Mae Skills for Health ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma’r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gofal Iechyd a gymeradwywyd i’w ddefnyddio yng Nghymru ac sy’n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
138 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol.
Gofynion mynediad
Mynediad i’r Llwybr Prentisiaeth hwn.
Dylai Prentisiaid:
- Arddangos dysgu blaenorol mewn disgyblaeth gysylltiedig neu brofiad cyfatebol
- Bod wedi cyflawni cymhwyster lefel 3 o leiaf mewn disgyblaeth gysylltiedig berthnasol
- Eisoes fod wedi cyflawni neu fod yn barod i weithio tuag at gyflawni’r sgiliau llythrennedd, rhifedd, cyfathrebu a llythrennedd digidol y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt o fewn y rhaglen brentisiaeth.
- Ymgymryd â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (bydd angen hyn oherwydd mae’n bosibl y bydd prentisiaid yn dod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed)
- Bod yn hyblyg oherwydd mae’n bosibl y bydd gofyniad i weithio sifftiau
- Meddu ar lefel addas o ffitrwydd corfforol i wneud rhai agweddau ar y rolau swydd (e.e. cynorthwyo i symud a chodi gwrthrychau).
Mae’n bosibl y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector iechyd ofynion mynediad ychwanegol o ran cyflogaeth e.e. byddai trwydded yrru gyfredol hefyd o fantais (a gallai fod yn angenrheidiol ar gyfer rhai rolau).
Bydd ymgeiswyr i’r Brentisiaeth hon yn dod o wahanol grwpiau oedran, o wahanol gefndiroedd a gyda phrofiadau amrywiol.
Fel canllaw, gall ymgeiswyr sicrhau mynediad drwy amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- gwaith (a allai gynnwys rôl flaenorol yn y GIG)
- profiad gwaith
- coleg/ysgol
- hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy’n dangos yr hyn y maent wedi’i wneud
Mae’n bosibl y bydd yr ymgeiswyr eisoes wedi cyflawni amrywiaeth o gymwysterau, er enghraifft:
- Sgiliau Hanfodol Cymru
- Prentisiaeth
- Cymwysterau TGAU
- Cymwysterau TAG
- Bagloriaeth Cymru (ni ellir trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
- Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu (ni ellir trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
- Cymwysterau lefel 3 perthnasol eraill
Asesiad Cychwynnol
Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael cyfle teg i arddangos eu gallu ac i deilwra rhaglenni i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 4: Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol
Lefel 4: Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymhwyster cyfun isod.
| Lefel 4 Diploma ar gyfer Ymarferwyr Cynorthwyo Therapi | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/3964/6 | 120 | 1200 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
| Level 3 Diploma in OT Support in Wales | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/3693/1 | 65 | 650 | Cymhwysedd | English-Welsh |
| Level 3 Diploma in Physiotherapy Support in Wales | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/3692/9 | 60 | 600 | Cymhwysedd | English Welsh |
| Level 3 Diploma in Speech & Language Therapy Support (Wales) | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/5192/0 | 60 | 600 | Cymhwysedd | English-Welsh |
| Level 3 Diploma in Dietetic Support | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/5191/9 | 60 | 600 | Cymhwysedd | English Welsh |
| Level 3 Diploma in Podiatry Support for Podiatry Assistants and Technicians | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/1486/9 | 59 | 590 | Cymhwysedd | English Welsh |
Please see Annex 1 for the relationship between the competence and knowledge units within the combined qualifications.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 4: Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 4: Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol | 899 | 501 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cymhwyster Cyfun - 120 credyd
Sgiliau Hanfodol -18 credyd
Ymarferydd Therapi Cynorthwyol – Cyfanswm o 138 credyd
I fodloni gofynion y llwybr prentisiaeth hwn, bydd yn rhaid i brentis gwblhau cyfanswm o 1901 o oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith – fel arfer dros 24 mis.
.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 4: Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol
Lefel 4: Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymhwyster cyfun isod.
| Lefel 4 Diploma ar gyfer Ymarferwyr Cynorthwyo Therapi | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/3964/6 | 120 | 1200 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
| Level 4 Diploma in Complex Care Support | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/4456/5 | 90 | 900 | Cymhwysedd | English-Welsh |
| Level 4 Diploma in Supporting and Empowering Individuals with Long-term Conditions | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Agored Cymru | C00/5092/3 | 90 | 900 | Cymhwysedd | English Welsh |
Please see Annex 2 for the relationship between the competence and knowledge units within the combined qualifications.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 4: Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 4: Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol | 899 | 501 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cymhwyster Cyfun - 120 credyd
Sgiliau Hanfodol -18 credyd
Ymarferydd Therapi Cynorthwyol – Cyfanswm o 138 credyd
I fodloni gofynion y llwybr prentisiaeth hwn, bydd yn rhaid i brentis gwblhau cyfanswm o 1901 o oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith – fel arfer dros 24 mis.
