Skip to main content

Pathway

Cyfrifeg

Mae’r Workforce Development Trust wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

46 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Cyfrifeg Lefel 2.

53 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Cyfrifeg Lefel 3.

68 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Cyfrifeg Lefel 4.

Entry requirements

Lefel 2 a Lefel 3: Cyfrifeg

Ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 a’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfrifeg, nid yw’n angenrheidiol cael cymwysterau neu brofiad blaenorol mewn cyfrifeg. Fodd bynnag, dylid bod yn fedrus/cyfforddus wrth weithio gyda rhifau. Byddai Rhifedd a Chyfathrebu o fantais ond nid ydynt yn hanfodol.

Lefel 4: Cyfrifeg

Argymhellir bod angen i Brentisiaid Lefel 3 a Phrentisiaid Uwch Lefel 4, nad ydynt wedi cyflawni Prentisiaeth Lefel 2 mewn Cyfrifeg, fod â gradd TGAU A*- C mewn Mathemateg neu Sgil Allweddol Cymhwyso Rhif ar Lefel 1, neu brofiad neu gymwysterau cyfrifeg blaenorol. 

Gofynnir i ddysgwyr ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol, methdaliad neu Ddyfarniad Llys Sirol (CCJ) wrth gofrestru ar gyfer y cymhwyster cyfrifeg.

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 2: Cyfrifeg

Lefel 2: Cyfrifeg Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod.

Lefel 2 Diploma mewn Cyfrifyddu Ariannol a Rheoli
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
ACCA C00/0595/5 601/0772/8 51 510 Cymhwysedd Saesneg yn unig
Lefel 2 Tystysgrif mewn Cyfrifyddu
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
AAT C00/4318/9 603/6338/1 34 340 Cymhwysedd Saesneg yn unig

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 2: Cyfrifeg Lefel Minimum Credit Value
Communication 1 6
Application of number 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 2: Cyfrifeg 265 100
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Diploma mewn Cyfrifyddu Ariannol a Rheoli (Lefel 2) – 513 awr/51 credyd dros gyfnod o 12 mis - Cyfanswm GLH 312

Tystysgrif Sylfaen mewn Cyfrifyddu – Lefel 2 – 340 Awr/34 Credyd - dros gyfnod o 12 mis - Cyfanswm GLH = 365

Dylid cwblhau’r holl ddysgu yn ystod oriau gwaith.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Cyfrifeg

Lefel 3: Cyfrifeg Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod.

Lefel 3 Diploma mewn Cyfrifyddu Ariannol a Rheoli
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
ACCA C00/0595/6 601/0773/X 57 570 Cymhwysedd Saesneg yn unig
Lefel 3 Diploma mewn Cyfrifyddu
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
AAT C00/4318/8 603/6337/X 62 620 Cymhwysedd Saesneg yn unig

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Cyfrifeg Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Cyfrifeg 365 100
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Diploma mewn Cyfrifyddu Ariannol a Rheoli - Lefel 3 – 573 awr / 57 credyd dros gyfnod o 12-18 mis - Cyfanswm GLH 312 awr

Diploma Uwch mewn Cyfrifyddu – Lefel 3 – 340 Awr/53 Credyd – dros gyfnod o rhwng 12 a 18 mis - Cyfanswm GLH = 465

Dylid cwblhau’r holl ddysgu yn ystod oriau gwaith.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Cyfrifeg

Lefel 4: Cyfrifeg Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod.

Lefel 4 Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifyddu
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
AAT C00/4312/4 603/6339/3 99 985 Cymhwysedd Saesneg yn unig
Lefel 4 Diploma mewn Cyfrifyddu a Busnes
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
ACCA C00/0595/7 601/0771/6 89 890 Cymhwysedd Saesneg yn unig

Edrychwch ar Atodiad 3 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 4: Cyfrifeg Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 4: Cyfrifeg 454 100
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Diploma mewn Cyfrifyddu a Busnes - Lefel 4- 890 awr / 89 credyd dros gyfnod o rhwng 12 a 18 mis - Cyfanswm GLH – 441

Diploma mewn Cyfrifyddu – Lefel 4 – 420 Awr/56 Credyd – dros gyfnod o rhwng 12 a 18 mis - Cyfanswm GLH = 545

Dylid cwblhau’r holl ddysgu yn ystod oriau gwaith

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Rhaid i ddysgwyr ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol, methdaliad neu Ddyfarniad Llys Sirol (CJJ) wrth gofrestru ar gyfer y cymhwyster cyfrifeg.

