hyn yn ofyniad ffurfiol.
Disgwylir i brentisiaid sy'n dilyn Prentisiaeth Uwch Busnes a Gweinyddu Proffesiynol fod â phrofiad sylweddol o weithio mewn rôl busnes er mwyn sicrhau bod ganddynt sail addas ar gyfer adeiladu gwybodaeth a sgiliau pellach.
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Lefel 2: Gweinyddu Busnes
Lefel 2: Gweinyddu Busnes Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun isod.
Lefel 2 Diploma Gweinyddu Busnes | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City & Guilds | C00/0640/3 601/3607/8 | 45 | 450 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Pearson | C00/0632/8 601/3405/7 | 45 | 450 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Agored Cymru | C00/1231/1 | 45 | 450 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 2: Gweinyddu Busnes | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 1 | 6 |
Application of number | 1 | 6 |
Digital literacy | 1 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 2: Gweinyddu Busnes | 267 | 170 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Lefel 2 Gweinyddu Busnes - 45 credyd/437 o oriau (isafswm) yn gysylltiedig ag elfen cymhwysedd a gwybodaeth y cymhwyster cyfun.
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Gweinyddu Busnes
Lefel 3: Gweinyddu Busnes Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun isod.
Lefel 3 Diploma Gweinyddu Busnes | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City & Guilds | C00/0640/4 601/3608/X | 58 | 580 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Pearson | C00/0632/9 601/3406/9 | 58 | 580 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Agored Cymru | C00/1231/2 | 58 | 580 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 3: Gweinyddu Busnes | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Digital literacy | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 3: Gweinyddu Busnes | 310 | 224 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Lefel 3 Gweinyddu Busnes - 58 credyd/534 o oriau (isafswm) yn gysylltiedig ag elfennau cymhwysedd a gwybodaeth cymhwyster cyfun
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 4: Busnes a Gweinyddu Proffesiynol
Lefel 4: Busnes a Gweinyddu Proffesiynol Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 4 Diploma Gweinyddu Busnes | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City & Guilds | C00/0640/5 601/3597/9 | 57 | 570 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Pearson | C00/0634/7 601/3425/2 | 57 | 570 | Gwybodaeth | Saesneg-Cymraeg |
Level 4 Diploma Gweinyddu Busnes | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Pearson Education Ltd | C00/0636/8 601/3499/9 | 42 | 420 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
HNC Rheoli Busnes | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (YDDS) | n/a | 120 | 1200 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 4: Busnes a Gweinyddu Proffesiynol | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Digital literacy | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 4: Busnes a Gweinyddu Proffesiynol | 464 | 234 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Lefel 4 Busnes a Gweinyddu Proffesiynol - 115 credyd/698 o oriau - Isafswm o 57 credyd ar gyfer y cymhwyster Cymhwysedd a 40 credyd ar gyfer y cymhwyster Gwybodaeth
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Other additional requirements
Amh.
Progression
Lefel 2: Gweinyddu Busnes
Dilyniant i Brentisiaeth y Sefydliad Gweinyddu Busnes:
Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid, gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r brentisiaeth hon. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:
- ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Cymhwyso Rheoleiddio
- ennill Cymhwyster Prif Ddysgu yn rhan o Fagloriaeth Cymru mewn Gweinyddu Busnes a Chyllid, Busnes Manwerthu, TGCh neu Wasanaethau Cyhoeddus.
- ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth sylfaen heb gymwysterau blaenorol.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Sylfaen Gweinyddu Busnes
Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid sylfaen symud ymlaen i'r canlynol:
- Prentisiaeth Lefel 3 Gweinyddu Busnes - llwybrau gweinyddol cyffredinol, cyfreithiol neu feddygol
- Prentisiaethau lefel 3 eraill fel gwasanaethau cwsmeriaid neu reoli
- Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys un o'r Cymwysterau Prif Ddysgu mewn ystod o sectorau cysylltiedig, fel busnes, gweinyddu a chyllid, technoleg gwybodaeth, gwasanaethau cyhoeddus a busnes manwerthu
- Addysg bellach i ddilyn cymwysterau rheoli, cymwysterau'n gysylltiedig â busnes neu gymwysterau eraill.
Gyda hyfforddiant ychwanegol, mae'n bosibl y bydd prentisiaid sylfaen yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa i rolau sy'n cynnwys Swyddog Gweithredol Gweinyddol, Arweinydd Tîm Gweinyddol, Goruchwylydd Swyddfa, Cynorthwyydd Personol, Ysgrifennydd/Ysgrifenyddes neu amrywiaeth eang o rolau busnes a gweinyddu eraill.
