Mae Skills for Justice wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru.
Er gwybodaeth, nid yw’r Llwybr hwn yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
43 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Swyddog y Ddalfa neu Swyddog Cadw.
Gofynion mynediad
Mae’r sgiliau a’r priodoleddau canlynol yn hanfodol i brentisiaethau yn yr alwedigaeth hon:
- sgiliau cyfathrebu a dylanwadu da
- ymrwymiad i ansawdd
- gwneud penderfyniadau effeithiol
- gofal a dealltwriaeth
- nodweddion ac ymddygiad personol
Nid oes unrhyw amodau mynediad ffurfiol ar gyfer y Llwybr hwn. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu hŷn cyn gwneud cais i ymuno â’r brentisiaeth hon. Cyn cael eu derbyn fel prentis, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr wneud prawf asesu ar-lein. Os byddant yn llwyddiannus, fe’u gwahoddir i ddiwrnod asesu.
Gallai hyn gynnwys:
- Chwarae rôl
- Cyfweliad
- Profion rhifedd, darllen ac ysgrifennu
- Prawf gwirio iechyd a ffitrwydd
Arddangos eu bod yn bodloni gofynion mynediad penodol y sefydlia.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Swyddog y Ddalfa neu Swyddog Cadw
Lefel 3: Swyddog y Ddalfa neu Swyddog Cadw Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymhwyster cyfunol isod.
| Lefel 3 Diploma mewn Rheoli a Gofalu am Unigolion yn y Ddalfa neu Dan Gadwad | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| SFJ Awards | C00/4175/9 603/6073/2 | 43 | 430 | Cymhwysedd | Saesneg yn unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 3: Swyddog y Ddalfa neu Swyddog Cadw | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 2 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
| Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 3: Swyddog y Ddalfa neu Swyddog Cadw | 150 | 280 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Diploma Lefel 3 mewn Rheoli a Gofalu am Unigolion yn y Ddalfa neu Dan Gadwad - 43 credyd/378 GLH/430 TQT
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed neu hŷn cyn ymgeisio i ymuno â’r Brentisiaeth hon.
Rolau swydd
Swyddog y Ddalfa neu Swyddog Cadw
|
Prif bwrpas y rôl yw gweithredu mewn amgylchedd diogel fel Canolfannau Cadw, Sefydliadau Carcharu a Gwasanaethau yn y Ddalfa, sy’n fannau unigryw a heriol i weithio ynddynt yn aml. Bydd gan y bobl sydd yng ngofal Swyddog y Ddalfa neu Swyddog Cadw amrywiaeth o wahanol anghenion a byddant yn arddangos ymddygiadau amrywiol. Rôl Swyddog y Ddalfa neu Swyddog Cadw yw sicrhau bod yr unigolion hynny’n cael eu trin ag urddas a pharch ac yn cael eu cynorthwyo i ganfod ffordd newydd o fyw wrth gynnal amgylchedd diogel a strwythuredig. |
Dilyniant
Lefel 3: Swyddog y Ddalfa neu Swyddog Cadw
Dilyniant i’r llwybr hwn
Gall dilyniant i’r llwybr hwn ddod o amrywiaeth o lwybrau:
- coleg (yn amodol ar y gofyniad bod yr ymgeisydd wedi cyrraedd y lleiafswm oedran sy’n ofynnol a nodwyd yn gynharach yn y Llwybr hwn), neu fynediad uniongyrchol o alwedigaeth arall.
Bydd y dilyniant yn sgil cwblhau’r llwybr hwn yn cynnwys:
Gall y dilyniant o’r llwybr hwn, gyda phrofiad/hyfforddiant pellach, fod i rolau uwch o fewn y sector carchardai, gan gynnwys:
- Rheolwr Diogelwch Security First
- Swyddog Gwybodaeth
- Arweinydd Tîm
- Rheolwr Adran
- Cadw (Rolau Canolfannau Symud Mewnfudwyr a Hebrwng)
Gall dilyniant o’r llwybr hwn hefyd fod i rolau eraill o fewn y sector Cyfiawnder a Diogelwch Cymunedol, er enghraifft: Swyddog Heddlu, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, ac ati.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad oes gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i’r diwydiant a chael eu dyrchafu oddi mewn iddo.
Bydd swyddogion newydd yn derbyn hyfforddiant mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth fel rhan o’u rhaglen gynefino.
Ystyrir prentisiaethau yn llwybr hanfodol i annog amrywiaeth well o unigolion i mewn i’r sector.
Bydd Skills for Justice yn parhau i fonitro nifer y bobl sy’n cofrestru ar gyfer Prentisiaethau ac yn eu cyflawni yn y sectorau Cyfiawnder a Diogelwch Cymunedol ac yn cymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i bobl gofrestru ar eu cyfer a’u cyflawni.
Mae Skills for Justice yn cydnabod y dylid ymdrin â’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Dylid rhoi ystyriaeth i’r rheiny y mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt neu’r rheini sy’n gallu neu’n dewis siarad Cymraeg.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru
Atodiad 1 Lefel 3: Swyddog y Ddalfa neu Swyddog Cadw
Y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth.
Diploma Lefel 3 SFJ Awards mewn Rheoli a Gofalu am Unigolion sydd yn y Ddalfa neu Dan Gadwad – Mae Manyleb y Cymhwyster ar gael yma:
Cod Ofqual: 603/6073/2
Cod Cymwysterau Cymru: C00/4175/9
Cyfanswm Amser y Cymhwyster (TQT): 490 awr
Oriau Dysgu Dan Arweiniad (GLH): 378
Gwerth credyd: 45
Strwythur y cymhwyster
Prif amcan y cymwysterau hyn yw rhoi gwybodaeth a sgiliau i ddysgwyr a fydd yn ddefnyddiol wrth weithio mewn amgylcheddau carchar.
I gyflawni Diploma Lefel 3 mewn Rheoli a Gofalu am Unigolion mewn Amgylchedd Dan Gadwad, mae angen i ddysgwyr gyflawni’r unedau yn y cymhwyster uchod, yn ogystal â’r unedau a restrir isod:
- Deall cyfrifoldebau sefydliadol, cyfreithiol a moesol dros unigolion yn y ddalfa
- Deall ymddygiad troseddol a dulliau i leihau ail-droseddu
- Cofnodi ac adrodd mewn amgylchedd carchar
- Defnyddio gorfodaeth mewn amgylcheddau carchar
- Archwilio unigolion ac amgylcheddau carchar
- Hebrwng mewn amgylcheddau carchar
- Modelu ymddygiad rhag-gymdeithasol mewn perthnasau gweithredol ag unigolion