Job roles

Mae’r Llwybrau yn cynnwys y galwedigaethau swyddi canlynol ar y lefelau hyn:

Lefel 2: Cyfrifeg

Cynorthwyydd/Clerc Cyfrifon;

Derbynnydd Arian;

Clerc Rheoli Credyd;

Cynorthwyydd Ariannol;

Clerc Llyfr Prynu;

Clerc Llyfr Gwerthu.

Lefel 3: Cyfrifeg

Technegydd Cyfrifyddu dan Hyfforddiant;

Cyfrifydd Cynorthwyol.

Lefel 4: Cyfrifeg

Technegydd Cyfrifyddu;

Rheolwr Cyfrifon.

Progression

Lefel 2: Cyfrifeg

Gall dilyniant i’r Brentisiaeth hon ddod o’r cymwysterau canlynol:

  • TGAU, Safon Uwch a chymwysterau amgen eraill;
  • Diploma 14-19;
  • Bagloriaeth Cymru;
  • Dyfarniad AAT Lefel 1 mewn Cyfrifyddu.

Gall prentisiaid symud ymlaen i’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfrifeg, y Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifyddu annibynnol neu Ddiploma ACCA mewn Cyfrifyddu Ariannol a Rheoli (RQF Lefel 3).

Lefel 3: Cyfrifeg

Gall dilyniant i’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfrifeg ddod o’r cymwysterau a’r Prentisiaethau canlynol:

  • TGAU, Safon Uwch a chymwysterau amgen;
  • Bagloriaeth Cymru;
  • Diploma 14-19;
  • Diploma ACCA mewn Cyfrifyddu Ariannol a Rheoli (RQF Lefel 2);
  • Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 AAT mewn Cyfrifyddu
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cyfrifeg, Darparu Gwasanaethau Ariannol, y Gyflogres neu Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 arall.  

Gall prentisiaid symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Cyfrifeg, y Diploma Lefel 4 annibynnol neu’r Diploma Uwch mewn Cyfrifyddu neu’r cymwysterau a’r rolau swydd canlynol:

Gradd Sylfaen mewn Cyfrifeg - http://fd.ucas.com/CourseSearch/D efault.aspx

Amrywiaeth o raglenni gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid - https://www.ucas.com/

Lefel 4: Cyfrifeg

Gall dilyniant i’r Brentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Cyfrifeg ddod o’r cymwysterau a Phrentisiaethau a ganlyn:

  • TGAU, Safon Uwch a chymwysterau amgen;
  • Bagloriaeth Cymru;
  • Diploma 14-19;
  • Diploma ACCA mewn Cyfrifyddu Ariannol a Rheoli (RQF Lefel 3);
  • Diploma Uwch Lefel 3 AAT mewn Cyfrifyddu
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfrifeg, Darparu Gwasanaethau Ariannol, y Gyflogres neu Brentisiaeth Lefel 3 arall.

Gall prentisiaid symud ymlaen i’r cymwysterau a’r rolau swydd canlynol:

Gradd Sylfaen mewn Cyfrifeg - http://fd.ucas.com/CourseSearch/D efault.aspx

Rhaglenni gradd amrywiol mewn Cyfrifeg a Chyllid - https://www.ucas.com/

Gall unigolion sydd wedi cwblhau cymhwyster AAT Lefel 4 gael mynediad uniongyrchol i gam 2 rhaglen BA mewn Cyfrifeg gyda Diploma Uwch CIMA Prifysgol Robert Gordon, Aberdeen, yn ddibynnol ar y modiwlau a astudiwyd.

Ceir rhai esemptiadau mewn perthynas â’r arholiadau Cyfrifeg Siartredig - Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr [ICAEW), Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban (ICAS) a Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Ein nod yw gweld dilyniant yr holl grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Dylid recriwtio Prentisiaid i’r rhaglen mewn modd agored, sydd ar gael i bawb sy’n cyflawni’r meini prawf dewis a nodir, waeth beth fo’u rhywedd, eu tarddiad ethnig, eu crefydd, neu eu hanabledd.

Mae deddfwriaeth sy’n rheoleiddio cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi cyflwyno gofynion newydd y mae’n rhaid i gwmnïau gydymffurfio â nhw bellach, fel Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013. Mae deddfwriaeth o’r fath yn gwahardd gwahaniaethu yn y gweithle ar sail nodweddion gwarchodedig penodol.   

O 6 Ebrill 2018, mae deddfwriaeth ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr sydd â mwy na 250 o gyflogeion adrodd yn flynyddol ynghylch ei fwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Mae gwybodaeth i gynorthwyo myfyrwyr anabl i ddeall y Ddeddf Cydraddoldeb wedi’i chynhyrchu gan Disability Rights UK ac mae ar gael yma:

https://www.disabilityrightsuk.org/understanding-equality-act-information-disabled-students

Rhaid i’r holl bartneriaid sy’n rhan o’r broses o ddarparu’r brentisiaeth – darparwyr, canolfannau asesu a chyflogwyr – fod yn ymrwymedig i bolisi o gyfleoedd cyfartal a rhaid iddynt fod â pholisi a gweithdrefn cyfleoedd cyfartal sydd wedi’u datgan.