Lefel 3: Gweinyddu Busnes
Llwybrau dilyniant i'r Brentisiaeth Gweinyddu Busnes:
Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid,
gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r brentisiaeth hon. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:
- cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Gweinyddu Busnes
- ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Cymhwyso Rheoleiddio
- ennill Cymhwyster Prif Ddysgu yn rhan o Fagloriaeth Cymru ar gyfer Gweinyddu Busnes a Chyllid, TG, Busnes Manwerthu neu Wasanaethau Cyhoeddus.
- ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth uwch heb gymwysterau blaenorol.
Bydd gan y rhan fwyaf o ddysgwyr sy'n symud ymlaen i'r Brentisiaeth Gweinyddu Busnes rywfaint o brofiad blaenorol mewn rôl swydd busnes neu weinyddu, er nad yw hyn yn ofyniad ffurfiol.
Efallai y bydd y Brentisiaeth Sylfaen Gweinyddu Busnes yn gweddu'n well i ddysgwyr sydd heb unrhyw brofiad blaenorol mewn rôl swydd busnes neu weinyddu, er y dylid barnu ynghylch pob unigolyn yn ôl ei rinweddau, ei brofiadau a'i allu ei hun.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Gweinyddu Busnes
Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid symud ymlaen i:
- Lefel 4 Prentisiaeth Uwch mewn Gweinyddu Busnes a Gweinyddu Proffesiynol
- addysg bellach neu uwch i ddilyn cymwysterau'n gysylltiedig â busnes neu gymwysterau eraill, gan gynnwys Graddau Sylfaen mewn meysydd fel busnes, rheoli busnes a busnes
Lefel 4: Busnes a Gweinyddu Proffesiynol
Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith blaenorol prentisiaid gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Uwch Busnes a Gweinyddu Proffesiynol. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:
- wedi cwblhau prentisiaeth mewn ystod eang o feysydd sector-benodol
- wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes
- wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Cymhwyso Rheoleiddio mewn meysydd busnes neu sector-benodol
- wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth uwch heb gymwysterau blaenorol.
Disgwylir i brentisiaid uwch fod â phrofiad sylweddol o weithio mewn rôl busnes er mwyn sicrhau bod ganddynt sail addas ar gyfer adeiladu gwybodaeth a sgiliau pellach.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Uwch Busnes a Gweinyddu Proffesiynol
Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid uwch symud ymlaen i:
- Brentisiaeth Uwch Lefel 5 Arwain a Rheoli
- Addysg bellach neu uwch i ddilyn cymwysterau'n gysylltiedig â busnes neu gymwysterau eraill, gan gynnwys graddau sylfaen mewn meysydd fel busnes, rheoli busnes, a gweinyddu busnes
- Ystod o raglenni busnes a rheoli israddedig
- Amrywiaeth o gymwysterau proffesiynol busnes neu reoli ar lefel 5 neu uwch
- Cyfleoedd am gyflogaeth bellach o fewn eu rôl swydd gyfredol/rolau swydd eraill
- Cymwysterau arbenigol sy'n cynnig gwybodaeth dechnegol ychwanegol
- Aelodaeth bosibl o gyrff proffesiynol.
Gyda hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd prentisiaid yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa i rolau sy'n cynnwys cyfarwyddwr gweithrediadau, rheolwr datblygu busnes, ysgrifennydd cwmni neu amrywiaeth eang o rolau rheoli ym myd busnes.
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Er nad oes unrhyw ystadegau penodol sy'n trafod ethnigrwydd ac amrywiaeth Prentisiaethau Gweinyddu Busnes yng Nghymru, mae adroddiad diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth yn awgrymu mai merched yw'r rhan fwyaf o ddechreuwyr y brentisiaeth, a bod ethnigrwydd y prentisiaid ar y cyfan yn adlewyrchu'r boblogaeth gyffredinol.
Mae'n bosibl bod y diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau o fewn y brentisiaeth yn gysylltiedig â chanfyddiadau, gan gynnwys y canfyddiad mai gyrfaoedd i ferched yw gyrfaoedd gweinyddol yn bennaf.