.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Rolau swydd
Ymarferydd Therapi Cynorthwyol
Y fersiwn ddiweddaraf o’r rolau swydd a’r swydd-ddisgrifiadau ar gyfer y Llwybr hwn.
|
Mae’r Ymarferydd Therapi Cynorthwyol yn cefnogi’r ymarferydd priodol / cofrestredig mewn ysbytai, yn y gymuned, ac mewn gofal sylfaenol, practisau annibynnol a lleoliadau therapiwtig eraill. |
Dilyniant
Gall dysgwyr symud ymlaen o’r Llwybr hwn i gymwysterau pellach sy’n benodol i’w cyd-destun gwaith, a allai fod mewn gwasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau cyswllt eraill. Gall y rhain gynnwys cymwysterau neu addysg a hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen o’r llwybr hwn i Addysg Uwch ac ymgymryd ag amrywiaeth o raddau cysylltiedig a fyddai’n arwain at gofrestriad proffesiynol ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion mynediad.
Ni ddylid gweld dilyniant fel llwybr fertigol. Mewn rhai achosion, gall symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mod werthfawr oherwydd mae’n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.
Ceir gwybodaeth a chyngor manwl pellach ar yrfaoedd yn y sector iechyd yma http://www.wales.nhs.uk/cym
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny
Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu arddangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddewis, recriwtio a chyflogi. Rhaid monitro pob gweithgaredd hyrwyddo, dewis a hyfforddi a rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth.
Mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sector iechyd, gan fod mwy o fenywod yn gweithio yn y sector. Mae pob swydd yn agored i ddynion a menywod ac fe’u hysbysebir yn unol â hynny. Mae modelau rôl gwrywaidd yn cael eu hyrwyddo mewn ffordd gadarnhaol drwy ddeunydd marchnata, ffotograffau ac astudiaethau achos. Fodd bynnag, mae rhagdybiaeth o hyd bod rhai rolau swydd ar gyfer menywod a gallai hyn atal rhai dynion rhag ymgeisio i weithio yn y rolau swydd hyn.
Gall cyflogwyr gynllunio rhaglenni prentisiaeth lleol i annog nifer uwch o ymgeiswyr gwrywaidd i’r rolau hyn ac i mewn i’r gweithlu cyfan.
Nid yw Skills for Health yn ymwybodol o unrhyw anghydbwysedd arall mewn perthynas â’r rheiny sy’n ymgymryd â’r Llwybr hwn e.e. gan grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Ar gyfer pob prentisiaeth iechyd, anogir recriwtio lleol i adlewyrchu’r gymuned leol.
Bydd Skills for Health yn monitro'r niferoedd sy’n ymgymryd â Phrentisiaethau ac yn eu cyflawni a bydd yn cymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i wneud hynny fel rhan o Strategaeth Cymwysterau ein Sector.
Y Gymraeg
Mae Skills for Health yn cydnabod yr egwyddor y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin yn gyfartal. Dylid rhoi ystyriaeth i’r rheiny y mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt neu’r rheiny sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn dewis gwneud hynny. Dylai Cyrff Dyfarnu, cyflogwyr, Sefydliadau Addysg Uwch a darparwyr hyfforddiant weithredu mewn ffordd gymesur o ran darparu elfennau o raglenni ac elfen asesu’r cymwysterau a ddarperir yng Nghymru yn Gymraeg; ar sail lefel y galw wedi’i sefydlu am y naill iaith a’r llall lle bo angen a/neu lle bo hynny’n ofynnol wrth ddarparu’r brentisiaeth hon.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru
Atodiad 1 Lefel 4 - Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Bydd angen i ddysgwyr fodloni gofynion y Diploma Lefel 4 ar gyfer Cynorthwywyr Therapi cyn y gellir dyfarnu’r cymhwyster a chyflawni’r Llwybr.
Diploma Lefel 4 Agored Cymru ar gyfer Ymarferwyr Cynorthwyo Therapi
Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru: C00/3964/6
Cyfanswm y credydau gofynnol: 120
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH): 346
Cyfanswm amser y cymhwyster (TQT): 1200 awr
Mae hwn yn gymhwyster gwybodaeth a chymhwysedd cyfun
• 120 credyd yw isafswm y credydau y mae’n rhaid eu cyflawni
• 90 credyd yw isafswm y credydau y mae’n rhaid eu cyflawni ar Lefel 4 neu uwch (75%)
• 40 credyd yw nifer y credydau gorfodol (Grŵp A) y mae’n rhaid eu cyflawni
• 50 yw nifer y credydau dewisol (Grŵp B) y mae’n rhaid eu cyflawni
• 30 credyd yw uchafswm y credydau y gellir eu cyflawni o’r Grŵp Dewisol (C) gydag Unedau Dewisol (Grŵp)
Gellir gwneud y cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Annex 2: Level 4 Therapies
Relationship between competence and knowledge qualifications
Learners will need to meet the requirements of the Level 4 Diploma for Therapy Assistants before the qualification can be awarded and the Pathway achieved.
Agored Cymru Level 4 Diploma for Therapy Assistant Practitioners
QW Approval/Designation No: C00/3964/6
Total credits required: 120
Guided learning hours (GLH): 346
Total qualification time (TQT): 1200 hours
This is a combined knowledge and competence qualification.
• Minimum number of credits that must be achieved is 120
• Minimum number of credits that must be achieved at Level 4 or above is 90 (75%)
• Number of mandatory credits (Group A) that must be achieved is 40
• Number of optional credits (Group B) that must be achieved is 50
• Maximum Number of credits that can be achieved from the Optional Group with Optional
Units (Group C) 30
The qualifications can be undertaken in the medium of the Welsh language.
Level 4 Diploma in Complex Care Support Qualification
Level 4 Diploma in Supporting and Empowering Individuals with Long-term Conditions Qualification