The content
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer:
Lefel 3 - Seilwaith TG yw 114 o gredydau
Lefel 4 - Seilwaith TG yw 168 o gredydau
Gofynion mynediad
Seilwaith TG Lefel 3 a Seilwaith TG Lefel 4:
Nid oes unrhyw amodau penodol er mwyn cael mynediad i lwybrau L3 a L4 Seilwaith TG.
Yn gyffredinol, fodd bynnag, dylai dysgwyr feddu ar gymwysterau (neu brofiad cyfatebol) ar yr un lefel â'r dyfarniad neu ychydig yn is na'r dyfarniad. Er enghraifft, efallai y bydd gan ymgeiswyr gymhwyster FfCChC lefel 2, 3 neu 4. Byddai cymwysterau ar y lefelau hyn mewn pynciau STEM yn fanteisiol.
Fel arall, gall yr ymgeisydd fod wedi cwblhau Prentisiaeth yn llwyddiannus ar Lefelau 2 neu 3 FfCChC. Nid yw'n ofyniad llym bod yn rhaid i ddysgwyr feddu ar gymwysterau Cyfrifiadura neu TG cyn dilyn y llwybr hwn, ond oherwydd gofynion gwybyddol y cymhwyster tanategol, mae'n annhebygol y bydd ymgeiswyr yn llwyddo i gwblhau'r llwybr heb rywfaint o wybodaeth am gyfrifiaduron a phrofiad ohonynt ac/neu brawf o sgiliau deallusol ar lefel briodol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Seilwaith TG
Lefel 3: Seilwaith TG Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfun isod.
Diploma Lefel 3 Seilwaith TG | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Agored Cymru | C00/1232/0 | 96 | 960 | Cymhwysedd | Cymraeg-Saesneg |
Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Seilwaith TG | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Seilwaith TG | 120 | 480 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
96 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 3 Seilwaith TG (Cyfun).
600 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Seilwaith TG, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 4: Seilwaith TG
Lefel 4: Seilwaith TG Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfun isod
Diploma Lefel 4 Seilwaith TG | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Agored Cymru | C00/1232/1 | 150 | 1500 | Cymhwysedd | Cymraeg-Saesneg |
Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 4: Seilwaith TG | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 3 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 3 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 3 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 4: Seilwaith TG | 320 | 1180 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
150 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 4 Seilwaith TG (Cyfun).
1500 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Uwch Seilwaith TG, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 3 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 3 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 3 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Amh
Dilyniant
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3 yma mewn Seilwaith TG:
Mae'r Rhaglen Brentisiaeth Lefel 3 yn cynnig cyfle i brentisiaid llwyddiannus gael astudio ymhellach a mynd rhagddynt i ddilyn rhaglen gradd gysylltiedig. Gallent ddewis gradd Baglor, gradd Sylfaen, cymhwyster Cenedlaethol Uwch neu gymhwyster lefel uwch arall. Gall prentisiaid hefyd ddewis parhau o fewn eu rôl swydd a dysgu drwy ddilyn hyfforddiant a chymwysterau technegol, busnes neu reoli ychwanegol.
Bydd prentisiaid sydd wedi cwblhau rhaglen brentisiaeth Lefel 3 yn aml wedi symud ymlaen o fewn eu gyrfa i swydd arweinydd tîm neu lefel uwch, gan ddefnyddio eu harbenigedd technegol cynyddol - a llywio a hyfforddi eraill o fewn y sefydliad.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 4 hon mewn Seilwaith TG:
Ar ôl cwblhau llwybr Prentisiaeth Uwch Lefel 4, bydd prentisiaid yn gallu cwblhau astudiaethau gwybodaeth dilynol a symud ymlaen i gwblhau rhaglenni gradd Anrhydedd llawn.
