Skip to main content

Llwybr

Celfyddydau Cymunedol

Mae Sgiliau Creadigol a Diwylliannol wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Creadigol, Dylunio a'r Cyfryngau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

72 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 3 hwn.

Gofynion mynediad

Mae cyflogwyr yn awyddus i ehangu'r gronfa o recriwtiaid posibl i'r diwydiant Digwyddiadau Cymunedol ac i roi mwy o gyfle i unigolion gael eu troed i mewn i'r diwydiant. Mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn unigolion:

  • sy'n dangos diddordeb brwd mewn gweithio ym myd y celfyddydau cymunedol ac mewn darparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.
  • sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu y bydd y brentisiaeth hon yn adeiladu arnynt;
  • sy'n deall pwysigrwydd gweithio mewn tîm a manteision rhaglenni celf gymunedol i gymunedau lleol.

Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol o unrhyw un o'r diwydiannau creadigol a gefnogir gan bortffolio o dystiolaeth. Fodd bynnag, nid yw hyn yn orfodol oherwydd bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael cyfle teg i arddangos eu gallu. Bydd rhaglenni wedyn yn cael eu teilwra i fodloni anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Rheoli Celfyddydau Cymunedol

Lefel 3: Rheoli Celfyddydau Cymunedol Cymwysterau

Dylai'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:

Tystysgrif Lefel 3 yn y Celfyddydau
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Trinity College London C00/0211/7 500/9666/7 15 150 Cyfun Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Rheoli Celfyddydau Cymunedol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Rheoli Celfyddydau Cymunedol 233 360
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

593 yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 18 mis

Isafswm o 39 credyd/233 awr ar gyfer y Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Celfyddydau Cymunedol

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Gallai'r Brentisiaeth gynnwys gweithio gyda phlant/pobl ifanc ac/neu oedolion agored i niwed, felly bydd yn rhaid i ddechreuwyr fod yn barod i dderbyn gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS).

Dilyniant

Prentisiaeth Lefel 3 mewn Celfyddydau Cymunedol

Llwybrau dilyniant i:

  • Brentisiaethau Lefel 2 Eraill yn y sectorau creadigol a diwylliannol
  • Cymwysterau cyffredinol neu alwedigaethol yn gysylltiedig â'r diwydiannau creadigol a diwylliannol, neu'n berthnasol iddynt
  • Profiad o weithio mewn rôl gyda thâl/heb dâl yn wynebu cwsmeriaid ar Lefel 2 am gyfnod o 12 mis

Dilyniant o:

Swyddi

  • Yn dilyn cyfnod o weithio o fewn yr un rôl a datblygu sgiliau ychwanegol naill ai ar lefel uwch neu ar yr un lefel
  • I mewn i rôl ym maes y Celfyddydau Cymunedol neu o fewn y diwydiannau creadigol a diwylliannol
  • Gweithio gyda'r gymuned mewn rolau eraill fel arweinydd cerddoriaeth gymunedol a'r theatr
  • Datblygu i'r ochr i rôl wahanol, ee, technegydd theatr ar gyfer cynhyrchiad, neu leoliad diwylliannol

AB/AU

I'r rhai sy'n dymuno parhau i ddatblygu sgiliau a chymwysterau y tu hwnt i Lefel 3, efallai y bydd cyfle i ddilyn cymwysterau uwch fel:

  • HNCs/HNDs sy'n gysylltiedig â'r diwydiannau cerddoriaeth a chreadigol neu'n berthnasol iddynt, ee cerddoriaeth, celf a dylunio
  • Graddau sylfaen mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth, yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol neu ystod o raglenni theatr a chelfyddydau cymunedol
  • Graddau Anrhydedd BA fel Entrepreneuriaeth ar gyfer y diwydiannau creadigol a diwylliannol. Cymwysterau galwedigaethol eraill sy'n gysylltiedig â'r diwydiannau creadigol a diwylliannol, neu'n berthnasol iddynt.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Er bod y ffigurau'n amrywio yn ôl rhanbarth, mae'r sector creadigol a diwylliannol yn wyn yn bennaf (93%). Mae bron hanner y gweithlu o dan 40 oed; mae cynrychiolaeth dynion/merched yn 60/40% ac mae gan tua 13% anabledd.

