Skip to main content

Pathway

Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod

Mae'r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (NSAFD) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Bwyd a Diod a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 3 - Llwybr Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod yw 262 credyd (sef cyfanswm yr hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer yr holl elfennau).

Entry requirements

Dyma rai enghreifftiau:

  • Llwybrau academaidd (ee TGAU, Bagloriaeth Cymru)
  • Drwy gwblhau cymwysterau galwedigaethol
  • Cwblhau cyfnod ar leoliad gyda chyflogwr
  • Profiad gwaith
  • Hyfforddiant

Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 3: Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod

Lefel 3: Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod Cymwysterau

Mae'n rhaid gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 3 Diploma Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
City & Guilds C00/0537/0 600/8545/9 250 2495 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod 1250 1641
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Argymhellir y dylai gymryd 42 mis o leiaf i gwblhau'r llwybr.

Cyfanswm gwerth credyd isaf y cymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth cyfun: 250 credyd

Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif: 12 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi isafswm yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith: 2891 o oriau dysgu

  • Cymhwysedd = isafswm o 1145 awr
  • Gwybodaeth = isafswm o 1320 awr
  • Sgiliau Hanfodol Cymru (gwerth tybiannol 45 awr x 2) = 90 awr
  • Sefydlu = 35 awr
  • Gweithgareddau mentora i ffwrdd o'r gwaith, hyfforddiant a gweithgareddau cefnogi = 168 o oriau (o leiaf awr yr wythnos hyd ddiwedd y rhaglen)
  • Adolygu cynnydd = 28 awr (o leiaf dwy awr bob 3 mis hyd ddiwedd y rhaglen)
  • Mentora yn y swydd = 105 awr

Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith = 1641 o oriau hyfforddi

  • Elfen wybodaeth - Diploma Lefel 3 Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod = 1320 o oriau
  • Sefydlu = 35 awr
  • Sgiliau Hanfodol Cymru a mentora i ffwrdd o'r gwaith, hyfforddiant, cefnogaeth ac adolygiadau cynnydd = 286 awr

Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith = 1250 o oriau hyfforddi

  • Elfen gymhwysedd - Diploma Lefel 3 Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod = 1145 awr
  • Mentora yn y swydd = 105 awr
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 ODDA Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 ODDA Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol ar wahân i'r gofynion mynediad cyffredinol.

 

Progression

Dilyniant o'r Brentisiaeth mewn Bwyd a Diod (Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod):

Mae'r llwybrau'n cynnwys dilyniant i rolau lefel uwch yn y sectorau bwyd a diod neu beirianneg.

Mae'r cyfleoedd am hyfforddiant ac addysg bellach yn cynnwys:

  • Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch/Diplomas Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg
  • Graddau Sylfaen mewn Peirianneg
  • Graddau Anrhydedd BA
  • Cyrsiau proffesiynol cysylltiedig

Bydd llawer o opsiynau gyrfa ar gael i'r Prentis ar ôl cwblhau'r llwybr yn llwyddiannus.

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut mae mynd ati'n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Dynion yn bennaf sy'n gweithio yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ac maent yn cynrychioli dros ddeuparth (68%) y gweithlu; Mae 32% yn fenywod. Mewn cymhariaeth, mae dosbarthiad rhywiau ar draws pob diwydiant yng Nghymru yn fwy cytbwys, gyda 53% yn ddynion a 47% yn ferched. Rhwng 2006 a 2011, cafwyd cynnydd o 7% yng nghyfran y dynion yn y gweithlu (o 13,000 i 13,800) ond gostyngiad o 4% yng nghyfran merched o'r gweithlu (o 6,900 i 6,600). Mae 36% o weithwyr bwyd a diod Cymru oddi mewn i'r grŵp oedran 45 i 54 oed; mae 8% rhwng 30 a 34 oed; a dim ond 17% sydd rhwng 16 a 29 oed. Mae’r grŵp oedran 16 i 29 oed gryn dipyn yn llai na gwledydd eraill y DU. Mewn cymhariaeth, mae 38% o'r gweithlu bwyd a diod yn y grŵp oedran hwn yng Ngogledd Iwerddon; ynghyd â 26% yn Lloegr a 25% yn yr Alban.