Dylai prentisiaethau fod â llwybrau mynediad a dilyniant hyblyg i broffesiynau sy’n gallu cefnogi cyfleoedd yng nghanol gyrfa, i gyfnewid gyrfaoedd ac i ddychwelyd i yrfaoedd.

Bydd hyn yn cynorthwyo unigolion talentog, waeth beth fo’u cefndir neu’u cymwysterau, i gael cyfle i ddatblygu a ffynnu. Felly, mae’r llwybr hwn yn ceisio mynd i’r afael â’r materion hyn. 

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar Brentisiaethau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

 

Atodiad 1 Lefel 2: Cyfrifeg

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Diploma Lefel 2 ACCA mewn Cyfrifyddu Ariannol a Rheoli – Mae manyleb y Cymhwyster ar gael yma:

www.accaglobal.com

COFNODI TRAFODION ARIANNOL (FA1) TRANSACTIONS (FA1)

Nod:                      

Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r prif fathau o drafodion a dogfennau busnes a sut y caiff rhain eu cofnodi mewn system gyfrifyddu hyd at y cam mantolen brawf.

Prif alluoedd:

  • Mathau o drafodion a dogfennau busnes
  • Deuoliaeth trafodion a’r system gofnodi dwbl
  • Systemau a thrafodion bancio
  • Y gyflogres
  • Cyfrifon cyfriflyfrau
  • Arian Parod a Bancio
  • Trafodion Gwerthu a Chredyd
  • Trafodion Prynu a Chredyd
  • Cysoni
  • Paratoi’r fantolen brawf

RHEOLI GWYBODAETH (MA1) (MA1)

Amcan: Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch darparu gwybodaeth reoli sylfaenol mewn sefydliad i gefnogi rheolwyr wrth iddynt gynllunio a gwneud penderfyniadau.  

Prif alluoedd:

  • Egluro natur a diben cyfrifyddu costau a rheoli
  • Nodi dogfennau ffynhonnell mewn systemau costio a rhoi codau cywir i ddata
  • Dosbarthu costau yn ôl natur, ymddygiad a diben
  • Cofnodi costau deunyddiau, llafur a threuliau
  • Defnyddio taenlenni yn Microsoft Excel

Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cyfrifyddu – Manyleb y Cymhwyster:

https://www.aat.org.uk/system/files/assets/AAT-Level-2-Certificate-in-Accounting-Q2022-qualification-specification.pdf

 

Atodiad 2 Lefel 3: Cyfrifeg

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth.

Lefel 3 ACCA – Diploma mewn Cyfrifyddu Ariannol a Rheoli – mae Manyleb y Cymhwyster ar gael yma:

www.accaglobal.com

Bydd myfyrwyr yn derbyn Diploma ACCA mewn Cyfrifyddu Ariannol a Rheoli pan fyddant wedi cwblhau’r cydrannau canlynol o’r cymhwyster yn llwyddiannus:

• Arholiadau

– Cadw Cofnodion Ariannol (FA2)

– Rheoli Costau a Chyllid (MA2)

• Modiwl ar-lein

– Sylfeini mewn Proffesiynoldeb.

AAT Lefel 3 – Diploma mewn Cyfrifyddu – Manyleb y Cymhwyster:

https://www.aat.org.uk/system/files/assets/AAT-Q2022-level-3-diploma-accounting.pdf

Atodiad 3 Lefel 4: Cyfrifeg

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

ACCA Lefel 4 – Diploma mewn Cyfrifyddu a Busnes – Mae Manyleb y Cymhwyster ar gael yma:

www.accaglobal.com

Dyfernir Diploma mewn Cyfrifyddu a Busnes ACCA i fyfyrwyr pan fyddant wedi cwblhau’r cydrannau canlynol o’r cymhwyster yn llwyddiannus:

• Arholiadau

– Cyfrifyddu Ariannol FFA/FA

- Cyfrifyddu Rheoli FMA/MA

- Busnes a Thechnoleg FBT/BT

• Modiwl ar-lein

– Sylfeini mewn Proffesiynoldeb.

Lefel 4 – Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifyddu – Manyleb y Cymhwyster:

https://www.aat.org.uk/system/files/assets/AAT-Level-4-Diploma-in-Professional-Accounting-Q2022-qualification-specification.pdf


Document revisions

26 Tachwedd 2021