Wrth i'r gweithlu a'r sylfaen o gwsmeriaid droi'n fwy amrywiol, mae angen i fusnes a gweinyddu adlewyrchu'r amrywiaeth honno, a'i rheoli'n effeithiol. Ar gyfer hyn, mae angen nid yn unig agwedd sensitif tuag at faterion fel ethnigrwydd, diwylliant, rhywedd ac anabledd, ond hefyd fwy o ymwybyddiaeth o'r potensial am ymagweddau gwahanol a mwy creadigol a ddaw i'r busnes yn sgil amrywiaeth yn gyffredinol.
Er mwyn goresgyn rhai o'r canfyddiadau hyn, mae gwaith ar droed i godi ymwybyddiaeth ynghylch gweinyddu busnes fel proffesiwn drwy:
- Fagloriaeth Cymru drwy'r Cymwysterau Prif Ddysgu mewn Busnes, Gweinyddu a Chyllid, TG a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Adnoddau addysgu ar gyfer ysgolion.
Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog amrywiaeth fwy o unigolion i ymuno â byd busnes a gweinyddu. Nid yw'r amodau er mwyn cael mynediad i'r Llwybr hwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolion, ac mae'r Llwybr ar agor ac yn hygyrch i bob darpar brentis. Bydd mentora hefyd yn cael ei hyrwyddo o fewn y brentisiaeth, er mwyn cynnig cymorth ychwanegol a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd prentisiaid yn aros.
Drwy ei Grwpiau Cynghori, mae Instructus Skills yn parhau i fonitro'r nifer sy'n manteisio ar Brentisiaethau ac yn eu cwblhau, ac yn parhau i gymryd camau i ymdrin ag unrhyw rwystrau sy'n atal defnydd a chyflawniad yn rhan o'i Strategaeth Cymwysterau.
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Responsibilities
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Ceir rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru
Atodiad 1 Lefel 2: Gweinyddu Busnes
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r Diploma Lefel 2 Gweinyddu Busnes yn cynnwys unedau gwybodaeth a chymhwysedd.
Mae'n rhaid cyflawni isafswm o 45 credyd i ennill y cymhwyster, fel a ganlyn:
Mae'n rhaid cyflawni'r 21 o gredydau i gyd o'r Grŵp Gorfodol M ac isafswm o 14 credyd o Grŵp Dewisol A. Ni cheir ond cyflawni uchafswm o 10 credyd o Grŵp Dewisol B, ac uchafswm o 6 chredyd o Grŵp Dewisol C.
Grŵp Gorfodol M
Unedau cymhwysedd
- Cyfathrebu mewn amgylchedd busnes H/506/1833 Gwerth credyd yr uned: 3
- Rheoli perfformiad a datblygiad personol L/506/1788 Gwerth credyd yr uned: 4
- Datblygu cydberthnasoedd gwaith â chydweithwyr R/506/1789 Gwerth credyd yr uned: 3
Unedau gwybodaeth
- Egwyddorion darparu gwasanaethau J/506/1899 Gwerth credyd yr uned: 4
- Egwyddorion cynhyrchu dogfennau busnes a rheoli gwybodaeth T/506/1901
Gwerth credyd yr uned: 3
- Deall sefydliadau cyflogwyr A/506/1964 Gwerth credyd yr uned: 4
Grŵp Dewisol A
- Iechyd a diogelwch mewn amgylchedd busnes D/506/1794 Gwerth credyd yr uned: 2
- Defnyddio system ffôn a neges llais K/506/1796 Gwerth credyd yr uned: 2
- Cyfarfod a chroesawu ymwelwyr mewn amgylchedd busnes A/506/1799 Gwerth credyd yr uned: 2
- Rheoli systemau dyddiadur L/506/1807 Gwerth credyd yr uned: 2
- Cynhyrchu dogfennau busnes Y/506/1809 Gwerth credyd yr uned: 3
- Coladu ac adrodd ar ddata L/506/1810 Gwerth credyd yr uned: 3
- Storio ac adalw gwybodaeth R/506/1811 Gwerth credyd yr uned: 4
- Ysgrifennu cofnodion cyfarfodydd Y/506/1812 Gwerth credyd yr uned: 3
- Ymdrin â phost D/506/1813 Gwerth credyd yr uned: 3
- Darparu gwasanaethau derbynfa H/506/1814 Gwerth credyd yr uned: 3