Neu gymwysterau rôl-benodol eraill a gydnabyddir gan ddiwydiant:
Hyfforddiant ac achrediad Rheoli Prosiect (PRINCE2, MSP, PMI, APM ac Agile)
- Hyfforddiant ac achrediad Rheoli Gwasanaeth (hyfforddiant ITIL, SDI ac ISO/IEC 2000)
- Hyfforddiant Rheoli a Datblygiad Personol
Mae ystod eang o hyfforddiant technoleg craidd a gwerthu hefyd ar gael - sy'n arwain at gymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant.
Bydd rhai cymwysterau'n rhoi'r hawl i fod yn aelod o sefydliad proffesiynol, gan gynnig cyfleoedd i rwydweithio a datblygu gyrfa. Er enghraifft, dod yn aelod o'r sefydliadau proffesiynol a ganlyn.
- Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS)
- Y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET)
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Nid oes unrhyw rwystrau o ran mynediad i'r llwybr Telathrebu Digidol, a bwriedir iddo gynnwys pob dysgwr waeth beth fo'i ryw, ei oedran, ei anabledd neu ei darddiad ethnig.
CYDRADDOLDEB RHYW
Mae diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn broblem sylweddol o fewn y sector TG a Thelathrebu. Mae'r gynrychiolaeth o ferched wedi gostwng o 22% yn 2001 i 16% yn 2016 (51% ar draws Cymru gyfan) Mae'r diffyg cydbwysedd yn gwaethygu ar draws y diwydiant TG, a chyrsiau'n gysylltiedig â TG. Mae Instructus wedi cychwyn nifer o raglenni i annog merched i ystyried gyrfa ym maes TG.
OED Y GWEITHLU
Oed cyfartalog gweithwyr proffesiynol ym maes TG a Thelathrebu yn y DU yw 39 oed (41 oed ar gyfer gweithwyr yn fwy cyffredinol). Mae 47% yn 40 oed neu'n hŷn, a dim ond 19% sy'n 16-29 oed (gostyngiad o gymharu â 33% yn 2001). Bydd rhaglenni prentisiaeth cryf yn y sector hwn o gymorth i sefydlu cyflenwad o weithwyr proffesiynol medrus a fydd yn symud i rolau swydd lefel uwch ymhen 5 i 10 mlynedd.
ETHNIGRWYDD AC ANABLEDD
Mae'r diwydiant technolegau gwybodaeth a chyfathrebu ymhlith diwydiannau mwyaf amrywiol y DU o ran ethnigrwydd, gyda 13% o'r gweithlu (cynnydd o gymharu ag 8% o'r gweithlu yn 2002) yn bobl Ddu, Asiaidd neu Leiafrifol Ethnig o gymharu â 9% ar draws yr economi gyfan.
Ceir darpariaeth sylweddol i unigolion ag anableddau drwy'r holl sector TG a Thelathrebu gyda llawer o gyfleoedd amrywiol am yrfaoedd boddhaus ar bob lefel. Mae ystod eang o brentisiaethau TG ar gael i'r rhai a chanddynt wahanol lefelau anabledd.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru
Atodiad 1
Lefel 3: Seilwaith TG
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Diploma Lefel 3 Seilwaith TG Agored Cymru - Ceir Manyleb y Cymhwyster yn:
https://www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Cymhwyster/127780
Rhif Cymeradwyo/Dynodi CC: C00/1232/0
Cyfanswm y credydau sy'n ofynnol: 96
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH): 412
Cyfanswm Amser y Cymhwyster (TQT): 960 awr
Isafswm y credydau ar lefel y cymhwyster neu'n uwch: 54
Atodiad 2
Lefel 4: Seilwaith TG
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Diploma Lefel 4 Seilwaith TG Agored Cymru - Ceir Manyleb y Cymhwyster yn:
https://www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Cymhwyster/127781
Rhif Cymeradwyo/Dynodi CC: C00/1232/1
Cyfanswm y credydau sy'n ofynnol: 150
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH): 681
Cyfanswm Amser y Cymhwyster (TQT): 1500 awr
Isafswm y credydau ar lefel y cymhwyster neu'n uwch: 90