Mae SkillsActive wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Teithio, Twristiaeth a Hamdden a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
73 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Hyfforddi Ymarfer a Ffitrwydd
Gofynion mynediad
Cynlluniwyd y Brentisiaeth Sylfaen mewn Ymarfer a Ffitrwydd ar gyfer yr unigolion hynny sydd naill ai eisoes wedi'u cyflogi yn y diwydiant ffitrwydd neu sy'n bwriadu ymuno â'r diwydiant a datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ymhellach er mwyn symud ymlaen yn y sector. Mae'r Llwybr yn addas hefyd i'r rhai sy'n dymuno newid gyrfa ar ôl gweithio mewn sector gwahanol.
Dylai darpar brentisiaid feddu ar agwedd gadarnhaol sy'n ysgogi eraill yn ogystal â’r gallu i weithio’n hyderus a bod yn barod i weithio fel rhan o dîm neu ar eu pennau eu hunain. Dylent deimlo cymhelliant i lwyddo yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd a bod yn barod i weithio sifftiau, oriau anghymdeithasol weithiau, a theithio rhwng safleoedd. Disgwylir i ddarpar brentisiaid fod â’r sgiliau i weithio gydag amrywiaeth o wahanol gleientiaid a'u hysgogi.
Efallai y bydd angen i brentisiaid gael gwiriadau heddlu hefyd, er enghraifft pan fyddant yn gweithio gydag oedolion a phlant agored i niwed.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Hyfforddi Ymarfer a Ffitrwydd
Lefel 2: Hyfforddi Ymarfer a Ffitrwydd Cymwysterau
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
| Lefel 2 Diploma NVQ mewn Hyfforddi Ymarfer Corff a Ffitrwydd | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Active IQ | C00/0233/0 500/9640/0 | 37 | 370 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
| Lefel 2 Tystysgrif mewn Hyfforddi Ffitrwydd | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
| Active IQ | C00/0202/2 500/8756/3 | 23 | 230 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
| Lefel 2: Hyfforddi Ymarfer a Ffitrwydd | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyfathrebu | 1 | 6 |
| Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
| Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
|---|---|---|
| Lefel 2: Hyfforddi Ymarfer a Ffitrwydd | 284 | 250 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cymhwyster Cymhwysedd - 37 credyd a chymhwyster Gwybodaeth - 23 credyd
Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer y Llwybr hwn yw 534 awr
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Dilyniant
Lefel 2 Hyfforddi Ymarfer a Ffitrwydd
Dilyniant i'r Llwybr hwn
Nid oes unrhyw lwybrau mynediad wedi'u diffinio ymlaen llaw i'r Brentisiaeth mewn Ffitrwydd, ond gallai dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i'r rhaglen brentisiaeth hon ddod o wahanol gefndiroedd gydag amrywiaeth o gymwysterau.
Gallai'r rhain gynnwys diplomâu, TGAU, cymwysterau Bagloriaeth Cymru, Safon Uwch neu lwybrau hyfforddiant galwedigaethol fel Llwybrau at Brentisiaethau neu Brentisiaethau Sylfaen.
Dilyniant o'r Llwybr hwn
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, gall prentisiaid symud ymlaen i gyflogaeth mewn amrywiaeth o rolau, yn amrywio o Hyfforddwr Personol i weithio ochr yn ochr â meddyg teulu sy'n gweithio gydag atgyfeiriadau gan feddyg teulu. Gallant symud ymlaen hefyd i amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol sy'n rhoi cyfle i arbenigo ymhellach, er enghraifft mewn ymarfer cyn geni ac ar ôl geni neu ymdrin ag oedolion hŷn.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, gall dysgwyr symud ymlaen i sefydliadau Addysg Bellach neu Addysg Uwch er mwyn astudio ystod o bynciau gan amrywio o'r rhai sy'n benodol ynghlwm wrth chwaraeon a ffitrwydd, fel Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff neu Faeth Chwaraeon, i bynciau cyffredinol fel Rheoli neu Astudiaethau Busnes.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Nod prentisiaethau yn ein sector yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant drwy gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel. Mae'n rhaid i'r rhaglen hon gael ei chyflwyno mewn lleoliad lle nad oes rhagfarn a gwahaniaethu a lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.
MATERION, RHWYSTRAU A GWEITHREDOEDD
Mae'r diwydiant iechyd a ffitrwydd yn cynnwys bron i 6000 o glybiau iechyd preifat a chyhoeddus ledled y DU, ac roedd 324 o glybiau yn gweithredu yng Nghymru yn 2010. Mae mwyafrif y gweithlu yn aelodau staff sy'n gweithio yn y gampfa ei hun. O ganlyniad i'r sefyllfa economaidd bresennol, un rhwystr posibl sy'n atal pobl rhag mynd i mewn i'r diwydiant ffitrwydd yw'r ffaith bod incwm gwario wedi lleihau'n sylweddol yn y rhan fwyaf o aelwydydd, felly mae aelodau o'r cyhoedd yn fwy gofalus ynghylch gwario arian ar aelodaeth clybiau iechyd. Mae ysbryd cystadleuol ymhlith clybiau iechyd yn arbennig ac maent yn cynnig cyfnodau ymrwymo byrrach, ffioedd ymuno/aelodaeth â gostyngiad a chyfraddau cystadleuol ar gyfer sesiynau ymarfer i grwpiau.
Mae 63% o'r gweithlu yn fenywod ac er bod ganddynt bresenoldeb ar draws pob rôl, mae hyn yn lleihau wrth i'r rolau fynd yn uwch. Mae cynnig Prentisiaeth Lefel Sylfaen mewn ffitrwydd yn ei gwneud hi'n bosibl i bob aelod staff ddatblygu ei sgiliau a'i wybodaeth.
Mae'r mwyafrif o bobl yn y gweithlu ffitrwydd yn wyn (92.5%) gyda'r 7.5% sy'n weddill wedi'i rannu rhwng pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Drwy gael proses recriwtio mynediad agored heb ragfarn na gwahaniaethu ar gyfer ein rhaglenni prentisiaeth, rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb o unrhyw hil, crefydd ac ethnigrwydd i fynd i mewn i'r sector, a thrwy fynd ati yn y dull hwn, gallwn wneud cyfraniad bach o ran ceisio sicrhau y bydd y cydbwysedd o ran ethnigrwydd yn gwella dros gyfnod o amser.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16 oed -18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparwr yr Hyfforddiant / Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@gov.wales