Bydd dros ddeuparth (68%) o’r gweithlu presennol yn gymwys i ymddeol yn yr 20 mlynedd nesaf. Mae’r amcangyfrifir bod 3,500 o wladolion y tu allan i’r DU yn gweithio yn niwydiant bwyd a diod Cymru yn 2011 yn werth ei nodi, sef cynnydd o 86% ers 2006. (Skills Insights and Labour Market Facts about the Food and Drink Manufacturing and Processing industry in Wales 2013-2014, Improve Limited 2013)

Mae’r llwybr hwn yn llwybr pwysig i annog mwy o amrywiaeth o fewn y diwydiant ac mae’r camau canlynol yn cael eu cymryd i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant:

  • Monitro data yn barhaus er mwyn canfod unrhyw broblemau ac ymyrryd pan fydd angen 
  • Hyrwyddo'r diwydiant ymhlith cynulleidfa amrywiol drwy ein gwefan gyrfaoedd Gyrfaoedd Blasus www.tastycareers.org.uk a Llysgenhadon Gyrfaoedd Blasus
  • Gweithdai prentisiaeth i godi ymwybyddiaeth ynghylch manteision Prentisiaethau ymhlith cyflogwyr

Mae'n rhaid i'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â darpariaeth prentisiaethau, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant, canolfannau a chyflogwyr, ymrwymo i bolisi cyfle cyfartal, a chael polisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

Atodiad 1 - Lefel 3: Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod

600/8545/9/C00/0537/0 - City & Guilds Lefel 3: Diploma Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod

https://www.cityandguilds.com/qualifications-and-apprenticeships/engineering/mechanical/1255-food-and-drink-engineering-maintenance#

Strwythur

 I ennill Diploma Lefel 3 Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod, mae'n rhaid i ddysgwyr gyflawni 11 o unedau gorfodol 301-311. Yn ogystal â hynny, rhaid i ddysgwyr gyflawni'r unedau sy'n berthnasol i'r llwybr:

Unedau llwybr mecanyddol 312-314

Unedau llwybr aml-sgiliau 315-317

Gorfodol

  • K/507/9800 301 Cydymffurfiaeth cynnal a chadw peirianneg bwyd a diod 70
  • M/507/9801 302 Arfer gorau cynnal a chadw peirianneg bwyd a diod 95
  • T/507/9802 303 Gwyddor defnyddiau 70
  • A/507/9803 304 Cynnal a chadw mecanyddol mewn gweithrediadau bwyd a diod 80
  • F/507/9804 305 Cynhyrchu cydrannau newydd ar gyfer gweithrediadau bwyd
  • a diod 210
  • J/507/9805 306 Systemau pŵer hylif ar gyfer gweithrediadau bwyd a diod 95
  • L/507/9806 307 Technolegau weldio ar gyfer gweithrediadau bwyd a diod 95
  • R/507/9807 308 Cynnal a chadw trydanol mewn gweithrediadau bwyd a diod 120
  • Y/507/9808 309 Gwasanaethau a chyfleustodau o fewn gweithrediadau bwyd a diod 95
  • D/507/9809 310 Thermodynameg 80
  • R/507/9810 311 Mathemateg ar gyfer cynnal a chadw peirianneg bwyd a diod 100

Llwybr Mecanyddol Gorfodol

  • Y/507/9811 312 Monitro gwaith cynnal a chadw mecanyddol mewn gweithrediadau bwyd  a diod 70
  • D/507/9812 313 Trwsio a chynhyrchu cydrannau newydd mewn gweithrediadau bwyd a diod 60
  • H/507/9813 314 Sgiliau weldio ar gyfer gweithrediadau bwyd a diod 80

Llwybr Aml-sgiliau Gorfodol

  • K/507/9814 315 Cynnal a chadw a phrofion trydanol mewn gweithrediadau
  • bwyd a diod 145
  • T/507/9816 316 Awtomeiddio mewn gweithrediadau bwyd a diod 120
  • A/507/9817 317 Deall gofynion gosodiadau trydanol
  • BS7671 (2015) 40

Cyfanswm Amser y Cymhwyster

Cyfanswm Amser y Cymhwyster (CAC) yw cyfanswm yr amser, mewn oriau, y disgwylir i ddysgwr ei dreulio er mwyn ennill cymhwyster. Mae'n cynnwys oriau dysgu dan arweiniad (a restrir ar wahân) ac oriau a dreulir yn paratoi, yn astudio ac yn asesu.

2473-02 603/0355/4 Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Bwyd a Diod (Llwybr mecanyddol) ODDA 1320 CAC 2495

Diploma Lefel 3 Cynnal a Chadw Bwyd a Diod (Llwybr Aml-sgiliau) ODDA 1415 CAC 2560

Asesu - Crynodeb o ddulliau asesu

Mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r asesiad dynodedig ar gyfer pob uned yn llwyddiannus.

Defnyddir tri dull asesu ar gyfer y cymhwyster hwn.

 


Document revisions

10 Tachwedd 2021