- Defnyddio nodiadau i baratoi testun drwy gyffwrdd-deipio K/506/1815 Gwerth credyd yr uned: 4
- Paratoi testun o nodiadau llaw-fer M/506/1816 Gwerth credyd yr uned: 6
- Paratoi testun o gyfarwyddyd sain wedi'i recordio T/506/1817 Gwerth credyd yr uned: 4
- Gwybodaeth archif T/506/1865 Gwerth credyd yr uned: 3
- Cynnal a chyflwyno offer ysgrifennu a chyflenwadau Y/506/2295 Gwerth credyd yr uned: 3
- Defnyddio a chynnal cyfarpar swyddfa J/506/1868 Gwerth credyd yr uned: 2
- Cyfrannu at drefnu digwyddiad L/506/1869 Gwerth credyd yr uned: 3
- Trefnu teithiau neu lety busnes D/506/1875 Gwerth credyd yr uned: 4
- Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd H/506/1876 Gwerth credyd yr uned: 4
- Gweinyddu cofnodion adnoddau dynol T/506/1879 Gwerth credyd yr uned: 3
- Gweinyddu'r broses recriwtio a dethol A/506/1883 Gwerth credyd yr uned: 3
- Gweinyddu goddefebau parcio R/506/1887 Gwerth credyd yr uned: 3
- Gweinyddu cyllid R/506/1890 Gwerth credyd yr uned: 4
- Cyfeillio â chydweithiwr i ddatblygu eu sgiliau M/506/1895Gwerth credyd yr uned: 3
- Hawliau a chyfrifoldebau cyflogeion L/506/1905 Gwerth credyd yr uned: 2
- Llunio cyflwyniad K/506/1913 Gwerth credyd yr uned: 3
- Rhoi cyflwyniad M/506/1914 Gwerth credyd yr uned: 3
- Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu system wybodaeth A/506/1916
Gwerth credyd yr uned: 6
- Monitro systemau gwybodaeth F/506/198 Gwerth credyd yr uned: 8
- Dadansoddi a chyflwyno data busnes M/506/1945 Gwerth credyd yr uned: 6
Grŵp Dewisol B.
- Prosesu trafodion ariannol cwsmeriaid F/601/886 Gwerth credyd yr uned: 4
- Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid A/506/2130 Gwerth credyd yr uned: 5
- Prosesu gwybodaeth am gwsmeriaid R/506/2134 Gwerth credyd yr uned: 3
- Meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid Y/506/2149 Gwerth credyd yr uned: 3
- Defnyddio e-bost M/502/4300 Gwerth credyd yr uned: 3
- Meddalwedd bwrpasol F/502/4396 Gwerth credyd yr uned: 3
- Meddalwedd rheoli data J/502/4559 Gwerth credyd yr uned: 3
- Meddalwedd cyflwyno M/502/4622 Gwerth credyd yr uned: 4
- Meddalwedd taenlenni F/502/4625 Gwerth credyd yr uned: 4
- Meddalwedd gwefannau R/502/4631 Gwerth credyd yr uned: 4
- Meddalwedd prosesu geiriau R/502/4628 Gwerth credyd yr uned: 4
- Cymryd rhan mewn prosiect F/506/1934 Gwerth credyd yr uned: 3
- Prosesu cyflogres T/505/1238 Gwerth credyd yr uned: 5
Grŵp Dewisol C.
- Deall y defnydd o ymchwil ym myd busnes A/506/1818 Gwerth credyd yr uned: 6
- Deall cyd-destun cyfreithiol busnes D/506/1939 Gwerth credyd yr uned: 6
- Deall gwaith mewn amgylchedd gwasanaethau cwsmeriaid
- Egwyddorion arwain tîm R/506/2294 Gwerth credyd yr uned: 5
- Egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle J/506/1806 Gwerth credyd yr uned: 2
- Egwyddorion perthnasoedd â chwsmeriaid K/503/8194 Gwerth credyd yr uned: 3
- Egwyddorion marchnata digidol D/502/9931 Gwerth credyd yr uned: 5
- Egwyddorion theori marchnata D/502/9928 Gwerth credyd yr uned: 4
- Gwybod sut i gyhoeddi, integreiddio a rhannu gan ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol R/505/3515 Gwerth credyd yr uned: 5
- Deall sut i ddefnyddio llwyfannau ar-lein a'r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel L/505/3514 Gwerth credyd yr uned: 4
Efallai y bydd angen ichi gyflwyno tystiolaeth ofynnol ar gyfer tystysgrif Cwblhau Prentisiaeth os yw TPC yn gofyn am hynny.