 

Dyma'r rhesymau tebygol am y diffyg cydbwysedd yma:

  • diffyg llwybrau datblygu gyrfa amlwg i'r diwydiant hyd yma
  • ceir tuedd o fewn y sector i recriwtiaid newydd ddechrau gweithio heb gyflog neu ar gyflog isel am hyd at ddwy flynedd mewn rhai achosion, felly gall hyn gyfyngu ar gyfleoedd i bobl o gefndiroedd sydd dan anfantais o safbwynt economaidd-gymdeithasol.
  • ceir hanes o dderbyn graddedigion o fewn y diwydiant, a allai rwystro rhai sydd heb radd rhag ymgeisio;
  • mae'r hanes o dderbyn graddedigion yn golygu y gallai'r rhai sy'n recriwtio fynd ati'n syth i chwilio am raddedigion, hyd yn oed ar gyfer rolau lefel mynediad, a dyma'r diwylliant o duedd tuag at raddedigion wrth recriwtio yr ydym yn gobeithio y bydd y Fframwaith hwn yn dechrau ei ddatrys.

Er mwyn goresgyn rhai o'r problemau hyn, mae gwaith ar droed i godi ymwybyddiaeth ynghylch gyrfaoedd ym maes Celf Gymunedol a diwydiannau creadigol a diwylliannol eraill, fel a ganlyn:

  • Mynd ati'n weithredol i herio'r diwylliant o brofiad gwaith di-dâl sydd i'w weld yn amlwg yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol, a chreu dewisiadau gwell i fwy o bobl. Roedd Prentisiaethau Creadigol yn llwybr amgen newydd sbon i'r diwydiannau creadigol, yn llwybr sy'n seiliedig ar allu a photensial, yn hytrach nag ar hanes academaidd neu gefndir cymdeithasol a chysylltiadau. Aethom ati i greu ymchwydd o gefnogaeth drwy weithgarwch ymgysylltu ac ymgyrchu wedi'i dargedu, er mwyn dangos sut y gallai prentisiaethau weithio er budd dysgwyr a chyflogwyr, y naill a'r llall.
  • Y Diploma (14-19) Creadigol a'r Cyfryngau a'r Rhaglen Prentisiaeth Ifanc mewn Celf a Dylunio neu yn y Celfyddydau Perfformio, sydd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion.
  • Mae gwefan gyrfaoedd Creative  Choices yn cynnig gwybodaeth a chyngor am yrfaoedd, rhestrau o gyfleoedd hyfforddi, astudiaethau achos ar gyfer gweithio yn y diwydiant, mynediad at rwydweithiau a mentora - http://www.creative-choices.co.uk/
  • Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i godi ymwybyddiaeth ynghylch prentisiaethau yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol. Mae hyn yn creu mwy o amrywiaeth o ran y math o gyflogwyr sy'n cymryd rhan drwy annog busnesau bach a chanolig, gan ymestyn cyrhaeddiad y rhaglen. http://nsa-ccskills.co.uk/apprenticeship-training-service

Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog amrywiaeth fwy o unigolion i ymuno â'r diwydiant, er mwyn herio'r duedd tuag at dderbyn graddedigion. Mae'r amodau mynediad i'r Fframwaith hwn felly'n eithriadol o hyblyg, ac mae mentora wedi'i gynnwys i gynnig cymorth ychwanegol a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd prentisiaid yn cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus.

rwy ei Grŵp Cymwysterau a Phrentisiaethau a arweinir gan gyflogwyr, bydd Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn monitro'r rhai sy'n manteisio ar yr holl Brentisiaethau ac yn eu cwblhau, ac yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n atal pobl rhag manteisio arnynt a'u cwblhau yn rhan o'n Strategaeth Cymwysterau Sector

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

 Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 

 


Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021