Sylwer: bydd yn rhaid i'r rhai sydd eisoes wedi ennill cymwysterau cymhwysedd ac/neu wybodaeth cyn y Brentisiaeth hon ddewis opsiynau a fydd yn cynnig cyfleoedd dysgu a sgiliau newydd.
Atodiad 2 Lefel 3: Gweinyddu Busnes
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r Diploma Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes yn cynnwys unedau gwybodaeth a chymhwysedd.
Mae'n rhaid cyflawni isafswm o 58 credyd i ennill y cymhwyster, fel a ganlyn:
27 credyd o unedau Grŵp Gorfodol M, o leiaf 13 credyd o unedau Grŵp Dewisol A. Uchafswm o 10 credyd o unedau Grŵp Dewisol B. Uchafswm o 8 credyd o unedau Grŵp Dewisol C.
Grŵp Gorfodol M
Unedau cymhwysedd
- Cyfathrebu mewn amgylchedd busnes Y/506/1910 Gwerth credyd yr uned: 4
- Rheoli datblygiad personol a phroffesiynol T/506/2952 Gwerth credyd yr uned: 3
Unedau gwybodaeth
- Egwyddorion cyfathrebu a gwybodaeth busnes R/506/1940 Gwerth credyd yr uned: 4
- Egwyddorion gweinyddu Y/506/1941 Gwerth credyd yr uned: 6
- Egwyddorion busnes D/506/1942 Gwerth credyd yr uned: 10
Grŵp Dewisol A
Unedau Cymhwysedd
- Cyfrannu at wella perfformiad busnes D/506/1911 Gwerth credyd yr uned: 6
- Negodi mewn amgylchedd busnes H/506/1912 Gwerth credyd yr uned: 4
- Llunio cyflwyniad K/506/1913 Gwerth credyd yr uned: 3
- Rhoi cyflwyniad M/506/1914 Gwerth credyd yr uned: 3
- Creu dogfennau busnes pwrpasol T/506/1915 Gwerth credyd yr uned: 4
- Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu system wybodaeth A/506/1916
Gwerth credyd yr uned: 6
- Monitro systemau gwybodaeth F/506/198 Gwerth credyd yr uned: 8
- Gwerthuso darpariaeth teithiau neu lety busnes J/506/1918 Gwerth credyd yr uned: 5
- Rhoi cymorth gweinyddol mewn ysgolion L/506/1919 Gwerth credyd yr uned: 5
- Gweinyddu heriau parcio a thraffig, sylwadau ac apeliadau parcio sifil
F/506/1920 Gwerth credyd yr uned: 5
- Gweinyddu apeliadau parcio a thraffig statudol R/506/1923 Gwerth credyd yr uned: 6
- Gweinyddu parcio ac adennill dyledion traffig T/506/1932 Gwerth credyd yr uned: 5
- Gweinyddu ffeiliau cyfreithiol J/506/1955 Gwerth credyd yr uned: 5
- Llunio ffeiliau achos cyfreithiol L/506/1936 Gwerth credyd yr uned: 5
- Rheoli ffeiliau achos cyfreithiol L/506/1938 Gwerth credyd yr uned: 5
- Rheoli cyfleuster swyddfa K/506/1944 Gwerth credyd yr uned: 4
- Dadansoddi a chyflwyno data busnes M/506/1945 Gwerth credyd yr uned: 6
- Cynhyrchu dogfennau busnes Y/506/1809 Gwerth credyd yr uned: 3
- Storio ac adalw gwybodaeth R/506/1811 Gwerth credyd yr uned: 4
- Ysgrifennu cofnodion cyfarfodydd Y/506/1812 Gwerth credyd yr uned: 3
- Ymdrin â phost D/506/1813 Gwerth credyd yr uned: 3
- Paratoi testun o nodiadau llaw-fer M/506/1816 Gwerth credyd yr uned: 6
- Paratoi testun o gyfarwyddyd sain wedi'i recordio T/506/1817 Gwerth credyd yr uned: 4
- Cynnal a chyflwyno offer ysgrifennu a chyflenwadau Y/506/2295 Gwerth credyd yr uned: 3
- Cyfrannu at drefnu digwyddiad L/506/1869 Gwerth credyd yr uned: 3
- Trefnu teithiau neu lety busnes D/506/1875 Gwerth credyd yr uned: 4
- Rhoi cymorth gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd H/506/1876 Gwerth credyd yr uned: 4
- Gweinyddu cofnodion adnoddau dynol T/506/1879 Gwerth credyd yr uned: 3
- Gweinyddu'r broses recriwtio a dethol A/506/1883 Gwerth credyd yr uned: 3
- Gweinyddu goddefebau parcio R/506/1887 Gwerth credyd yr uned: 3
- Gweinyddu cyllid R/506/1890 Gwerth credyd yr uned: 4
- Cyfeillio â chydweithiwr i ddatblygu eu sgiliau M/506/1895 Gwerth credyd yr uned: 3
- Hawliau a chyfrifoldebau cyflogeion L/506/1905 Gwerth credyd yr uned: 2
- Cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol mewn amgylchedd busnes R/506/1954 Gwerth credyd
yr uned: 4
- Datrys problemau gweinyddol D/506/1956 Gwerth credyd yr uned: 6
- Llunio manylebau ar gyfer contractau H/506/1957 Gwerth credyd yr uned: 4
- Defnyddio nodiadau i baratoi testun drwy gyffwrdd-deipio K/506/1815 Gwerth credyd yr uned: 4
Grŵp Dewisol B.
Unedau Cymhwysedd
- Trefnu a darparu gwasanaeth i gwsmeriaid L/506/2150 Gwerth credyd yr uned: 5
- Datrys cwynion cwsmeriaid R/506/2151 Gwerth credyd yr uned: 4
- Meddalwedd Bwrpasol J/502/4397 Gwerth credyd yr uned: 4
- Meddalwedd Taenlenni J/502/4626 Gwerth credyd yr uned: 6
- Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith T/506/1820 Gwerth credyd uned 3
- Rheoli perfformiad tîm A/506/1821 Gwerth credyd yr uned: 4
- Rheoli perfformiad unigolion J/506/1921 Gwerth credyd yr uned: 4
- Rheoli datblygiad unigolion yn y gweithle L/506/1922 Gwerth credyd yr uned: 3
- Cadeirio ac arwain cyfarfodydd Y/506/1924 Gwerth credyd yr uned: 3
- Annog arloesi J/506/2292 Gwerth credyd yr uned: 4
- Caffael cynnyrch ac/neu wasanaethau M/506/1928 Gwerth credyd yr uned: 5
- Gweithredu newid T/ 506/1929 Gwerth credyd yr uned: 5
- Gweithredu a chynnal cynlluniau a phrosesau parhad busnes K/506/1930 Gwerth credyd yr uned: 4
- Cymryd rhan mewn prosiect F/506/1934 Gwerth credyd yr uned: 3
- Defnyddio e-bost T/502/4301 Gwerth credyd yr uned: 3
- Meddalwedd Cronfa Ddata T/502/4556 Gwerth credyd yr uned: 6
- Meddalwedd T/502/4623 Gwerth credyd yr uned: 6
- Meddalwedd Prosesu Geiriau Y/502/4629 Gwerth credyd yr uned: 6
- Meddalwedd gwefannau R/502/4632 Gwerth credyd yr uned: 5
- Datblygu a chynnal rhwydweithiau proffesiynol J/506/1949 Gwerth credyd yr uned: 3
- Datblygu a gweithredu cynllun gweithredol Y/506/1955 Gwerth credyd yr uned: 5
- Rheoli adnoddau ffisegol K/506/1989 Gwerth credyd yr uned: 4
- Cefnogi a pharatoi am archwiliadau ansawdd K/506/1992 Gwerth credyd yr uned: 3
- Rheoli cyllideb A/506/1995 Gwerth credyd yr uned: 4
- Rheoli prosiect R/506/1999 Gwerth credyd yr uned: 7
- Rheoli risg busnes L/506/2004 Gwerth credyd yr uned: 6
- Arfer recriwtio, dethol a chynefino R/506/2909 Gwerth credyd yr uned: 6
Grŵp Dewisol C
Unedau Gwybodaeth
- Deall yr amgylchedd gwasanaethau cwsmeriaid Y/506/2152 Gwerth credyd yr uned: 5
- Egwyddorion ymchwil a marchnata digidol F/502/9937 Gwerth credyd yr uned: 7
- Egwyddorion marchnata perthnasoedd rhanddeiliaid J/502/9938 Gwerth credyd yr uned: 3
- Egwyddorion ymchwil y farchnad K/502/9933 Gwerth credyd yr uned: 5
- Egwyddorion arwain a rheoli D/506/1925 Gwerth credyd yr uned: 8